Collection Title: goleuad

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 4 of 16 Next Last
Full Screen
2 articles on this page
NODIADAUR DYDD

NODIADAU'R DYDD. Gofynnir yn ami gan ddarllenwyr C'Y Goleuad" am bregeth neu ysgrif ddefosiynol o dro i dro. Yr wythnos ddiweddaf cyhocdd- asom bapur rhagorol y Parch. W. D. Rowlands, Caerfyrddin, ar "Grefydd yn y Teulu." Yr wythnos lion eta cyhoeddwn ysgrif gan y Parch. Huw Edwards, Ponty- berem, ar y testun "Deled dy Deyrnas,"— ysgrif yn dwyn perthynas uniongyrchol a'r cyfnod hwn. Galwn sylw arbenig ein dar- llenwyr ati. — Yn "Transactions" diweddaf y Cymrodor- ion ceir rhestr o aelodau'r Cyngor sy'n. ym- neilltuo yn eu trefn eleni. Yn eu plith y mae enw un aelod sydd wedi marw, ac ar y diwedd eglurir fod pawb ond ef yn agoredi i'w hail- ethol! Prin y buasai dyn yn meddwl fod eisiau nodi'r eithriad, hyd yn oed i'r Cym- mr odor ion. Clywir llawer o son am gynildeb yn a v,, r, ac anogir pawb ohonom i feithrin y rhinwedd —neu y gras—hwnnw yn helaeth. Bydd yn dipyn o newid i ambell un. Yr ydym wedi syrthio ymhell ar ol ein tadau yn y cyfeiriad hwn, a buasent hwy yn ddiau yn rhyfeddu at arferion gwastraffus y rhan fwyaf o'u disgyn- yddion. Gwyddai'r hen bobl cedd yn credu na ddylid cael dau enllyn gyda bara ac y dylai pob dyn fyned i'w wely yn y tywyllwch fwy am gynildeb na, fawr neb sydd i'w gael heddyw. Hyd yn oed mewn lleoedd pur ang- hysbell yn y wlad y mae cynnildeb gyda gol- euni ymhlith y pethau a fu. Nid felly gynt. Y mae rhai pregethwyr a. fu yn y Bala, flynyddoedd yn ol yn cofio am letty, heb fod ymhell iawn o'r Bala, lie byddai pob efrydydd yn aros pan yn myned i'r daith arbenig honno. Byddai swper ar y bwrdd cyn wyth o'r gloch, ac ar ol swper dywedai gwr y ty, "Wel, 'does dim eisiau'r goleu yma, bellach. Gallwn siarad a smocio hebddo." Adiffoddai'r ganwyll! Fel y gallesid disgwyl, gada,wodd yr hen frawd swm go dda o beth- au'r byd hwn ar1 ei ol. Mewn llawer teulu ni chaniateid canwyll i neb pan ddeuai arnser gwely, a cblywsom am un meistr na roddai ond un fatsen i'r forwyn at y bore 1 Nid vdvm ni mor arwrol a hynny. —jjt— Vr cedd gan yr hen bobl eu syniad am werth pob ceiniog pan ddeuid i dalu i'r preg- ethwr, hefyd,—ac os gwir popeth a glywir, nid yw eu disgynyddion wedi darfod yn bollol o'r tir. Onid ym Mhenrhvndeudraeth, yn haner cyntaf y ganrif o'r blaen, yr oedd y ddau flaenor yn siarad a'i gilydd ynghylch yr hyn a ddylidi ei roddi i'r pregethwr. Yr oedd un ohonynt, a hwnnw'n drysorydd yr eglwys, wedi ei foddhau'n fawr yn y pregethau, ac yr oeddi wedi penderfynu dangos hynny i'r preg- ethwr. "Yr wyf am roddi wyth geiniogiddo yn ':le chwech," meddai. Yr oedd y Hall, hefyd, wedi ei foddhau yn y pregethau, ond yr oedd o natur fwy