Collection Title: goleuad

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 3 of 15 Next Last
Full Screen
5 articles on this page
LLYTHYR LLUNDAIN

LLYTHYR LLUNDAIN. LLUNDAIN, DYDD LLUN. EGLWYSI'R BRIFDDINAS. O'r un-eglwys-ar-bymtheg a fedd y Cyfundeb yn y ddinas enfawr hon, y mae chwech ohonynt yn dibynnu am eu gweinidogaeth ar ddieithriaid, sef Holioway, Walham Green, Lewisham, Walthamstow, Wood Green ac Ealing. Rhifa aelodau yr eglwysi bugeiliol 3,637, ac nid oes ond Holloway a Walham Green, o'r chwech eraill yn hunan-gynhaliol. Yn ddiweddar wynebodd Cyfarfod Misol Llundain ei ddyled—dyled y rhaid iddo wynebu drachefn cyn hil--ac ysgafnhaodd ei faich yn deimladwy. Odid mai gweinidogaeth gyson a gofalaeth yr eglwysi lleiaf raid iddo ddihuno iddynt ar fyrder. Nid oes eglwysi yn y Cyfundeb mwy byw na'r rhai hyn, od yw ym- drech yn arwydd o fywyd; ac ymdeimlant a'r angen am ofalaeth. Pan yr adgyfyd Pwyllgor yr Achosion Newyddion oddiwrth y meirw, ac y gwel drachefn wa.ith byd y tu hwnt i'r bedd, hwyrach mai dyma, ] gorchwyl yr "ymafl ynddo-sicrhau ymgealedd y gweiniaid.. Y mae Lewisham yn dra effro i'w chyf- rifoldeb i'r milwyr o Gymru a wersyllant yn y gym- ydogaeth, a chefnogir hi gan y Cyfarfod Misol yn ei hymgais i sicrhau gwr i briodi gwasanaeth yr eglwys a gwasanaeth i'r milwyr. Yn yr ymgais hon, ni a ddeallwn y gwna Army and (Navy Board y Corff gynorthwyo; nid oes arian yn y Gogledd; y mae arian, hwyrach, yn y De—arian, ynghyda milltiroedd o red tape.' Boed a fo, er.y proffesa'r Board ymgeleddu meddwl ac yspryd y milwr, ni chyraedda ei ddychymyg belled a Lewisham. Ond dyna, ceir yn Llundain ei hun ystwythder i waith, ac ewyllys- garwch i aberthu. Pa na fywiai y Cymry yma ar yr allor marw & wnaethent er's talm. YMJ-VELIAD. Bu y Parcliii. John Lvlorgan Jones, R. R. Roberts, a Francis Cole, o Gaerdydd, i fyny yma yn ddiwedd- ar yn cadw cyfarfod dathlu hanner jiwbili y Symud- iad Ymosodol. Oer oedd y noson, ond goleu. Siom- edig oedd y cynulliad gan hwyrfrydiced yw dynion i ymado o'u tai. "A wna tywyllwch Llundain ych- wanegu at ei anfadrw Y,dd?" vw h<)Iia-d y meddylgar y dyddiau hyn. A thrachefn a ychwanega efe at glaiarineb crefyddol a dibrisdod o dy yr Arglwydd? Par teneuwch ein cynulleidfaoedd ar y nos Suliau tywyll hyn o'r gauaf bryder i ni rhag yr ymgyfar- wydda llawer oedd a chyfiawnhau eu habsenoldeb o'r moddion, ar y Suliau ac yn yr wythnos. Eithr pa I beth bynnag a fydd eieffaith andwyol, y mae yn sicr y dysg y tywyllwch Invn wybodaeth dra newydd i lawer, sef y gwahanol foddau i wneuthur tai yn gartrefi iddynt. Gwelem ol hyn ar y cyfarfod dath- lu., Adroddodd: Mr. Jones hanes y gwaith a gyf- lawnir ynglyn a'r Symudiad, ac felly Mr. Cole. Hen hanes a adroddai y ddau wyr hyn, eithr hanes a,bery yn ei'flas i galon y rhai a ymhyfrydant yn nyfodiad teyrnas Dduw. Cymerodd Mr. Roberts faes eang- ach i'w ddangps, gan bwysleisio y dvlem symud ym mlaen i roi pen ar ryfel ac mewn eyfeiriadau cyffelyb. Gwna eyfoeth meddwl y gwr hwn ein synnu, a'i weledigaethau a'i freuddwydion ein bvddaru. Yn Saesneg y siaradai, ac y sieryd yn gyffredin. Ai nid anhawdd f'ai gsod ei feddvliau ef mewn Cym- raeg deaJladwy. Onid meddwl yn athronol, cyfrin- iol a delfrydol a wna? Prin y mae Cymraeg y cysegr wedi arfer parablu fel hyn hvd yma. Llawen- hawn yn llwyddiant y Symudiad, a