Collection Title: Llan

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
12 articles on this page
Advertising

YR H AULJ, VYNWYBIAD AM TACB WEDD. j Y Mia. Ar Adenydd Eryrod, gan I.O. I Clyw F' Enaid, Clyw Cyf. T. Daviea- 1 Ac we!e ddrws wedi ei agoryd yn y nef,' gan Isfryn. | Hen Fesurau. j Qolygwyryr "Haul"—EHs Wyti j o Wyrfai. j Martha'r Eglwys, 1808—1903 j (gyda darlun), gan I.Q. | Maes Llafur Undeb Ysgohon Sul Cymreig yr Eglwys. j Emyn o Ddiolch, gan I.G. j 0*r Arsyllfa. | Darganfod Carreg Hynafol yn Penmachno j Bwrdd y Golygydd. 1 Y Gongl Ddifyr. j Kodion Eglwysig. j Manion. >

Advertising

i i'l.A j CYNWYSIaD AM TACHWEDD. Esiatuplttu () >duwioldeb. Myn d i'r Eglwys. I'ibyuu ar y Dreifiwr. Oedran U, y Reibl. V PaganjxM Bach Duon j Mr. Owen Owen, Hendre, A her. gynolwyu (gyd& darlun). J Erehylldra Rhyfel. j Llanidau M6u — Er Hoffua Gof | Meibiou yPeisondy (gyda darlun) j C' urebwnraen Hen Eglwys { LI »nfibangel-Esceifiog | Maes Lufur yr Yrsgol Sul yn | Ngbymru. Diddanion. j Geirwiredd. Perlau y PerL' j Tdn—Llw. nderi. Barddoniaeth j Adda a Cbwedloniaeth. i O' lloseuui bufain. Beth mae yr Eglwys yn ei Wneyd. Dalen Dirwest, Hen Euaya Y Gygtadleuaeth. Llithiau Priodol am y Mill

CWRS Y RHYFEL

CWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. CYFLWR SERBIA ETO. A ELLIR DADRYS ANHAWSTER GROEG. » PERYGL BYDDIN GARDD EDEN. LLWYDDIANT A BWRIAD RWSIA. LLYNGES LLOEGR YN BYGWTH GERMANI. Annxhosibl yw i'r darllenydd cyffredin ffurfio unrhyw fath o ddrychfeddwl am wythnop y rhyfel oddiwrth yr adrodd- iadau a ymddangosant yn y papurau dyddiol. Yr hyn a ddywedir ganddynt heddyw a groesddywedir ganddynt yiory. Yn wir, ceir weithiau adroddiad mewn un golofn a wedir yn helldant mewn colofn arall o'r un papur. Bryd arall ceir ad- roddiad cyffrous am fuddugoliaeth bwysig neu orclifygiad ofnadwy-ac erbyn chwilio nid petb newydd mo hono ond rliywbeth a gymerodd le fib yn flaenorol. Coir engraifft nodedig o'r olaf yn yr hanes a gyhoeddwyd yr wythnos ddiweddaf ymhob papur dydd- iol am "Fuddugoliaeth Fawr Serbia." Ar aail yr adroddiad calonogol hwnw haerai rhai o'r papurau dyddiol fod y Serbiaid wedi adnewyddu eu hieu-enctyd a'u nerth fel yr eryr, a'i bod yn argoeli yn ddrwg iawn ballach nid ar Serbia ond ar Germani 'a Bwlgaria. Ond erbyn chwilio'r ffeithiau cafwyd mai canol y iiiis diweddaf yr enill- wyd y fuddugoliaeth hono cyn i'r gelYll gau o gwmpas byddin ddewr Serbia. Nodir y pethau hyn yma er cymhell dar- Llenwyr y Ll.vn i beidio rhuthro i ffurfio barn frysiog er da na drwg pan wel mewn papur dyddiol ein bod ni, neu ein Cynghreiriaid, wedi enill neu golli brwydr bwysig.

