Collection Title: Dydd

Provider: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
2 erthygl ar y dudalen hon
YR ARSYLLFA I

YR ARSYLLFA. I Gweled fod paratoadau mawrion yn cael eu gwneud y dyddiau hyn gogyfer ag Eisteddfod Aberystwyth, a'r trefniadau bron yn barod. Mae Mr. Gwilly Davies yr Ysgrifennydd yn derbyn tanysgrifiadau mawrion oddiwrth foneddigion cyfoethog ac Eisteddfodol, sydd yn sicr yn profl I llwyddiant arianol, beth bynnag am y cyfansoddiadau lleriyddol) Mae cor yr Eisteddfod hefyd wedi cael ei ddisgyblu yn dda gan yr Arweinydd profiadol. Arweinyddion yr Eisteddfod fyddant, Llew Tegid, Proff. E. Edwards, M.A., a, Llew Meirion o dref y "DYDD." Druan o'r Proffeswr! Pa bryd y cafodd ei osod cydrhwng dau "lew" o'r blaen? Ond na ddigaloned, mae'r ddau lew hyn yn fodau digon caredig ar lwyfanyr Eistedd- fodau. Hwyl i'r Llewod ac yntau. Gweled fod tref y "DYDD," fel llawer tref arall, yn llawen ac yn brudd y dyddiau hyn. Yn llawen oblegid fod merched a bechgyn ieuainc yn dringo i safleoedd uchel mewn addysg; ac yn brudd oherwydd fod amryw o'i bechgyn yn myned yn anrhaith i'r bwledi ar faes y gwaed. Tra yn llawenhau yn llwyddiant un dosbarth, yr wyf yn cydymdeimlo a'r teuluoedd I eraill sydd yn eu trallod. Gweled fod hogiau direidus i'w cael { mewn mannau eraill heblaw glannau'r I Ddyfi. Beth sydd yn cyfrif am y man- droseddau, tybed? Mae'r hogiau o'r pymtheg i fyny, mewn rhanau o Siroedd Gogledd Cymru yn ddiarhebol, a dylid rhoi rhywbeth amgenach na'r wialen fedw ar eu cefnau. Mae tori i fewn i r siopau, arfer iaith anweddus, a dinystrio I eiddo pobl yn y nos, yn gofyn y gosbed- igaeth lymaf, a goreu po gyntaf i weith- redu felly os na ddiwygir. Gwaith da yn Aberystwyth oedd rhoddi nifer o ddynion yn gwnstabliaid i gynorthwyo'r heddgeidwaid, gan eu bod yn brin, ac ni wnai trefi eraill ddim byd gwell, gan fod nifer o'r plismyn wedi ymuno a'r fyddin o bob Sir yng Nghymru, a'r hogiau direidus yn gwybod hynny. Gweled fod ambell i Weinidogaeth wag yn cael cynnyg dynion ardderchog i ofalu am danynt, ac er cymaint yw rhagoroldeb a phrofiad y cyfryw, y mae rhyw ddosbarth yn yr eglwysi yn gwrth- wynebu pob cymhelliad, ac yn cario allan eu mympwyon ar draws pob rheswm I a doethineb y prif arweinwyr. Dyma ? wendid llawer eglwys Annibynnol y dydd- iau hyn, a gwendid y rhaid ei wynebu drwy ryw foddion neu gilydd yn fuan, neu bydd yr enwad yn dioddef mewn rhai manau, oblegid nid yw y dosbarth yma, fel rheol, yn dewis yn y ffordd oreu, fel mae'r ffrwythau yn dangos mewn rhai lleoedd y blynyddoedd hyn. Gweled fod esgeuluswyr moddion bore Sabbath yn ddiarhebol mewn un lie ar I lan y Cardigan [Bay. Yr esgus roddir i ganddynt yw eu bod yn rhy flinedig ar ol y gwaith nos Sadwrn cynt. Ond y drwg yw, nid ydynt