Collection Title: Llan

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
4 articles on this page
CWRS Y RHYFEL

beirniaid gofio yr hen ddihareb Gymreig, "Yn araf deg yr eir ymhell." Dyna sydd yn esponio y dyspeddio y yr ymosodiadau ar lanau'r Somme. Wedi enill ohonom ddarn o dir yr ydys yn diogelu hwnw fel na fedr y gelyn ei gymeryd yn ol cyn ceisio ohonom symud ymlaen. Canys mae Bawer o waith i Fyddin fo'n ymosod, heblaw ymladd. Cymerer un engraifft syml. Am bob milltir o ffrynt sydd genym ar y Somme ceir dros 600 milltir o wifrau telegraff a teliffon yn cysylltu yr adran hono a phencadlys y Fyddin tu ol iddi. Dywedir am y bwldog Prydeinig un- waith y caiff ei ddanedd yngwddf ei elyn na ollynga mo'i afaeL tra'r erya anadl yn ei ffroenau. Gellir ei dori yn ddarnau— ond deil ei afael, a sudda ei ddanedd ddyfnach ddyfnach ynghorff ei elyn nes ei ladd. A dyna mae Byddin Prydain yn wneyd a'r Germaniaid yn Ffrainc heddyw. Mae ei ddanedd yngwddf Byddin Ger- mani, ac ni ollynga ei gafael mwyach doed a ddelo! Yn y eyfamser mae'r Ffrancod yn Verdun yn adenill o ddydd i ddydd y tir a enittwyd gan y Germaniaid v chwe' mis diweddaf; tra Rwsia hithau yn adenill y tir a gymerodd i'r Germaniaid flwyddyn i'w enill a'i gryfhau ag amddiffynfeydd. DYDD GWENER, Awst 4. YMOSODIAD AWYRAWL ARALL. Yn gynar foreu Iau, ymwelodd chwech o awyrlongau Germanaidd, am y drydedd waith yr wythnos hon, a. birocdd dcheuol A Lloegr ac ar lanau y mor, gaii ollwng 80 o dan-belenau. Yr unig goHedion a achoe- wyd ganddynt ydoedd lladd naw o geffylau a chlwyfo tri arall. Saethwyd atynt gan fagnelau o'r tir, ac anmharwyd un o honynt yn drwm. DIENYDDIAD TEYRNFRADWR. Boreu ddoe, cariwyd allan y ddedfryd ar- Roger David Casement drwy ei ddi enyddio yn ngharchar Pentonville. Yn gynar yn y boreu yr oedd tyrfa fawr wedi ymgasglu yn nghyffiniau y carchardy, a phan ddeallwyd fod y ddedfryd wedi ei chario allan am naw o'r gloch, dyrchafwyd bloedd o gymeradwyaeth. Y geiriau olaf lefarwyd gan Casement cyn ei ddienyddiad oeddynt: "Yr wyf yn marw dros fy ngwlad." YMOSODIAD NWYOL GAN Y GERMANIAID. Nos Fercher, Awst 2, ymosododd y Germaniaid gyda nwyon ar y Rwsiaid yn nghyffiniau Smorgon, a gollyngwyd nwy bob awr hyd chwech o'r gloch foreu Iau. Yn ffodus, darganfyddodd y Rwsiaid y oolofnau trwehus o nwy mewn pryd, ac yn ebrwydd taniwyd ar yr ymosodwyr gyda P^yltyam a fplhe^rianau mothu, gan beri oolledion alaethus i'r Germaniaid. Mor effeithiol vdoedd ergydion y Rwsiaid fel y gorfodwyd y Germaniaid i ffoi. ADRODDIAD Y CADFRIDOG HAIG. Oddiwrth adroddiad a dderbyniwyd oddiwrth y Cadfridog Haig, da genym weled fod y Prydeiniaid, nid yn unig yn dal eu tir, ond yn eadarnhau eu safleoedd ar hyd y ffrynt o Maltz Horn i Longueval, ac hefyd yn nghoedwigoedd Mametz, Fri- court, a Becourt, a hefyd yn mhentref Pozieres. I'r gogledd o Bazentin