CYFLWR SERBIA ETO

CYFLWR SERBIA ETO. Parhau yii galed a pbryderus, er hyny hieb fod yn hollol anobeithiol, y mae cyflwr Serbia. Yn y fantol y oeir ei thynged fel gwlad ac fel byddin yr wythnos hon eto. Geill y fantol droi o'i phlaid neu yn ei herbyn, nid oes yr un dewin a fedr ddyweyd heddyw pa un o'r ddau a fydd. Yr unig beth sicr yw fod y storom olaf oedd yn bygwth wythnos yn ol heb dori ar ei phen hyd yn hyn. Ymddengys megis gwyrth fod byddin y wlad fechan ddewr hyn wedi medru dal heb gael ei difodi ymhell cyn hyn. Cyfiawnir ganddi yn ddyddiol weithredoedd o wrhydri dihafal y cenir am danynt mewn oesoedd eto. Y gyffelybiaeth oreu mewn hanes i safiad cryf a di-ildio Serbia, am wn i, yw safiad pinderfynol Cymru o dan Owen Glyn- dwr yn erbyn holl allu Lloegr ganrifoedd yn ol. Ac fel yr awgrymwyd eisoes mae llawer o bethau yn natur y wlad, yng nghymeriad y bobl, ac yn ngallu eu har- weiuwyr yn Serbia, yn debyg i eiddo Cyifli-u yn nyddiau Glyndwr. Ccified y darllenydd mai gwlad ucliel, fynyddig, wyllt, yw Serbia. Meddylier am fyuydd-dir yr Eryri yn gorchuddio, nid rhan o Sir Gaernarfon, ond yr oil o Gymru, a phob bryn ynddi yn Wyddfa, a'r Wvddfa ei bun, a'r Carneddi, a'r Aretinig, a'r Berwyn, a'r Mynydd Du, a Bannau Brycheiniog a Chaerfyrddin, i gyd cyfuwch ddwywaith a cliopa'r Wyddfa, a cheir rhyw syniad o'r amgylchiadau o dan y rhai yr ymleddir y brwydrau yn y Balkans heddyw. Mae'r Germaniaid a'r BwJgariaid cyd- rhyngddynt wedi gwthio byddin Serbia yn ol i gwr pellaf y wlad, gyda Montenegro ac Albania yn unig yn agored iddynt gilio ymhellach. Edryched y darllenydd eto ar Fap Cymru a'r daflen lleoedd a roddwyd yn y LLAN bythefnos yn ol modd y cleallo Gwrs y Rhyfel yn Serbia. Mae'r Germaniaid a'r Bwlgariaid erbyn hyn wedi meddianu Llanbedr (Metrontza) a Llangeitho (Novi Bazar), a'r holl wlad oddi yno drwy Lan- sawel (Kalchanik Pass), a'r Dryslwyn (Babouna Pass), ac yn bygwth tref Caer- fyrddin (Monastir). I'r gorllewin i'r llinell hon y mae byddin Serbia. Mae byddinoedd Prydain a Ffrainc yn parhau i ddal eu tir, ond heb fedru symud nemawr ddim ymlaen, o Abertawe (Salon- ica) hyd Pantyffynnon (Kruvolak) a Tiry- dail (Gradsko). Gwelir felly fod y gelyn yn sefyll rhwng ein byddinoedd ni a byddin Serbia. A dyna'r peth a benderyfna dynged Serbia y naill ffordd neu'r llall.

