Collection Title: Llan

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
5 articles on this page
CWRS Y RHYFELI

DYDD GWENER, Medi 29. Y BRWYDRO AR Y SOMME. Mae y milwyr Prydeinig yn parhau i gymeryd safleoedd y gelyn yn nghyfeiriad Papaume. Nos Ferch.etr, symudodd ein llinella* ymlaen ar lawer pwynt, yn en- wedig yn nghyfeiriad Eaucourt l' Abbaye, yr hwn sydd o fewn tair milldir i Bapaume, ac erbyn boreu lau yr oedd ein milwyr o fewn 800 o latheni i'r pentref. Nid oedd ein colledion ond ysgafn. Y FFRYNT RWSIAIDD. Dywed yr adroddiad swyddogol o Petro- grad fod y gelyn wedi arddangos, gwrth- wynebiad cyndyn yn nghyffiniau Kovel a liembexg. Mynega hysbysiad o Berlin fod safleoedd a feddianwyd gan y Rwsiaid wyfehnoe yn ol wedi eu cymeryd gan y Germaniaid eto, a'u bod wedi dal 2971 o garcharorion. Y SERBIAID A'R BWLGARIAID. Derbyniwyd manylion am y hrwydro rhwng y galluoedd uchod i feddianu Kajmackalan, yr allwedd i Monastir. Ymddengys i'r Bwlgariaid ddwyn adgyf- nerthion o ffrynfr Doiran, a llwyddasant i fyned i ffosydd y Hinell gyntaf, lIe y eymerodd ymladd law-yn-llaw ffyrnig Ie. Yn y diwedd llwyddodd y Serbiaid i gadw meddiant o'r prif safleoedd. Collodd y ddwy ochr yn drwm. Parheir y bi •. GROEG. Nid oes pan yr ydym yn ysgrifenu un- rhyw hysbysrwydd swyddogol wedi cyraedd fod y Groegiaid yn bwriadu ymuno a'r Cynghreiriaid. DYDD SADWRN. BRWYDR FAWR GERLLAW THIEPVAL. Enillwyd amryw safleoedd oddiar y gelyn ar ffrynt y Somme ddydd Gwener, ac yn eu plith ffermdy amddiffynol o fewn 500 o latheni i'r de-oorllewin o bentref Le Sars, yr hwn saif o fewn milldir a haner i'r gogledd o Martinpuich, ac ar y ffordd i Bapaume. Bu brwydro caled ar bont Thiepval, pryd y newidiodd ffos ber- chenogaeth dair gwaith, ac enillwyd hi yn derfynol gan y milwyr Prydeinig. Yn ystod 24 o oriau, cymerasom 529 o gar- oharorion yn y rhanbarth hwn. Digwydd- odd ffrwydrad ofnadwy i'r dwyrain o Bapaume yn ol tystiolaeth ein hawyren- wyr. Credir mai dinystriad gweithfeydd pylor ydoedd. Ymddyrchafai y mwg i uchder o naw mil o droedfeddi, ond nid oes unrhyw fanylion wedi cyraedd eto. Adroddir fod y Ffranood wedi gwneyd cynydd da. yn y rhanbarth rhwng Fregi- court a Morval. Mae llineil y Cynghseir- iaid wedi gwthio ymlaen ymhell tuhwnt i Oombles, yn nghyfeiriad Sailly, ar y brif- ffordd rhwng Bethune a Peronne, ac y mae rhai milldiroedd o'r ffordd eisoes yn meddiant y Ffrancod. Y GERMANIAID YN DIFFYGIO. Dywed swyddog profiadol perthynol i'r Ffranood fod y Germaniaid wedi blino, ac mai a-nfynych y ceir gwrth-ymosodiadau ganddynt. Yn y gorphenol, pan ymosodid arnynt, ac y collent dir, eu hoff waith yd oedd gwneyd gwrth-ymooodiadau ffyrnig. ond yn ystod y dyddiau diweddaf maoe, hyn oil wedi ei newid, gan na feiddiasant ym- oeod ar ol colli safleoedd pwysig. Dengys hyn eu bod wedi tori eu calonaul ac wedi eolli eu hawydd