le Petit, enillodd ein milwyr beth tir. Ymosododd y Germaniaid yn ffyrnig aniynt,, ond ni ddarfu iddynt beri unrhyw niwed. Ar lanau y Meuse bu y Ffrancod hefyd yn llwyddianus iawn, ac oddiar Awst laf, cymerasant 1750 o garcharorion. SIOMEDIGAETH Y GERMANIAID. Ar ol dwy flynedd o ymffrost celwyddog, mae yr awdurdodau Germanaidd yn dechreu dyfod J sylweddoli na allant ym- ffrostio mwy, gan fod eu holl ddadwrdd yn ofer. Nid oes cenedl ar wyneb daear wedi taenu mwy o gam-adroddiadau na'r Ger- maniaid, a thair gwaith yn ystod yr wyth- nos hon cyhoeddasant fod eu hawyrlongau wedi dinystrio rhan fawr o Lundain! DYDD SADWRN. YMLADD CALED YN FLEURY. Mae ymladd caled yn myned ymlaen yn Fleury oddiar ei hadfeddianiad gan y Ffrancod ddydd Iau. Ymosodwyd gyda ffyrnigrwydd gan y Germaniaid, ond ar ol llawer o geisiadau aflwyddianus llwydd- asant i gymeryd meddiant, o'r pentref ddydd Gwener, ond gyrwyd hwy allan gan y Ffrancod yn ddiweddarach. Bu ymladd ffyrnig hefyd yn Thiaumont, yn yr un gymydogaeth. Ymosodwyd ar y aafle gan y Ffrancod, a syrthiodd i'w dwylaw un waith, ond gymaint ydoedd grym y tin-beleniad Germanaidd, fel y penderfynodd y Ffrancod ei adael. Yn ddiweddarach. pa fodd bynag, dechreuodd y Ffrancod ail ymosod, a llwyddasant i feddiantr v lie eilwaith. Mae enillion di- weddar y Ffrancod yn Verdun yn obeithio] iawn, a.'r Ffrancod yn benderfynol a brwdfrydig, tra y mae y Germaniaid yn ddigalon ar lanau y Meuse a'r Somme. ENILLION PRYDEINIG. Llwyddodd y Prydeiniaid i enill tir i'r gorllewin o Pozieres, gan gymeryd cant yn garcharorion yno, a nifer ychwanegol i'r gogledd o Bazentin-le-Petit a Choedwig Delville. Tawel, ar y cyfan, yw pethau ymhlith y Prydeiniaid a'r Ffrancod ar y ffrynt. AdrodcLa Syr Douglas Haig fod brwydr awyrawl yr hon barhaodd am dri ohwarter awr, wedi cymeryd lie rhwng saith o awyrlongau Germanaidd a phedair o rai Prydeinig. Llwyddwyd i daro tair o'r awyrlongau Geormanaidd i lawr, ac y mae dwy o'n hawyrlongau ni ar goll. LLWYDDIANT Y RWSIAID. Gerllaw Kovel, mae y Rwsiaid wedi sicrhau llwyddiant arall drwy groeai yr afon Stavok, cangen o'r Stokod. Cymer- odd brwydro caled le am feddianiad pen- tref, a newidiodd ddwylaw lawer gwaith, ond y diwedd fu i'r Rwsiaid ei meddianu. Cymerwyd deuddeg o beirianau saethu, a syrthiodd 600 o Germaniaid i ddwylaw y Rwsiaid. CYNORTHWY YCHWANEGOL 1'H CYNGHREIRIAID. Hysbysir fod Portugal wedi penderfynu cynorthwyo y Cynghreiriaid gyda'r rhyfel, ond nid yw yn wybyddus pa un ai yn y de neu y gorllewin y byddant yn yniladct. °- COLLEDION GERMANAIDD AC AWSTRIAIDD. Hysbysir fod oolledion y Germaniaid a'r Awstriaid oddiar Mehefin 4ydd, pan wnaed yr ymosodiad gan y Rwsiaid ar y ffrynt oHL'ewijioU iyn ddi+m llai na thri chwarter miliwn, sef carcharorion, 380,000; wedi eu lladd neu eu clwyfo, 370,000. Gellir cyfrif chwe' can' mil o'r