Collection Title: Llan

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
1 article on this page
CWRS Y RBY FEL

CWRS Y RBY FEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. WYTHNOS DDU ARALL. CYFYNGDER ROUMANIA. BRADWRIAETH GROEG. GWARTHRUDD PRYDAIN. GORFOLEDD GERMANI. CYFIAWNHAU MOSES. LLOYD GEORGE AR STREIC- A'R CANLYNIAD. Dyddiau tywyll, du, a, welodd Prydain a'i Chynghreiriaid oddiar pan ymddang- oaodd yr erthygl ddiweddaf. Mae'r gelyn wedi bod yn myned rhagddo mown rhwysg a grym; mae Rofumania yn gorwedd yn el gwaed; mae Prydain a'i Chynghreiriaid wedi cael eu gwarthruddo yngolwg y oenhedloedd. Dyna, grynhodeib o hanes Cwrs y Rhyfel am yr wythnos ddiweddaf. Cedsiwn ddadelfenu y ffeithiau a'u gosod yn fwy clir a dealladwy gerbron darllen- wyr y LLAN. CYFYNGDER ROUMANIA. Rai wythnosau yn ol anturiais ddweyd fod pesrygl y byddai hanes Roumania yn y rhyfel yn ail adroddiad o hanes gresynus Serbia llynedd. M:ae'r perygl hwnw wedi dod yn ddigon agos erbyn hyn i bawb ei weled. Mae yr holl ran orllewinol o'r wlad wedi cael ei meddianu gan y gelyn. imae Bucarest wedi syrthio a'r German yn ben yn mhrifddinas Roumaniar-fel ag y mae yn I)el-orado prifddinas Serbia. Ni bu rhuthr cyffelyb i hwn ond yn anaml iavrn yn hanes rhyfeloedd y byd. Un o'r tebycaf iddo oedd rhuthr Ffrainc yn erbyn Germani yn 1870, pan y croesodd byddin Ffrainc y terfyn i ymosod air Germani, a,c y gyrwyd hi yn ol cyn pen nemawr o ddyddiau wedi ei chlwyfo a'i harcholli yn angeuol, gan y gelyn buddugoliaothus. Rhywbeth tebyg yw hanes rhyfelgyrch Roumania. Ar y cychwyn croesodd ei byddin hithau y terfyn; ymosododd ar, y gelyn a gyrodd ef ar ffo yn ei wlad ei hun. Ond gwregysodd yntau ei lwynau a daeth yn el oIl i ymosod ar ei ymosodwr. Gyr- wyd y aid yn ol i'w gwlad ei hun; erlidiwyd ar ei hoi gan y Germaniaid. Ymladd ac encilio; ymladd drachefn ac encilio drachefn,-dyna fu hanes beun- yddiol byddin Roumania er's tro. Ceir y gwahaniaetlh rhwng Roumania yn 1916 ia Ffrainc yn 1870 yn y ffaith mai ymddiried yn ei gallu milwrol] ei hun a wnaeth Ffrainc, tra mai ymddiried ynom ni a wnaeth Roumania yn 1916. Meth- asom achub Roumania yr un modd ac aim yr un rheswm, ag y methasom waredu Serbia^—oherwydd twyll a brad Brenin Groeg. Efe, ac efe yn benaf os nad yn unig, a oeiododd Serbia yn ysglyfaeth i'w gelyn, ac a'n rhwystrodd ni i waredu Rou- mania mewn pryd. Eglurir hyn yn mhellach isod. Pan yn ysgriflenu yr wythnos ddiweddaf yr oedd gobaith, er mai gwan ydoedd, y gaUend eto aohub Buoarest, y brifddinas, rhag syrthio yn ysglyfaeth i'r gelYI" Ond siomwyd y gobaith gwan hwn, ac erbyfi hyn mae tua haner gwlad Roumania, gan gynwys y brifddinas, wedi syrthio i ddwy- liaw'r Germaniaid. PA FODD Y COLLWYD BUCAREST. Yr oedd pedair byddin fawr o Ger- maniaid yn cydymosod ar Roumania, a'r oil yn gwneyd Bucarest, y brifddinas, yn nod. Ymosodai un o'r gogledd, un arall o'r de, a'r ddwy arall o'r gorllewin. Pan geisiai byddin Roumania wrthsefyll y gelyn o'r gorllewin, deuai naill ai byddin y gogledd neu fyddin y de i fygwth myned o'r tu ol i fyddin Roumania, ac er mwyn diogelu ei hun rhag ergyd yn ei chefn, rhaid oedd iddi ercitio, o fla,en y gelyn, hyny yw tua'r dwyrain a Bucarest. Ciliodd mor aniac mor bell nes cyraedd