Collection Title: goleuad

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 3 of 16 Next Last
Full Screen
6 articles on this page
No title

Y GOFRESTR. Ar waethaf gwrthvvynebiad agored llawer ae anghymeradwyaeth ddistaw hyd yn oed rhai aelodau o'r Cabinet y mae y Mesur Cof- i-fcstru bellach yn ddeddf. Wrtli siarad arno yn Nhy'r Arglwyddi aeth Arglwydd Lans- Jowne o'i ffordd i fwrw dir-nyo, ar y gyfun- drefn wirfoddol ac ar yr hen Weinyddiaeth. Y mae'n ddigon amlwg fod plaid gref yn y Cabinet am wneuthur ymdrech egniol i ddefn- yddio'r g'ofrestr fel y cam cyntaf tuag at orfodaeth -filwrol. Vlrth gwrs, pe bai modd dangos 11ad ellid aehub y wlad heb hynny, in byddai dim mwy i'w ddweyd ar y mater, ond nid oes neb wedi dywedyd hynny eto. Sieryd ,.eloda r Weinyddiaeth ag arnrywi dafodau, ac y mae drwgdybiaeth ddofn wedi meddianu cyfangorff y Rhyddfrydwyr. Ond y mae un peth yn amlwg; ni faidd hyd yn oed weinydd- iaeth y mae Arglwydd Lansdowne, Arglwydd. Curzon, a. Mr. Balfour yn aelodau oheni. ddwyn gorfodaeth ymlaen heb ganiatad y Senedd, a phan ddeuir i ofyn am hwnnw dywedir cryn lawer o bethau a gofynnir cryn lawer o gwestiynnau. Yn y cyfamser rhairl i bawb yn yr oed gofrestru, ac y mae'r jiwrdtl Llywodraeth Leol eisoes wedi cyhoeddi rheei cyfarwyddiadau. Dechreuir ar y gwaith grtn yr awdurdodau lleol Awst 9, a disgwyIir y hydd yr holl lyfrau a phapurau wedi eu c-asglu erbyn Awsb 21. Golyga hyn fwrw baiolx mawr ar yr awdurdodau lleol, ond ymddengys fod llawer iawn o bobl wedi cynyg eu help yn wirfoddol, yn enwedig i rannu ac i gnsglu'r papurau. Ynglyn a'u dosbarthu a'u hedrych —gwaith sydd, hefyd, yn disgyn ar yr •awdurdodau lleol—y mae'n bosibl y bydd yn .rhaid cae»l cynorth wy rhai mwy cyfarwydd. Kb a id i bawb oedd yn 15 oedi ar eu penblwydd diweddaf ac yn 64 oed eu penblwydd diweddaf gofrestru hynny ydyw, rhaid i bawb a ane-d rhwng Awst, 16, 1850, ac Awst 15, 1900, gof. restru. Disgwylir i bawb roddi desgrifiad clir a diamhwys o'i alwedigaeth. gyda manflion am y sawl y bo'n gweithio iddo, ac a. ydyw ei waith yn waith i'r Llywodraeth. Gofvnrr, .Ihefyd, a all y sawl a fo'n Henwi'r papur wneuthur rhyw waith. heblaw yr un y iillill, 11 ei wneud ar hyn o bryd, a dylid rhoddi atebion diamhwys i'r holl gwestiynau hyn. rnglyn a marched gall y rhai sy'n gwneud gwaith ty ddywedyd hynny yng ngholofn y gaiwedig- aethau. Rhaid i bawb roddi manylion cywir am eu hoed, priod neu ddibriod, faint oblant, a oes rliywun yn dibynnu arnynt-, a.'r gwaith a, wneir. Gellir cosbi y sawl a wrthodo lenwi'r papur neu'r sawl a, roddo fanylion iwyllodrus yn wirfoddol. Y mae eglurdeb yn "bwysig yn yr holl atebion, ac yn arbenig yn yr atebion ynglyn a galwedigaeth. Nid hawdd yw gwybod pa ddefnydd a- wneir o'r wybodaeth a gesglir fel hyn yn y diwedd, ond gan i'r ddeddf ddyfod i rym, dyledswydd pawb yw gwneuthur ei gweithrediad yn hwylus a didramgwydd.

