Collection Title: Llan

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
4 articles on this page
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd o

OYSYLLTIAD GARDD EDEN A I CAUCASIA. Yn awr mae cysylltiad hanfodol rhwng ymdrechion ein Byddin ni yn Ngardd Eden ac ymdrechion Byddin yr Archdduc Niclas yn Caucasia. Mewn ysgrif flaen- orol cyffelybais y ddwy Fyddin yma i ddau ddant gefail fawr yn lied agored ond yn dechreu cau. Er fod canoedd o filldir- ojedd rhwng Gardd Eden a'r Caucasus, ajnoan y ddwy Fyddin oedd gweithio ymlaen i gyfarfod y naill y llall, a thrwy hyny dori llinell y German a'r Twrc yn Asia Leiaf. At Bagdad y cyfeiriai Byddin Crardd Eden; at Erzerum y cynygiai Byddin y Caucasus. Yr oedd y ddau Ie yn anrhaethol bwysig i'r Twrc ac i'r Kaiser i'w eadw, ac mor bwysig a hyny i Rwsia a ninau eu henill. Eglurwyd am Bagdad mewn erthygl flaenorol mai hi yw pjrif ddinas Twrci yn Asia. tiriog- aeth a phoblogaeth Twrci yn Asia yn Uawer iawn eangach a Iluosocach na'i lieiddio yn Ewrop. Ar y boblogaeth fawr lion yr ymddibynai y Kaiser am ddefn- yddiau dynol i lenwi y lleoedd gwag wrth y canoedd o filoedd yn ei Fyddinoedd. Ar j tiriogaethau eang sy'n ymestyn o For y Qanoldir hyd For yr India yr ymddibynai a;m gyfoeth a masnach a'i galluogai ar 4erfyn y Rhyfel i dalu cyfran helaeth o'r tareuliau aruthrol yr aeth Germani iddynt i gario y Rhyfel ymlaen. Canys gwlad o dan deyrnged i Germani y bwriadai'r Kaiser i Twrci yn Ewrop ac yn Asia i fod —wedi gorchfygu o hono Brydain, a Ffrainc, a Rwsia. CAUCASIA AC ERZERUM. Os edrychir ar y map gwelir fed Cau- casia yn ymestyn o'r Mor Du hyd For y Caspian. Rhan o'r diriogaeth hon yw A-rmenia. Un o'i mynyddoedd yw Mynydd yr Ararat, lie y gorffwysodd Arch Noah. LIe enwog arall yno yw Llyn y Pan-nid Llyn y Fan Cymru, enwog yn nhraddodiadau ein gwlad ni, ond Llyn y Yan yn Asia, a saif allan yn amlwg ar y map. Mynydd-dir uchel, gwyllt, creigiog, yw ilawer o'r wlad. Ei phrif ddinas, a hono yn gaerog, yw Erzerum. Mae Erzerum yn allwedd i Caucasia, fel ymae Caerfa fawr Metz ar y cyffiniau rhwng Germani a; Ffrainc yn allwedd i'r gwledydd hyny. Pan enillodd y Germaniaid Metz oddiar Ffrainc yn Rhyfel 1870, oollodd Ffrainc bob gobaith y medrai mwyach enill y dydd na gwrthsefyll gallu Germani. Yn awr wele'r Rwsiaid wedi gwneyd ag Erzerum fel y gwnaeth Germani a Metz yn 1870. Drwy enill Erzerum torodd yr Archdduc Niclas asgwrn cefn y Twrc yn y rhanbarth hono o Asia. Enill Erzerum yr wythnos hon yw un o weithredoedd mwyaf nerthol yr holl Ryfel. A i lawr mewn hanes i genehedlaethau eto heb eu geni fel un o orchestion mwyaf holl