Collection Title: Llan

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
1 article on this page
CWRS Y RHYFEL

CWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. DWY FLYNEDD 0 RYFELA— FAINT ETO? DDOE, HEDDYW, YFORU. GWEITHREDOEDD ERCHYLL Y LLOFRUDDION. RHAID COSPI'R EUOG. A YMOSODIR AR Y WLAD RON! TYWYLLWCH YR AIPHT YM MHRYDAIN. PA OYHYD Y PERY Y RHYFEL? Tri mis oedd yr amsor hwyaf y tybiai Germani y parhai y Rhyfel. Mae yn dra thebyg mai felly y buasai hefyd pe y cad- wasai Prydain allan. Ond buasem ni, ymhen y tri mis, ac ar derfyn y rhyfela yn Ffrainc, mewn dengwaith mwy o berygl oddiwrth Germani nag ydym heddyw. Mae holl ddatblygiadau y ddwy flynedd diweddaf, a chynddeiriogrwydd dilywodr- aeth y Caisar a'i gynghorwyr milwrol, yn profi tuhwnt i amheuaetth mai ar Brydain yr oedd llygad Germani, ac mai arnom ni y tywelltid ei holl lid a'i chynddaredd un- waith y caffai Ffrainc a Rwsia o dan ei thraed. Cyfryngiad Prydain yn y Rhyfel a aohubodd Ffrainc rhag dinystr, a aiomodd uchelgais Oermani, a waredodd y byd gwareiddiodig rhag caethiwed gwaeth nag eiddo'r Israeliaid yn yr Aipht o dian Pharaoh. Gwr tynetr oedd Pharaoh o'i gymharu a'r Caigart Mae y Rhyfel ocdd i barhau am dri mis wedi parhau eisoes am ddwy fiynedd-ao nicl oes neb a fedr ddweyd heddyw pa bryd y daw y diwcdd. Un cysur y sydd. Mae yn dod yn amlycach bob dydd beth fydd y diwedd. Nid ocs ond un diwedd yn bosibi-sof gorchfygiad Germani, ac analluogi yr ynfytyn y Caisar byth mwy i beri tywallt afonydd o waed er mwyn boddio ei uchelgais ef. Golygai unrhyw ddiwedd arall i'r Rhyfel ddwyn y byd gwareiddiedig yn gaeth i ewyllya gallu bwystfilaidd na welodd y byd erioed mo'i gyffelyb mewn ynfydrwydd ac anfad- rwydd. LLOFRijDDIAETH SWYDDOGOL ERCHYLL. Aett ias i fraw a thon o ddigofaint dros galon y byd yr wythnoe ddiweddaf pan glywyd am waith yr Awdurdodau Milwrol yn Germani yn llofruddio mewn gwaed oer y PrydieiniwT dowr, Capten Fryatt. Dyma y ffeithiau yn syml:— Yr oedd Capten Fryatt yn llywydd yr agerlong fasnachol "Brussels. Flwyddyn yn ol ymooodwyd ar ei long gan siuddlong Germanaidd; trodd yntau ben ei long at y suddlong, a cheisiodd ei ramio. Ym- suddodd y auddlong a thrwy hyny di- hangodd. Rai wythnosiau yn ol daliwyd y "Brussels" gan suddlong Germanaidd, a ohymerwyd Capten Fryatt a'r criw yn garcharoxion. Dygwyd Capten Fryatt o flaen Llys Milwrol ar y cyhuddiad o fod yn euog o ymosod yn anghyfreithlawn ar y suddlong flwyddyn yn oj. Cafodd y LIys ef yn euog, a gorchymynwyd ei saethu allan o law. A hyny a wnaed. CJeiaiodd y Llysgenhad wr Americanaidd gan yr awdurdodau yn Germani ohirio yr achos. Gwrthodasant, a rhag y buasai America yn cyfryngu, saethwyd Capten Fryatt y diwrnod hwnw. Dadleua'r Geirmaniaid yn awr mai llofrudd oedd Capten Fryatt, yn gymaint a cheisio o hono suddo llong rhyfe] (sudd- long) Germanaidd, a thrwy hyny beryglu bywydau y criw Germanaidd. Cofier fod suddlongau Crennani y pryd hwnw yn suddo. yn ddirybudd bob llong masnach a fedrent, a bod canoedd o forwyr llongau maanach Prydain wedi cael eu boddi hcb obaith ymwared gan lof- ruddion Germanaidd y mor. Dyma ynte ddysgeidiaeth Germani i forwyr Prydain:- YMRESYMIAD Y LLOFRUDDION. 