gochelgar ac araf. Nid oedd am adael i'w deimladau ei gario i'r fath eithafion peryglus a'r Hall, a daliai yn dynn tros y chwe' cheiniog arferol. Ond yr oedd y trysorydd yn benderfynol, ac o'r diwedd ildiodd v dlall, gan ychwanegu'r rhybudd. Wei, edrych di ati hi, rhag gwneud mwed i ti dy hun ac i'r achos." Y mae hanes am un pregethwr, hefyd. mewn tref sydd erbyn hyn yn enwog am ei chapeli, yn cael Is. 6c. yn lie swllt- bob tro v deuai i'r daith honno. Cydnabyddiaeth oedd y chwe' cheiniog ychwanegol am "bregethu'r athrawiaeth," ac felly y mae i lawr yng nghofnodion yr eglwys. Ni eglurir beth a bregethid gran v gweinidogion ere ill; oncl beth bynag oedd nid ystyridi ef yn werth mwy na swllt. Na, y mae genym lawer i'w ddysgu eto vnglyn a chynildeb. ond prin yr ydym yn meddwl y disgwylir i ni ddilyn yn bcll,ffyrda ein tadau. —jfe— Wrth qnereli efr-Vdwvr Ccxeg y Bedydd- wyr. Manchester, y dydd o'r blaen, rhoddodd v Parch. Thomas Philios. Bloomsbnry, ychydig gynghorion buddiol. iddynt ynglvn a phregethu. Y mae cyfnod newydd ar "wawrio, meddai et, ac yr oedd yn rhaid wrth beirianwaith newydd i gyfarfod a'i ofynion. Yr oedd yn rhaid cael hynny yn y pulpud, hefyd, a chynghorai yr efrydwyr, o4 oedd ganddynt bregethau wedi eu llunio ar hen gynllun neu rai yn dynwared pregethau preg- ethwyr enwog dyddiau a fu, i'w. Kosgi. Dyna gyngor pendant, beth bynag. Y* cwestiwn ydyw pwy sydd i benderfynu'r dull newydd? Nid gwaith hawdd fydd hwnnw. Ond y mae'n sicr fod dull y preg- ethu yn newid o oes i oes. Ni cheid yr un gynulleidfa heddyw i wrando ar bregethau John Howe, er engraifft, nac i'w, deall, y mae'n debyg, chwaith. Dywedir fod preg- ethau Howe wedi eu traddodi lawer gwaith yng Nghymru ymhell wedi ei farw ef, ond newidiwyd ilawer arnynt. —jjt— Ysgrifennodd Mr. Clywedydd Jones atom "ni, y swyddogion." Clywsom hanes dydd- orol am un brawd o'r urdd y dydd o'r blaen. Yr oedd, pan yn aelod cyffredin, wedi ei enwogi ei hun yn yr eglwys fel beirniad di- arbed ar, holl drefniadau'r set fawr. Galwai am ddiwygiad yn y peth yma a'r peth arall, ac nid oedd neb trymach nag ef ar ffaeleddau a diffygion y swyddogion. Daeth yn ddewis blaenoriaid yn yr eglwys honno, ac yr oedd John Jones yn un 0.'1' rhai a ddewiswyd. Ymhen rhai wythnosau cyfarfu cyfaill ag ef, ac wedi ei longyfarch dywedodd, "Y mae'n debyg y mynnwch clnvi lawer o ddiwygiadau acw 'nawr, John Jones." Edryehodd y blaenor newydd yn bur ddifrifol. "Vl e1, William," meddai, "y mae pethau'n edrych yn wahanol iawn o'r set fawr acw, well di." Gafodd llawer un vr un profiad, y mae'n ddi- ameu. Dyma air a dderbyniwyd y dydd o'r blaen "Dioich i chwi am y 'Nodiadau Seneddol' yn 'Y Goleuad.' Y maent yn newydd ac yn rhagorol iawn, 11awn cystal a, dim fyddaf yn ei