ohoni Bucarest ac yno rhaid oedd iddi wneyd i fyny ei meddwl naill ai i wrthsefyll y gelyn hyd angtau neu ildio'r brifddinas yn yspail ac ysglyfaeth i'r gelyn. Pendexfynwyd ar y cwrs olaf. Enciliodd byddin Rou- mania, i'r tu oil] i'r brifddinas, i gyfeiriad y dwyrain, ac i gyfeiriad Rwsia a'r Mor Du. Symudwyd swyddfeydd a chofnodion y Llywodraeth, ynghyd a'r ariandai a'r trysor cenedlaethol, o Bucarest i Jassy. Saif Jassy ar lanau'r Afon Pruth, yr hon yw y ffin rhwng Roumania a Rwsia, a,c yn y gongl ogledd-ddwyreiniol, agosaf at Rwsia, a phellaf oddiwrth Awstria. Trwy y ddinas rhed y rheilffordd fawr o Rou- mania i Rwsia ac yn cysylltu Bucarest ag Odessa, prif borthladd Rwsia yn y Mor Du. ODESSA A'R MOR DU YW NOD NESAF GERMANI. Rhied rheilffordd Odessa o Jassy i Bucarest. ac o Bucarest—• (1) Dras y Danube yn Rustchuk i Varna, prif borthladd Bwlgaria ar y Mor Du, a (2) Dros y Bont Fawr ar y Danube i Constansa, prif borthladd Rou- mania ar y Mor Du. Ond rhed Rheilffordd Odessa hefyd o Jassy— (3) Tua'r de trwy Galats i'r Bont Fawr heb fyned o fewn can' milltir i Bucarest; a (4) Drwy gyffordd ar reilffordd Bucar- est i Galata, a.'r gyffordd hono dros gan' milltir o Bucarest. Gwelir felly fod (a) Dwy reilffordd o Bucarest i'r Mor Du, a (b) Dwy reilffordd o Jassy i'r Bont Fawr heb fyned o fewn can' milltir i Bucarest. Gwelir felly, gan fod Germani wedi cymeryd Bucarest- (i) Y gall) y gelyn fanteisio ar y ddwy reilffordd gyntaf; (ii) Na all fanteisio ar y ddwy olaf hyd nes yr enillo gan' milltir eto yn mhellach o dir; (iii) Fod y ddwy reilffordd olaf yn aros hyd yn hyn yn agored i fyddin Rwsia eu defnyddio i gludo milwyr a magnelaru i gynorthwyo Roumaniar neu i ymosod ar y Bwlgiariaid yn y Dobrudja. PA BETH ENILLODD GERMANI? Edryeher eto ar y pethau a enillwyd ga,n Germani drwy gael yr oruchafiactli ar Roumania a, ohymeryd Bucarest. 1. Enillodd haner gwlad Rounuama, a'r Brifddinas. 2. Enillbdd y rhan fwyaf ffrwythlawn -gwlad y gwenith. 3. Enillodd y rhan fwyaf cyfoethog— gwlad yr olew. 4. Diogelodd ei Rheilffordd Fawr o Berlin i Bagdad. 5. Byrhaodd lineill ei byddin—lie gynt yr oedd ei Uinell fel arch bwia, mae yn awr yn llinell ymtop unionsyth. 6. Ni bydd raid iddi wrth gynifer o filwyr i ddal llinell fer ag a fyddai raid iddi gael i amddiffyn llinell hir. 7. 0 ganlyniad gall symud byddin gref a Roumania i ryw ffrynt axrall. Dyna enillion sylweddol, amlwg, y geill hi ymffrostio ynddynt a gorfoleddu o'u plegid. Cymerer Rhif 2 o'r onillion-Gwlad y Gwenith. Yr oedd Prydain wedi PRYNU GWERTH 800,000p. 0 WENITH gan Roumania—ac yn aros am gyfle i'w gludo i'r wlad hon i fod yn ddefnydd bwyd i chwi a minau. Pe bae'r Dardanels yn agored buasai'r gwenith hwn yma er's misoedd, a:'11 bara yn helaethach ac yn rhataoh nag ydyw. Ond gan fod y Dar- danels wedi ei glloQ a'r allwedd yn Haw y Twrc, miae'r gwerth wyth can' mil o bunau hyity o wenith yn a,rosyn Roumania hyd heddyw. Gosododd y Roumaniaid lawer ohono ar dan rhag iddo-syrthio i ddwylaw'r Germaniaid-Oond, cafodd y Germaniaid i'w dwylaw werth canoedd o filoedd o bunau i fod yn had i'r hauwr ac yn fara i'r bwytawr yn Germani. A chan fod Germani ar ei chythlwng o eisieu defnydd bwyd, dyma ei bord yn awr yn llawn am fisoedd eto. Mwy na hyn, os