Collection Title: Llan

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 6 of 8 Next Last
Full Screen
7 articles on this page
CWRS Y RHYFEL

ryfel cryf arfog i G3rmani wedi llwydda i ddiano o Germani i'r mor agored, ac edsooe wedi suddo rhyw ddwsin o'n llongau masnach ni. Yn wir, geill fod dwy long yn y mor agored yn ymosod yn awr, er mai dim ond ni ddaeth allan. Llong IBrydeinig yw y Hall a ddaliwyd ac a arfogwyd gan y rhyfelong Germanaidd. Dihangodd hono allan drwy ganol Llyngcs Prydain wedi ffugio ei hun fol Hong masnach yn oludo coed. Wedi cyraedd Mor y Wer- ydd taflwyd y coed i'r mor, codwyd y magnelau cuddiedig i'w lie, a, dechreuodd ei difrod. Gan fod ganddi fwy o griw ac o arfau nag oedd eisieu, arfogodd y llong Brydeinig gyntaf gyfaddas a ddaliwyd ganddi, ac yn awr mae'r ddwy yn hwylio 01 a blaen gan ymosod ar bob Hong Bry- deinig, neu a fo'n hwylio tua Phrydain, gan eu Siuddo oil, a chymeryd y criwiau yn garcharorion. DYDD GWENER, lonawr 19. LLWYDDIANT Y ROUMANIAID. Derbyniwyd adroddiad calonogol arall o Petrograd am weithrediadau llwjdd- ianus y Roumaniaid yn Moldavia. Mown Uuaws o fanau, llwyddasant i wrthsefyll ymosodiadau y Germaniaid, gan beri c-ol edion trymion, a chymeryd niferi mawr- ion o garcharorion. Yr unig iwy^ia'U a hawlir gan y Germaniaid ydyw cymeryd 230 o garcharorion. Dyry y Gernianiaid y bai ?„r y tywydd eu bod mor aflwydd- ianus. GROEG. Hysbysir o Athens fod yr boll gay- charorion Venezelaidd wedi eu rhyddhau. DWYRE1NBARTH AFFRICA. Daeth newyddion da o Ddwyreinbart-h Affrica, sef fod y Cadfridog Beves a'i wyr wedi croesi yr afon Rufiji, yr hyn fydd o waaanacth dirfawr iddynt. Llwyddwyd i ymlid y gelyn i wlad anhygyrch a di- ddwfr. GOGLEDDBARTH AFFRICA. Ymosododd mil wyr Italaidd ar chwe mil o wrthryfelwyr oeddynt yn ceisio ym- oaod ar Zoara, porthladd 60 milldir r r gorllewin o Tripoli, ac ar ol ymladdfa galied gorchfygwyd hwy yn llwyr, a ohyf- rifir fod y gelyn wedi colli o leiaf fil o wyi DYDD SADWRN. CYNHADLEDDAU YN BERLIN. ""Ddiwodd yr wythnos7*cynhali wyd amryw gynhadleddau yu Berlin, yn y rhai yr ymdriniwyd â chwestiwn p-rinder yni- borth, heddwch, a Galicia. Yr oedd Prif Weinidog Awstria a'r boneddwr sydd yn rheoleiddio ymborth yr ymherodraeth yn bresenol. Gwysiwyd aelodau y Senedd hefyd i fod yn bresenol er cyfarfod y Canghellydd Ymherodrol er ymdrin a r cynygion am heddwch, a clierir yr ymdnn- 2eth ymlaen ar hyn o bryd. Wed1 n Prif Weinidog Awstriaidd gyraodd Berlin, t-eithiodd yr Y sgrifenydd Tramor Ger- manaidd i Vienna, er mwyn ymgjrnghori a'r Ymherawdwr Awstriaidd. Diau fod v Prif Weinidog wedi rhoddi rhyw fath o ddealltwriaeth i'r Ysgrifenydd Tramor y disgwvlid iddo fyned i Vienna ar fat-er pwysig. Y BRWYDRO YN ROUMANIA. Ceir arwyddion digamsyniol fod y Ger- maniaid yn colli eu gafael yn Roumania, ac nad ydynt mor egmol yn eu hymo^od- iadau ag y buont, oddigerth yn Nyffryi Trotus, lie y ceisiant ddmystrio tret Okna, ar y rheilffordd o Hungari i Moldavia. Amddiffynol yn benaf yw gweithrediadau y Germaniaid y dyddiau hyn, ac mewn amryw fanau mae y Rwsiaid a'r Rouman- iaid wedi meddianu eu safleoedd. Y SEFYLLFA YN FFRAINC. Mae vmosodiadau mynych y milwyr Prvdeinig wedi argyhoeddi y Germaniaid fod ganddynt luoedd o filwyr yn bared i wneyd rhuthr ofnadwy a phenderfynol ar y gelyn, ac arddangosant arwyddion o oIn. DYDD LLUN. FFRWYDRAD COLLEDFAWR. Derbyniwyd newyddion ddydd Badwrn fod ffrwydrad ofnadwy wedi cymeryd lIe ddydd Gwener mewn gweithfa cyfarpar gerllaw Llundain, drwy yr hwn y collodd nifer fawr o bersonau eu bywydau. tra yr anafwyd llawer mwy, ac y dmystriwyd lluaws