wreled mewto unrhyw bapur Saesneg. Rhoddant. olwg newydd ar wleidyddiaeth y dydd, ac y maent yn gymhorth i ddeall y symudiadau." Y mae. amryw wedi dywedyd yr un peth wrthym. — Onid oes modd i'r Prif Weinidog olygu mvnegiadau ac areithiau ei gyd-weinidogion cyn iddynt eu traddodi? Arbedai bynny lawer o bryder ac o ddryswch i'r wlad. Anodd dywedyd faint o ddrwg a wneir gan areithiau fel un Arglwydd Lansdowne ar filwriaeth orfodol, ac ni wnaeth atebiad Mr. Lloyd George i Arglwydd Haldane les i neb. Nid oes neb yn meddwl fod y Weinyddiaeth yn anffaeledig, ond buasai'n dda, gan y wlad pe ceid ychydig llai o arwyddion cymysgedd barn. "Y peth pwysig," meddai un Prif Weinidog wrth ei Gabinet unwaith, "ytlyw ein bod oil yn dywedyd yr un peth. Ac v mae rhywbeth yn hynny. Y mae rhifyn diweddaf "Transactions" y Cymmrodoricn yn un neilltuol gyfoethog. Ceir ynddo ysgrif ar yr hen Eglwys Geltaidd Gymreig gan Dr. Spence-Jones, Deon Glou- cester, ac y mae'n werth sylwi nad yw ef yn ceisio honni mai- yr un yw honno a'r Eglwys sydd yng Nghymru yn awr. Ceir ysgrif y (,I d, yng, Nghyi? ddysgedig gan Mr. Ifor Williams ar Ddafydd L- aw J y ni-i ab Gwilym a'r Gler, a thraethawd Mr. Gwynn Jones ar "Badism and Romance." Ar y diwedd ceir ysgrif ferr gan Syr Vincent- Evans ar Syr Marchant, WiKiams, gyda darlun rhag- orol chono. Gwna Cymdeithas y Gymmrod- crion waith pur fawr, ac nid bychan yw. ei dyled i Syr Vincent Evans. Yr oedd Eglwys Geltaidd yn Iwerddon yn enwog trwy'r holl fyd am ei dysg, ei sel, gwaith cenhadol. Talodd haneswyr lawer o sylw iddi, a. rhcddwyd ei chod. dyledus nidi. Eto, medd Deon Gloucester, anghofiwyd mai bddiwrth yr Eglwys Gymreig y cafodd hi y tan, ac mai o ysgolion enwog Cymry yr aeth ei gweinidogion a'i chenhadon allan. Ac fe geir rhai pobl, hyd yn oed yng Nghymru, yn siarad fel pe na: buasa.i Cymru yn gwybod dim am fywyd na diwylliant y byd o'r tu allan i'w therfynau-hyd nes iddynt hwy ddyfod i'r galwg, bid siwr. Disgyn gwaith trist a dieithr iawn i ran ambell i Gyfarfod, Misol yn y dyddiau hyn. Cydymdeirnlo ag aelodau wedi colli perthyn- asau ar faes y rhyfel ydyw hwnnw. Dyma'r rhyfel gyntaf y bu'r wlad yma ynddi erioed i gyffwrdd a, phob teulu, bron, trwy'r wlad ac a. phob cylch o gymdeithas. Prin y ceir neb nad oes ganddo gydnabod neu gyfaill neu beithynas ar y maes yn rhywle. Y mae gan Alafon gan darawiadol iawn yn rhifyn Gorffenaf "Cymru." Yr oedd Dafydd y Go gyda'r milwyr yn Ffrainc a'i waith oedd pedoli eu ceffylau. Deuai poly math ohonynt ato yn eu tro, a dysgodd yntau siarad a hwy yn Ffrangeg ac yn Saesneg, fel y byddai'r angen. Un diwrnod dygwyd caseg wineu aflonydd ato, a methodd yn lan a gwneud dim ohoni er siarad a hi yn y ddwy: iaith. O'r diwedd collodd y gof ei clymer. "Sa'n