i ymladd. DEWRDER Y SERBIAID. Ar uchelderau Kajmackalan, yr hwn a lail ar ffordd yn ymdaith i gonastir, daliodd y Serbiaid yn ddewr y mynyoh ymosodiadau a wnaed arnynt. Nos Iau, ymdredhodd y Bwlgariaid bedair gwaith i orchfygu y Serbiaid, ond bob tro gorfod- wyd iddynt encilio i'w ffosydd gyda choll- edion trymion. Mae rhai brwydrau wedi cymeryd lle ar ffrynt y Prydeinwyr ar y ina. DYDD LLUN. I Y BRWYDRO AR Y SOMME. Cymetrodd brwydro caled Ie ddiwedd yr irythnos yn adran Thiepval ar y ffrynt Prydeinig, lIe y cymerasom 167 o garchar- erion. Ychwanegwyd a4; ein henillion ar tawyntiau ereill y llinell, er i dywydd gaxw rwysfcro y gweithrediadau ar linellan y rydeiniaid a'r Ffrancod. Yn ol hysbys- rwydd sydd we-di cyraedd, disgwylir brwydro ffyrnig ar fyrdeir, ac y mae y Oynghreiriaid yn parotoi ar gyfer y I gwaefchaf. Gwneir defnydd helaeth o'r magnelau ganddynt y dyddiau hyn fel ag i rwyddhau y ffordd iddynt ro-byn yr ym- ••odiadaCu. LLWYDDIANT Y RWSIAID. Snillodd y Rwsiaid amryw safleoedd I pWJsig ynfjldiweddar, yr hyn fydd o fan- I tais iddynt yn eu hymdrech i gyraedd a meddianu Lemberg. Yn mhellach i'r de, ar lanau y Zlota Lipa, ymosodasant ar y Geirmaniaid a'r Awstriaid, gan gymeryd I i397 o garcharorion. Y FFRYNT ROUMANAIDD. I Newyddion o Berlin a hy^bysant fod v Germaniaid yn ymosod ar, v "Poumaniaid dan arweiniad y Cadfridog Falkenhayn a ddiswyddwyd ychydig amser yn ol Hawlir I fod encili^d y Roilmaniaid wedi ei atal yn I Mwlch Rothem Thurm. a bod o^veddilHon y fyddin, ar ol y gorthrediiad, wedi ffoi i'r mynyddoedd. Oddiwrth adroddiad.y Roumaniaid, deallwn eu bod, ar ol brwydro am dri diwrnod, wedi encilio i'r de. AR Y BALKANS. Mae ymdrechfa galed yn myncd ymlaen ar y Struma, lIe y cymetrodd y milwyr garaidd ar ol ymladd caled. Cymearasom gant o garcharorion dirymwyd chwech o ymosodiadau Bwlgaraidd. YMOSODIADAU AWYRAWL. Adroddiad a gyhoeddwyd am 12.45 fotreu Llun, a hysbysa fod nifeir o awyrlongau y gelyn wedi croesi glanau dwyreiniol Lloegr rhwng naw a deuddeg o'r gloch nos Sul. Gollyngwyd rhai tan-belonau, ond nid yw y canlyniadau yn wybyddus eto. Ymwela,sant hefyd a Llundain, a dywedir fod y magnelau yno wedi bod yn foddion i ddwyn un o'r awyrlongau i'r ddaoar mewn fflamau. DYDD MAWRTH. AR Y SIOMME. Adroddir am Iwyddiant y Cynghreir- iaid ddydd Llun mewn amryw fanau ar y Somme. Ymosodwyd gan y Germaniaid ar y llinell a enillasom yn Eaucourt, ond gorfodwyd hwy i ffoi ar unwaith. Ar y ffrynt Ffrengig, cymerwyd ffos German- aidd a rhai caroharorion i'r de o Bou- chaveenes. Ar y Haw arall, mynega yr ad- roddiadau Cvermanaidd fod ymladd caled wedi cymeryd lie ar ffrynt o ddeuddeg milldir rhwng Thiepval a Rancourt, a bod ymosodiadau y Prydeinwyr a'r Ffranood wedi eu dirymu lawer waith. Gwyddis yn dda am ddull y Cxemaniaid o osgoi y gwir. • Y BALKANS. Brysneges swyddogol o Berlin