o dai, Er fod y golled yn fawr Mr, A a D'nvm ddetail nad oedd mor fawr-ag yr ofnid ar y cyntaf. Ymddengys 1 dori allan yn un o'r gweithfeydd, a rhodd- wyd rhybudd am dano, gan Dr. Angel, y prif fferyllydd, yr hwn a anogodd yr holl weithwyr i ffoi am eu bywydau. Cydym- ffurfiodd rhai a'i gais, ond teimlai ereill, fel Dr. Angel ei hun, mai eu dyledewydd ydoedd aros yno i gcisio diffodd y tan, ond (losfwryd hwy i farwolaofch tra y; fel dewrion. Er fod pob ymdrcch wedi ei jrwneyd i ddifFodd y fflamau, cyThaedd- asant i le peryglus yn y weathfa, a di- awyddodd ffrwydrad, yr hwn achosodd ddifrod ar bob Haw. Nos Sadwrn, cy- hoeddwyd fod rhwng 50 a 60 o gyrft a tJIua. pedwar cant o anafusion wedi eu ciel vn y malurion. Yr oedd y golygfeydd yn cralonrwygol, ac nid oes dim o'r adeiladau wedi eu gadael i sefyll. Anmliosibl ar hyn o bryd wneyd amcangyfrif o'r collod- ion, ond dywodir na effeithia y digwydd- iad alaethus nemawr r wneuthuriad cyf- arpar. SIOMEDIGAETH HINDENBERG. Yn ol rhai newyddiaduron, y mae y Cadfridog Hindenberg wedi ei siomi yn aruthrol ynglyn a. Roumania. Yr oedd efe wedi taro ar gynllun ddygai Roumania yn hollol i feddiant Germani cyn diwedd 1916, ond fel lllawer un arall ni ddaeth ei freuddwydion i ben, er i aberthau mawr- ion gael eu gwneyd. Erbyn hyn, dealla nad gall gyraedd ei amcan er treulio yr holl auaf, ac y mae eu colledion a'r draul ymhell iawn uwchlaw yr amcangyfrifon a wnaed. Hyderai Hindenberg sicrhau buddugoliaeth lwyr yn Roumania. a. Mace- donia cyn y gauaf, ac mewn cyfarfod o'r Cyngor Rhyfol addefodd ei fod wedi methu. Mae ganddo gynllun arall ar waith yn awr,-ond pa un a lwydda hwnw, amser a ddengys. DYDD MAWRTH. Y GELYN YN CAEL EI YMLID YN ROUMANIA. Gwnaecl ymosodiad arall ar linellau y Cynghreiriaid yn Mwlch Oitus, ond trodd allan yn aflwyddianus. Buasai llwydd- iant yn y fan hon i'r Germaniaid yn, an- dwyol, gan y gallent fyned i Ddyffryn y Trotus, meddianu y rheilffordd a gysyllta Hungari a, Moldavia, a gosod y Rwsiaid a'r Roumaniaid mewn enbydrwydd. Nid oes unrhyw arwyddion fod ymdrech i gael ei gwneyd i groesi y Sereth, ac nid yw Hindenburg yn bwriadu ceisio myned i Odessa. VERDUN. I'r gogliedd o Goedwig Caurieres, dwy filldir tuhwnt i Douaumont, darfu i'r Germaniaid wneyd dau ymosodiad, gyda'r amcan o ail-feddianu rhai o'r safleoedd a gymerwyd oddiarnynt yn mis Rhagfyr. ond methiant fu eu holl vmdrechion. SEFYLLFA ADFYDUS GERMANI. Newyddion o Amsterdam a fynegant fod sefyllfa trigolion Germani yn ddi- frifol iawn, gan fod yr ymborth yn brin a drud, a.c ymddengys fod y sefyllfa yn gwaethygn bob dydd. YMHERAWDWR AWSTRIA A HEDDWCH. Ymddengys fod Ymherawdwr Awstria yn awyddus iawn i ddwyn y rhyfel i der- fyniad, ac y mae amryw o swyddogicm Germanaidd uchel wedi bod mewn ym- gynghoriad ag ef, ac yn trafod y moddion gofreu i ddw-yn yr amcan i derfyniad llwyddianus. PYDD MERCHER. BRWYDRO AR Y MOR. Adroddiad o'r Llyngcslys a fynega. fod brwydro wedi bod yn y Mor Gogleddol rhwng nifer o longau Prydeinig a Ger- manaidd, a bod saith o longau y diweddaf wedi eu suddo, tra yr anmharwyd rhai ereill. Heblaw y rhai a gollasant eu bywydau, mynegir fod lluaws o'r dwylaw Germanaidd wedi eu clwyfo yn drwm. SYNIADAU RHYFEDD MR. WILSON Yn Senedd-dy Washington, ddydd Llun, traddododd yr Arlywydd Wilson un o'r arcithiau rhyfeddaf a wrandawyd erioed, a syfrdanwyd y mwyafrif o'r aelodau ganddo. Swm a sylwedd ei araoth ydoodd y dylid dwyn y rhyfel i derfyniad, ond nad oedd v naill ochr na'r llall i dder- byn goruchafiaeth. Mae ei araeth wedi creu syndod drwy y byd, ac yn cael ei chondemnio yn gyffredinol.