PA FODD I ACHUB BYDDIN SERBIA

PA FODD I ACHUB BYDDIN SERBIA. Ymddibyna iachawdwriaeth Serbia ar allu ei byddin hi i wneyd un o ddau l>eth, sef naill ai (a) Ymuno i'li byddinoedd ni rywle o Gaerfyrddin i Ba Iltyffynon, neu (b) Derbyn adgyfnerthion drwy Albania neu Montenegro. Mae'r wlad y mae byddin Serbia Yllddi ar hyn o bryd yn wlad anial, ddisathr, di- gynyrch. Mae'r fyddin a'r bobl sydd wedi ffoi o'r trefi a'r pentrefi i lechu gyda'r fyddin yn y mynydd-dir heb fwyd i'w cyual na thai na phebyll i'w cysgodi rhag y tywydd. Mae cyfarpar rhyfel y fyddin, yn bowdwr ac yn fwledi, yn lleihau o ddydd i ddydd, a phob brwydr a ymleddir gan- ddynt yn ei wneyd yn Hai fyth. Oni chant gynorthwy mewn cyfarpar, ni fed- rant ymladd ond cledd yn nghledd a bidog wrth fidog, a byddant o dan anfantais ofnadwy felly i wrthsefyll Y gelyn pan mae ganddo fagnelau, a 'machine guns', a 44c,ifflau ddigon. Os na chant- fwyd o rywle o'r tu allan, newynant. Dyna ddesgrifiad teg o safle bresenol byddin ddewr Serbia, a haner poblogaeth y wlad—ar fin marw o eisieu, o eibieu cyfarpar rhyfel, ac o eisieu bwyd Mae digon o gyfaipar ac o fwyd genym ni ar eu cyfer yn Abertawe (Salonica), ac ar hyd y llinell oddiyno i Bantyffynuon (Krivolak). Ond nid oes modd ei estyn i'r Serbiaid anghenog ar eu cythlwng am dano: Edrychwch eto ar y map, a chwi welwch y rheswm paham. Mae byddin y gelyn yn meddianu'r holl linell o yn agos i Gaer- fyrddin (Monastir) i fyny drwy Landilo I (Uskub) ac ar draws y wlad drwy Lansawel a Llanbedr, a thrwy Langeitho (Novi Bazar) i fyny hyd Aberystwyth ar gyffiniau Awstria. Gwelir felly nad oes ond v ddwy ffordd o ymwared a uodwyd uchod—naill ai mae yn rhaid i'n byddin ni dori drwy rengoedd I y gelyn o'r Dryslwyn (Babouna Pass) i Landeilo (Uskub), neu rhaid dwyn cymorth i'r Serbiaid rhywle o'r tu ol, o'r gorllewin. Saif Montenegro o'r tu ol i Serbia (dy- weder o'r Ceinewydd hyd Aberystwyth), gyda Mor Aberteifi yn fynydd-dir uchel. O'r Ceinewydd i lawr hyd dref Aberteifi yr ymestyn Albania, hithau fel Monte- negro yn wlad fynyddig wyllt heb yr un rheilffordd, nac ond ychydig ffyrdd trani- wyadwy o'i mewn. Mae'r ddwy wlad, Montenegro ac Albania, yn gorwedd ar lanau dwyreiniol yr Adriatic. Me-dù- ienir glan gogleddol y mor hwn gan Awstria, a'r lan orllewinol gan yr Eidal. Rhyw haner cant neu dri ugain milltir sydd o lan y mor ar draws gwlad Albania mewn llinell union, i gyraedd cyffiniau I Serbia. Mae tua cymaint ddwywaith o ffordd o'r mor drwy Montenegro i gyraedd cyffiniau Serbia. Mae Montenegro yn gyfeilliou a Serbia, ac yn ymladd o'i phlaid. Mae o leiaf haner Albania yn elyniaethus i Serbia, yn gyfeillion ag Awstria, ac yn disgwyl cyfle i daro ergyd yn ngbefn Serbia os medra. C, Mae'r ddwy wlad, Montenegro ac Albania, yn wyllt, mynyddig, heb reil- fTyrdd, ac yn y mynydd-dir rhyngddvnt a Serbia heb ffyrdd o fath yn y byd am gen na llwybrau geifr. Anmhosibl yw dwyn cvfarpar rhyfel trwm y ffordd hono, ond gellid dwyn bwyd ar gefnau mulod. Ond meddyliwch am genedl gyfan, ar newynu o eiaieu bwyd, yn gorfod ymddi- bynu ar yr hyu a gludir felly iddi o ewyllys da cenhedloedd ereill, a hyny heb arian ac Ii heb werth. Os medr y darllenydd ddarlunio hyn oil o flaen llygad ei feddwl, bydd yn gwj-bod rhywbeth am gyni a chyflwr alaethiv^ pobl a byddin Serbia.