a ddywed 9 90 fod y Roumaniaid wedi enill safle ar lanau y Danube i'r de o Bucarest. O'r pwynt hwn, gallant ymosod ar fyddin Mackensen yn y Dobrudja, ond mae yn amheus a, oes ganddynt ddigon o alluoedd i anturio ar y cwrs hwnw yn llwyddianus. Y SERBIAID. Mae y Serbiaid wedi anelu dyrnod newydd ar y gelyn yn Kajmackelan, ac wedi meddianu safle gadarn filldir a haner i'r gogledd-ddwyrain. Y FFRYNT RWSIAIDD. Parheir y brwydro caled yn Galicia, yn fwyaf neillduol ar y Naraiowka a'r ZIota Lipa, yn rhanbarth Ilaliez. Cymerwyd 1600 o garcharorion ychwanegol yma gan y Rwsiaid. Hawlia, y Germaniaid en bod hwy wedi cymeryd 1700 o garcharorion. Hysbysir fod y Rwsiaid rhwng Modi 19eg a Medi 28ain wedi cymeryd 2609 o gat- charorion yn iighoedwigoedd oy Carpath- ians. YR YMOSODIADAU AWYRAWL. Er fod deg o Zeppelins y Germaniaid wedi ymweled a, rhanau o Loegr nos Sul, ychydig niwed achoswyd ganddynt, ond lladdwyd un dyn ac un wraig. Yr oedd y Zeppelin y IJwyddwyd i'w chael i lawr yn Llundain, fel yr adroddwyd uchod, yn un o'r rhai goreu a feddai y Germaniaid. DYDD MERCHER. YR YMLADD AR Y SOMME. Yn ol y genadwri a dderbyniwyd oddi- wrth Syr Douglas Haig, mae y sefyllfa. ym dawel ar y Somme, ond dywed adroddiad Gormanaidd fod y magnelau yn brysur iawn. Miae pentrefi I Oars a Le TranMoy o fown ein cyraedd. a theimlir ein heffaith yn Bapaune yn ddioed. Meddianwyd un o safleoedd y Germaniaid ar ffrynt Somme, ynghyd a 120 o garcharorion. YMLADD YN LCMBERG. Parheir i ymladd yn galed ar ffrynt Lem- berg, ac er nad yw y brwydro wedi terfynu yr oedd y Rwsiaid yn alluog i adrodd fod mil arall o garcharorion vedi eu cymeryd, yn gwneyd cyfanrif o bum' mil mewn hi diwrnod. Yn ol hysbysrwydd a dderbyn- iwyd o Berlin, mae yrwosodiad cyffredinol wedi ei wneyd gan y Rwsiaid i'r gorllewin o Lutsk. Bu collodion trymion o bob tu, ond prim y credwn fod ymffrost y German- iaid yn wir—iddpit gymeryd 2619 o gar- charorion.

DEONIAETH Y RHOS

DEONIAETH Y RHOS. Y GENHADABTH GE>TEDLAETHOL.—Oyf- arfu cleTigwyr y Ddeoniaeth lion a rhai Deoniaoth Llanrwst drwy ddydd Mawrth, Medi 26ain, mown diwrnod tawel. o dan arweiniad Deon Roberts, Bangor. Yr oedd tuag wyth ar hugain wedi dod ynghyd. Deehreuw}^d trwy weinyddiad o'r Cymun Sanctaidd am wyth, a chafwyd saith o was an act haii ynghorph y dydd. Mae diwrnod feI hyn yn rhy ddifrifol o ran ei natur i ysrifenu am dano i newyddiadur. Gobeithio fod yr oil oedd yn bresenol wedi ymirecliu manteisio yn ysprydol as y fa.th ddydd. ST. GEORGE --Dyma fel yr adnabyddir y plwyf hwn, ac nid ydym yn meddwl nad ydvw yn well na 'Llan^a.nsior' glywir no ar birydiau, 'gwell' am ei fod yn fwy cyd- nabvddus. Hen enw y plwyf ydyw Cegidogy h.y., 'abounding in hemlock.' Ond mae'r eglwvs yn gyllwynooig i Sant Sior ac mae yno MTfvtton Sant Sior' oedd yn enwog gynt yn ei rhirfwedd i iachau ceffylau. Gelwir hi