Collection Title: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 3 of 16 Next Last
Full Screen
1 article on this page
NODIADAU WYTHNOSOL

NODIADAU WYTHNOSOL. Croesi'r Anialwch. Rhyfedd fel y mae hanes yn ail-adrodd ei hun. Y mae byddin Twrci yn defnyddio Beersheba fel gwaelod i'w ymdrechion yn crbyn yr Aifft, ac y maent yn deall erbyn hyn pah am yr arweiniodd Mbses blant Israel am- gylch Sinai yn hytrach na chroesi yr anial- wch ar ei g'yfer. Dengys ysgrifennydd yn y Daily Telegraph' fod croesi yr anialwch rhwng Beersheba a'r Aifft yn amho,sibl efo byddin os na fydd ganddynt atgyfnerthiad o'r mor. Dywed yr ysgrifennydd: "It is pro- bable that few even of those who know the Old Testament page by page have ever stayed to consider why the greatest of all recorded migrations was led out of Egypt to' the Land of Promise by a Southern route that was at more than a right angle to the direct line towards their goal. But Moses was right, and the reasons that guided him are just as imperative today." Dywed y 'Times' fod croesi'r Alpau yn waith hawddach i fyddin na chroesi anialwch lie mae'n rhaid cario dwr, bwyd, a than —pethau gellir eu cael o dan am- gylchiadau cyffredin ar hyd y ffordd y cerdd- ant. Megis yr oedd y ser yn yr entrych yn brwydro yn erbvn Siscra, felly y mae'r anial- wch ym milwrio yn erbyn i'r Twrc gyrraedd gwlad Gosen. y Senedd yn Agored. Yn ddistaw a dirodres yr agorwyd drysau'r Senedd ddydd Mawrth, ac ni fu nemor ddim neilltuol yn eisteddiadau Ty'r Cyffredin yn ystod yr wythnos. Eto teimla'r wlad yn esmwythach-o gael y Ty'n agored a'n Senedd- wyr mewn cyffyrddiad a'r Llywodraeth. Gwir nas gellir disgwyl llawer o oleuni ar y pethau pwysicaf ynglyn a'r rhyfel; ac er y carasai pawb wybod mwy, da gweld fod aelodau Ty'r Cyffredin yn llawer mwy rhesymol na"r ar- ,glwyddi. C'ofir iddynt hwy agor eu Ty, ryw by the f nos yn ol, gyda'r unig amcan, mor bell ag y gellir casgflu, o geisio' pympio'r Llywodraeth a chael allan rai o'r pethau ag y barna'r Llywodraeth yn oreu eu cadw'n guddiedig1 am y pryd. Mae'r Wrthblaid (os nad yw'r enw'n rhy gryf yn awr) yn Nhy'r Cyffredin yn gallach ac yn fwy gwladgar; boddlonant ar y cyfan i'r distaw- rwydd, ac ymddiriedant yn noethineb y LJyw- odraeth. r Yr Holl Gyfrifoldeb. A oes ymysg arweinwyr y Toriaid awydd mawr am eu gollwngi mewn i holl gyfrinion y Llywodraeth; neu ymhellach na hynny, awydd am gael bod yn rhan ohoni ? Mae awydd felly yn ddigon naturiol, ac nis gellir eu beio os y ceir hwy weithiau yn taflu allan ambell i sylw awgrymiadol. Dyna mae'n debyg- oedd o dan sylw Mr. Bonar Law y noson o'r blaen. "Aeth o'i ffordd i sicrhau'r Ty nad oedd iddo ef a'i blaid ddim rhan o'r cyfirfoldeb am y rhyfel a'i ddygiad ymlaen. Dywedodd dro yn ol nad ydoedd yng nghyf- rinach y Llywodraeth. Ac eto, y maent yn cael breintiau na chafodd gwrthblaid o'r blaen. Yn ei araith gref a gloew, dywedodd y Prifweinidog fod y Llywodraeth yn ym- gymeryd