Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Provider: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 4 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
TADAU Y CYFUNDEB

TADAU Y CYFUNDEB. AT-OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Wrth roddi rhestr o weinidogion y De yn eich rhifyn diweddaf, darfu eich gohebydd 'adael allan enwau dau o Sir Benfro sydd yn haeddu lie bid sicr ymysg "tadau y Cyfundeb," sef, yr Hyblaichi W. Evans, M.A. (1863), a'r Hybarch W. M. Lewis, Ciliau Wen, gynt Tyllwyd (1863). Yr eiddoch yn gywir, PEM. Dock. 0. S. SYMOND.

CYMRU YN NYDDIAUR INDIAID

CYMRU YN NYDDIAU'R INDIAID. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Yng ngohebiaeth ldris. o Fanceinion yr wyihnos ddiweddaf, dywedir fod anerchiad wedi ei roddi ar y testun uchod i gymdeithas lenyddol Moss Side. I un sydd yn teimlo dyddordeb ymhob darganfyddiad hanesyddol, a wiia Idris y caredig- rwydd o ateb y cwestiynau hyn yn Y Cymro?' Pa ibeth sydd a wnelo Cymru a dyddiau'r Indiaid? Os bu Indiaid yn preswylio yng Nghymru, pa bryd? Ymha le y .ceir olion, a pha fath ydynt? Ai Indiaid cochion, neu dduo'n oeddynt? Yr Eiddocih, CYMRO PUR.

GWEINIDOGION A RHYFEL

GWEINIDOGION A RHYFEL. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—-Oherwydd bod brawddegau wedi eu gadael allan o fy llythyr, mae'n debyg drwy fy niofalwch yn ysgrifennu,, mae y cynwysiad yn ymddangos yn gym- ysglyd, eaniatewchf i mi gan hynny ddweyd mai yr hyn olygwn oedd bod y Parch. J. Prichard yn ddigon gall-ucg i amddiffyn ei hun, ond y carwn innau roddi fy nhystioLaeth irun cyfeiriad, a dangos nad oedd ei s-afle mor wrthun ag y tybiai ysgrifennydd y para. graff,- Yn sicr mae mewn cwmni da pan yn gwrth- wyncDu rhyfel,, cymer ei Ie yn ochr proffwydi ac apostolion, a mwy na hynny yng nghymdeitbas yr Hwn a ddywedodd Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys-hwy a etifeddant y ddaear." Nid, wyf fi yn barnu y gweinidogion a safant i fyny mewn cyfarfodydd i annog dynion ieuainc i ym- restru credaf eu bod yn gwneud oddiar argyhoedd- iad gonest ond ni ddylent hwythau ein condemnio ninnau am beidio, gan ein bod ninnau, hefyd, yn gweithredu oddi.ar argyhoeddiad, gan gredu mai gwaith arall sydd yn gweddu oreu i weinidogion efengyl y deyrnas nad yw o'r byd hwn. Yr oedd y teyrnasoedd er's bir amser yn paratoi i ryfel dan yr esgus mai y ffordd i sicrhau heddwch oedd bod yn barod i ryfel. Onid yw yn bryd i bawb sydd yn credu yr efengyl ddarparu hyd yn oed yn amser rhyfelar gyfer beddweh? Yn sicr mae yn llawn bryd rhoddi tefyn bythol ar gyfundeihau preifat o blaid cynorthwyo mewn rhyfel. Gwalch peryglus, yw y balance of power'—llawer o waed a dywallt. wyd erioed ar yr allor hon; ond mae y doll yn drom bob amser. Y nefoedd waredo Brydain rhag efel- ychu Prwsia. mewn ysbryd milwriaeth. Yr eidoch, JUNIUS.