1. Gweithred gyfreithlawn a thodlwng yw i'r Grermaniaid suddo llongau Pry- deinig a boddi eu oriwiau yn hollol ddi- rybudd, er nad yw'r llongau Prydeinig nac yn arfog niac yn ymosod. 2. Gweithred anghyfreithlawn, ac yn haeddu marwolaeth yw i long masnach Brydeinig geisio gwneyd niwoo i'r llong Germanaidd fo'n ymosod arni. 3. Angau yw haeddiant pob morwr Prydeinig ar long masnach; cailys os na ildia i gael ei foddi pan ymoeodir arno, saethir ef fel llofrudd os ceisia efe amddiffyn ei hun. Y GWIR YMRESYMIAD. Eithr y gwir ymresymiad, yn ol pob deddf o eiddo dyn a Duw yw hwn:- Os haeddai Capten Fryatt farwolaeth am geisio o hono amddiffyn ei hun, cadw ei long, a gwared ei griw rhag dyfrllyd fedd) llawer mwy yr haeddir marwoJ- aeith gan griwiau y suddlongau a ymos- odant yn llechwraidd a dirybudd ar longau masnach anarfog; felly hefyd mae y criwiau aydd yn y Zeppelins yn bwrw bombs o'r awyr yn y nos ar ben- trefi diamddiffyn y wlad, gan ladd gwragedd a phlant diniwed, yn sicr yn haeddu marwolaoth. Dyna farn dynoliaeth holl wledydd gwaredddiodig y byd heddyw. AMCAN AC EFFAITH Y LLOF- RUDDIAETH. Gwaiianol iJawn yw r.mcan iac effaith llofruddiaoth Capton Fryatt. Yr amcan oedd dychrynu morwyr Prydain fel nad elont mwy mewn llongau masnach i'r mor, neu os yr ant na cheisiant na niweidio na gwrthsefyll y bwli Germanaidd sydd yn llofruddio ar y mor drwy archymyn y Caisar. Effaith y llofruddiaeth yw- 1. Gwroli calon pob Prydeimwr, ar for a thir, a chryfhau ei bendorfyniad i gario y Rhyfel ymlaen hyd nes y gorch- fygir y golyn anynol. Ni phoidia yr un morwr Prydoinig hwylio fel cynt, nac amddiffyn ei hun fell cynt. Mae y weithred anfad eisoes wedi berwi gwaed cin milwyr yn Ffrainc, ac wedi cryfhau eu penderfyniad i fynu trechu'r golyn oostied a gostio. 2. Argyhooddi Gwlodydd Cred mai y Bwystfil, Gelyn Dynoliaeth, yw Awdur- dod Milwrol Germani, ac nad oes na heddwoh na diogelweh i'w ddiagwyl i'r byd tra pery gallu militariaeth Ger- manl CYFRIFOLDEB PERSONOL, RHAID COSPI'R EUOG. Mae y llofruddiaoth swyddogol erchyll hon wedi codi unwaith eto i sylw'r gwledydd yr cgwyddor a gymhellwyd yn, yr ysgrifau hyn yn y LLAN flwyddyn yn 01, sef yr egwyddor o Gyfrifoldcb Personol y swyddogion sy'n gorchymyn y gweith- redoedd anfad hyn. Awgrymwyd yn yr ysgrifau hyn y pryd hwnw y dylasai Llyw- odrae.th Prydain, Ffrainc, a Rwsia, wneyd yn hysbys i'r byd y buasent, ar derfyn y Rhyfel, yn dal yn bersonol gyfrifol (U, yn galw i gyfrif bawb o swyddogion uchel Germani, Awstria, a Thwrci a. orchy- mynont. gyfla,wni yn y Rhyfel hwn weith- redoedd ocddent yn drosedd amlwg ar Gyffredinol y Gwledydd. PA FODD Y GELLIR COSPI YR EUOG. Os gofynir pa fodd y gellir cospi yr euog. rhaid cofio fod o leiaf dri anhobgor mawr cyn y gellir gwneuthur hyny sef- 1. Fod Prydain a'i Chynghreiriaid yn eniJl hrtddngolisieth Jwyr ar y gelyn. Heb hyny anmhosibl fydd cospi y drwgweithredwyr. 