diolchwn y cedwir drwyddo, yn y Corff, yspryd ac anian y Cyf- undeb. PREGETHU. Na cha'dd eglwsi'r ddinas gynifer cynygion at gy- farfodydd pregethu er's tro ag a gawsant yn ddi- weddar. Nidr yw anghynefin mwyach i ddau bre- gethwr fod yn vr un fan ar y Sul. Trefnir cylch y weinidoga.eth ymlaen llaw am chwe' mis, ac arferai y gweinidoglon gymeryd yn ganiataol i ba leoedd y dylent ymlwybro ar y Sul heb ymgynghori âr Sul- iadur swyddogol. Aethant yn ddiofal yn eu moeth. I ba ddiben yr argrefar Cylch oni ddarllenir ef? Y CITY TEMPLE. Bwriada Dr. Ford Newton briodi y weddw am- ddifad o Eglwys a adnabyddir fel y City Temple. Gwrthod-asai yr "alwad" ychydig fisoedd yn ol, eithr o herwydd yr anhawsder a ga yr "eglwys i feddwl am wr arall, ac o dosturi ati hi adiiawa ddyfod trosodd o'r Rapids. 0 hyn allan bydd y City Temple yn gynulliad a sefydliad cyffredin, ac ni ymholir ar fore Sudwrn pan yr agorir y papurau newyddion pwy a bregetha yna y .Sul di'ynol. Syrth- iodd arweiniad yr eglwys hon i ddwylaw ychydig o wyr a ymgyfenwant yn progressives," ac aberthant y cyfle sydd ganddynt i achub Llundain fawr fydol ar llor" theories" duwinyddol a chymdeithasol. Bedyddiwr yw Dr. Newton o draddodiad a gwaed, ond' progressive." Gwaeda ei galon dros ei gy- feillion a edy yn y Rapids, a dyhea am gysuro y weddw yn Holborn. Y mae yn gyfyng arno o'r ddeutu, a pharod yw i ymildio i'r chwant o ymddat- odia,d-osiii.,wel y Temple wr arall i'w noddi. Diau na welsai y Dr. bapurau enwadol yr Amiibynwyr pan yr ystyriai yr alwad, neu o leiaf wedi y daeth y son am y gwrthodiad cyntaf. Cynnil a doeth oeddentyn eu gosodiadau, eithr rhwng y llinellau gellid darllen na alerid. Adwaenwn amryw o Ymn^illduwyr y ddinas a ystyrir yn wyr cyfrifol, ac yn golofnau; y rbai pe y cawsent la-is yn newisiad ar weinidog i'r eglwys hon sydd a'i thraddodiadau mor arbennig, na feddylient, ámneb ond Dr. Jowett; beth bynnag, iddo ef y rhoddid y gwahoddiad yn gyntaf oil. LLYFR MR. CAMPBELL. Nid ydym yn siomedig ar lyfr Mr. Campbell- "My Spiritual Pilgrimage "-am na ddisgwyliem ond ychydig. Gwerthir y llyfr am 7s. 6c.-llyfr na chymrodd i'r awdur end ychydig wythnosau i'w ysgiifenu. Arferasem ddarllen Spiritual Pilgrim- age John Henry Newman (gwr a feddyliai ac a ys- grifenai yn glasurol) gyda pharchedigaeth a gwyl- eidd-dra. Dysgodd i'n meddwl gerdded llwybr y pererin gydag arafwch gorymdaith a meddylgarwch dwys tyrfa yn cadw gwyl, canys symudai efe ar hyd ei lwybr dieithr mewn ofn, a gwyleiddiai dan gysgodion nos ar ol nos, ac yng ngoleu dydd ar ol dvdd. Ni ddengys My Spiritual Pilgrimage ond enaid heb ddyfnder ynddo i'w gynhyrfu. Nid yw Ymneillduaeth nac Eglwvsaeth yn argyhoeddiad i Mr. Campbell. Pwnc o chwaeth yw y naill a'r llall iddo. Bu'r Annibynwyr yn gofidio rhag i'w fynediad ef i'r Eglwys ddianrhydeddu urddau ei hen gyfeillion, a gwahoddasant ef i ddatgan ei farn. Pa faint swell ydynt? Pa faint gwell fuasent fe y dy- wedai fod urddau ei hen enwad Gristionoged age urdd- au yr Hen Fam "? Efallai mai y City Temple a ddwg y dystiolaeth gvwiraf i Mr. Campbell; beth yw honno, wys? Gwendid anaele Mr. Campbell yw y cofleidia fancy idea megis pe bai wirionedd prof- edig, disigl ac angenrheidiol. Buasai Newman yn dychrynu rhag mai "fancy idea a welai pan yn mhresenoideb gwirionedd. Blodau a gyfaredda un. craig a apehai at y Hall.