Ryfeoledd y byd. Hi oedd y ddinas gaerog gryfaf yn Asia. Amgylchid hi yn gylch eang gan o bym- theg i ugain o amddiffynfeydd caerog cedyrn wedi eu harfogi a'u trefnu yn y fath fodd fel na byddai enill un gaerfa yn rhoi nemawr help i enill caerfa arall, eithr gosod y sawl a'i henillent mewn enbyd- rwydd mawr oddiwrth fagnelau y cae: feydd eraill. Nid oedd rheilffordd, na hyd yn oed ffyrdd y gellid eu tramwy gan Fyddin ar hyd y rhai y gallai Byddin yr Archdduc deathio. Rhaid oedd iddynt er mwyn cyraedd Erzerum deithio dros fynyddoedd uohel ar hyd ffyrdd anhygyrch, drwy ganol yr eira, gan wynebu ystormydd ac oerni na wyddom ni yn y wlad hon ddim mo'u cyffelyb. Ar hyd y cyfryw leoedd yr oedd yn rhaid iddynt lusgo eu holl gyfar par, a'r gynau mawr trymion i ymosod ar y caerfeydd. Yr oedd y daith ei hun yn un na welwyd ei chyffelyb yn hanes rhyfeloedd y byd- oddigerth yn unig ymosodiad Napoleon Bonapart ar yr Eidal dros ben yr Alpau gan' mlynedd yn ol. Wedi cyraedd hyd at gyffiniau Erzerum ar ol ysgubo ymaith y Byddinoedd Tyrcaidd a geisient eu gwrthsefyll, ymosododd y Rwsiaid ar y ddinas fawr ei hun-gan ei henill drwy ruthr na fedrai dim ei wrthsefyll. Gellir barnu rhvwbeth am nerth a phwysigrwydd y lie hwn pan ddeallir fod y Rwsiaid wedi cymeryd mil (1000) o gyflegrau mawrion yn y ddinas a'i chaer- feydd..Ffodd y Fyddin oedd yn amddi- Ifyn y ddinas am ei hoedl, yn cael ei her lid gan. y Rwsiaid buddugoliaethus. DIAL GAM ARMENIA. Dyma'r ergyd trymaf a gafodd Germani yn y Rhyfel hwn o'r dechreu, oddigerth o bosibl buddugoliaeth fawr y Marne yn Ffrainc yn Medi, 1914. Kesyd holl allu r Twrc a'r Kaiser yn Asia mewn perygl. Gwir fod canoedd o filltiroedd rhwng Erzerum a Bagdad. Ond nid yw yn an- mhosibl na ellir drwy enill Erzerum, enill y Dardanelles hefyd o Asia yn lie o GalipoIi. Nid llai pwysig na hyn yw dial cam Armenia. Fe gofir fod yr Armeniaid wedi dioddef cymaint oddiar law y Twrc yn y Rhyfel hwn ag a ddioddefodd Belgium oddiar law Germani, a Serbia oddiar law Bwlgaria. Mae Armenia, bellach, lawer o honi yn rhydd drwy gwymp Erzerum. Dyna ddechreu dial cam y cenhedloedd bychain. Daweraill i ganlyn. Gwelir teyrnasiad gormes y Kaiser yn dechreu syrthio. Calonogir cenhedloedd bychain Ewrop. Dychrynir Teyrnas Twrci ben bwy gilydd. Mae Groeg, a. Rwmania, eisoes yn dechreu credu fod dydd y Kaiser yn tynu i'w derfyn. Mae Bwlgaria yri dechreu ofni fod dydd y farn iddi hithau ar wawrio. Mawr ac eang yn wir ar holl gwrs y Rhyfel yw buddugoliaeth fawr Rwsia yn Erzerum. AMERICA A GERMANI. Awgrymwyd mewn erthygl ddiweddar fod Arlywydd America, yn gwerthu gwaed ei ddeiliaid