wrth enw 'Sant Sior' yn Valor Harry VIII., 1535. Yma nWte plas Kinmel, ac mae'r rhan fwyaf o'r camp adnabyddus, Kinmel, yn y plwyf. Yn mhersondy hardd y plwyf hwn y cyfarfu cynadledd y Genhadaeth Genedlaethol ddydd Iau, Medi 25ain, pan y croesawyd un ar ddeg o glerigwyr y ddeoniaeth gan y ficer, y Parch. LI. A. Richards, a Mrs. Richards. Drwg genym fod cymaint o'r clerigwyr wedi ymadael cyn y wasanaeth yn yr eglwys am saith. Mae un o ddi- benion y cyfarfyddiadau yn colli os na, erys y clerigwyr yn ngwasanaeth yr hwyr. Yr amcan yw oodi ysprydiaeth yn y gwahanol bIwyfi drwy ddangas nad ydynt eu hunain, ond fod yr holl blwyfi eraill i'w canlyn. DIOLCHGARWCH AM Y y gwsa,naethau hyn eisoes wedi cymeryd lIe mewn llawer o eglwysi y ddeoniaeth, a chyn y bydd y LLAN yr wythnos hOln allan bydd amryw eraill wedi cymeryd lie. Yn Llandrillo cynhelir y gwasanaethau bob amser ar y Sul. Y flwyddyn hon cyn- haliwyd hwynt yn un eglwys Sul, Medi 24ain, ac yn yr eglwys arall Sul, Hydref laf. Pregethwyd gan y Parch. L. H. O. Pryce, ficer newydd Colwyn Bay, a ohan w-r dyeithr o Loegr. Yn Ngholwyn Bay, cynhaliodd yr Eglwyswyr Cyin-reig eu gwyl nos Fercher, 27ain o Fedi, pryd y pregethwyd gan y Parch. T. Llechid Jones, rheithor Llysfaen. Hcfyd, ddydd Mer- cher, Medi 27ain, cynhaliwyd yr wyl yn eglwys Llanddulas, pryd y pregethwyd gan y Parch. George 1. Roberts, Dinbych, yn Gymraeg. Dydd Ian, Medi 28ain, cyn- haliwyd yr wyl yn eglwys Ahergele, pryd y pregethwyd gan y Parch. D. Alban Lloyd, ficer Pentrevoelas. Dydd Gwener, Medi 29ain, cynhaliwyd yr wyl yn eglwys St. John (Saesneg), Colwyn, pryd y pre- gethwyd gan y Parch. Thomas Jenkins, gynt o St. George, ond yn awr o Sir Gaer. LLYSFAEN.—Mae llawer yn gofyn beth yw ystyr yr enw hwn. Yn bersonol nid wyf yn meddwl fod ystyr hanesyddol i'r enw. Male 'maen' heddyw yn golygu llai nag a feddyliai oesau yn ol. Heddvw wrth 'faen' golygwn ddarn lied fawr o graig rhydd, cyfystyr a. boulder y Sais. Er hyny arferwn y gair mewn ystyreaiigach, pan yn gyfansawdd, megis 'llechfaen,' 'ith- fiaen,' pan y golyga rock y Sais. Dyma ei ystyr yn yr enwau Penmaen, Llysfaen. Mae'n debyg mai ystyr 'Llys' yma yw 'uchel,' 'amlwg.' Felly credaf mai ystyr yr enw yw 'Clogwyn uohel.' Os gwyr rhywun yn amgen traethed ei len. Mae yn enw hen—yn 1254 cyfeirir at yr eglwys yma fel 'ecclesia de Llesvaen.' Dywedir i'r eglwys gyntaf yma gael ei chodi yn y flwyddyn 777. Cynfran Sant gaiff y clod o'i chychwyn a'i chodi. Cyfrifir yn fab i Brychan ac yn frawd i Cynbryd, nawdd- sant y plwyf nesaf, Llanddulas. Mewn hen lawysgrif yn nghasgliad Peniarth ceir rheetr o blwyfi 'Kymwd y Kreuddyn,' ac yn eu plith '11-gynfran,' a olyga Llysfaen yn ddiddadl. Hen benill dyddorol, tu hwnt i wybodaeth neb o hen yw hwn:— "Eglwys wen Gynfran A fildiwyd yn gadarn, Saith gant a dau saith Oedd oed. Crist pan wnaeal hon."