uchod fel yn golledion llwyr. Yn ychwan- egol, collasant chwe' chant o fagnelau a 1500 o beirianau staethu. Nid yw y colled- ion uchod yn cynwys yr hyn gollwyd ar y ffrynt Italaidd. DYDD LLUN. BRWYDR FAWR YN YR AIPHT. Nos Iau, ymosododd 14,000 o Dyrciaid ar safle y Prydeiniaid yn Romani, deunaw milldir o Port Said, ar hyd ffrynt o saith i wyth milldir. Parhawyd yr ymladd ar hyd ddydd Gwener a dydd Sadwrn, ac nid oedd wedi ei therfynu pan dderbyniwyd yr adroddiad oddiwrth Syr A. Murray, prif lywydd y fyddin Brydeinig yn yr Aipht. Mae pob lie i gredu fod y Tyrciaid wedi deafbyn colUedion trymion. Gan fod ieu hymosodiad ar y ffrynt wedi methu, rhodd- asant eu holl nerth ar yr aden ddeheuol. Ciliodd ein meirchfilwyr hyd nes yr oedd y Tyrciaid mewn trafferthion yn y tywod, ac yna ymosodwyd arnynt, gan gymeryd 2500 o honynt yn garcharorion erbyn wyth o'r gloch nos Sadwrn. Erbyn hyn yr oedd y Tyrciaid yn ffoi ymhob cyfeiriad, a'r Prydeiniaid yn eu dilyn. Ymhlith y carcharorion yr oedd nifer o Germaniaid. Dyma yr ail ymosoditkl a wnaed yn yr Aipht a Chamlas Suez, y cyntaf yn mis Chwefror, 1915, pan yr ymosodwyd gan rhyw 30,000 o Dyrciaid, ac y collasant bedair mil o ddynion. Y BRWYDRO AR Y SOMME. Adrodda Syr Douglas Haig am yr ym- osodiad llwyddianus ar ail lmell y gelyn i'r gogledd a'r gorllewin o Pozieres. Gwthiwyd ein llinell ymlaen o 400 i 500 o latheni ar ffrynt o dair mil o latheni mewn dau ddiwrnod. MEDDIANIAD CHWECH 0 BEN- TREFI GAN Y RWSIAID. Newyddion o Petro-grad a fynegant fod brwydro caled wedi bod i'r de o Brody. Ymosodai y Gern-ianiaid a'r Awstriaid yn ffyrnig, ond cyfarfyddwyd hwy yn eofn a phenderfynol gan y Rwsiaid, y rhai ym- laddasant yn yr heolydd, ac a orfodasant y Gormaiiiaid i ymadael o bob* t £ He yr oeddynt yn ymguddio yn y selcrvdd. Cymerodd y Rwsiaid feddiant o'r pen- ti-efi canlynol:—Zvyjin, Ratische, Tchis- topaty, Guidova, Mendzigurv. a Xoia olio Cymerodd y Rwsiaid 95 o sw ddooio-ii a y r, thros dair mil o filwyr cyffrecNn yn gar- charorion. Newyddion diweddavaeli a fynegant fod nifer y carcharorion yn cyr- aedd yn agos i chwe' mil. DYDD MA WRTH. LLWYDDIANT YR ITALIAID. Hysbysir fod y Cadfridog Cadorna wedi dechreu ar ymosodiad penderfynol ar ffrynt yr Isonzo. Ymosodwyd ar safleoedd nerthol perthynol i'r Awstriaid, a chymer- wyd lluaws o ffosydd, a bron yr oil o Fryn 85 yn rhanbarth Monfalcone, a chadwyd yr hyn enillwyd er gwaethaf ym- osodiadau celyd y gelyn. Yn ystod y dydd, cymerwyd 3600 o Awstriaid yn gar- charorion. METHIANT YSTRYWIAU Y GER- MANIAID. Mae y Germaniaid mor awyddus i yru y Prydeiniaid o Fryn 160, y man uchelaf ar y mynydd ger Bapaumei, fel y gwnaethant luaws o ymosodiadau nerthol yn erbyn ein safleoedd newydd gerllaw Pozieres, ond bu y cwbl yn ofer. Dechreuasant ar y gwaith o.ymosod ar ein llinellau ddwy waith am bedwar o'r gloch y boreu, a