YR YSGOL GEiRDDOROL NEWYDD

YR YSGOL GEiRDDOROL NE.WYDD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Ymddangosodd yn eich rhifyn diweddaf lythyr gan un yn dwyn yr enw Gwladgarwr yn beio awdurdodau Aberystwyth am benodi tramoriaid yn athrawon yn y gwahanol adranau o'r Ysgol Gerdd. 01 newydd. Dywed. ef, ac hefyd Mr. J. T. Rees, Mus.. Bac., yr wythnos flaenorol,, fod Cymry mor alluog a hwythau i'w cael. Os felly mae'n gywilydd na phenodid Cymry. Ond yr ydym yn hen gynefin yng Nghymru a phethau o'r fath, hyd yn oed mewn cylchoedd lie y mae eu cyfle i wneud niwed i'r ys- bryd Cymreig yn llawer iawn mwy, er enghraifft fel prif-athrawon ac athrawon mewn Hanes. I mi y mae yna fater llawer iawn mwy atgas yng- lyn a'r Ysgol newydd yma sef nad oes ynddi le i'r Delyn. Os mai i'r -estro,niaid y mae hyn i'w briod- oli, yna goreu po gyntaf y symud-ir y drwg, fel y maent ar wneud mewn rblYw sefydliad cenedlaethol pwysig arall. Yn eich rhifyn diweddaf yr oedd yna baragraff yn llawenychu fod cymaint o Gymry ieu- ainc yn cymeryd at y Delyn. Ac y mae hyn yn wir. Trwy Gymru benbaladr y mae yna awydd cryf am ei chael yn ol fel yn yr amser a fu, ac y mae yn dyfod., er feallai nad ydyw eto wedi cyrraedd y tir ag a gyfiawnhai Mr. Rees i'w henwi fel offeryn ddylsid gael mewn cyngherddau. Y mae'n bosibl er hynny maiei hanghofio wnaeith gan nad ydyw ei henw yn rhaglen gwersi yr Ysgol newydd. 'Rwyf fi yn fy an. wybodaeth ym methu gv/eled fod yna degwch yn cael ei wDeud. Os. cymer person at yr offeryn.au estron- ol yma, gall gael yr addysg oreu heb fyned allan po Gymru,, yn Aberystwyth ond os tueddir ef gan wlad. garwch, a'r gred fod y Delyn gystal, beth bynnag, a'r un offeryn ddysgir yn Athen Cymru yna rhaid iddo ifyned dros Glawdd Offa i rywle, am fod mor ha,erllug a dymuno deall cyfrinion yr unig offeryn ar yr hwn y daeth Cymry yn fyd-enwog. Mi garwn i yn f.awr gael goleuni ar y mater, gan ryw gerddor profiadol, sydd hefyd heb yr un nwydd w werthu ei hunan neu g,an unrhyw un arall. Yr eiddoch,, &c., JAC Y Go.

GWASANAETH CYMDEITHASOL YMHLTTH Y MILWYR

GWASANAETH CYMDEITHASOL YMHLTTH Y MILWYR. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Oddiar yr amser v galwyd i fyny y fyddin ym mis Awst diweddaf, mae yr Young Men's Christian Association wedi cyflawni gwaith dihafal ynglyn a threfnu ac arolygu cyfleusterau er adloniant a chysur y milwyr.yn y gwersylloedd milwrol drwy ein Igwlad. Ni fuasai yn bosibl cario allan y gwaith hwn ar raddfa mor eang, a chyda cymaint llwydd- iant, oni bai am gynorthwy gwirfoddoL llawer a gynygiasant eu gwasanaethi i'r Y.M.C.A. Hawdd deall fod gwaith o'r natur hwn, gyda'i anghysiuron a'i oriau meithion, yn dreth drom ar nerth ac iechyd y rhai sydd wedi bod yn. ddyfal wrtho yn ystod y misoedd diweddaf, a sicr yw, v dylid gwneud ym- drech i gael ereill i lanw eu lie, neu eu cynorthwy am rai wythnosau er mwyn iddynt gael ychydig s.eib. iant neu o'r hyn leiaf, 'beth ysgafnhad, o ran eu gwaith. Ar ran Cyfys,gol Gwasanaeth Cymdeithasol, apel- iwn am gynorthwywyr ynglyn a'r gwasanaeth hwn yn y gwersylloedd yng Nghymru, ac yn y rhai hynny yn Lloegr lie y ceir milwyr o Gymru. Apeliwn yn arbennig at awdurdodau yr Eglwysi i ymgymeryd lie bynnag y bo hynny yn b )sibl: a rhyddhau o'u dyled.. swyddau arferol rai o'r offeiriaid a'r gweinidogion ieuengaf (yn enwedig Tai a feddant brofiad o waith cymdeithasol mewn I institutes ') er eu galluogi i dreulio' ychydig wythnosau i gynorthwyo yng ngwaith y Y.M.C.A. ymhlithi y ndlwyr, ac felly i wneud gwaith a fawr werthfawrogir gan fechgyn ein gwlad ydynt yn awr dan ddisgybla'eth filwrol. Credwn fod yna lawer ynglyn a'r Eglwysi, a fydd- ent yn falch o'r cyfle i roddi help, a chredwn hefyd y 'byddai'n bosibl i lawer Eglwys wneud trefniadau i'w rhyddhau oddiwrth eu gwaithi bugeiliol am ychydig amser. Bydd yn dda gan Ysgrifennydd y Cyfysgol (y Parch. Gwilym Davies, M.A. Caerfyrddin) dderbyn unrhyw gynyg o gynorthwy, a byddi iddo wneud pob ymdrech i drefnu i'r cynorthwywyr gael myned i'r camp mwyaf cyfleus iddynt,, mor belled ag y bydd hynny yn bosibl. Ar ran Cyfysgol Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru, JAMES R. BUCKLEY (Archddiacon ILlandaf), D'. LLEUFER THOMAS,. Cyn-Lywyddion. E. STAFFORD HOWARD, Llywydd. GWILYM DAVIES, Ysgrifennydd.. 1. H. UNGOED-THOMAS, Is-Ysgrifennydd.