2. Fod Prydain a'i Chynghreiriaid yn dod i gyd-ddealltwriaeth â'u gilydd- (at) Y rhaid cospi yr euog gan nasi pa mor uchel y bo ei safle, a (b) Pa fodd oreu i wneuthur hyny yn effeithiol. Heb y cyfryw gyd-ddeailtwriaeth an- mhosibl fydd dwyn yr euog i farn. 3. Fod Prydain a'i Chynghreiriaid yn gwneyd cael yr hawl a'r gallu i gospi yr euog yn un o amodau sylfaenol heddweh. Hyny yw, rhaid cael gan Germani. Awstria, Twrci, a Bwlgaria, i gydnabod (pan y deuir i drin amodau heddwch) fod hawl gan Brydain a'i Chynghreiriaid i gospi yr euog. Heb hyny edrychai'r gwlcdydd hyny ar y oospi fel dial ac nid fel cyfiawnder. Dyna'r tri anhebgor cyn y gellir ad- sefydlu Cyfraith Duw yn Gyfraith Rhyng- wladwriaethol. Gwelir fy mod uohod yn pwysloisio'r ffaith y rhaid cospi yr euog gan nad beth fo ei safle. Nid cyfiawnder fuasai crogi y sawl a saothodd Capten Fryatt, a gadael y awyddog a orchymynodd y saethu, yn rhydd. Nid cyfiawnder fydd crogi y swyddog orchymynodd y saethu, a gadao] yn rhydd y Llys a basiodd y ddedfryd o farwolaeth a, gariwyd allan gfti y swyddog. Ac yn aicr nid cyfiawnder fydd crogi AeJodau y Llys a gondemniodd Capten Fryatt i farwolaeth, tra yn gadael yn rhydd y gwr oedd gyfrifol am ffurfio y Llys ac a arwyddodd warant marwolacth y Capten, a'r Caisar ei hun oedd hwnw. Mewn cyffelyb fodd gellir olrhain yn ol JI ci/frifoldeb am bob anfadwaith anghyf- reiihlaum arall a gyflawnwyd i ryw un mewn safle uwoh na'r person a gyflawnodd y weithred ei hun. Mewn ystyr, ac ar un olwg, mae criwiau y suddlongau lofruddias- ant deithwyr y 'Lusitania,' a chriwiau y Zeppelins a dywalltant dan o'r nefoedd ar wragedd a phlant diniwed a diamddiffyn yn ddieuog,—canys ufuddhau i orchymyn rhywun uwoh na hwynthwy oeddent. Nid y eyflawnydd, ond y gorchymynydd sydd yn euog. Yr hyn sydd yn rhaid ei sicrhau yw na cha safle neb. boed uchel neu isol, ei ddiogolu rhag y goep a haedda. Mae genym o fawn cyfnod oof hanes di- weddar, ddwy engraifft nodedig o waith gwledydd buddugoliaethua yn cospi Ym- herawdwyr. Darfu i Brydain ddanfon Napoleon Bonapart yn alltud a, ohaxcharor dros ei oes i Ynys Sant Helena. ar ol Waterloo, er na bu efe euog o'r croulon- derau anfad wnant enw'r Caisar yn felldi- gedig oesau'r ddaear. Gwrthododd Ger- mani, ar ddiwedd Rhyfel 1870, ymdrin amodau heddweh a'r Ymherawdwr Nap- oleon III., ei gynghorwyr na'i gadfridog- ion. Mynodd i Werin Ffrainc ethol Senedd newydd, ac a'r Senedd hono fel cyrtryeh- iolydd vniongyrchol y Werin, y gwnaed telerau heddwch. TYWYLLWCH YR AIPHT. PAHAMY 0 nos Lun, Awst 7fed, bydd tywyllwoh, megya tywyllwch yr Aipht, yn meddianu yr oil o'n gwlad pan syrth cysgodion nos ac hyd nes y tyrr gwawr y bore, Drwy orchymyn y Llywodraeth rhaid tywyllu pob ffenestr, a phob twll drwy yr hwn y geill golou lewyrchu i'r tu allan i bob ty mewn trof a gwlad, a pha un bynag a fydd yngolwg y mor ai na fydd. Bydd golouni a welir mewn ooty yn y wlad, neu ffermdy, neu ysta,bl, neu feudy, neu ysgubor, oa gellir ei ganfod o'r nef uchod neu o'r ddaear isod, yn gosod y neb fo'n gyfrifol am v goleu ac bob ei dywyllu fel na aller ei ganfod o'r tu allan i'r adeilad, yn agored1 i ddirwy drom. Mae y rheol wedi bodoli er's tro ymhob man lie y gellid canfod y goJeuni o'r mor. Ond o'r dyddiad a nodwyd cymhwysar y rheol at bob adeilad yn ddiwahaniaeth drwv yr holl wlad. Amcan y rheol yw PEIDIO RHOI ARWEINIAD I'R ZEPPELINS. Gwyddis fod yn mryd y Caisar i ddanfon lleng o gythreuliaid i ymosod ar V wlad hon o'r awyr pan fo'r dydd yn byrhau, a'r nos yn hir ac yn dywyll. Mae y Zeppelins wedi ymweled a Lioegr ddwy waith yr wythnos hon, ac o ddeg i ddwsin yn dod bob tro. Gwyddis fod y Zeppelins diweddaraf yn medru teithio ymhellach na'r hen rai, a bod nifer mawr gan y Ger- maniaid mewn bwriad i