Date: 1913-12

Collection Title: Wawr (Aberystwyth)

Provider: Aberystwyth University

Rights: Copyrighted

View full details

First Previous 37 of 48 Next Last Page Label: [page 1]

37 Ffrangeg a ddewisi ? " A fu peth anhecach a mwy annaturiol erioed ? A pha iaith bynnag a ddewisir, dysgir hi trwy'r Saesneg. Onid llawer gwell a doethach fyddai Cyuiraeg a Ffrangeg, gan debyced teithi'r ddwy iaith. Dylai'r Cymro guro Johu Bwl yn yfflon mewn dysgu Ffrangeg neu un o chwiorydd yr iaith deg, megis yr Eidaleg neu'r Spaeneg, canys y mae cystrawen yr ieithoedd hyn yn nes filwaith at eiddo'r G-ymraeg nag at eiddo'r Saesneg, Daw rheolau anhawddaf y Ffrangeg yn hawdd i'r Cymro dim ond iddo feddwl yn ei iaith ei hun. Eithr beth am yr ieithoedd diweddar yn ein colegau ? Yr .un yw'r gŵyn yma eto. Y mae lle hefyd i ofni mai ychydig o ysprydoîiaeth a fedd ein hathrawon. Yr hyn a rydd fwyaf o fri ar brifysgol ydyw'r gwaith a wneir gan ein hathrawon a'u myfyrwyr. A'r math uchaf ar waith ysgolheigion ydyw ymchwiliad gwreiddiol, a'r prawf goreu o hwnnw ydyw ysgrifau dysgedig a chyfrolau trwchus odditan law yr argraffydd. Dyna hefyd y symbyliad cryfaf a'r cyuiorth gwerth- fawrocaf i fab neu eneth ieuanc yn eu hawydd at wtiith a'u hymchwil am wybodaeth. Pa faint tybed o gyfrolau neu o erthyglau a ychwanegir yn flynyddol at y gangeu arbennig mewn gwybodaeth y cyfeiriais ati gan athrawon ein colegau cenedlaethol ? A ydyw Prif- ysgol Cymru yn cymryd ei ìle priodol ym myd ieithoedd estron a'u Hen ? Dyna gwestiynau y mae yn bwysig iawn i ni eu hateb yn glir ac yn groyw, os gwelsom ein llun yu nrych y byd. Oni arferir greddf ymchwil, a ddylasai bod yng ngwaed pob athro uwchraddol, cyll ei pherchen bob bywiogrwydd meddwl, heb obaith byth am lenwi'r bylchau a fo yn ei wybodaeth heb son am ei ddysg hen fíasiwn ; ac y mae'r dylanwad a gaiff y fath athro ar ei ddisgyblion yn sicr o fod yn resynus o wael. Ni fedr athro felly gymaint a chyfarwyddo'r ymchwilgar heb son am ei gynorthwyo, canys ni wyr efe y ffordd ei hun. Ai hynyna a welir yng Nghymru heddyw ? Dichon er hynny mai'r prydydd a'r cerddor sydd gywir a bod y proffwyd yn gibddall.    Pwy a wyr ? Boed fel y bo, y mae o'r pwys mwyaf i Gymro gael yr addysg oreu a fo'n ddichonadwy yn iaith a llên estron. Hyd yn hyn ni fedrodd y Cymro esgyn i gadeirian'r ieithoedd tramor yng ngholegau ei wlad,

Copyrighted

This material is copyright of Aberystwyth University. Unless the accompanying information states otherwise, you must ask permission from the rights holder before you can copy, modify, distribute or perform the material, even for non-commercial purposes.

For more information or if you wish to request a higher quality version of the file, please contact Aberystwyth University.

×