GOBAITH GWAN

GOBAITH GWAN. Ac eto, yn ol y newyddion diweddaf, mae yila obaith gwan y gellir estyn ymwared eto i bobl a byddin Serbia. Mae'r wlad a feddianir gan weddill pobl a byddin Serbia yn fath o wastadedd uchel. Meddyliwch fod y wlad, dywedei- o Lan- sawel i Aberteifi, ac o Lanbedr i Aber- ayron, yn 'dir gweddol wastad, ond yn sefyll ar ben 111Yllyddoedd uchel cyfuwch a'r Wyddfa ddwywaith. Dyna'r fath le y llecha byddin Serbia ynddo yn awr. Rhyw haner fiNk--Iii o 'fanau sydd lie y gellir dringo atynt rywsut, a hyny drwy ffyrdd anhawdd iawn rhwng y mynydd- ocdd. Golyga hyn ddau beth 1. Ni all y gelyn ymosod arnynt ond mewn ryw chwech man. 2. Gai, nad yw byddin v gelyn chwe' waith gymaint a byddin Serbia, a chan fod y passes, y bylchau yn y mynyddoedd, yn out a garw, ni all y gelyn ddwyn gallu cryf t, b ar yr un pryd mewn Illwy na rhyw ddau le. Fe gofia'r darllenydd adeg Rhyfel y Degwm yn Nghymru fel yr oedd pobl Pen- n bryn, ar gyffiniau Sir Aberteifi a Sir Benfro, yn canfod y beiliaid a'r plismyn yn dod o Gastellnewydd Emlyn tuag Nq;O, 0 ac yn gallu parotoi ar eu cyfer ymhell cyn iddynt gyraedd yno. Felly byddin Serbia heddyw. Pa geisia'r gelyn ymosod ar un o'r chwech lie, bydd nertli byddin Serbia yn y lie hwnw yn ei aros, Gall y Serbiaid ymgasglu i'r un lie ar y gwastatir ynghynt ac yn rliwyddacli* nag a all y gelyn grynhoi ei wyr mewn nertli mawr o'r neill fwlch i'r llall, gan fod y politer gymaint yn fwy ar hyd troed niynvdd nag yw ar ei gcpa. PVna fantais mawr byddin Serbia. Pe bae ganddi ddigon o fwyd a digon o gyfar- par, galla.sai eto gyflawni gorchestion, a galanas mawr ar fvddincedd y gelyn pan y ymosod ami. Hyd yn oed fel y mae, yn haner newynog, ac heb fawr arfau pwr- jpasol, mae yn llwvddo hyd yma i gadw r gelyn draw, a'i mi yn ol lx)b tro pan yn ymosod drwy'r bylchau hyn yn y myn- ydda u uchel. Yn wir, unwaith neu ddwy o fewn yr wythnos ddiweddaf mae'r Serbiaid wedi erlid ar ol y gelyn a'i yru ar ffo rhwng Llansawel (Katchanik) a'r Dryslwyn (Ba- bouna). Pe bae byddinoedd Ffrainc a Phrydain yn ddigon cryf yn awr i daro'r gelYll o'r ochr arall, gallase.nt, o bosibl, ymuno a byddin Serbia a dwyn ymwared felly iddi. Unwaith y llwyddant i wneyd hyny bydd gobaitli i bobl a byddin Serbia. Ond yn y eyfamser mae byddinoedd Gei-ina-ni ac Awstria yn dod i lawr ar hyd llinell y rheilffordd o Builth Road (Nish) i gyfeiriad Llandilo (Uskub) er adgyf- nerthu'r Bwlgariaid, a gyru, os medrant, fyddinoedd Prydain a Ffrainc yn ol tuag, Ahertawe (Salonica).