drwy gydsynio a, mor-lofrudd- ion Germani. Erbyn hyn mae yr Ar- lywydd Wilson a'i Gabinet wedi agor eu llygaid i'r perygl. Mae y cytundeb oedd ar gael ei selio wythnos yn ol heddyw ymhellach nag erioed o ddod i weithred- iad. Gwrthoda America heddyw yn fwy pendant a phenderfynol nag erioed gyd- synio a'r hyn a ddymuna y Kaiser. Ail agorwyd yr holl helynt drwy anoethineb Germani yn bygwth ail gychwyn Rhyfel y Sudd longau. Mae America a Germani heddyw ymhellach oddiwrth eu gilydd nag y buont o gwbl er suddo y 'Lusitania.' ——— DYDD IAU, Chwefror 17. GWEITHRED ARDDERCHOG Y RWSIAID. Mae yr hyn enillodd y Rwsiaid yn Erzerum yn destyn edmygedd, gan mai gorchestwaith ydoedd dinystrio naw o am- ddiffynfeydd a chymeryd y dref gadarn o feddiant y Tyrciaid, y rhai orfodwyd i ffoi mor fuan ag y gallent. Anhawdd yw sylweddoli gwerthfawredd y gorchfygiad hwn, gan y golyga yr unig brif-ffordd o'r Caucasus i'r Bosphorus. Bydd i'w medd- ianiad yn sicr effeithio yn ddwys ar gyn- lluniau y Tyrciaid i ymosod ar Persia, a gall hyd yn nod effeithio ar yr ymgyrch i Kut. Mae y llwyddiant a ganlynodd ym- drech y Rwsiaid yn llawer mwy nag a dybir yn gyffredin, a syrthiodd 861 o fag- nelau i'w meddiant. Drwy enill Erzerum bydd y Rwsiaid yn gallu dylanwadu ar Asia Leiaf a Chaercystenyn. Dnau y bydd i'r Tyrciaid wneyd yr oil yn eu gallu i enill yr hyn a gollasant, ond cymer o lei8¡f ddau fig iddynt grynhoi byddin ddigonol, ac yn y cyfamser bydd Rwsda yn parotoi ar eu cyfer. Dyma un o'r trychinebau mwyaif (ar^Jwydutei alilaii ddi- gwydd i'r Tyreiaid, a gedy ei ol am ganrif- oedfll i ddyfod arnynt os na lwyddant i adenill y lie pwysig a gollasant. MILWYR ITALAIDD I SALONICA. Dywedir fod nifer dda o filwyr Italaidd yn myned yn fuan i Salonica. Gellir gwneyd defnydd hetaeth o'r mearchfilwyr yno, gan nas gallant wneyd dim yn nghy- ffiniau yr Alpau oherwydd natur y tir. Y SAFLE YN MESOPOTAMIA. Mynegodd y Prif Weinidog yn Nhy y Cyffredin ddydd Mawrth fod y Cadfridog Townshend a'i wyr yn dal yn dda hy yn bresenol, a bod adgyfnerthion wedi eu hanfon i'r Cadfridog Aylmer, yr hwn sydd er's wythnosau ar ei ffordd i geisio estyn ymwared i'r Cadfridog Townshend. Diau fod yr adgyfnerthion wedi cyraedd erbyng hyn. YR YMOSODIAD AR SALONICA. Newyddion o Rhufain a fynegant fod 300,000 o filwyr Germanaidd wedi eu casglu i wneyd ymosodiad ar Salonica, ond nid oes unrhyw gadarnhad swyddogol wedi cyraedd. Mynegir fod y Germaniaid wedi peri colledion o 230,000p. drwy eu 'hym- osodiadau awyrenol ar Salonica. DYDD GWENER. DIWEDD YR YMLADD YN NWY- REINBARTH AFFRICA. Da yw deall fod y Germaniaid wedi eu hamddifadu