No title

HOLLAND. "f' Y dydd o'r blaen cyhoeddodd un o ba-purau Holland ymgom a Mr. Winston Churchill ynghylch y rhyfel, ac yn arbenig ynghylch amhleidgarwch Holland. Gofynwyd cwest- iwn ar y mater yn y Senedd, a dywedodd Mr. Asquith nad oedd yr ymgom yn swyddogol, ond nad oedd ynddi ddim, hyd y gweiai ef, oedd yn groes i bolisi'r Llywodraeth. Y mae weddol eglur, canys yr hyn a w nq. Mr. Churchill ydyw sicrhau Holland nad yw Prydain yn bwriadu tori ar ei h amhleidgar- wch. Byddarn ddigon buddiol i ni gadw mewn cof fed cwestiynau fel hyn yn codi. Y mae Holland yn ofni yr Almaen ers olynydd- oedd yr oeddym oil yn gwybod hynny. Ond feallai. nad pa\vb ohonom sydd yn sylweddoli ei bod ar hyn o bryd yn ein hofni ninnau. Y mae ei safle yn un anodd iawn. Rhaid. eofto fcxi aber' y Scheldt, afon Antwerp, yn nhiriog- aeth Holland, ac nad all na Phrydain na'r Almaen fyned a llongau rhvfel trwyddi heb dnrt ar amhleidgarwch Holland. Danghos- odd Mr. Winston Churchill mai anfant-ais yr 'Almaen yw'hynny yn awr ganfodi Antwerp yn ei Haw hi. Pan oeddym ni yn cynorth- "vr o'r Be}giai31.ApMbMpi-Afitweg), yr oedd yn anfantais i ni, gan fod y ffaith mai Holland bia genau'r Scheldt wedi ein rhwystro i gludo milwyr mewn Kongau i Antwerp, a, thrwy hynny, efallai, achub y ddinas. Y mae'r ymgom wedi gwneud argraff ffafriol iawn yn Holland, ondi y mae papurau'r Almaen yn ddig iawn. Wedi gwneud pob camgymeriad a fedrai yn ei pherthynas a gwledydd ereill, ceisia'r Almaen ddangos yn awr fod Prydain am wneud yr un peth. Am y rheswm yna y mae'n iledaenu sibrydion fod Prydain yn bwriadu tori amhleidgarwch Holland, a, medd- ianu Calais oddiar Ffrainc ar ddiwedd y rhyfel. Dylid sylweddoli fod yr Almaen o hyd yn ceisio hau drwgdeimlad a, drwgdvb- iaeth tuag atom ni yn Ffrainc, ac y mae rhai papurau newydd yn y wlad hon, sydd yn dar- og'an drwgi yn barhaus ac yn dywedyd nad ydym yn gwneud; ein goreu, yn eu cynorth- wvo. .f.J, A

No title

Y LUSITANIA." Ddiwedd yr wythnos cyhoeddwyd barn Arglwydd Mersey a'i gyno-rthwywyr ar yr ymchwi'liad i suddiad y "Lusitania." Fel y gallesid disgwyl, rheithfarn ydyw, yn ym- arferol, o lofruddiaeth wirfoddol yn erbyn criw y submarine Almaenaidd, ae, hefyd, yn anuniongyrchol, yn erbyn Llywodraeth yr Almaen. Dyna. farn y byd gwareiddedig yn ogystal a.g Arglwydd Mersey. Dyna, yn ddi- ameu, farn y mwyafrif yn yr Unol Dalaetha'J, a ffyrnigwyd teimlad y wlad honno ymhellach ddydd Sadwrn pan gyrhaeddodd y liner "Orduna" i New: York. Dywedodd y capten fel yr oedd un o submarines y gelyn wedi gollwng torpedo arni yn gwbl ddirybudd. Diolch i'w chyflymder, dihangodd y Mong yn gwbl ddianaf, ond nid heb i'r gelyn ei dilyn am tuag haner awr. Pan wnaed yr ymos.:d- iad yr oedd y rhan fwyaf o'r teithwyr vn eu gwelyau yn cysgu, ac yr oedd amryw ohonyrit yn ddinasyddion o'r Unol Dalaethau. Yn yr achos hwn y mae'n a-mhosibl i'r Almaeniaid gynyg hyd yn oed yr esgus wael a gynygiwyd ganddynt yn achos y "Lusitania," sef eu bod yn credu fod y Mong yn cludo arfau, canys myned o'r wlad vina i'r America yr oedd yr "Orduna. Nid ellir galw peth fel hyn yn ddim ond ymgais i lofruddio o gariad at y gwaith aflan hwnnw,—neu fod Von Tirpitz, wrth yniladd yn erbyn Bethmann Hollweg, yn ceisio cyrhaedd ei amcan trwy orfodi'r Talaethau i ddyfod i'r rhyfel. .4*.