Ariandy y London City and Midland

Ariandy y London City and Midland. Edrydd Cyfarwyddwyr Ariandy London City and Midland fod yr elw am y flwyddyn yn dilweddu Rhagfyr 131 di- weddaf yn l,636,969p. Gyda'r swm o 113,597p. a gariwyd trosodd y mae'r swm i'w ddosranu yn 1,750,566p. Trefnir fel y canlyn:—At gyflogau -,aelodauipr staff sydd yn gwasanaethu eu gwlad, a, 'bonus' i ereill 207,606p., i leihau symiau budd- soddiad £ .u 632,501p; at dalu llogau am y flwyddyn yn diweddu 1916 yn ol 18 y can: (wedi tynu treth yr incwm) 666,920p., a cherir ymltaen y swm o 243,539p. Talwj^d llog yn 01: yr till raddfa yn 1915. Yr oedd y deposits ar Rhagfyr 31 yn 174,620,724p; arian mewn llaw ac yn Mano Lloegr 47,973,686p.

Eglwysi Gymreig Liundaiii

Eglwysi Gymreig Liundaiii. ST. BJCNKT S—Queen Victoria Street, E.C. Parch, J. CROWLE ELLIS, 177, Chevenir.g Hoad Brondes^ury Park, N.W. fhtwI SÅNT-St MarY'8 Terrace, Paddingtoj Green, W. Parch. THOMAR SMITH, St. David's Vicarage, t. Mary's Terrace. Paddingtor Green. ST. MAIR—Cam\>erwel! Now Road, CamberweiV S E. Parch. I). GRIFFITH, St. MarvV Parsonage, Cam l>yrwell New Road, S.E, PA DARN SANT- (Iloticister Road. X Parch HENRY WITHERS Chaplain, 36, Osborne Road, Stroud Green, N. RHYBTTD SANT Longfellow Road, Blow. K pnrcb. R. WATKINS, R.A.. 13a. fTarlev t, Bow CyuheJir gwananaethau ar y Sui yr yr i" ] ^Ei»1wvsi u^hod am 11 a 6.30 o'r gloch