a'r holl gyfrifoldeb. Codiad y Prisiau. Y codiad brawychus yng ii-,el-iostaLl byw angerddolai'r awydd yn y wlad am agoriad y Senedd, ac a gynhyrchai'r feitniadaeth chwerwaf ar y Llywodraeth. Cydnabyddid y gwasanaeth amhrisiadwy a wnaeth ar ddech- reu y rhyfel wrth reon prisiau ymborth y wlad. Galluogodd hynny ni gario ymlaen ryfel heb ei fath am lawn banner blwyddyn o amser, a pharatoi ar gyfer y dyfodol ar faes y gad, ar raddfa annirnadwy fawr, heb i angenrheidiau bywyd godi ond ychydig iawn uwchlaw eu pris mewn adeg o heddwch. Ond, medd y beirniaid, aeth y Llywodraeth i hepian. Clo- wyd drysau'r Senedd, a gwelodd dosbarth- iadau trachwantus eu cyifle i ymgyfoethogi ar drael y tlawd. Daeth y cwestiwn i sylw'r Ty yn fuan wedi'r agoriad yr wythnos ddiwedd- af. Yr oedd wedi ei wneud yn hysbys- yn flaenorol fod Pwyllgor o'r Llywodraeth yn edrych i fewn i'r cwestiwn, ac mewn atebiad i gwestiwn igiati Mr. A. Henderson, dywedodd Mr.- Asquith fod y Pwyllgor er ys tro bellach wedi cario, allan ymchwiliad pur fanwl a thrwyadl i'r mater yn ei wahanol agweddau. Derbynient bob hysbysrwydd a manylion gan wahanol Swyddfeydd y Llywodraeth, a gwnaent bob brys i gT\-blhau'r ymchwiliad. Gofynodd Mr Hodge a wyddid fod y, glo yn costio'r swm afresymol o banner coron y cant yn Nwyrain Llundain, ac atebodd y Prifwein. idog fod y Llywodraeth yn gwybod yr holl f anylion ar y mater. Maniffesto'r Undebau Llafur. Mae'n werth yma gyfeirio at ymdrechion ar- weinwyr y gweithiwr yn y mater oll-bwysig hwn. Mae General Federation yr Undebau Llafur wedi cyhoeddi maniffesto cryf yn galw ar y Llywodraeth i gymryd y mesurau angfen- rheidiol i ddiwygio'r sefyllfa. Addefir nad yw eto'n rhy ddiweddar, ac nad yw pethau wedi myn'd mor bell ag i fod yn ddiadfer; ond datg-enir y bydd wedi cyrraedd y tir hwnnw, oni ymeifl y Llywodraeth yn yr awen- au yn ddiymdroi. Danghosir mai nid yr yd yn unig- sydd yn oodi; ond fod y pla yn ym- y, ledu a'r naill angenrhaid ar ol y Hall yn chwyddo bil wythnosol y bobi allan o gyrraedd llogell y gweithiwr tlawd. Apelir am i fesur- au effeithiol gfael eu cymryd i glirio'r llongau yn y porthladdoedd; ac awgrymir yn blaen iawn mai nid prinder gweithwyr yn y dociau sy'n cyfrif am yr oediad yn y mwyafrif o achosion; o leiaf honnir yn bendant y, gellir yn hawdd "ddyfod tros ben unrhyw ddiffyg all fod yn y cyfeiriad hwnnw trwy ddelio a'r broblem yn briodol. Nid oes yn eisieu ond ymysgwyd, a rhoi pob ymadferth ar waith i igeisio moddion i gludo'r nwyddau a'r porth- laddoedd at gartrefi'r bobl. Ar y diwedd cyd- nabyddir nas gellirdisgwyl i holl ymdrechion y Llywodraeth I wyddo i ostwng pris y blawd i'w lefel flaenorol hyd nes yr el y rhyfel heibio, ac y daw cnydau toreithiogf i adfer y cyflen- wad; ond gelwir am i bopeth ellir gfael ei wneud i gymedroli'r prisiau ac i'w cadw rhag yr eithafion sy'n awr yn ein bygwth. Llenwi Swyddau. Gofid cyffredinol a deimlir ymysg Rhydd- frydwyr oherw,yd