ymosod ar y wlad hon. Bydd dangos goleu yn help i'r gelyn; bydd tywyllu'r goleu yn rhwystr iddo. Oa pan ddaw y Zeppelins, y cant yr holl wlad yn dywyll, ni bydd ganddynt fodd i wybod ai uwoh tref neu wlad, uwch mynydd neu ddyffryn, uwch tir ai mor, & fyddant. Felly, er mwyn diogelwch pawb, tywyller bob goleuni a all belydru allan o bob rhyw adeilad. BETH AM YR EGLWYSI A'R CAPELI? Daw yr Eglwyai, y Capelit y Neuaddau Cyhoeddus, a'r Chwareudai, oil o dan yr un ddeddf. Am y ddau olaf gellir dar- paru, moddion effeithiol i dywyllu pob ffenestr ynddynt. Ond beth am yr Eglwysi a'r Capeli ? Wna blinds cyffredin mo'r tro, ac Did byohan fyddai y draoL o ddarpa.ru shyters i bob ffenestr ynddynt. Pa fodd ynte y cynhelir y gwasanaeth hwyrol pan fo'r dydd wedi byrhau? Os na bydd modd tywyllu'r ffeneetri rh-aid fydd peidio goleuo'r Eglwya neu'r Capel. Felly bydd rhaid naill ai roi heibio'r gwasanaeth yn y nos yn gyfan- gwbl, neu ei gynal wrth oleu dydd fel y gwneir hirddydd haf. A YMOSODIR AR Y WLAD HON! Cwestiwn sy'n cael ei ofyn y dyddiau hyn yw: A geisda'r Grermaniaid lanio byddin ar draethau Prydain? Nid yw'r syniad mor afresymol ag yr ymddetngys ar yr olwg gyntaf. Gwyr y Caisar yn dda nad oes obaith iddo byth allu glanio byddin digom cref i ddal ei thir yn hir yn erbyn y Milwyr Cartrefol yn y wlad hon. Gwyr hefyd pe y Ilwyddai byddin o 10,000, neu 20,000, neu 100,000 o Grermaniaid yn y wlad hon, y lleddid neu y carcherid bob- oopa ohonynt cyn pen nemawr ddyddiau. Ond nid yw'r Caisar yn cyfrif bywydau can' mil o'i wyr ond megys llai na dim ac na gwagedd os rwy eu haberthu hwynt y medrai ein drygu ni. Ac nid peth anmhosibl a, fyddai glanio byddin gref ar draethau dwyrain Lioegr, nac i hono ar ol glanio wneyd difrod a gal anas mawr. Cofier mai oenedl wedi ynfydu mewn cynddaredd. yw'r Grerman- iaid militaraidd heddyw; ac fel bwystfil rheibus pan y'i oornalir, yn barod i ruthro yn ei ynfydrwydd gwallgof i unrhyw a phob rhyw berygl. Gallai'r Germianiaid gasglu byddini o ddeng mil neu ugain mil neu o boeibl ychwaneg na hyny, a'u trefnu mewn llongau yn barod i hwylio ar funyd o rybudd. Gallai'r clud-lynges hyny wylio am gyfle i ruthro ar draws y mor hyd draethau LloegT cyn y medrai Llynges Prydain eu daj na'u rhwysfcro. Yn lie cyfeirio am borthladd a dadlwytho'r fyddin ar y oei, yr hyn a gymerai amser, gallai'r llongau redeg ar y traeth-fel y gwnaeth ein llongau ni yn y Dardanels. Gallai byddin felly gyraedd y tir, ac ym- fyddino at frwydr cyn y gellid eu dal ar y m6r na chael byddin i'w herbyn ar y tir. Wedi glanio ac ymfyddino gallai wneyd' difrod ofnadwy yn nhrefi Lioegr cyn cael ei threchu. Wrth gwrs golygai glanwd felly golli pob llong a phob milwr a gymerai ran yn y rhuthr. Eithr ni rwystrai hyny y Caisar i orchymyn y rhuthr na'r Fyddin Germanaidd i ufuddhau. Y BRWYDRO AR Y CYFANDIR. Ychydig o hanes newydd a gafwyd o'r Cyfandir yr wythnos ddiweddaf. Mae brwydro mawr a pharhaus yn cymeryd lie, a bywydau lawer yn cael eu colli. Cyfrifir collodion Prydain ar hyd mis Gorphenaf yn ddwy fil bob dydd neu 60,000 yn y mis. Colled drom,—ac eto colled yagafn, ac ysgafn iawn pan ystyrir amgylchiadau y brwydro fel y'i deegrifiwyd mewn ysgrifau blaenorol. Tuedd sydd mewn rha. i feio mai ychydig- o dir a enillir genym. Da fyddai i'r