medr Germani gadw gafael ar y meusydd gwenith hyn hyd y cynhaeaf nesaf geill godi yn Roumania ddigon o wenith i wneyd bara i holl wlad Germani y gaeaf nesaf eto. Cymerer eto Rhif 3 uchod,—Gwlad yr Olew. Glo sy'n gwneyd peirianau rhyfel; olew sydd yn rhoi bywyd yn y peirianau. Chwery olew ran mor bwysig yn y rhyfel ar faes y gad ag a wna glo mewn paratoi ar gyfcr y rhyfel gartref. Yr oedd Germani, o ran ei pheirian- waith ar faes y gad mewn mwy o angen IOlcw nag oedd ei piioblogaeth adref mewn angen bara. Cyflawnir y ddau angen bellach am fisoedd drwy ei henillion yn Roumania. Golyga, hyn oil fod enill Roumania wedi rhoi bywyd newydd i Germani yn y rhyfel, ac wedi ei galluogi i ddal allan am fisoedd eto. PERYGL OYD-FYDDIN SALONICA. Mwy eto. Gesyd buddugoliaeth Ger- mani yn Roumainia Gyd-fyddin Salonica mewn perygl. Edrycher ar Rhif 7 uchod o enillion Germani. Os medr y Caiser bellach fforddio symud dyweder chwarier miliwn o'i filwyr o ROiU- mania i rywlie arall, i ba le y bydd mor debyg o'u symud ag i gyfeiriad Groeg a Salonica. Mad'r ffordd yn agored iddo. Mae Bwlgaria at ei alwad. Mae gwlad Serbia yn ei law. Nid oes elyn yn sefyll rhyngddo a Chyd-fyddin Salonioa. Dengys hanes y rhyfela yn y Balkans mai o'r braidd y medr Cyd-fyddin Salo- nica symud ymlaen yn erbyn y gelyn fel y mae pethau yn awr. Gwir fod natur y wlad yn ffafr y gelyn, a bod hyd llinell brwydro Cyd-fyddin Salonioa yn golygu treth drom ar ein gallu milwrol. Camgymeriad cyffredin yw tybied mai rhyw frwydr lool, cyfyngedig o ran maintioli. yw brwydr Cyd-fyddin Salonioa. Rhai wythnosau yn ol, yn yr ysgrifau hyn yn y LLAN, dywedwyd fod llinell y Gyd- fyddin yn ymestyn ar ffurf bwa, Kalava (Neapolis Paul) neu Drama (Philippi) hyd Verria (Berea yr Actau), ac yn mesur yn agos i ddau can' milltir. Erbyn heddyw mae'r bwa yn fwy, a llinell arch y bwa yn hwy o dipyn gan gyraedd heibio, i Monastir tua'r gorllewin ac i diriogaeth Albania (Illyricum y Testament Newydd). Mae llinelil brwydro Cyd-fyddin Salonica felly yn mesur dros 250 milltir o hyd. Ond pa beth a olyga hyn? Golyga fod brwydr yn myned ymlaen o ddydd i ddydd rhwng dwy fyddin ar linell yn ymestyn o Gaergybi hyd Gaerdydd, ac yna ymlaen o Gaerdydd i Lundain Dyna yw llinell brwydr Cyd-fyddin Salonica. Yn awr meddylier am fyddin newydd o chwarter miliwn (250,000) yn dod i gynorthwyo'r gelyn sydd yn ein gwrth- wynebu, rhywle ar y 250 milltir hyn, a cheir rhyw ddrychfbddwl am un o effeith- iau posibl buddugoliaethau Gefrmani yn Roumania. BRADWRIAETH GROEG A GWARTHRUDD PRYDAIN. Erbyn hyn mae yr hyn a ddywedwyd er's tro yn yr ysgrifau hyn am frad Brenin Groeg yn amlwg i'r byd. Yr wythnos ddiweddaf, er rhoddi o'r Brenin ei air- (a) Y gofalai am gadw heddwch yn I Athens (b) Y gofalai y caffai pleidwyr Veaiizelos bob chwareu teg, I (c) Y perchid gofynion a buddianau Prydain a Ffrainc gan y Llyw- odraeth, f.orodd Brenin Groeg bob addewid. Codwyd cynwrf yn y ddinas. Ymosod- I wyd yn greulon ac yn gyhoeddus gan filwyr rhestre,dig y Brenin ar. bawb oedd yn ffafrio Venizelos. Saethodd byddin y I Brenin ar filwyr Prydain a Ffrainc gan I ladd a chlwyfo rhwng 200 a 300. Yn lie mynu cospi yr euog, darostyngodd Prydain ei hun yngwydd y byd drwy gania,tau i Frenin Groeg yru corff