dau ymosodiad dracliefn am 8.50k a chymerodd y pumed ymosodiad le am bump o'r gloch y pryd- nawn. Canlyniad hyn ydoedd fod y Pry- deiniaid wedi bod yn alluog i ddal y tir a enillapant ddiwedd yr wythnos yn ddi- ogel. Tra yr oedd ein milwyr yn gwneyd hyn, darfu i'r Ffrancod enill llinell o ffosydd Germana-idd rhwng Coedwig Hem a'r Somme, gan gymeryd 120 o garchar- orion, a moodianu dego o beirianau saethu. YR ORUCHAFIAETH YN YR AIPHT. Ymddongys fod yr oruchafiaeth i'r dwyrain o Gamlas Suez yn llawer mwy nag y cyhoeddwyd ar y cyntaf. Brysneges a dderbyniwyd brydnawn Llun oddiwrth Syr Archibald Murray a fynegai fod 3145 o garcharorion dianaf, yn cynwys 45 o swyddogion, wedi eu cymeryd. Erlidiwyd y g6lyn am ddounaw milldir, ac y mae yn ddigon pell oddiwrth y fyddin Brydeinig 0 ocbyn hyn. YMDAITH Y RWSIAID. Mae y Rwsiaid yn ymdaith yn llwydd- ianus yn nghyfeiriad Lemberg, a disgwylir clywcd am fuddugoliaeth ogoneddus cyn diwedd yr wythnos. DYDD MEECHER. YNI Y RWSIAID. Enillodd y Cadfridog Letchitsky, yr hwn a lywydda yr aden ddeheuol dan y Cadfridog Brusiloff, fuddugoliaeth ar- dderchog, ger Stanislau, gan dori 16 milldir o ffrynt y gelyn rfciwng Tlumacz a Ottynia, a meddianu yr uchelderau mor bell a llinell; y rheilffordd o Kolomea i Stanislau. Erlidiwyd ar 01 y gelyn gan feirchfilwyr, a llwyddwyd ar ol y gelyn gan feirchfilwyr, a llwyddwyd i gymeryd dwy fit o garcharorion gan un gatrawd yn unig. Gwnaed defnydd hel- aeth o dan-belenau nwyol gan y Rwsiaid. Rhwng Awst 4ydd a'r 6ed, cymerwyd 8500 o Germaniaid ac Awstriaid yn gar- charorion yn y rhanbarth hwn. Y CADFRIDOG JOFFRE YN OBEITHIOL. Mae. y Cadfridog Joffre wedi datgan ei farn bendant fod y gelyn yn diffygio, ac fod gobeithion cryf y llwyr orthrechir ef yn fuan. Cariwyd allan fudiad llwydd- ianus gan y Prydeiniaid a'r Ffrancod i'r gogledd o'r Somme, ac y maent yn debyg o gymeryd Guillemont a Hardecourt. Bu y tair ymgais gyntaf yn aflwyddianus, ond y bedwaredd waith llwyddodd y Germaniaid i feddianu 50 Hath o un o'n ffosydd. YR AIPHT. Adroddir fod Syr Archibald Murray a'i filwyr yn parhau i erlyn y Tyrciaid yn yr Aipht, a bod 200 o Dyrciaid meirwon wedi eu claddu ar ol yr ysgarmeg ddiweddaf.

Llythyr Oddiwrth Filwr o Tregaron

Llythyr Oddiwrth Filwr o Tregaron. S.W. Borderers. Yr Hospital, Sniggery Camp, Hightown, Liverpool, Awst 2il, 1916. ANWYL OLYGYDD,—Mae ychydig ham- dden genyf heno, ac ar hyn o bryd tawelwch i ysgrifenu tipyn. Yr oedd yn dda genyf weled tipyn o hanes Tregaron yn y LLAN yr wythnos ddiweddaf, ac y mae yn dda cael darllen llithoedd blasus 'Morfa' a'r ffyddloniaid eraill bob wyth- nos. Yr ydym yn cael tywydd rhyfeddol yma 'nawr er's tro, hytrach rhy deg yw hi gyda'r bechgyn sydd yn cael y 'train- ing,' ond mae yn newid da ar ol. y tywydd cymysglyd gawsom ychydig wythnosau yn ol, ac ar ol dybenu gwaith y