illonydd, wnei di!" ebe yn Gymraeg. Ac ar y gair trodd y gaseg ei phen ato gan wthio ei thrwyn i'w law'n gyfeillgar. Gaseg- Gymreig oedd hi! A dyma, ddiwedd y st-ori :— Gofviiodd iddo'n ddwys ei dull Ga' i arots gyda thi, A dychwel pan y daw yr awr I'r wlad a garwn ni?" Yr hen Gymraes o b'le vr aeth I'r fangre bell, ddihedd? Pwy tcur yr hiraefh deim-lai hi Ant Gyrnru deg ei gwedd'i —ifc— Ddydd Sadwrn bu farw Syr John Gibson. perchenog a golygydd y "Cambrian News," Aberystwyth, yn 74 mlwydd oed. Ar lawer cyfrif yr oedd Syr John yn un o newyddiadur- wyr hvnotaf Cymru. Gwnaeth ei bapur yn llwyddiant er diystyru ac ymosod ar lawer o bethau sy'n anwyl gan Gymro. Yr oedd ei syniadau crefyddol yn rhai rhyfedd iawn, ac ni phetrusai en myhegi, er fod yn amheus genym a ddeallid hwy gan rywrai, hyd yn oed ganddo ef ei liun. Nid ydym yn meddwllddo ddysgu Cymraeg. er byw yng N ghymru am ddeugain mlynedd neu ragor; credai fod yr ia.ith i a c mai bendith i Gymru fai hynny. Mewn pethau fel hyn rboddai'r ffrwyn ar warr rhagfarn anwybodus. —*— Ond nidellil'gwad'u ei allu nac, v ti",Ie ri debyg, ei annibyniaeth meddwl. Y mae n debyg mai y gwaith mwyaf a wnaeth oedd dysgu awdurdodau beth oedn gwerth glanweithdra. Ysgrifennal erthygxau arweiniol meithion i'r Cambrian News" bob wythnos, ond y golofn v byddai mwya f o ddarllen arni oedd ei Up and Down the Coast." Cymysgedd oedd hon o sylwadau ar bobl, darnau o athroniaeth bywyd y golygydd, a'i fyfyrdodau ar ffurf barddoniaeth.^ Dywedir ei fed wedi cadw popeth a' ysgrifenodd; os felly, y mae'n rhaid fod ganddo bentwr mawr. Collwyd gwr nodedig ar lawer cyfrif. ADEN Y WENNOL. I. Y wennol ehedai'n isel Ar flnion y fcrlan brudd, R'oedd nodau lleddf yn yr aw el,. A chwmwl ar a,el y dydd, Ac isel cedd aden y wennol A finion y for1.an brudd. II. • Daeth bore, a'r llanw tawel, Daeth heulwen, ac awel y de, A'r wennol ehe(lal'n iieliel Drwy lesni dihalog y ne Neithiwr, yn ymvl y ddaear, Heddyw, yn nglesni v ne! Ar Grwydr. j, ANTTIR0.L OS..

No title

Enillodd Mr. W. Seth Owen, y crythor adnabydd- E,s () Dalysarn, radd B.A. Nos Fercher cvn v ddiwedldaf, yn ngnapel v M C. Blaenau Ffestiniog. rho:!d\vvti anrheg o •' cake basket" a.rian. hardd i Mrs. Bryfdir Jones, fel av- wydd o ddiolchgarwch yr eglwys am ei gwasaiiafth igwerthfawr gyda'r offeryn.. Gwnard y cyflwyniad ar rani yr eglwys gan y Parch. Thomas Hughes, R,A., gweinidog, a'r blaenoriaid, y Mri. EL Ffe'stin Jones a John Cwen; Bryn Goleu, a Mr. Robert T. Williams. IV. H., Bronrhiw. C'ydnabyddodd Mrs. Jones deimladau caredig yr eglwys mewn ychydig erriau pwrpasol. Yn gertfiedig ar v rhodd ceir yr vrr;adroddion hyn. Arwydd o ddiolchgarwch eg- lwys y Rhiw, M.C., i Mrs. Bryfdir Jones, am et: gwasanaeth gyda'r offeTyn."