No title

■v v "r RWSIA. Daw yn amlycach, ni gredwn, tori y rhyfel i'w phenderfynu yn y Dwyrain, sef yn Rwsin n- Pholand, ac yn y Dardanelles. Pan yr ydym yn ysgrifennu'r ncdiad hwn nid ellir dywedyd fod y newyddion o Rwsia yn galonog iawn. Y mae cyn'lluniau'r gelyn yn awr yn datblygu a gwelir mai eu hamcan ydyw ym- osod ar hyd llinell anferth Rwsia. Yr oedd yn wybyddus fod yr Almaen ers rhai misoedd bellach wedi cael ei throed i lawr yn y gog- ledd, yng nghymdogaeth Riga, er nad oedd neb yn; cymeryd rhyw,),wer o sylw o tiynny ar y pryd. Yna, taflodd Mackensen ei fydd- inoedd yn erbyn v Rwsiaid yn Galicia, gan eu gorfodi i gilio oddiyno ac i o-llwng eu gafael ar Permysl a, Lemberg, ond heb fedru dryllio eu byddinoedd. Canlyniad hyn oedd fed llinell Rwsia, sydd yn ymestyn am tua mil o filliyroedd, yn awr ar lun pedol, yn agored tua Rwsia, gyda. Warsaw ynghanol y tro, ac yn n-esa-f at y gelyn. Wedi cael Rwsia i'r safle yna, datblygodd Von Hindenberg—efe yw'r pennaeth ymai o hyd—ei gynluuniau. Y mae'n amlwg fod yr Alrnaen ac Awstria, wedi c-rynhoi eu lluoedd ar hyd y llinell hon ac-yn ymosod a'u holl nerth; dywedir fod gan Von Hindenberg un a, deugain o fyddinoedd yn awr, ac y mae yn eu defnyddio heb arbed. Y Vnae'r eollledion yn enfawr, ond ar hyn o bryd y mae'n amhosibl dywedyd ffordd y mae'r llanw yn troi. Credir fod enciliad y Rwsiaid wedi peidio a'u bod yn troi ar y gelyn. Ar un olwg y mae Warsaw mewn perygl mawr, ac ni ddylid rhyfeddu pe elywid fod y Rwsiaid wedi penderfynu gadael y ddinas i'r gelvn yn hytrach na. pheryglu eu llinell. Buasai hynny, v mae'n rhaid cydnabod, ynl drych- in-eb, nid yn gymaint oherwydd gwerth mil- wrol y lie, er fod hwnnw yn fawr, ond am yr effaith foesol a gawsai ar wledydd ereill. Ar yr un pryd buasai'n well i Rwsia adael War- saw na gadael i'r gelyn amgylchynu unrhyw ran sylweddol o'i byddinoedd. Y mae'n amlwg fod Von Hindenberg yn awr yn dis- gwyl rhoddi ergyd a fydd yn ddigon trom i benderfynu y rhyfel, ond y mae'r Rwsiaid wedi eu dangos eu hunain fwy nag unwaith yn fedrus y tuhwnt mewn ymladd ac encilio. Y mae'r sefyllfa yn y rhan yma o'r maes yn bwysig iawn.