dydd mae amser ganddynt i fwynhau eu hunain ar lan y mor, a myned oddiamgylch i weled y golygfeydd, pa rai sydd gymaint i'w cael y ffordd yma. Nos Sul diweddaf bu'm yn talu ym- weliad a'r Parch. R. D. Hughes, ficer Eglwys Dewi Sant, Lerpwl, yr hwn sydd wedi ei benodi i ficeriaeth Derwen yn ddi- weddar. Mae yn ymadael o Lerpwl yr wythnos hon, a bydd yn dechreu ar ei waith fel ficer Derwen y Sul nesaf. Fy nymuniad o galon yw y caiff iechyd a phob bendith gan y Meistr Mawr yn ei faes newydd. Ces y pleser o. gael cymeryd rhan yn y gwasanaeth Cymraeg, a plilieser nid bychan oedd i mi ar ol cymaint o Saes- neg. Cefais wrando ar y ficer yn traddodi pregeth ardderchog hefyd gyda'i hyawdl- edd arferol. Gwnaeth rai sylwadau pwr- pasol iawn yn nghwrs ei bregeth parthed 01 ymadawiad o blith y rhai y bu yn gwasanaethu iddynt er's blynyddau bellach, a dymunai arnynt roddi pob croesaw i'w olynydd, gan weddio a dal ei freichiau i fyny wrth waith y Duw jnawr. Gallwn weled fod y gynulleidfa yn t; in> !o i'r byw ei eiriau o gyngor, ac yn teimlo hiraeth wrth feddwl ei fod yn ymadael o'u plifch, ond unent a'u gilydd i ddymuno pob lwc iddo yn ei faes newydd. Dylaswn fod wedi dweyd hefyd i mi fod yn talu ymweliad ag ef ar y Sul er's rhyw bythefnos yn ol, a mawr oedd fy llawen- ydd y pryd hyny o gwrddyd a'i dad yno, sef Mr. Thomas Hughes, ysgrifenydd ffyddlawn yr S.P.C.K. yn Eglwys Sant Caron, Tregaron, er's blynyddau bellach. Daotli lan i Lerpwl i dreulio ychydig wyliau ar ddydd ei 83 mlwydd o ocdran, er's rhyw dair wythnos yn ol. Anhawdd iawn oedd genyf gredu ei fod mor oed- ranus. Edrychai i mi fel crwt ifanc, ac mor sionc r.g y gwelais ef erioed. Cawsom scwrs yn iawn ar hanes hen fangre fy mebyd, a pliasiodd yr amser heibio yn g-yflym yn ei gwmni. Cefais y pleoer y ly noswaith hyny o'i glywed yn darllen y llithoedd yn Eglwys Dewi Sant, a rhag- orol yr aeth drwyddynt hefyd. Er i mi ei glywed yn darllen laweroedd o wcithiau yn Eglwys Trcgaron, nid wyf yn credu i .mi ei glywed yn well erioed; wn i ddim, efallai mai fi oedd yn teimlo felly am ei fod yn dod o Drcgaron, ond yr oedd y gynulleidfa wedi mwynhau ei ddarlleniad i gyd. Yr oedd wedi ymadael am Llun- dain cyn i mi gaol y siawns o'i gyfarfod wecl'yn, ond yr wyf yn gobeithio cael ei gyfarfod yn Nhregaron. cyn diwedd y mis yma, a chael tipyn o hanes ei daith, a, r amser gafodd yn y Brifddinas. Fy nghofion goreu ato. Byddwch yn falch clywed fod fy mrawd wedi cael cynyg, ac wedi derbyn bywol- iaeth Bylchau, ger Dinbych. Yr ydwyf yn meddwl talu ymweliad ag ef ddiwedd yr wythnos hon. Rhaid i mi beidio ymhelaethu; gwelaf eich bod yn erfyn ar eich gohebwyr i fod yn fyr, gan fod y gofod yn pallu. Efallai y deuaf hcibio i chwi tua haner y mis yma, os byddaf yn ffodus cael ychydig wyliau.—Fy nghofioji goreu atoch, yr eiddoch, GWILYM REES (Un o'r Gorlan).