JGAIR 0 DliEFALDWVN UCHAF

_J_- GAIR 0 DliEFALDWVN UCHAF Bellach y ma,e ein Cyfarfod Misol yn ymddeffro i'w waith mewn un. cyfeiriad anodd. Hen flotyn du yn hanes arnbell i gymdogaeth wledig yw perthynas y ddau ryw a'i gilydd. Y mae'r gwreiddiau yn cerdded yn ol ymhell. Ymae mwy nag un rheswm am y 'blotyn du hwn. Tybed fod pregethau Cymru wedi bod yn ddigon plaen ar bob pwynt? Bu mewn llawer cyfeiriad y mae'n wir. Ond a fu felly yn y cyfeiriad hwn? Y mae lie i ameu. Yr ydym yn dychrynu wrth feddwl am y ffeithiau o fewn ein cyrraedd. Ond rywfodd yr ydym yn dychryn mwy rhag cychwyn ymgyrch. fawr gre' yn erbyn y mawr- ddrwg hwn. O'r diwedd y mae'r frwydr wedi ei chychwyn o dditrif. Penderfynodd Pwyllgor Dir- west a. Phurdeb y C.M. gael pregeth mewn Cyfarfod Misol canolog unwaith yn y flwyddyn gyda phwys- lais arbennig ar "Burdeh." Ymgeisiwyd fwy nag unwaith y flwyddyn ddiweddaf gychwyn y mudiad hwn, ond ni lwyddwyd. Garwn yn y fan hon ddiolch i swyddogion teyrngarol China Street, Llanidloes, am hwyluso'r trefniadau ynglyn a Chyfarfod Misol Ionawr i'r bregeth hon. iRhowd y noson gyntaf i'r Parch. Richard Jones, M.A. Llandinam, i ibregetbiu i dorf fawr o bobl ieuainc ar Burdeb.' Gwyr pobl y cylch am yr afael gref sydd gan Mr. Jones ar bobl ifanc Llanidloes. A chadd ei gyfle. yn ei awyr gylch ei hun i gyflwyno ei neges fawr gyda rhyw frwdfrydedd, difrifwch a phlaendra dihafal. Yr oedd yn y bregeth eiriau cryfion. gonest a chariad- lawn. Nid oedd yma ymgais, i oglais neb. Ni ofalai y pregethiwr am ffafr neb y cwbl a bwysai ar ei feddwl oedd boddloni ei Dduw a deffro'r bobl. Felly nid ymgynghorai a chig a gwaed. Fel y proffwydi gynt yr oedd yn foddlon talu'r gost 'am ei argyhoeddiad a'i sel eirias dros burdeb a sanct- eiddrwydd. Hyderir y gellir cyhoeddi a gwasgar y ibregeth fawr hon ar fyrder drwy holl e,glwysi'r Cyf- arfod Misol. Dyma ran o waith y pwyllgor, set, ,chwilio am le-nyddiaeth ar y mater pwysig hwn, ac hefyd darpar pamffledau a'u dwyn 0. fewn cyrraedd y to ieuainc. Carwn yma eto gyfeirio at adran arall o waith y pwyllgor, sef trefnu cyfarfodydd dtwy'r eglwysi ar y mater hwn. Y mae Miss Rowlands, B.A. Dtefnewydd, yn arwain yr ymgyrch hon. Bu yn Llangurig. yr Hen Neuadd, ac y mae'n debyg y ceir clywed ei llais am amser eto cyn cychwyn o honi tua'r India 1-genhadu dros Grist i bechadur- iaid yno. Hetyd ceir cynorthwy v Parch. R. Jones, M.A., [Llandinam,, heblaw y gwaith mawr a wneir eisoes ganddo ynglyn a'r Brotherhood yn nhre' Llan- idloes. Rhaid cofio'n barhaus nad a'r ysbryd amhur hwn .allan o'n plith ond trwy weddi ac ympryd. Ac yn y pendraw oyna'n hunig obaith i lwyr orchfygu y gelyn hwn. Y mae gennym ddigon o adnoddau i'w fathru yn yr ymgyrch hon. Y mae'r Parch. R. D'avies, B.A., Trefeglwys, yn ei chanol eisoes, ac y mae ereill na chafwyd hyd yma gyfle arnynt. Llanwed y rhain eu cawell saethau yn ibarod erbyn y daw'r alwad. Blin oedd clywed y Parch. iR. Jones yn dweyd fod gweinidogaeth Distawrwydd wedi llwyr fethu ynglyn a Phurdeb. Sylwais ym Machynllethi, ddechreu Rhagfyr, wedi i mi roi rhai o'r ffigyrau o fewn ein Cyfarfod Misol ni ynglyn ag anniweirdeb, na yngan- odd neb air o ofid am ddim! Y mae'n rhaid i'r Cyfarfod Misol, yr eglwysi, yr Ysgol Sul, y seiat, y weinidogaeth. y cartrefi, ac ymgomian rhwng yr ychydig, i gyd ddeffro i wynebu y perygl mawr hwri yn ysbryd y Gwr a'n piau. Llangurig. EDWARD EVANS. ■r' • 1