DEONIAETH ARFON

DEONIAETH ARFON. Y GENHADAETH GENEDLAETHOL. Gwyddys fod Minor-Canon M. A. Hughes, Bangor, wedi caol ei bonodi yn ysgrifenydd y Wasg ynglyn a'r Genhad- I aoth. ac y mae Mr. Hughes yn t iifon Press slip i ni ar gyfer y LLAN. Rhoddwn ninau yn ac cilwaith, yn iaith y Cymro, ychydig o nodiadau o'r Press slip ar gyfor dr.rllcnwyr un ieithog y LLAN. Dyma un rhan:—Darfu i baragraph neillduol o dan y penawd, "Y mae yna rywbcth yn di- gwydd yn Eglwys Loogr," dynu sylw llaweroedd ychydig o fisoedd yn ol. Er yr amsetr hyny y mao yr -.rvryddion wedi cynyddu a lluosogi. ac y mre arwydd-air yr Eglwys yn cyfncwid yn gyflym. Yn ysilod yr ychydig fisoodd diweddf.f y mae yna filoedd o glerigv/yr wedi bod mewn | 1 tHreat, ac wedi bod yn ccisio darganfod yn ddyfal y gwir roswm o wondid yr Eglwys yn nghanol bywyd y gcncdl. Mewn rhai Esgobaethau fel Llundain, y mae clerigwyr, yn rhifo rhai canoedd, wedi myned trwy y profiad o geisio. adeiladu eu hunain mewn materion ysprydol. ac. wrth reswm nid ydyw liyn ond dechreuad. Y mae y lleygwyr mewn rhai cylchoodd wodi dilyn esiampl y clerigwyr. Rhoddwyd tai yn y wlad at wasanaeth yr Esgobion, ac y mae dynion a metrched ymhob rhan o'r wlad wedi myned o'r neilldu i efrydu yr un dyrysi destyn. Arwydd dda. onide. Y ma. ffrvvythau cyntaf o'r profiadau yma yn garifyddadwv eisoes. Ymddengys fod v bywyd ysprydol yn yr Eglwys vn ad- fywio yn gyflym. Ni chlywir mwyach yr hen gri o fod yn porthyn i adran yr Isel Eglwysig neu yr Uchel Eglwysig, oher- ■wydd fed yr Eglwys wedi deffro i sylw- eddoli ei dyled, ac yn barod i gywilyddio oherwydd ymgecracth y gor- phenol, canys y mae yn amlwg ei bod yn dechren ystyriod yn ddifrifol bwysigrwvdd ei ehenadwri ar gyfer yr oes sydd vn codi. Y mae y gwin newydd eisoes wedi dryllio yr hen gostrelau, ac y mae cydwybodau deffroedig yn rhoddi gwedd newydd ar bob pcth Y11 awr. Fel yr oedd dyfodiad y Friars vn nodi allan gyfnod newydd yn y '1 r^/dedd ganrif ar ddeg, felly y mae dyfod- iad v Pererinion ('Pilgrims') yn evsegru cyfnod newj^dd ysprydol yn yr ugeinfed S'anrif. Y mae dro? gant o glerigwyr wedi bad ar eu pererindod yn Yorkshire. Yn v deheudir a'r canol'dir y mae yna ganoedd o ferched wedi cymeryd rhan mewn perer- indodau i weddio mewn pentrefi a lleoedd ereill. Mewn lleoedd ereill y mae y 'Men's Society' yn trefnu pererindodau, ac y mae dros fil o blwyfi wedi gofyn i'r Flying Squadron o'r Church Army dalu ymweliad a. hwy. Y mae yr holl symudiadau yma yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol yn dwyn cysylltiad a'r Genhadaeth Genedl- aethol o Edifeirwoh a Gobaith, a gellir eu olrhain yn ol at arweiniad anturiaethus a roddir i'r Eglwys gan Archesgobiol1 Caergaint ac Efrog. Fel y bydd y Gen- hadaeth yn cyraedd ei huchelbwynt yn Hydref a Thachwedd bydd arwyddion o fywiogrwydd yn cynyddu, canys bydd deugain o esgobaethau yn gosod allan eu. 'hachosion ger bron gorsedd gras, a sicr y bydd hyn yn ddechreu cyfnod newydd— cyfnod ysprydol. Ni bu y fat.h symudiad a hwn yn hanes yr hen Eglwys yn y wlad yma erioed. Yn sicr fe allwn ddweyd fod yna, rywbeth yn digwydd yn yr Eglwys. Fe wel y darllenydd beth wna yr Eglwys yn Lloegr, ac yr ydym ni oil erbyn hyn yn gwybod fod yr Eglwys yn Nghymru yn gwneyd gwaith ardderohog hefyd. Penrhosgarnedd. H. JONES.