o'u holl drefedigaethau yn Affrica oddigerth ychydig dir yn y gog- ledd, ac-y mae yr ymladd yn ymarferol ar ben. Gweithiodd y Cynghreiriaid yn ddyfal i sicrhau hyn. Y lie diweddaf i syrthio ydoedd y Cameroons. Mae yn debyg fod y Germaniaid yn ddigllawn iawn oherwydd llwyddiant y Cynghreiriaid. SEFYLLFA Y BWLGARIAID. Dywedir fod tair o awyrlongau per- thynol i Rumania wedi ehedeg dros y tir- iogaethau Bwlgaraidd, ac yn ol yr hyn a welodd y rhai oedd ynddynt amcangyfrifir fod o leiaf haner can' mil o filwyr. Bwl- garaidd wedi ymgrynhoi ar lanau y Danube. Os yw hyn yn wir, nid yw eu galluoedd mor lluosog ag yr honid, gan .cyhoeddwyd fod y Bwlgariaid a'r Tyrciaid wedi uno a'u gilydd. 8569 0 ATTIRAWON GERMAN- AIDD WEDI EU LLADD. Adroddir o Zurich fod, i fyny i ddiwedd 1915 8569 o athrawon ysgolion German- aidd wedi syrthio yn y rhyfel. O'r rhai hyn yr oedd 5158 o Prwsia, 794 o Saxony, 504 o Bavaria, 368 o Wurtenberg, 217 o Hesse, a 1131 o daleitjhiau Germanaidd ereill. Yn y taleithiau Prwsiaidd -aif Silesia yn uchaf gyda 828, tra y mae 168 o athrawon o Berlin wedi eu lladd. -=-" DYDD SADWRN. I GORMOD 0 ESGUSODION. Cwyna Arglwydd Derby fod gormod o t ddynion oeddynt wedi ymrestru dian ri gynllun ef wedi eu hesgusodi rhag gwasan- aethu eu gwlad gan y gwahanol Tribunals ar hyd a lied y wlad. Mae cyfarwydd- iadau' penodol wedi eu hanfon i'r gwa- hanol lysoedd hyn i'w hanog i beidio esgusodi cymaint yn y dyfodol, ac i ym- atal rhag goddef i'w teimladau lleol effeithio dim ar eu dyfarniadau. Eu gofal cyntaf raid fod cyflenwi dynion ar gyfer y fyddin, lie y mae angen mawr am danynt, ac i belidioi dangos ffafr i neb. Hyd yma, auwybyddwyd i raddau mawr an- nghenion y fyddin, gan fcddwl gormod am amgylchiadau lleol. • GROEG AC ITALIC Bodola teimladau cas yn Groeg tuag at Itali oherwydd glaniad nifer o Italiaid ar Ynys Corfu, a siaradwyd yn lied gryf ar y pwnc yn Senedd Groeg yr wythnos ddi- weddaf. Nid oedd Llywodraeth Groeg wedi rhwystro iddynt lanio, nae wedi rhoddi unrhyw ganiatad iddynt, a llefar- wyd rhai ymadroddion brwnt am Frenin Itali. Ofnir y bydd i hyn qfgor ar hel- yntion pellach rhwng y ddwy wlad, as na ellir dwyn yr anghydfod presenol i der- fvniad heddychol. YR UNOL DALEITHIAU A'R LUSITANIA." Nid yw heJynt suddiad y "Lusitania" wedi ei henderfynu eto. Hdklia yr Unol Daleithiau ar i Germani esbonio ei bygyth- iad diweddaf gyda golwg ar ymosod ar longau masnachol arfog, a hyny heb un- rhyw rybudd, ac i roddi sicrwydd na ym- osodir ar longau diarfog mewn camgymer- iad, ar yr esgus eu bod yn edrych fel pe wedi eu harfogi. YCHWANEG 0 LYSGENHADON WEDI EU CARCHARU. • Mae