At garedigion yr iaith yn gyffredinol ac at Gymry Dyfed yn arbenig

At garedigion yr iaith yn gyffredinol, ac at Gymry Dyfed yn arbenig Cynhelir cyfarfod dan nawdd Undeb y Cymdeithasau Cymraeg yn Neuadd Coleg y Brif Ysgol, Aberystwyth, a,r fore'r cadeirio (Iau, Awst 17, 1916) am 11 o'r gloch. I adran Dyfed-siroedd Caer Fyrddin, Penfro a Cheredigion-y trefnir y cwrdd yn fwyaf neilltuol, ond bydd croeso calon i gyfeillion o bob man. Llywyddir gan Mr. E. T. John, A.S. (Llywydd yr Undeb); anerchir y cyfarfod gan Mr. Dan. Jenkins, C.M., Ysgol Llan- crwys, a'r Parch. J. Jenkins, M.A. ('Gwili'); a swyddogion yr Undeb. Y Gymraeg yn siroedd Dyfed fydd pwnc y cyfarfod. Bwriedir sefydlu Cymdeithas Gymraeg ymhob tref a phentref yn yr Adran; a cheisir egnio ymdrechion aelwyd, eglwys, ac ysgol ar ran yr hen iaith. Mae'r mudiad yn un pwysig drwy'r holl wlad, am fod bywyd yr iaith yn golygu bywyd a pharhad pethau goreu Cymru. Mae'n bwysicach fyth yn Adran Dyfed am fod cynifer o blant y siroedd gwledig yn mudo i barthau gweithfaol Morganwg. Dymunol iawn fyddai ennyn serch ynddynt oil at elfennau puraf bywyd ein oenedl, feI na phallont yn eu ffyddlondeb iddi mewn ardaloedd newyddion. Taer erfynir felly am bresenoldeb pob Cymro neu Gymraes a drigo mewn tref neu bentref yn Nyfed sydd heb Gymdeithas Gymraeg ynddynt. A doed y Cymrodyr hefyd yn gryno i roddi a derbyn ysbrydiaeth. Hyderwn yn fawr y ceir eich cwmni a'ch cymorth. Mae'r maes yn llawn addewid; doed lliawa o weithwyr i feddiannu'r cynhaeaf. Dros yr Adran, J. DYFNALLT OWEN, Caer Fyrddin, Cadeirydd. JOHN HUGHES, Aber Gwaun, Ysgrifennydd. Awst 4, 1916.

Mae yn yr Awyr

Mae yn yr Awyr. Siarada Pobl Llangybi am dano. Fel y mae yn Llanbedr, felly hefyd y mae yn Llangybi. Mae yn yr awyr. Nis gellir ei atal i ledaenu. Nis gellir atal pobl rhag siarad. Nis gellir cuddio newyddion da. Mae pobl na wyddant ddim am dano yn cael clywed am ei rinweddau drwy brofiad eu cymydogion. Mae peth o'r fath yn gynorthwyol iawn. Darllenwch drosoch eich hunain. Mr. J. Hughes, "The Cottage," Derry Ormond, Llangybi, a ddywed :Ga.n fy mod yn gweithio allan ar bob math o dywydd, mae yn anhawdd iawn ar adegau i gadw yn rhydd oddiwrth anhwylderau yr elwlenoo. Yr wyf wedi bod yn di- oddef oddiwrth boenau Ilym ac ymsaethol ar draws fy nghefn, a'r ciydcylnalau yn fy ysgwyddau. Poenwyd fi hefyd gan gur yn y pen ac ymosodiadau o syfrdandod yn borl vn mai^' 3-0 y y dwfr wedi Jy mhoem ac allan o drefn Pa fodd bynag, ar ol defnyddio rhai o Doan's backache kidney pills teimlwn yn M'awer gwell ymhob ffordd, a chyn hir daethum yn holl-iach. Gallwn ymsythu ar ol plygu, a theimlaf fy mod wedi cael gwaredigaeth Iwyr. Gallaf gymeradwyo peleni Doan i symud anhwylderau yr elwlenod, gan fy mod wedi profi eu gwerth (Arwyddwyd) JOHN HUGHES." Peidiwch esgeuluso eich elwlenod os canfyddwch unrhyw arwyddion digam syniol o anhwylder yn yr elwlenod a.'r ys- wigen, megis llygaid chwyddedig chwvdd- ladau dyfrol yn y fferoedd a'r aelodau an- hwylderau dyfrol, grafel, crydcymllau cefn poenus, poenau yn v j^au ochrau, anesmwythyd, cryndod iselder ysbryd, theimIad bIineig parhus. Bydd Doan s backache kidney PiUs eich cynorthwyo drwy glirio allln y -tu ant am Doan's backache kidney nifla yr un fath rai ag a gafodd Mr. TTuglies.