CAERFYRDDIN

CAERFYRDDIN. Y GENHADAETH GENBDLAETHOL— Y mae y gwasanaethau darpariadol yn myned ymlaen yn hwylus. Ar noaau Mercher y mae y Parch. J. Gwynfe Jones yn cynal gwaaan- aeth arbenig yn Eglwys Dewi Sant yn Gym- raeg. Ar nosau Gwener cynhelir gwasan- aethau arbenig yn Christ Church gan y Ficer. Y mae y Saeson yn dysgu yr emynau a'r tonau allan o'r 'National Mission Hymn Book.' Traddodir genadwri yn y Plwyf hwn gan y Parchn. Harold S. Williams, ficer Oystermouth, a E. Jenkins, ficer Cilycwro, Tachwedd 13fed, 19eg, a 20fed. RHODDION RAD A GWBRTHFAWR.—Yn ddi- wdddar bu farw Mrs. Rogers, gwraig y Parch. W. I. Rogers, ficer Ribbleton, Preston, ac yn ei hewyllys gadawodd y swm fawr o fil o bunau i Eglwys Cbrist Church. Hefyd gadawodd y ddiweddar Miss Lewis, 20 Picton Terrace, Caerfyrddln, ddeg punt i'r un Eglwys, a deg punt i Eglwys Dewi Sant. Yrydym yn wir ddyledus i'r boneddigesau a nodwyd uchod am en haelioni. H«ddwch i'w llwch.' CURAD-MEWN QOFAL LLANBEDR- Y mae gan y Parch. D. T. Alban luaws o hen gyfeillion yn y dref hon. Bu Mr. Alban am flynyddau yn gurad St. Petr. Y mae yn ddyn o dal- entau disglaer, yn ysgolhaig gwych, yn llawn o wir ddynoliaeth, yu gerddor, yn bregethwr, ac yn fugail da. Yr ydym yn sicr y ca dder- byniad gwresog yn L.anbedr. Hir oes a phob llwyddiant a'i dilyno yw dyranniad.- Cadog.

Pasiwch ef ymlaen

Pasiwch ef ymlaen. NEWYDD DA YN LLANBEDR. Mae amheuaeth esgusodol wedi bod ymhlith ychydig bobl yn Llanbedr. Gof- ynent .iddynt eu hunain a alliai y fath wellhad barhau. Mae amheuaeth ar ol amheluaeth wedi diflanu ar ol deall am y gwelhad parhaol a dderbyniodd Miss Dovies, yr hyn sydd wedi chwalu pob am- heuaeth. Darllenweh ei thystiolaetth, a bernwch drosooh eich hunan. Ar Hydref 24ain, 1911, dywedai Mis8 E. Davies, 6, Market Place, ger Neuadd y Dref, Llanbedr—"Yr oedd fy nghefn wedi bod yn ddrwg am gryn amser, ac nid oeddwn yn gwybod yr achoa o hono. Deallais wedi hyny fod fy elwlenod allan o drefn, a byn achosai y poenau arteithiol arferwn gael ar draws fy nghefn. Pan y plygwn ychydig, yr oedd gymaint ag a allwn wneyd i ymsythu* drachefn. Ym fynych hefyd dioddefwn oddiwrth boenau creulawn yn fy mhen. "Gan i mi gael fy nghyngori i ddefn- yddio Doan's backache kidney pills, pen- derfynais roddi prawf arnynt. Cyn i mi orphen un blychaid, teimlwn yn ll&wer iawn gwell; yr oedd y poenau wedi ym- adael o'm cefn, ac yr oedd fy mhen yn ddi- tboen. Wedi darganfod y fath leddygin- iaeth werthfawr a pheleni Doan, mae ym hyfrydwch genyf eu cyflwvno i aylw. (Arwyddwyd) E. DAVIES." Ar Cbwefror llep, 1916 dios bedair blynedd yn ddiweddarach. dywedodd Miss Davies Darfu i beleni Doan fy ngwellha o anhwylderau yr elwlenod bedair blynedd yn ol, a da genyf doweyd na chefais unrhyw arwydd- ion o'r anhwylder wedi hyny." Peidiwch esgeuluso eich elwlenod 08 oewch unrhyw arwyddion digamsyniol o anhwyldefrau yr elwlenod a'r yswigen, megis Hygaid chwvddedig, chwyddiadan dyfrol yn y ffe**au a r aelodau. anhwvl- derau dyfrol, grafel, crydcymala1, poen yn y cefn. poenau yn y lwynau a'r ochrau., anesmwythder, cryndod. iselder ysbryd, a theimladau o farweidd-dra. Bydd i Doan's backache kidney pills eich eyn- norMiwvo drwy fwrw allan y gwenwynaii yn yr elwlenod, y rhai ydynt ddechreuad llawer o afiechydon marwol. Pris 2s 9c y blychaid ar wert-li gan bob masnachwr, neu i'w cael oddiwrth Foster McClellan Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London. W. Peidiwch gofyn am backache and kidney pills, gofynweh y* hcudant am Doan's backache kidney pills, yr 1111 fath rai ag a gafodd Mi-s Davies.