yr awdurdodau Ffrengig gydag yni nodweddiadol wedi cymeryd i'r ddalfa lys- genhadon y gelyn ar Ynys Chios, un o ynysoedd eangaf Groeg, ac y maent yn awr yn ngharohar. Perthynai y llysgen- hadon i Germani ac AwstriS. Gwrth- dystiodd y llysgenadwr Germanaidd yn erbyn hyn, ond ni wrandawyd arno. Y GERMANIAID YN BEIO Y TYRCIAID. Ymddengys fod awdurdodau Germani wedi cythruddo yn ddirfawr oherwydd llwyddiant y Rwsiaid yn Erzerum, ac yn bwrw y bai ar y Tyrciaid. I foddhau Germani y daeth y Tyrciaid allan, ac ofnir y bydd i'r orucliafiaeth Rwsiaidd roddi atalfa ar gynllwynion y ddwy deyrnas hyny. Ymlidiwyd y Tyrciaid gyda bidogau gan y Rwsiaid, a lladdwyd nifer fawr heblaw pum' mil o garcharor- ion. Yr oedd 70,000 o'r Tyrciaid yn cy- meryd rhan yn y frwydr, a'r rheswm a roddant dros eu gorchfygiad yw prinder cad-ddarpariadau. Mao brwydro yn myned ymlaen yn nghyffiniau Erzerum ar hyn o bryd. DYDD LLUN. Y GERMANIAID YN FUDDUGOL- IAETHUS GERLLAW YPRES. I Yr hyn ddesgrifir gan bencadlys y Prydeiniaid fel rhywbeth dibwys a fawr- ygir gan y Germaniaid fel buddugoliaeth, gan eu bod, meddant hwy, wedi cymeryd meddiant o 350 Hath o ffosydd gerllaw y gamlas i'r gogledd o Ypres nos Sadwrn, gan gyi-neryd 30 o gar char orion. Adroddir o Berlin fod ymladd caled wedi cymeryd lie yn nelieubarth Loos, pryd yr aeth y Prydeinwyr ymlaen at crater Germanaidd, ond ni fynegir dim am hyn gan Syr Douglas Haig. Bu y Ger- maniaid yn ymosod gydag awyrlongau ar ochr dde ein llinell, ond ni achoswyd un- rhyw niwed. Cariwyd allan ymosodiad llwyddianus I gan awyrlongau Prydeinig ar ffactri awyr- longau yn Cambrai, a ffrwydrai y tan- belenau yn y gweithdai, gan wneyd difrod. Y RWSIAID WEDI MEDDIANU MUSH. Mae meddianiad Mush gan y Rwsiaid yn bwysig iawn ar lawer ystyr. Heblaw fod y dref yn fan canolog i ystorio ymborth ar gyfer dyn ac aiilfail, mae y ffaith fod y Rwsiaid wedi ei meddianu yn rhanu bydd- inoedd y Tyrciaid. Arweinia ffordd o'r dref dros y mynyddoedd mawrion a wahanant Armenia oddiwrth Mesopo- tamia, a gellir disgwyl am ddlgwycldiadau pwysig yn y cyfeiriad hwn. YMOSODIAD AU GAN AWYR- LONGAU YN LLOEGR. Gwnaed ymosodiadau gan awyrlongau Germanaidd ar drefi glanau y m'r dwy- reiniol ddydd Sul. Canfyddwyd dwy awyrloiig uwchben Lowestoft cyn ac wedi 11 o r gloch y boreu, y rhai a ollyngasant 17 o dan-belenau, ond ni niweidiwyd neb, er y gwnaed difrod ar adeiladau. Bu awyrlongau ereill yn gollwng tan-belenau ar Wolmer. Diigynodd dwy dan-belen yn agos i eglwvs, gan ddinystrio y ffen- estri tra yr oeddid yn canu y "Te Deum." Dr-gynodd tan-bflen arall ar v ffordd ger- h. b llaw glan y mor, gan