fawr gwell yn yr hwyr, ar esgus am esgeuluso yr oedfa hwyrol yw, eu bod wedi blino gormod ar ol cael w6c yn y prydnawn. Yn sicr y mae eisiau. diwygiad mewn llawer lie arall heblaw y lie hwn. Gweled fod Pwllheli wedi myned yn He hynod am nadroedd. Daliwyd tyrfa ( o honynt mewn gardd yr wythnos ddi- weddaf, a phob un o honynt yn mesur dros dair troedfedd o hyd. Yr oedd cael golwg arnynt yn cynyrchu braw ac arswyd yng nghalonau llawer, ac nid ychydig mewn nifer a fu'n llygad dyst o honynt. Gweled fod Cymdeithas Cymreigyddion Cyfeiliog, ger Machynlleth, wedi trefnu ei rhaglen am y tymhor nesaf. Ym mysg yr, areithwyr, disgwylir y Parch, J. L. Williams, M.A., B.Sc.; D. Samuel. Ysw, M.A., Aberystwyth; E. Rees, Ysw. Y.H., Caersws; Parch. J. Davies, B.D., &c. Y mae'r testynau yn amrywiol, ac o ddyddordeb cyffredinol a chenedlaethol, a diau y ceir tymhor rhagorol eto y tro nesaf. Cadeirydd y Gymdeithas yw y C. P. Price, M.A., Rheithor, Is-gadeirydd, W. P. Rowlands, Ysw. Cyfreithiwr;. Trysorydd, J. G. Jenkins, Ysw, N. P. Bank. Cofiadwyr, Wnion a Mr. J. J. Humphreys, A.R.S.I., pa rai a gynorthwy- ir gan bwyllgor gweithgar cryf a llengar. GWELEDYDD. &;&;&;

PWYLLGOR ADDYSG MEIRION

PWYLLGOR ADDYSG MEIRION. Cynhaliwyd yr uchod dydd Iau yn yr. Abermaw o dan lywyddiaeth Mr. John Jones, U.H., Dolgellau. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch. Talfor Phillips, Ffestiniog, yn ei waeledd, a'r teuluoedd sydd wedi colli eu plant yn y frwydr fa wr.. Arolygiaeth Feddygol. Galwodd Dr. R. Jones, Blaenau Ffes- tiniog, sylw at adroddiad Swyddog Medd- ygol y Sir, ar lei Arolygiaeth Feddygol ar blant y gwahanol ysgolion. Telid yn agps i £ 5,000 am y gwaith. Sylwai fod o 500 i 600 o achosion heb dalu sylw iddynt yn ystdd y 12 mis diweddaf. Dylent yn sicr gymeryd y mater i ystyr- iaeth ar unwaith. Yr oedd yn gwestiwn arianol yn ogystal ac o fudd i'r plant. Yr oedd yr arian werir yn cael eu gwario i amcan da, pe gellid cael y rhieni i gyd- weled a chario allan awgrymiadau y meddyg. Cynygiodd Mr. Martin Williams fod pwyllgor bychan yn cael ei nodi i ystyr- ied yr adroddiad. Cernogodd Mr. L. J. Davies, a phas- iwyd hyny. Gwobrwyo [Presenoldeb. Argymellai y Pwyllgor roddi swm o £ 100 i'w ranu i'r gwahanol ddosbarth- iadau addysgol yn lie £ 75, i bwrcasu llyfrau i wobrwyo presenoldeb, prydlon- deb, ac ymddygiad da, ac i wneud i ffwrdd a rhoddi medalau, ac oriaduron fel arfer. Mewn atebiad i Mr. Thomas Jones, Towyn, dywedodd y Clerc fod y plant sydd eisoes wedi mynychu yr ysgol am ddwy a thair blynedd, i gael gorffen y tymor yn bedair blynedd, ac nad oes cyfle i'r un plentyn ddechreu i ymgeisio am fedalau ar ol Awst 1916. Yohwanegu Cyflogan. Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor tu yn ystyried ceisiadau athrawon am ych- wanegiad yn eu cyflogau. Dywedodd y Clerc i'r pwyllgor ystyried ceisiadau yr "uncertified assistant a'r supplementary teachers" yn unig, gan fod achosion y prif athrawon a'r certified assistants wedi eu hystyried y flwyddyn ddiweddaf. Pasiwyd i ganiatau codiad o £ 100 rhwng 30 o athrawon. Oherwydd rhyw gam ddealltwriaeth ynglyn a galw [ aelodau o'r pwyllgor o ddosbarth Ffes- tiniog, pasiwyd i ystyried y ceisiadau i o Ffestiniog eto. ttJ i Y Fvddin ac Addysg. Cyflwynodd y Clerc adroddiad y pwyll- j gor fu yn ystyried safle addysg y sir. | Dywedodd y Clerc fod lleg wedi ymuno ar y dechreu, ac fod 13 wedi eu galw yn i eu dosbarthiadau, yn gwneud y cyfan- J swm yn 24. Yr oedd 2 dau wedi cael rhyddhad amodol a 16 wedi eu gwrthod. Yn ychwanegol at hyn yr oedd Pwyllgdr Apel y Sir wedi gwrthod ei gais yr wyth- nos ddiweddaf ar ran pedwar o athrawon a byddent yn y fyddin cyn diwedd mis Awst. Ystyriai y safle yn ,un ddifrifol iawn, a cheisiodd argraffu hyny ar y Pwyll jar Milwrol trwy ddweud y bydd yr ysgolion canlynol heb neb i ofalu am danyn.t:- Llawr y Bettws, Cynwyd, Ganllwyd, Rhoslefain, Llanymawddwy, Pant perthogj Cwmtirmynach a'r Sarnau, ond i ddim diben. Mr. Thomas Jones: Pa nifer o'r athraw- on oedd mewn oed milwrol. Y Clerc: 53, ac o'r rhai hyny y mae 73 y cant yn gwasanaethu eu gwlad. Dywedodd Dr. Rd. Jones fod mfef fawr o ferched oedd wedi cael addysg dda yn yr ysgolion, ond hwyrach heb feddu trwydded lawn, oni ellid ad-drefmi a chael caniatad Bwrdd Addysg i roddi y rhai hyn i ofalu am yr ysgolion. Mr. Maethlon James, Towyn, a ddywed- odd ei fod yn cydweld a Dr. Jones,, ac, ai gam ymhellach gyda'r priodoldeb o wneud i ffwrdd a dosbarthiadau babanod ar hyn o bryd. Mr. Martin Williams: Gresyn fyddai gorfod cau ysgolion y wlad. Onid oes eto yn y sir ddigon o. wladgwrwch pe bae raid i ni apelio at ein clerigwyr an gweinidogion, a'r bechgyn ieuanc hemyf sydd yn y weinidogaeth i ymgymeryel a'r gwaith o addysgu y plant? Sylwodd Mr. L. J. Davies ai oni ellid uno amryw o'r ysgolion bach ac apeEa at reolwyr addysg sydd mewn gpfal ysgol Eglwysig i anfon y plant i Ysgpl y Cyngor neu fel y bo y cyfleustra? i Dr. Rd. Jones: Nid apelio atynt sydd eisiau ond dweud wrthynt am wneud hyny (chwerthin). Rhoddodd engh rapht I, o ddwy ysgol mewn gwaith chwai-ter awr i'w gilydd nad oedd mwy na 25 o blant yn mynychu pob ysgoi. # I Wedi trafodaeth bellach pasiwyd i" cwestiwn gael sylw y Rheolwyr D-efA., I fj]&;&; 1\ Ar ol mis o ddisgyblaeth ar fferm yn Swydd Efrog gallodd merch gneifio 16 o famogiaid croesryw mewn -diwmoa Telir 7s. yn y dydd i ddynion a mercM. sydd yn gweithio yn y cynhauaf gwair yn Ne Cymru., Darfu i filwr clwyfedig yn Saffroa Walden adenill ei leferydd trwy gas! ei daflu yn sydyn i ddwfr oer.