PROBLEM DYRUS GROEG

PROBLEM DYRUS GROEG. Aroa heb ei ddadrys v mae problem Groeg pan wyf yn ysgrifenu hwn. An- hawdd deall croes-adroddiadau y gwahanol i newyddiaduron dvddiol. Mae dau beth er hyny yn ainlwg, sef:—■ 1. Mae ymweliad Arglwvdd Kitchener a Breuin Groeg wedi dwyn brawd-yn-nghyf- raith v Kaiser yn nes i'w synwyrau. 2. Mae awdurdodau milwrol Prydain a Ffrainc yn teimlo yn esmwythach eu nieddyliau am saile ein b)^ddinoedd ni yn Ffrainc yn teimlo yn esmwythach eu Ffrainc yn teimlo yn esmwythach eu nieddyliau am saile ein b)^ddinoedd ni yn Salonica a Macedonia nag oeddent wythnos yn ol. Dywedir—er nad oes many lion wedi dod i law pan yn ysgrifenu—fod Brenin Groeg a'r Cabinet yno, wedi cydsynio yn ymar- ferol a'r holl delerau a osodiv-vd i lawr gan Arglwydd Kitchener. Beth oedd y telerau hyny nis gwyddom, ond gellir bod yn gicr eu bod y cyfryw ag a osodai ein byddinoedd ni yn Groeg a Macedonia yn ddiogel rhag cael ymosod arnynt yn fradwrus gan fyddin I Groeg. Mae dau beth yn amgylchiadau Groeg yn gwneyd y problem yn un anhawdd iawn, sef (a) Perthynas Brenin Groeg a'r Kaiser, •ynghyda'r ffaitli fod Groeg wedi meth i (neu wedi peidio) cyflawni ei hymrwjTniad i gynorthwyo Serbia yn erbyn Bwlgaria. Yn naturiol cwyd y pethau hyn ddrwg- dybiaeth yn nieddyliau Prydain a Ffrai ic ynghylch gonestrwydd Brenin Groeg. Gan nad pa mor onest a fyddai cyfeill- garwch honedig Groeg tuag atom ni, mae ei sefyllfa hi yngwyneb agoshad byddi ■- oedd Gennani at ei therfynau, yn ei gosc: mewn sefyllfa anhawdd iawn. Bwrier* fod hyny yn dod allan o'n tu ni yn erbyn Germani, a bod byddin Ger- mani a Bwlgaria yn gallu enill y dydd yr Serbia-, a goresgyn gwlad Groeg. Beth a fyddai'r canlyniad ? Nid oes angen ond yn unig edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Belgium ac yn Serbia i gael atbiad i'r cwestiwn. Mae yn amlwg i'r byd bcllach mai nid gwallgofrwydd milwyr meddw oedd er-ii yllderau y Germaniaid yn Belgium ac n Serbia, ond mai rhan ydynt o gynll -i pwyllog y Kaiser a'i Faoslywyddion i beri arswyd a dychryn ar bob cenedl a feiddiai ei gwrthwynebu. Cafodd ei effaith yn ddiamheu ar Groeg ac ar Rumania. Pe deuai Groeg allan yn erbyn Germani, a phe v* methem ni ei hachub hi /c/ y iitethaso/i) achub Belqiwn a Serbia, ni fuasai gan Groeg ddim i'w ddisgwyl ond yr erchyllwaith mwyaf ofnadwy a welodd y byd erioed. Felly, gan nad pa mor barod a fyddai ysbryd Groeg i'n cynorthwyo, gwelwn fod ei chnawd yn wan. Ni feiddia, ar y lIaw arall, yn awr, ymosod arnom ninau gan v buasai ei phorthladdoedd yn agored i ymosodiad ein llynges. Ceisio peidio digio na Gennani na Phrydain y mae Groeg. Ac eto, os rhaid iddi ddigio un o'r ddwy blaid, gwell gan- ddi-a gwell iddi—ein digio ni na digio'r Kaiser. Gwyr mai digio Inrli creulon fydd digio'r Kaiser, ond mai digio boneddwr tynergalon a fyddai digio Prydain.

I LLWYDDIANT RWSIA

LLWYDDIANT RWSIA. Mae y gobeithion am lwyddiant Rwsia i wrthsefyll byddinoedd Germani yn cael eu sylwoddoli o ddydd i ddydd. Amlwg yw fod Ruski, Maealywydd Rwsia yn y gogledd, ac Ifanoff yn y de>, erbyn hyn yn fwy na digon i gyfarfod ymosodiadau mwyaf grymus Hindenburg a byddinoedd Germani. Bu Dvinsk a Riga mewn pexygl yn hir. Am dros bedwar mis mae Hindenberg wedi bod yn ymosod ar y ddau le, ac wedi methu. Gwaii4awyd ei fyddin er mwyn rboi help yn Ffrainc pan wnaet-fi Joffre & French yr ymosodiad mawr yno rai wyth- nosau yn ol. Dywedir fod 350,000 o filwyr goreu Germani wedi cael eu symud y pryd hwnw o Rwsia i Ffrainc. Cymerwyd eu lie gan filwyr llai cymwys, math o wir"odd- olwyr heb eu dysgyblu. Mae Hindenburg ei hun wedi cydnabod yn ddiweddar mai ofer a fyddai iddo ef ymosod ar Ruski gyda milwyr mor wael a'r rhai hyn. Mae'r Rwsiaid yn magu calon o ddydd i ddydd. Dywed Ruaki ei fod erbyn hyn yn cael pob cyfarpar rhyfel angenrheidiol i wrthaefyll y Gtermaiiiaid. Dywedodd Arglwydd Kitchener wrth Frenin Groeg, meddir, y bydd gan Brydain bedair miliwl1 (4,u00,000) o filwyr erbyn y gwanwyn nesaf, ac y bydd byddin newydd Rwsia. yn ahwe' miliwn (6,000,000) Phrydain yn gallu cyflenwi yr oil & phob cyfarpar angenrheidiol.