No title

"Y "Y YR OCHR ARALL. Nid. oes fawr o amheuaeth nad yw'r gelyn yn ceisio gwneud rhywbeth mawr cyn i'r Tyrciaid ffaelu yn Gallipoli. Cyn belled ag v mae'r ymladd yn y rhan honno o'r wlad yn myned, araf yw'r cynydd a wneir, ond gellir deall ei fod yn fcddhaol. Yr hyn sy'n tlyíod yn amlwg ydyw fed gallu'r Twrc i wrthsefyll yn lleihau o wythnos i wythnos, a hynny yn benaf c-herwydd diffyg arfau ac ergydion. Cyfeiriasom yr wythnos ddiweddaf at. y ffaith fod Rumania yn gwrthod gadael i'r Almaen anfon arfau ac ergydion i Dwrci. Wedi hynny y mae'r drafodae-th wedi chwerwi. Pery Rumania yn benderfynol yn ei gwrthodiad, ac yn awr sibrydir fod Awstria. a'r Almaen yn paratoi ultimatium at y mater, er fod yn anodd gweled sut y byddai cyhoeddi rhyfel ar Rumania yn unrhyw help iddynt. Rhaid bod yn cfalus rhag cymeryd dim a ddywedir ar y mater hwn fel efengyl; nid oes dim yn. swydd- ogol. Ond dywedir nad oes gan Twrci ond digon o ergydion i barhau am bythefnos os nad all gael rhai o'r Almaen. Os felly y mae tynged Caercystenyn yn sicr, a barn y man fwyaf o wyr cyfarwydd ydyw y grull cwymp y ddinas enwog honno olygu terfyn y rhyfel. Y mae'n ymrysonfa rhwng yr Almaen ym Mholand a ninnau yn Gallipoli, and h yd yn oed pe'r enillai'r gelyn Warsaw, ac heb .cldry lllio byddinoedd Rwsia, ni byddai dim ter- fynol wedi ei gyrhaedd wedyn. Yn y Gorlle- win gellid tybio fod hon yn adeg fanteisiol i wneud ymosodiad mawr ar y gelyn, gan fod ei brif nerth wedi ei symud i'r Dwyrain. Cyfeiriwyd fwy nag unwaith at y si fod yr Almaen yn symud milwyr o Poland i Belgium. Y mae'n amlwg erbyn hyn nad oedd y sibryd. ion hynny yn ddim ond pethau a ledaenwyd gan yr Almaen ei hun i geisio t-aflu llwc-h i lygaid y Rwsiaid. 4- 4-

No title

"V DIWEDDARAF. Pan ar fyned i'r wasg nid oes ddim gwawr o'r Dwyrain. Y mae'r Rwsiaid yn parhau i encilio, ac y mae Warsaw mewn perygl mawr. Y mae'r symudiad Almaenaidd i gyfeiriad Rigà, yn datblygu'n beryglu^, hefyd, ac y mae'n amlwg erbyn hyn mai ei amcan ydyw rhwystro byddinoedd Rwsia rhag encilio fcua Phetrograd. Dywedir y buasai meddianu Riga yn galluogi'r gelyn i daro byddin xiwsia o'r tu cefn. Nid yw'r sefyllfa yn anobeithiol —hyd yn oed pe collid Warsaw,-ond y mae'n ddiameu fod y Grand Duke mewn safle sydd yn galw am ei ho1>1 allu i'w hwyneba yn llwyddianus. Gall pethau droi y naill ffordd neu'r Hall, ac y mae'n rhaid i ni wynebu'r ffaith y byddai gorchfygiad difrifol i'r Rwsiaid yn drychineb mawr i ni. Rhyddhai hynny'r gelyn i daflu ei luoedd yn ein herbyn yn y Gorllewin. Y mae'n bosibl fod ein Admiralty wedi rha-gweled rhywbeth tebyg i'r symudiad tua. Riga, ers wythnosau. canys gwyddom erbyn hyn fod submarines Prydeinig wedi bod yn gweithredu yn y Baltic, gyda'r amcan, y mae'n debyg, o rwystro'r gelyn rhag cludo ei filwyr ar hyd y mor i Rwsia.—Yn v Gorllewin daw hanes am ymosodiad lleol llwyddianus gan y fyddin Brydeinig, ond nid oes son am ymosodiad eyff redinol hyd yn hyn.—Gwnaeth Mr. Asquith ddatganiad pwysig yn Nh 'v'r Cyffredin ddydd Mawrth ar agwedd arianol y rhyfel, wrth ofyn am £ 150,000,000. Yng nghwrs ei araeth cyfeiriodd at vr arian a fenthycir i'r gwledydd sy'n ymladd gyda ni. ac awgrymodd yn gynni'l vr ychwanegid at eu nifer cyn bo hir iawn. Y mae cryn lawer o ddyfalu ynghylch hyn, ond v dybiaeth gvff- redin ydyw mai cyfeirio at Rumania, Bwl- garia, a Groeg yr oedd.