Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Provider: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Yn y rhifyn nesaf o'r C'YMRO bydd erthygl ddyddorol gan y Parch. John Roberts, Rhyl, ar Sut i Gadw Seiat Adeg Rhyfel? wedi ei hysgrifennu ar gais y Golygydd. -+- -+- Trénir eisoes i gasglu'r degwm gan swydd- ogion y Cynghorau Sir,—prawf fod Dad- waddoliad eisoes yn ffaith. -+- -+- -+- Bydd llawer o ymgeiswyr am fod yn brif- athraw yn Ysgol Sir y Bala. Y tebyg yw y daw un o feibion y sir yn ol i'w gyfarchwyl. -+- -+- -+- Mae gan Mr. O. M. Edwards ysgrif yn Cymru am C'hwefror ar Gwymp yr Almaen. Ynddi fe ddlywed y bydd gwaed Belgium, Ffrainc, a Poland, ar ddysgedig'ion ac ysgol- ion yr Almaen yn bennaf. -+- + Dygodd y Parch. W. Greswell, ficer Martha!, ei hun i helbul gyda'i blwyfolion oherwydd iddo lywyddu mewn darlith yng nghaipel y Wesleyaid! Amcan y ddarlith oedd chwyddo trysorfa y Groes Goch. Nid oes prinder ar gulni, yn -y plwyf, ond gwr cadarn yw'r ficer. Mae adroddiad blynyddol cyntaf y Welsh Town-Planning and Housing Trust, Ltd. wedi, ei gyhoeddi. Dyma'r cwmni sydd o dan nawdd Mr. D'avid Davies, A.S., yn oodi tai i weithwyr, ac eisoes wedi creu daear newydd ym mywyd llawer teulu. M,ae ynddo ddarluniau o'r gwai,th sydd yn myned ymlaen yn Wrecsam, Machynlleth, Llanidloes, Barri, a Weston Rhyn. Dyma balasau ymhlith y. gerddi mewn gwinonedd Anfonodd athraw ysgol eglwysig Dylife at bwyllgior addysg Sir Drefaildwyn i ofyn a oedd efe ag yntau'n ysgolfeistr mewn ysgol Eglwysig yn rhwym o fyned i'r Eglwys Esigobaethol ar y Saboth? Os oedd, yna rhaid iddo ddweyd prynhawn da wrth Dylife. Y ficer a'r rheolwyr, ebai'r hanes, benododd yr ysgolfeistr. Y'n ei flaen y mae'r byd yn myned. Meddyliwch am funud am ysgol- feistr ym meiddiio gofyn cwestiwn fel yna ugain mlynedd yn ol! -+- -+- Y mae y Parch. J. J. Mortgan, Wyddgrug, yn ddiwyd wrthi yn casglu defnyddiau at ei Gofiant i'r diweddar Edward Matthews. Syndlod meddwl fod gwr o'r fath wedi cael ei adaw cyhyd heb gofiant teilwng o hono. Nid yw Mr. Morgan yn arbed na thraul na thra- fferth er ceisio tgwneud ei waith yn deilwng [ o'r gwrthrych. Fel rheol derbynia bob cyd- ymdeimlad a chefnogaeth, a pharod yw bron pawb gyferfydd i, estyn cynhorthwy, ond: hys- bysir y daw o hyd i ambell i fuwch laethog wrthyd yn bendant gymryd. ei ig^odro. Trueni mawr ydyw hynny. -+- -+- Yn ei Nodiadau Amrywiol yn y Lladmer- ydd am y mis hwn, dywed y Parch. Evan Davies, Trefriw, fod cwyn i'w glywed yn y wlad mai ychydig 0 Feibl sydd i'w glywed ym mhægtethau llawer o'r .gwyr ieuainc yn y dyddiau hyn-y ceir llawer 0 wyddoniaeth ond ychydig 0 Ysgrythyr ym mhregethau ami un o'n gweinidogion dysigedig. Cwynir hefyd meddai mewn rhai cylchoedd fod rhy fach o efengyl i achub y gwrandawyr yn y weinidog- aeth a gormed 01 duedd i drafod cwestiynau cymdeithasol. Gwr teyrngar i'w frodyr yw Mr. Davies, ac mewn llawn gydymdeimlad a phobl ieuainc, ac nid o'i fodd, ac yn sicr nid 'heb sail, y gwna yr achwyniadau hyn. Yn ddiau haeddant sylw, ac os gwir ydynt diylid diwygio. Mewn cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog, dy- wedodd y Parch. Joseph Jenkins fod y pulpud Ymneilltutol am y 25aiin mlynedd diweddaf wedi bod yn gryf yn erbyn i'r