ladd un dyn, a ni- 0 weidio morwr. Collodd tri eu bywydau. Aeth awyrlongau Prydeinig ar ol y rhai Germanaidd, ond methasant eu dol. ANNHEYRNGARWCH YN NGHYMRU. Ymddengys fod mudiad annheyragarol ar droed yn Neheudir Cymru yn erbyn Gorfodaeth, a chynhaliwyd cyfarfod o'r Cyngor yn Nghaerdydd ddydd Sul ynglyn a'r mudiad, pryd yr oedd o 70 i 80 o bobl yn bresenol. Cariwyd y gweithrediadau allan yn ddirgelaidd, fel na wyddis beth a basiwyd, er fod y Cyngor yn honi fod un- debau gweithwyr yn caell eu cynrychioli Dylai yr awdurdodau roddi mesurau ar waith yn ddioed i atal ymgynulliadau o'r fath, gan eu bod yn myned dan seiliau y Cyfansoddiad Prydeinig. 40 Y TYRCIAID MEWN CYFYNGDER. Yn ol y newyddion a gyrhaeddasant i gcnadlys y Rwsiaid yn Rhufain, mae y digwyddiadau yn Armenia yn llawer mwy adfydus na'r hyn a ddigwyddodd i Napoleon ganrif yn ol. Mynegir y gellir datgan fod yr holl fyddinoedd Tyrciaidd wedi eu colli. Mae y Rwsiaid yn ym- deithio yn brysur er gorchfygu Trebisond a Bitlis. Am y fyddin Dyrciaidd yn Mesopotamia dywedir nas gall symud, ac na ellir cael unrhyw ymwared. DAL YSPIWR PERYGLUS. Cofus gan ein darllenwyr i Ignatius Trebitsch Lincoln, fu gynt yn aelod o Dy y Cyffredin, gael ei gymeryd i'r ddalfa dro yn ol, ar y cyhuddiad o fod yn yspiwr peryglus, yn yr America. Cyhuddid ef hefyd o ffugiaeth, ond ar Ionawr 15fed, saf y dydd y bwriadai apelio, diangodd. Daliwyd ef nos Sul yn Efrog Newydd tra yn myned i'w lety i wneyd rhyw ymhol- iadau. Pan ddarganfyddodd fod yr hedd- geidwaid yn bwriadu ei gymeryd i'r ddalfa tynodd lawddryll o'i logell, ond rhpddwyd y cyffion am ei ddwylaw er gwaeffilf ei wrthdystiadau, a bydd yn rhaid iddo sefyll ei brawf ar luaws o gyhuddiadau a ddygir yn ei erbyn. DYDD MA WRTH. YMOSODIADAU GAN AWYR- LONGAU PRYDEINIG. Gwnaed ymosodiadau gan 26 o awyr- longau Prydeinig ddoe ar Don, a gwnaed colledion trymion i'r ystorfeydd a'r rheil- ffordd. Llwyddodd yr oil o'r awyrlongau i ddychwelyd yn ddiogel. ADRODDIAD CYNTAF Y CAD- FRIDOG SMUTS. Derbyniwyd adroddiad cyntaf y Cad- fridog Smuts, llywydd y milwyr Prydeinig yn Affrica, yn yr hwn y dywed i filwyr Prydeinig, 37 mewn rhif, 35 o'r rhai oedd- ynt frodorion, ymlid ymaith 204 o Ger- maniaid, gan beri niweidiau a marwol- aethau i 57 ohonynt, a meddianu peiriant saethu a nifer o ddrylliau, heb ddioddef unrliyw niwed. DINYSTRIO YN EL HASSANA. Adroddiad swyddogol o'r Aipht a fyneg'a fod awyrenwr wedi dinystrio un o orsaf- oedd milwrol y Tyrciaid yn El Hassaiia, drwy ollwng t-an-belen yn pwyso can' pwys arni. Saif El Hassana o fewn pellder o. 80 milldir i'r de o Gamlas Suez. ADGYFNERTHION