LLYNGES PRYDAIN YN MOR Y IBALTIC

LLYNGES PRYDAIN YN MOR Y BALTIC. Arferai Germani edrych a.r For y Baltic fel yn gymaint ei heiddo hi ag yw Mor y Werddon yn -eiddo i ni. Ond yr wythnoa ddiweddaf aeth nifer (dywedir 25) o sudd- longau Prydain yn ddiogel drwy'r culfor o For y Gogledd i For y Baltic gyda'r can- lyniad fed maanach G-ermani dros For y Baltic wedi cael ei atal yfTircn mor IIwyr ag yw ei masnach o'r America! Llecha llyngea Germani yn awr yn ei phorthladd- oedd yn y Baltic yr un modd ag a wna. vn ei phorthladdoedd yn Mor y Gogledd, Dywedir fod dwy long ryfel o eiddo Ger- mani wedi cael eu suddo genym. yn y Baltic yr wythnos ddiweddstf.

PERYGL BYDDIN GARDD EDEN

PERYGL BYDDIN GARDD EDEN. Digwyddodd anffawd anvmunol i fyddin Prydain wedi croc-i o honi drwy Ardd Eden. Er nad oedd cymeryd dinas Bagdad, yr hon yw prif ddinas y Twrc yn Asia—pwvsdcach. yngolwg y Twrc nag yw Garyn ed hun. Wedi cyraedd o'r fyddin o fewn ychydig filldiroedd i Bagdad gan orchfygu'r gelyn ymhob brwydr, gorfu. iddi gilio yn ol drachefn rai milldiroedd o ddiffyg dwfr—gan mai anialwch tywodlyd svdd yno. Teimlir rcyn bryder ynghylch hyn, gan fod. anhawsderau ein byddin yno yn ddirfawr hyd nes y cymorir Bagdad ac y geill sefyll yno ar yr amddiffynol.

YMDAITH Y GERMANIAID YN SERBIA

DYDD Iau, Tachwedd 25. YMDAITH Y GERMANIAID YN SERBIA. Ceir fod elfeca newydd yn ymwthio i mewn i'r safle yn Serbia Ddeheuol, tuag at ba un y mae byddin Germanaidd yn ym- deithio" Nid oee amheuaeth nad hon yw y fyddin a ddisgwylid yn Monastir, yn ol barn aelod o Weinyddiaeth Groeg, sef M. Rallis. Dywedir fod milwyr Germani ac Awatna wedi meddianu Mohovitza a Prishtina, ac wedi gwthio y Serbiaid o fewn 90 milldir i'r Adriatia.

NODYN Y CYNGHREIRIAID AT LYWODRAETH GROEG

NODYN Y CYNGHREIRIAID AT LYWODRAETH GROEG. Cvfiwynwvd Nodyn heddyw i Lvwodr- aeth Groeg gan y Cynghreiriaid yn hawlio rhvddid i'r Cynghreiriaid fyned drwy wlad Groeg bob unrhyw rwptr o gwbl. Galwyd cyfarfcd o'r Cyfrin-Gyngor yn ddioed, gan fod y Cynghreiriaid wedi gofyn am atebiad buan. Ymddengys fed y Prif Weinidog (M. Skouloudis) wedi dweyd y dydd o'r blaeli y diarfogid y Set biaid, ao y gyri ymaith y Cynghreiriaid os gorfodid hwy i _gh encilio i dinogaethau Groeg. Go odwyd Groeg dr%ry byn mewn agwedd anffafriol tuag It y Cynghi-oiriaid, ac amcan y Nodyn α- --1 (Parhad ar Indalen %)