bobl ieuainc ymuno a'r fyddtin. Nis gall wneud hyn yn hwy. Mae yn ddyledswydd ar bawb sydd yn gymwys i ym- uno ar unwaith. Cwynir am nad yw plant y Wladfa Gymreig yn cael hyfforddiant yn elfenau yr iaith Saes- neg yn yr ysgolion. Mae'r athrawon a'r athrawesau yn dechreu aflonyddu'r rhieni, ac er cryfed ymlyniad y Llywodraeth wrth yr Yspaeneg, fe tyn y Saesnesg d'dod i mewn yn y man. D'rwg gennyf weled rhywun yn dadleu yn y Drafod mai. ar i waered y mae gogwydd meddwl yn y Wladfa. Mae'r hen ddelfrydau'n colli gafael, meddir, a rhyw bethau newydd, heb fod cystal, yn cymryd eu lie. Flynyddoedd yn ol anfonodd rhyw frawd o weinidog oedd wedi colli ei ben braidd, lythyr drwy'r post wedi ei gyfcirio i Dyn Duw, Newcastle Emlyn." Evan Roberts oedd yn meddwl y gweinidog. Oind wedi i'r Uythyr gyrraedd i Gastellnewydd Emlyn, daeth barn yr awdurdodau lleol yn bwysig*. Ac ebai'r llythyr-gludydd: Mae'n debyg mai i Evan Roberts y bwriadwyd y llythyr, ond Evan Phillips yw'r hiynaf." Dichon fod y gwr an- fonodd y Uythyr yn cydsynio a'r llythyr-glud ydd erbyn tawelu. Breision yw'r -camrau sydd wedi eu cymeryd g"an addysg1 yn y wlad hon, a phe ymgymerai rhywun a gosod1 allan mewn trefn y cynnydd sydd wedi ei wneud fe fyddai yn sicr o ddarllen fel rhamant. Hwyrach nad oes yr un dosbarth wedi manteisio mwy ar luosogiad cyfleusterau addysgawl Ilan gweinidogion. Gymerer y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth fel engraifft. Y mae yno eleni tua phedwar ar ddeg ar hugain o efrydwyr, ac y mae banner y rhai hynny yn raddedigron. Nid rhaid edrych yn ol ond am ychydig i atgofio adeg pan nad oedd yn perthyn i'r holl Gyfundeb ond un neu ddau. Nid oes angen atgofio ein gilydd ei bod yn adeg bur brysur ar hyn o brydi yn hanes y wlad; ond y syndod yw fodl cymaint o arian yn cael eu gwario am ddiodydd meddwol. Gellir nodi engreifftiau o ddynion gwynant oblegid prinder moddion i brynu bara eto yn cael moddi o rywle i ymyfed hyd at feddwdod. Cymer boddhad blys y blaen ar borthiant natur, ac anghofia dynion yn fynnych eu rhai anwylaf yn eu gnvanc am y diodydd ddamnia eu heneidiau. Ac er gwybodi hyn, y mae yr awdurdodau mewn llawer ardal yn gwbl ddiystyr i'r trueni, ac yn glaiar hollol yn wyneb y canlyniadau erchyll. -+- Beth bynnag arall ddywed-ir, am; y Prifathm Ellis Edwards, yr oedd yn fab teilwng o'i dad, oblegkll bendithiwyd y tad yntau mewn helaethrwydd ag amryfal ddoniau, a disigleir- iodd fel pregethwr, esboniwr, lienor, bardd, a gwleidyddwr. Fel engraifft o'r arabedd deil yr hanesyn canlynol i'w ail-adradd:-Un nos Lun rhoddodd pregethwr y pennill hwnnw 1 'w iganu heb gofio mai nos Lun ydoedd,— Melus yw dydd y Saboth lion, Na flined gofal byd mo'm bron, Ond boed fy nghalon i mewn hwyl, Fel telyn Dafydd Dafydfd ar yr wyl." Ar 01 yr oedfa daeth Mr. Edwards at y preg- ethwr, achyfarchodd ef fel hyn:- Nos Lun anfelus ydyw hon, A gofal byd sy'n llanw'm bron, Pa fodd y gallaf fod mewn hwyl Gan nad yw hi na Sul na gwyl." P_ Y mae achwyn difrifol ar yr anghysur sydd wrth drafeilio ar y Cambrian Railway yn y gae- af. Nid ydyw y cerbydau wedi eu cynhesu, ac y mae arafwch ac henaint ambell i ddarn yn ddiareb! Dro yn ol yr oedd gwraig yn trafeilio efo'i bachgen bychan, a phan gasglwyd y tocyn- au