BLAENAU FFESTINIOG

BLAENAU FFESTINIOG. Pur anaml y gwelir gair o'r lIe poblog hwn ar dudalenau y LLAN wedi i'r gohobydd D. D. R. ymadael am ddinas Lerpwl, fel llawer eiredll, oherwydd ar- afwch y fasnach lechi. Yr ydym yn nghanol y rhew a'r eira er's wythnosau. Cafwyd un o'r golygfeydd mwyaf pryd- ferth un boreu rai dyddiau yn ol. Dis- gynodd trwch tew o eira ar noson dawel heb un chwa o wynt. Yr oodd golwg brydferth ar y mynyddoedd cddi amgylch, y Manod a'r Moelwyn yn eu gogoniant dan fantell wen o eira fel dau angel yn gwylied y lie, a phob coeden, a changen, ie, a gwifrau y pellebyr a'r pellseinydd yn gogwyddo'r tua'r ddaoar gan bwys yr oira prydferth, a golwg hardd ar good y Square. Gresyn ei bod yn rhy oer i'r arlunydd gael darluniau o'r lie y boreu hwn. Yr oedd y golygfcydd yn apelio at bob un oedd a llygad i weled prydferth- wch natur, a chalon i deimlo tuag at yr Anfeidrol yn ei weithredoedd. Mae'r oil o'r chwarelau sydd yn gweithio yn cadw amser Uawn ac ychydig o gotliad yn y cyflogau yn ddiweddar, ond bod nifca1 y gweithwyr yn fychan mewn cydmariaeth i'r nifer arferol. Mae can- oedd wcdi ymuno a'r fyddin o'u gwirfodd cyn i ddeddf gorfodaeth ddod i rym.' Ma.e'r Cyngor Dinesig fel pob Cyngor arall yn ufuddhau i orchymyn y Llywodr- aet.h i geisio gwneyd defnydd o bob darn o dir neu erddi i godi tatws neu rhyw I gynyrch arall fel ymborth. Dyled&wydd pawb ydyw gwneyd eu goreu i godi cy- maint o ddefnydd ymborth rhag ofn prin- der y flwyddyn hon. Mae'r tywydd caled diweddar yn yn fawr ar iechyd y lie. Mae'r gwan ei iecliyd a'r oedranus yn dioddef yn fawr, a liawer o farwoJ- aethau yn ddiweddar. Claddwyd, v Sadwrn diweddaf, un Eglwyswr selog o Eglwya Sant loan, Tanygrisiau, William Thomas, yn ymvl 70 oed, y Parch. R. P. Hughes, curadt yn gwasanaethu. Colled fawr y dyddiau hyn ydyw colli y ffyddlon- iaid, pan mao cynulliadau crefyddol yn deneu ymhob eglwys a chapel trwy y lie. Mae Eglwys Sant Dowi wedi dioddef yn enbyd ohctrwydd jgwendid yn y fasnach lechi, llawer o'r ffyddloniaid wedi ymuno a'r fyddin, bob un ohonynt a rhai o'r gwyr priod wedi ymuno. Y diweddaf oedd un o'r athrawon ffyddlawn, Mr. David Lewis, brawd yr organydd, Mr. J. wis. Mae'r achos yn gorfod dioddef yn fawr trwy bob peth. Mae y Parch. T. H. Hughes, y fioer, yn cwyno yn arw o ran ei iechyd ac YIl absonol ran helaeth o'r plwyf, yn ceifiio cael gwellhad. Mae yma rai do o ffyddloniaid yn eithriadol o ffyddlawn yn y gwasanaethau a'r Ysgol Sul, yn ngwyneb llawer o anhawsderau. Mae'r Parch. H. P. HughcvS, y curad, yn ceisio gwneyd ei oreu. Er fod llawer o alw am ei wasanaeth i gadw Cenhadaeth mewn gwahanol blwyfi, yn y lleoedd mae iW.?di bod, nid oes ond canmoliaeth mawr iddo. -Delta