MR A MRS THOMAS REES MARLOW TERRACE VVYDDGRUG

MR. A MRS. THOMAS REES, MARLOW TERRACE, VVYDDGRUG. Credwn fod y ddeuddyn uchod yn wir deilwng o sylwadau coffhad ar dudalenu y GOLEUAD, oblegid cawsant eu dau oes faith, a threuliasant yr oes honno i wasanaeth y Gwaredwr. Brodor ydoeadd Mr. Rees o Lawryglyn, yn Sir Drefaldwyn. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn teulu crefyddol, a gwnaeth ei rieni ymdrech arbenig i roddi addysg iddo. Ar ol yfed o ffynhonau dysg yr ardal y magwyd ef, cawn ef yn myned i'r Bala fel lleygwr, ac yn eistedd wrth draed Dr. Edwards a Dr. Parry. Ar ol myned allan o'r Bala cawn ef yn llenwi y swydd o ysgolfeistr mewn gwahanol rannau o'r wlad. Daeth i Nerquis yn y cymeriad hwnw, ac yno y gnv&odd ei briod hawddgar, ac yr unwyd hwy mewn glan briodas. Symudodd y teulu oddiyno i Bony banc, ger y Dref- newydd, ac ymunodd ef a'i deulu a'r eglwys Gym- raeg yn y dref. Dewiswyd ef yn swyddog yn yr eglwys, a bu o wasanaeth mawr i grefydd yn y cylch. Yna symudodd y teulu i Pengelli, Llanwycldelan, lie y buont o wasanaeth mawr i eglwys yr Adfa. Aeth Mr. Rees i'r Adfa ar a.rgyfwng terfysglyd iawn yn hanes yr eglwys yn y Lle. 'Roedd 61 stormydd mawr ar yr achos goreu pan y symudodd ef i'r ardal. Ond bu ei ffyddlondeb, ei sel a'i dduwioldeb person- ol ef yn help mawr i adfer pethau i'w lie. Dewis- wyd ef yn swyddog yn yr eglwys, ac oherwydd ei brofiad, ei wybodaeth a phwysau ei gymeriad, syrth- iai yr arweiniad yn naturiol i'w ran ef. Meddai ddawn arbenig i gadw seiat, a byddai y gwres a'r tan oedd yn ei natur yn tanio ac yn rhoddi eraill ar dan. Dygai fawr se] dros ddau sefydliad sydd wedi bod o'r gwerth mwyaf i ni fel cenedl, sef yr Ysgol Sul, a dirwest. GwnaeLh wasanaeth mawr i'r dosbarth ynglyn a'r ddau symudiad uchod. Bu yn llywydd y Cyfarfod Ysgolion am flynyddoedd, a gwerthfawr- ogid ei anerchiadau a'i gynghorion yn y cyfarfod ysgolion yn fawr iawn. Credai pawb mai dyn o ddifrif oedd yn eu hanerch, ac yr oedd tine o "real- ity yn rhedeg drwy yr oil a wnai. Yr un modd ynglyn a dirwest. 