ei filwyr ef yn osgorddlu i'n milwyr ni drwy ystryd- oedd y ddinas yn ol i'w llongau! Dywedir fod creulonderau hafal i eiddo y Germaniaid yn Belgium wedi cael eu cyflawni gan sorod dinas Athen, gyda chy- meradwyaeth y Brenin, ar gefnogwyr mwyaf urddasol Venizelos, ac ar ddeiliaid Prydain. Dywedir fod Brenin Groeg yn parotoi byddin o 150,000 neu 200,000 yn barod i ymosod. ar ein byddin ni o'r tu ol pan ddelo byddin newydd Germani o Roumania i ymosod ar gyd-fyddin Salonica. Aros am y cyfle hwn y bu Brenin Groeg er's mis- oedd. Ac eto, mor bell ag y gwyr y cy- hoedd, nid yw Prydain wedi cymeryd mesurau effeithiol i alw'r Bradwr Bren- hinol i gyfrif. Mae rhyw ddirgelwdh mawr yn hll; hanes ymddygiad Prydain at Frenin Groeg. Dichon yr amlygir y dirgelwch cyn hir bellach. CYFIAWNHAU DYSGEIDIAETH MOSES. I ddod yn ol adref at faterion cartrefol ein gwlad ni, mae y Pwyllgor Arbenig a benodwyd i edrych i mewn i amgylchiadau y Gweithiau Cyfarpar, y Miwnishyn Works, wedi cyrfiawnhau dysgeidiaeth Moses gynt. Ebe Moses, o dan ddwyfol ysprydoliaeth:— "Chwe' diwrnod y gweithi ac y gwnei dy holl waith. Ond yseithfed dydd yw Sabath yr Arglwydd. Na wna ynddo ddim gwaith." A dyna ddywed y Pwyllgor Arbenig. Rhaid i ddyn gael gorffwys oddiwrth ei waith un dydd o bob saith. Gwna fwy o waith mewn chwe' niwrnod, os gor- phwysa ar y seithfod dydd, nag a fedr ei wneyd mewn saith niwrnod heb un dydd o orffwys ynddynt. LLOYD GEORGE AR STREIC—A'R CANLYNIAD. Bygythiodd Glowyr y Do fyned ar streic os na chaent godiad yn eu cyflogau. Y canlyniad oedd i'r Llywodraeth gymeryd riheoliaeth y Pyllau Glo-a rhoi tri swllt y bunt o godiad i'r glowyr ar Waethaf y Meistri Glo. Bygythiodd Mr. Lloyd George fynd ar streic os na chai ef fwy o'i ffordd ynglyn a'r dull o gario y rhyfel ymlaen. Y can- lyniad oodd-tori pen Asquith a gwneyd Lloyd George yn Brif Weinidog yn ei le, a llawenha Cymru benbaladr i weled ei mab athrylithgar wedi cyraedd y sedd uchaf yn yr Ymherodraeth fwyaf a welodd y byd erioed. Mao mwyafrif y sawl sy'n dilyn Cwrs y Rhyfel yn fyfyrgar, yn cyd- olygu a. Mr. Lloyd George na fedr Cabinet yn rhifo 23 o ddynion byth gyd- weled a chydweithredu i gario'r rhyfel ymlaen. Rhaid mewn argyfwng mawr cenedlaethol fel yr un presenol rhoi'r awdurdod yn Haw ychydig er cario y rhyfel ymlaen yn Ilwyddianus. Felly y mae yn Germiami, dau yn unig sydd yno, sef y Caiser a Hindenberg. Yr oedd Lloyd George am gael dim mwy na phedwar i weithredu awdurdod torfynol yn Mhrydain. Os na chai hyny, gwell ganddo ymddiswyddo. Yn hytrach na hyny, ymddiswyddodd Asquith. Gwnaed Lloyd George yn Brif Weinidog, a thra yr yagrifenir y llinellau hyn mae y Cymro yn brysur yn ffurfio Cabinet newydd. DYDD GWBNER, Rhagfyr 8. ENCILIAD Y ROUMANIAID YN PAR. HAU. Ar ol meddianu Bucarest, mae v German- iaid wedi meddianu yr holl linell rhwng y dref a Bwlch Pred.eal, ac felly wedi croesi yr afon Prahovo, yrhon red drwy gauol y meus- ydd olew; Hysbysir fod 9206 o garcharorion ychwanegol wedi eu cymeryd, ac y mae y gweddill o'r fyddin Ronmanaidd yn ffol mewn cyfeirlad dwyreiniol. Meddianwyd Bucarest heb unrhyw wrthwynebiad, wedi i'r milwyr Rwaiaidd a Roumanaidd gagl eu gorchfygu tuallan i'r amddiffynfeydd.- Pan. anfonodd Mackensen genadwri yn gorchymyn