I'R CADFRIDOG AYLMER. Mae y gwaith o anfon adgyfnerthion i'r Cadfridog Aylmer yn myned ymlaen yn foddhaol. Pan gyrhaeddant, gall y Cad- fridog Aylmer fyned ymlaen a'r ym- gyrch i waredu y Cadfridog. Townshend a'i wyr yn Kut. LLONG YMSUDDAWL GYNGHREIRIOL YN Y BOSPHORUS Cenadwri o Athens a fynega fod Hong ymsuddawl perthynol i'r Cynghreiriaid wedi creu llawer o ddinystr yn y Bos- phorus, gan iddi suddo saith o longau, chwech o ba rai oeddynt yn llwythog o gad- ddarpariadau i'r gelyn yn y Caucasus, yr hyn fydd yn golled drora i'r German- iaid a'r Awstriaid. HONIADAU GERMANAIDD. Hawlia Berlin eu ^bod wedi atal ymos- odiad tan-belenau v Prydeinwyr yn y ffosydd i'r gogledd o Ypres, ac wedi ym- osod drwy gyfrwng awyr-longau ar y llin- ellau Prydeinig a. Ffrengig, ond- nid yw hyn yn cael ei gadarnhau. DYDD MERCHER. YMLADD FFYRNIG YN FFRAINC. Hysbysir fod llawer o ymladd wedi bod yn Ffrainc y dyddiau diweddaf, a chan ymosod gyda saith mil o wyr meddianodd y Germaniaid 800 llath o ffosydd. Di- oddefodd y Gormaniaid yn drwm oddi- wrth ergydion y Ffrancod. Gwnaed ym-. osodiad arall yn Verdun, ond ni roddir unrhyw fanylion, er bod lie i gredu fod bi-wydro ffyrnig wedi bod yn ddibaid er nos Lun. Nos Lun, llwyddodd yr awyreiiwyr Ffrengig i saetliu i lawr Zeppelin a saith o awyrlongau rhwng Argonne ac Alsace.

Lloffion

Lloffion. Y mae saith mil o lowyr Aberdar wedi rhoddi rhybudd y bydd iddynt sefyll allan os nad ymuna tri chant o an-undebwyr a'r gymdeithas mewn deg diwrnod. Y mae Mr. Hugh Lewis, er yn haner cant oed, yn dysgu ehedeg mewn awyrlong yn Hendon. Yn Llys Ulverston, ddydd Mawrth, dyfarnwyd lOOp o iawn i eneth, 15 oed, o'r enw Agnes Pearson, oddiar fab fferm, o'r enw William Burch. Ymddengys i'r diffynydd daro yr eneth yn ei choea a phocer fel y bu raid tori ei choes ymaith. Erfynir ar i bawb gynilo ynglyn a. siwgr gan fod treth ychwanegol i'w rhoi arno. Gofynir ar i bawb ddefnyddio dim ond un clap i bob cwpaned yn awr. Yn Gateshead, dirwywyd milwr ieuanc o'r enw John ræe"i 5p. am ddweyd fod ei gyflog yn fwy nag oedd er mwyn cael mwy o arian gwahaniad i'w fam. Y mae Mrs. Edith Hirst, Kirkbunton, wedi rhoddi 3,000p. i ysbytty Huddeira- field er gwaddoli gwely yno er cof am ei gwr, Mr. Reginald Hirst. Y mao y swm gasglwyd Tachwedd 18fed, 'Russia's Day,' wedi cyraedd 30,000p. yn barod. Yn yr un ty ac y ganwyd hi bu farw Mrs. Gregory, Cowes, dydd Gwener, yn 80 mlwydd oed. Y mae Mr. John Rowlands, postfeistr, Criccieth, wedi ei benodi yn bostfeistr Hednesford, Swydd Stafford. Colled fawr i Eglwyswyr Goglcdd Cymru, yn enwedig Eifionydd. Y mae Mr. W. Storey Blackwell, llyfr- gellwr