Date: 1915-12

Collection Title: Wawr (Aberystwyth)

Provider: Aberystwyth University

Rights: Copyrighted

View full details

1 of 44 Next Last Page Label: [page 1]

cy^ ilü, Cyfrol III. ÖAEAF,   1915. Rhif 1. Prifysgol Bara  a  Chaws ? Pennawd pur ryfedd, meddwch, i erthygl yn " Y Wawr." Ond o ran hynny, mewn dydd rhyfedd yr ydym yn byw,—dydd " Y Ddinas " a'r Rhyfel Fawr, dydd yr ing, y parddu, a'r mwg, ac nid oes neb a wyr beth a ddigwydd cyn ei fachlud. Rhyfel a Deffroad cenedlaethol, ym myd meddwl neu gref- ydd, yw'r ddau allu pennaf i nithio enaid cenedl, i ddal y grawn a gadael yr us i'r gwynt. Dyma Gymru heddyw, ynteu, yn union ar drai'r Deffroad crefyddol, ac ar lanw cyflym Deffroad addysg a chenedlaetholdeb, yng ngafael rhyfel ofnadwy hefyd, —y gallu nerthol arall i ysgwyd enaid cenedl hyd ei waelodion. G-allwn fod yn sicr, gan hynny, ein bod yn byw yn y tymor mwyaf cyffrous a phwysig yn hanes Cymru oddiar amser Glyn Dwr hyd heddyw. Mae Cymru ar ei phrawf eithaf y dyddiau hyn. Mae ei neges yn llosgi'n ddygn yn ei mynwes ei hun, eto, heb ei draethu i'r byd llydan y tu allan iddi. Ond hi a glyw'r llais yn galw, yn galw, o hyd arni ers blynyddoedd, ao y mae'n sicr wregysu ei lwynau a pharatoi ei hysgrepan i'r daith i

Copyrighted

This material is copyright of Aberystwyth University. Unless the accompanying information states otherwise, you must ask permission from the rights holder before you can copy, modify, distribute or perform the material, even for non-commercial purposes.

For more information or if you wish to request a higher quality version of the file, please contact Aberystwyth University.

×