0" digwyddai ambell un weith- iau weled gwendid mewn rhai o'r rhesvmau oedd ganddo dros bleidl:o llwyr-ymwrthodiad. nid amheuai neb nad oedd y siaradwr yn eu credu a'i holl galon, a'i fod yn eu dywedyd gyda'r amcan goreu. Yr oedd gonestrwydd ac unplygrwydd ein diweddar frawd yn enill cydwybod pawb o'i Maid pan na byddai y rheswm, efallai, wedi ei ennill bob amser. Gallaf dystio fod ei gymeriad yn cael ei edmygu yn fawr gan drigolion dosbarth Llanwvddelan, a'i was- anaeth yn cael ei werthfavvrogi. Colled, fawr i'r dosbarth oedd ei golli ef, a theimlai pawb chwithdod ar ei ol. Symudodd ef a'i deulii o'r Adfa i'r Wydd- grug, a dyma lie y treuliodd y rhan olaf o'i oes. Er nad oedd agwedd mor gcylioeddus, efallai, ar ei wasanaeth ar ol dyfod i'r Wyddgrug a chyn dyfod, eto, yr un ydoedd ef yn ei sel dros y da a'i gasineb at y drwg. Daliodd yn dirf ac yn iraidd ei ysbryd hyd y diwedd, ac ehedodd ei ysbryd pur i fynwes ei Geidwad ar foreu Sul. sef Ebrill 24ain, 1910, a hyny o fewn ychydig fisoedd i fod yn 90 mlwydd oed. 'Roedd ein hanwyl chwaev, Mrs. Roes, hefyd yn wraig wir rinweddol. Doniwyd hi gan ei Chreawd- wr ar y cyntaf a svnwvr crvf ac a. chynheddfau meddyliol uwchlaw i'r ovffredin o wragedd. Ac yr oedd y doniau naturiol hvn wedi eu crvfhau a gras a'u tymheru ag ysbryd Crist fel vr oedd yn un o'r cymeria.dau moesol mwvaf prydferth a llednais y digwyddodd i ni erioed ddyfod i gyffyrddiad a, hwy. Dil,rileitai lawer; meddai farii aeddfed a goleuedig, a hyny ar gwestiynau y dvdd yn ogystal ag ar bethau crefydd. Syniai pawb ddaeth i gyffyrddiad agos a Mrs. Rees yn uchel iawn am dani, vnghyda pharch dwfn i'w chvmeriad. Cafodd Qrystudd maith, ond ymostyngodd yn dawel i'r ewvllys Ddwyfol, ac yr oedd yr ysbrvd rhagorol hwn yn lltewyrchu allan ar y wynebpryd nes gwisgo hwnw a gwen hapus a dymunol, a pheri i bawb oedd yn gweini ami deimlo yn siriol yn'ei chymdeithas. Cafodd hithau, fel ei phriod, fyw i oedran teg, ac yr oedd dros 88 mlwydd oed pan y cymerodd yr Iesu hi ato Ei Hun, Hydref 23ain, 1916. Dilys genym fod y plant sydd wedi cael y fath rieni am gvfnod mor hir, yn teimlo lie gwag iawn ar eu hoi. Ond cysur iddynt ydyw cofio eu bod gyda'r Iesu, ac yr erys eu cynghorion a'u dyknwad eto ar y ddaear i symbylu llawer sydd heddyw yn rhedeg yr yrfa. Nawdd y Net fyddo dros y chwe' merch a'r unig fab, a'r Hwn a'u dal- iodd hwy a'u dalio hwythau i gerdded a harddu ffyrdd rhinwedd a chrefydd, fel y gwnaeth y tad a'r fam a ro'es Duw iddynt. Garth, Llangollen. I W. BENJAMIN. ♦ 9 —