darllenfa gyhoeddus Preston, a.'r ilyfrgellwr hynaf yn Lloegr, ar fedr ym- ddisiwyddo. Y mae yn 81 mlwydd oed. mae yn 81 mlwydd oed. Adroddir fod Clwb Amaethyddol Hol- derness wedi oasglu 3,000p. at Gronfa y Groes Goch a'r Amaethwyr Belgiaidd. Am esgeuluso eu plant anfonwyd tair o wragedd i filwyr i garchar am fis bob un yn Blyth ddydd Mawrth. Yn Kirby Stephen (Westmoreland), y mae pob dyn mewn oed milwrol un ai wedi ymuno neu heb fod yn iach. Cyrhaeddodd Mrs. Crofts, Worthing, ei chant oed ddydd Mercher. Amcangyfrifir fod eisiau o leiaf 400,000 o ferohed i weithio ar y tir i lanw lie y dynion sydd wedi ymuno. Yr oedd 1200 o'r 'Anzacs' yn bresenol mewn gwasanaeth yn St. Margaret's West- minster, ddydd Mercher. Y mae adeilad hardd yn Feltham, yr hwn gostiodd 59,000p. i'w adeiladu a 7500p. am y tir, i gael ei droi yn gaxtref i gleifion. Wedi cychwyn yn y radd isaf fel Private cododd Cadben V. M. Lunnon, o'r 11th Essex, ei hunan i radd o Gadbetn mewa saith mis. Yr oedd caws Cymreig werthid unwaith am 3c y epwys, yn 8c a 9c y pwys yn Nghaerfyrddin dydd Sadwrn. Y mae Mr. E: Colman, Taunton, yr hwn sydd wedi bod yn gloohydd yr Eglwys am haner can' mlynedd, newydd ddathlu ei briodas euraidd. Bydd hetiau gwellt chwe' cheiniog yn ddrutach yr haf eleni, ac ni fyddant oyn wyned. J

Y diweddar Esgob Lloyd Bangop

Y diweddar Esgob Lloyd, Bangop. Yr emyn a ganlyn yw un a gyfansoddwyd gan yr Esgob, a gwelir ef yn yr -Emyuiadur.' Nid oedd dim mor darawiadol a gweled yr < Esgob gwedi iddo golli ei iechyd yn ddiwyd yngbanol ei wendid gyda'r gwaitb o orphan y casgliad adnabyddus o emynau. Bu farw yr Esgob yn Awst, 1899, a chladdwyd ei weddill- ion marwol yn mynwent Llanartb, Sant Mathias (Chwefror 24), Apostol a Mertbyr. M.S. # Ainddiffyn, Dad, Dy Eglwys L&n Trwy ddwfr a than yn ddirgel; A thywys hi trwy'r anial maith I ben ei tbaitb yn ddiogel. Bugeiliaid cywir iddi moes 0 oes i oes olyftnl; A gwrando Di ein cwynion dwys Dros D' Eglwys filwriaethol. Gwna rbai'n yn ufudd iawn eu cred, A'" Uwyr ymddiried ynot; A chadw bwynt rhag ilwybrau gall, I lawenbau yr eiddot. 0 gwylia gamrau'th deulu mawr Bob raynyd awr o'u bywjd; Ac arwain Dy ganlynwyr gwir Trwy bob rbyw gur i'r gwynfyd. I Ti, ein i"af, dy,rchefir clod A hyuod lef gorfoledd A'tb fawl a lanwa'r tiefol wlad Am wyrthiau'th rad drugaredd. Amen. -——————-——T-

Undeb Ysgolion Sul yr Eglwys

Undeb Ysgolion Sul yr Eglwys. liHIF I. Chwefror 27 Gwers 14. Mawrth 5 ,,15. 12 35. 36. to:!6 „ 37. Ebrill 2 38. v; » 9 39. ] f) 18. 23 (Sul y Pasc) 19. Ar drfiwedd y Flwyddyn| 16. Kglwysig „ 11 J. D. JONES Chwefror 15ed. Ysgrifenydd.