Advertising

R O "W LANDS3 GWALIA TEMPERANCE HOTEL 61, Mount Pleasant, LIVERPOOL. Also Bangor, Beaumaris and Llangefni. A HOME FROM HOME. CARTREF ODDICAKTREF. D. J.. TRUSCOTT. (PANT-Y-CELYN HOUSE). 87, Marylands, F d., LONDON, w. I MODERATE CHARGES. Fifteen Minutes' Walk from Paddington Station. Fare by Bus id., by Cab is. Telephone No. 7087, P.O., Hampstead. Telegraphic Address GWALIATEL, London. Telephone lYos. 5010 & 5011 City. HorrEI GWALIA, XJIP3P3BZR. WOBUBN PLAC 3S3, LONDON, w.o. CENTRALLY SITUATED. (Within 5 minutes walk of Euston Station and 20 minutes from Paddington by Underground Rail- way to. Gower Street Station). BED, BREAKFAST, BATH & ATTENDANCE, 5s. EACH PERSON. tSO Mooms Larxerploarely Fui»n§mhm«t* Passengers Lift to all floors. Fireproof Building. JOHN M,. JENKINS, Manager. 111 Opposite the British Museum. Thackeray Hotel Great Russell Street, London. Near the British Museum. Kingsley Hotel Hart Street, Bloomsbury Square,London. Bedroom, Attendance and Table d'H6te Breakfast Single from 5s. 6d. With Table d'Hôte Dinner from 8*. 6d. Full Tariff and, Testimonials on Application. Tel.- Regent 2041 (2 lines). 2088 (2 lines). Tel. Add.Tbackeray London. Bookeraft London." Dr. Williams' School, DOLGELLEY. I Preparations for the Central Welshl Board and Ox- ford Local Examinations, London and Welsh Matri. culation, and University Scholarships. There are three leaving Exhibitions, tenable at Colleges, which are awarded annually upon the re- sults o fthe year's work. The 'Building and Grounds are excellently adapted to secure the comfort and health of the Pupils A NEW WING was built in 1910 to meet the demand for increased accommodation A Domestic Science Department has recently been added TENNIS, CYCLING, AND HOCKEY. Inclusive Fees BOARDING £ 26 per annum; TUITION, £ 5. For prospectus, apply to the Headmistress or to the Clerk to the Governors. 4 f