MRS JONES TYNCWxM GRWYNAU FECHAN BRYCHEINIOG

MRS. JONES, TY'NCWxM' GRWYNAU FECHAN, BRYCHEINIOG. Ar hanner dydd, ddydd Mercher, Tachwedd 17, ehedodd ysbryd y chwaer uchod i wlad yr hedd, ar o; cystudd led faith a phoenus. Yn ei holl gysfcudd meddianodd ei henaid mewn amynedd digyffelyb. Dyna ydoedd ei phrofiad, yr hyn a ddywedodd wrth ei hanwyl weinidog, le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau nid ofnaf niwed." Teimlad pawb ar ddydd y giaddedigaeth ydoedd fod gwraig rinweddol wedi myned oddiwrthyiit, ac yr oeddynt yn oil ym- adael o'r giaddfa mewn gobaith cryf o gael cyfarfod a'i gilydd ar ol adgyfodiad gwell. Nodweddid y chwaer yma a llawer iawn o rinwedd- &u, yn enwedig y rhai goddefol. Ni chlywid ei Ilais ar yr heol; m waeddai yn un lie amlwg. Yn yr addoidy yr oedd ei hvmddangosiad wedi ei bryd- ferthu a lledneisrwydd iachawdwriaeth. Yr oedd yn un ü'r goreu a welwyd i wrandaW y Gair, ac yr ydoedd ei phresenoideb a'i gwrandawiad yn ysbryd- oliaeth i bob un o genhadon Duw a fyddai yn gwas- anaethu yn eglwys y Grwynau. Pan yn byw yn y Grwynau Fawr, yr oedd gandqi daith awr bron i ddyfod i'r capel, ond yr oedd hi a'i theulu, fel pobl yn y pellder yn fynych, yil enwog am eu prydJondeb. Yr oedd hi a'i phriod yn caru y Cyfundeb o gariad calon, yn cyfranu at bob un (ijr casgliadau eghvysig a Chyfundebol yn ewyllysgar. Y, mae Trysorfa y Plant yn gyhoeddiad anwyl iawn yn eu golwg, a chaiff y cyLchgrawn dderbyniad hel- aeth bob mis gan y teulu. Yr oedd y chwaer yma yn fam a phriod ardderch- og. Pa ryfedd, yr oedd we&i cael ei hun mewn cys- yiltiadau crefyddol a theuluol o'r cychwyn. Gwir, ofalai am ei phlant, a chafodd weled y plant yn dilyn ei ByY mae dau ohonynt wedi ei rhagflaenu er's blynyddoedd lawer. Y mae yna wyth o bjant, yn ogystal a'r tad, mewn galar ar ol un a garent J'IJ fawr. CydymdeimLr a hwynt gan luaws mawr" o bell ac agos. Prydnawn y dydd Mercher canlynol cymerodd y giaddedigaeth Je Gwasanaethwyd yn y ty gan y gweinidog (Parch. Thomas Williams), yn Haw yr hwn yr oedd y trefniadau, a darllenodd ran o Air yr Ar- glwydd. Offrymwyd gweddi gan y Parch. T. O. Phillips, St. Fagans, Caerdydd, cyn-weinidog yr eg- Yna, ar ol canu penill wrth y ty, gorymdeith- iwyd tua Llanbedr. Cynhaliwyd gwasanaeth yng nghapel y M.C. viio. Dechreuwyd gan y Parch. E. Rowland, Crughywel, a chafwyd anerchiad pwrpasol iawn gan y gweinidog ar yr amgylchiad. Yna cychwynwyd at lan y bedd, pryd y gwasanaethwyti gan y Rheithor a'r Parch. Thomas Williams.

C WOD 0 WLAW

C \WOD 0 WLAW. Un borsu c Uydref es allan am dro, Ithvw dryrndef gauafol ymdaenai drwy'r fro; Ymluchiai y gwynt bant y goedwig i'r ilawr, Gan herio y cread mai fe/oedd y cawr. 'Roedd cymyl di-obaith yn gordoi y nen A'r huan vmguddiai tu ol i rhyw len; jJeddf fryiai y ddafad, can ymchwil man clyd, Ar adar y nefoidd a aethant yn fucL end wele tdrychais. daeth cawod o wla:w, Y cawr er ei rwysg ymdawelodd mewn braw Yn lie y cymyJau daeth glesni i'r pen, A pliynci-ii .yr adar ar frgau y pren. Dpeth heulwen i wenu drop vsgwydd y bryn, Gan dafiu ei ma.ntell mianaidd i'rllyn, Daeth awel a'i thelyn fach aur yn ei llaw, 'Roedd anian fel newydd 'rol cawod o wIaw. Os llwydaidd yw achos yr Arglwydd drwy'r byd, Os saint a'u teiynau a aethant yn fud. Mae Duw 'n siwr o'n cotio, y fendith a ddaw, Bydd crefycld fel newydd 'rol cawod o'r Gwlaw" Glanrhyd, Cemlyn. RHYDFERCH.

PESWCH PLANTI

PESWCH PLANT. -0- BRONCHITIS A'R PAS Y;X GAEL, EU GWELLA CAN VENO'S LIGNTNiNG ,• v COUGH CURE. I I Dywed Mrs. Canning East Saley, Chilton Foliat, Hungerford, Berks. :—" Dioddefai fy machgen bach, Albert, yn ofnadwy oddiwrth bronchitis a'r pas. Ymdduai wrth besychu, ac ofnwn iddo dagu. OndE rhyddhaodd Veno's Lightning Cough Cure ef ytr: ddiymdroi, a gwrellhaodd yn rhyfeddol mewn ychydig amser. Hefyd cafodd fy mhlant eraill Veno's. Mae'n ardderchog. Ymddiriedwch yn Veno's i wella Pesychu, An wyd, Asthma, Influenza, Catarrh a'r Pas. Prisiau—lljc.y Is. 3c., a Ss., ymhob man.