meddai'r casglydd1: "Rhaid i chwi dalu dros y plentyn ma'm, y mae dros deirblwydd oed "Wel," ebai'r wraig mewn sarhad; "I gyd sy' gen i ddweyd ydyw hyn—yr oedd y crwt yma gryn dipyn o dan ei deir-blwydd1 pan yn cych- wynl" Dyddorol iawn yw dilyn hanes Sabothol y gwyr hynny sydd wedi eu penodi gan y Llyw- odraeth i swyddi pwysig yng Nghaerdydd. Nid' ydyw yr eglwysi .amgylchynol yn cyfrif am un hanner o'i rhif, ac am fywyd cenedlaethol y dref nid ydyw Cymry Caerdydd a'r cyffin- iau yn gwybod am eu bodolaeth. Y mae'n syn meddwl ddistawed y mae ambell un o honynt a hwythau wedi bod yn wyr mor fawr ac yn swngar iawn cyn sefydlu yn y South. Mae'n debyg mai dinas ydyw Caerdydd sydd yn.bod(di swn ryw sort arbennig o ddynion, ac yn eu claddu yr un pryd allan o sylw. Dywedir fod Cemetery mwy nag un o bregethwyr Cymru ar y Cathays Park! Gosodwyd maen ar fedd y Parch. Griffith Ellis, M.A., ym mynwent Anfield, Liverpool, ac afni yr argraff yma: Er Cof Serchpg am y P-arche,dig Griffith Ellis,, M.A., Pregethwr yr Efengyl yng iNghyiundeb y Methodist. iaid Calfinaidd am hanner canrif, a gweinid'og Eg- lwys Stanley Road, Bootle, am 83ain imliynedd. Perchird 'ac anwylid. ef fel dyn, fel pregethwr meddylgar, tel ibuga-il ffyddlon, ;ac fel gweithiwr ac arweinydd ymhob mudiad crefyddol. Gwasanaethodd ei genedl hefyd fel lienor ac fel diwygiwr cymdeithasol. Ganwyd yn Aberllefenni, Sir Feirionydd., Medi 10, 1844. Bu farw yn Bootle, Gorffennaf 14, 1913. Bydd ddyfal i'th osod dy b¡un yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr difefl, yn iawn gyfrannu gair y Gwirionedd."—2 Tim. ,ii. 15. Ar wyneib arall i'r golofn ceir a ganlyn:— Er Cof Serehog am Leta Eleanor, merch hynaf y P;arch. Griffith Ellis, M.A., a Mary Ellis. Ganwyd Hydref 26, 1877. Hunodd yn yr Iesu, Medi 6, 1897. Gorffwysant yn y bedd agosaf at eiddo y di- weddar Dr. Owen Thomas. -+- A oes cyfnewidiad ym marn y wlad ynghylch Bugeiliaeth? Dyma ddywed Mr. 0. M. Ed- wards ar y mater yn y rhifyn diweddaf o Cymr-u I Gwelais innau amryw ysgrifau yn ddiweddar ar y fugeiliaeth ymneilltuol, ac amryw gynllun- iau i sicrhau buga.il i bob e,glwys. Ond ni welais neb yn wynebu'r ddau ^nhawster pwysicaf, sef (1) nad oes digon o fechgyn ieuainc yn cynnyg eu hunain i'r weinidogaeth, (2) nad yw'n bosibl i ardaloedd gwledig ar hyn o bryd dalu cyflogau teilwng iddynt. Y mae armyw resymau dros yr anhawster cyntaf. Un peth yw fod ein hysgolion wedi dangos eynifer o lwybrau ereill; a'r oil yn y dyddiau hyn, sef adeg trai wedi llanw'r diwygiad, yn fwy atyniadol na'r llwybr i'.r pulpud. Fel y digwyddodd gydag lathrawon, felly y digwydd gyda gweinidogion; ant yn brinion iawn. Nid oes ysgolion yn awr ar eu cyfer, fel y byddai, sef ysgolion i fechgyn wedi deffro at eu gwaith yn gymharol ddiweddar ar eu hoes a rhai felly, wrth gwrs. fydd mwyafrif mawr y gweinidogion; Dylai'r eglwysi dd'effro ar unwaith a gwneud dau beth (1) ceisio cael yr hen bregethu teithiol yn ol, a rhoi, rhyddid i rai sydd wedi eu donio at bre- gefhu i deithio gwlad (2) ibyw yn fwy arnynt eu hunain, magu inrvvy o flaenoriaid a. chynghor- wyr Ileygol, ac yn enwedig roi imwy o i'r Ysgol Sul." Dyddorol iawn fyddai clywed beth yw barn dar- llenwyry "Cymro" am awgrymiadau Mr. 0. M. Edwards.