GWNNWS

GWNNWS. Cynhaliwyd Gwyl yr Ysgol Sul yn yr Ystafell Eglwysig dydd Merchor, Ionawr 17eg. Cafwyd te, fel arfer, yn y pryd- jiawn, pan y daeth nifer luosog ynghyd. Dygwyd byrddau eleni gan Mrs. Williams, Bryn Hyfryd; Mrs. Jones, Tanybwlch, a Mrs. Lloyd Jonea, Penpomprcn. Ar ol y toe cyflwynwyd llawer o lyfrau fel gwobrau i aelodau ffyddlonaf yr ysgol yn ystad y flwyddyn ddiweddaf. Rhoddiou Iarll a Iarlles Lisburne oedd y gwobrau y tro hwn. Derbyniodd rhan helaeth o'r aelodau y wobr flaenaf am fynychu yr ysgtol; a derbyniodd amryw wobrau, hefyd, am ddysgu rhanau o'r Ysgrythyr Lan ar y cof. Diolchwyd yn wresog i'r Iarll a'r Iarlles am eu haelioni. Y mae ei Arglwyddiaeth ar hyn o bryd yn Ffrainc yn gwasanaethu ei wlad, a. mawr obeithir y caiff ddychwelyd yn ol i'r gymydogaeth hon yn ddianaf. Diolch- wyd hefyd i'r gwragedd fu mor garedig a i darparu y wledd, ac i Mrs. Richards, i Ty'nygraig, am edrych ar ol y dwfr eleni, etto, mor ofalus. Diolichwyd hefyd ii bawb fu yn cynorthwyo mewn unrhyw fodd. Cynhaliwyd cyfarfod yn yr hwyr o dan lywyddiaeth Ficcr y plwyf. Yn ystod y r11al11 gyntaf o-hono cafwyd caneuon ac adroddiadau, yn benaf, gan aelodau ieuainc yr Ysgol Sul. Canwyd hefyd amryw ddarnau gan aelodau y cor, o dan arweiniad Mr. D. Owen, Ty'nygraig. Rhoddwyd anc-rchiad dyddorol gan Mr. W. Evans, gynt yn pevthyn i'r 'Grenadier Guards,' ar fywyd yn y ITosydd yn Ffrainc. Ac i ddiweddu cafwyd anerch- I iad bywiog ac adeiladol ar yr Y sgol Sul a'r modd i'w gwella, gan y Parch. D. J. ,.(I Jones, prifathraw y &trd Meurig. Go beithio y rhoddir yr awgrynniadau gwerth- fawr a roddwyd ganddo mewn gweithred- iad. Un augen mawr yn yr Eglwys yn Nghymru y dyddiau hyn ydyw diwygio yr Ysgol Sul a'i gwneyd yn llawforwyn 'mewn gwirionedd' i'r Eglwys. Y mae angen neillduol y dyddiau hyn ddysgu mwv liag a wneir yn gyffredin yn nghylch Gwasanaeth a Threfn yr Eglwys ynghyd a n a'i hathrawiaethau. Ac un ffordd ragorol i wneyd hyn ydyw mabwysiadu v 'maes llafur a dyriir allan bob blwyddyn gan Bwyllgor vr Ysgolioll Sul "11 Nghymru, a defllyddio yn ofalus a chvson y llawlyfrau a 'osodir allan ar fedr hyny. Da gan bawb oedd gweled y Parchn. D. A. Thomas, Llanafan, 81 8. G. Thomas, Ystrad Meurig, yn brcsenol yn y pryd- nawn a'r hwyr. Gwnaed casgliad tuag at waith y 'Red Gross Society' ar ddiwedd y cyfarfod. Talwyd diolchgarwch i bawb a gymerasant ran yn y cyfarfod, ao yn en- wedig i Mr. Jones am ei anerchiad rhag- orol. Terfynwyd trwy ganu 'God save the King.' Y GWAITH CENHADOL TRAMOR (S.P.G.). -Bu tair o ferched bach yr Ysgol Sul, yn ddiweddar, yn casglu tuag at y gwaith pwysig hwn. Yr oedd y llyfr cyntaf yn ngofal Gwen Jones, Brynmyheryn, a chasglodd £ 1 118 8c, a'r ail lyfr yn ngofal Eleanor M. Jones, Ty'nllidiart, a M. Gwladys Davies, Pentre, a chasglaeant y SWID. o £ 1 7s 6c. Cyfanswm, Y,2 19s 2c. Anfonwyd y swm hwn i Drysorwyr y Gymdeithas yn Llundain.

CAPEL TYGWYDD

CAPEL TYGWYDD. GWAKLEDH.—Bydd yn ddrwg gan luaws ddarllenwyr y LLAN glywed am afiechyd ein parch us fioer, y Parch. David Francis, R.D. Mae yn dioddef dan anwydwst trwm, ond credwn ei fod ar wellhad. Syned a syno, ond gwir yw, fod yr hybarch dad hwn wedi gwasanaethu plwyf Llandygwydd am dros 40 mlynedd gyda ffyddlondob sydd yn ddiarheboi. Dymunwn iddo wellhad buan a chyflawn. Yn vstod ei afiechyd bu y Parch. Teifi Evans (curad) yn gwasanaethu yn Eglwys y Plwyf boreuau yn Saesneg, ac yn Gym- raeg yn y prydnawnau. ÐYSGU Cl-RDDORIAETH.Yn ystod wyth- nosiau'r gauaf cynhelir (flosbarth yma i ddysgu (cerddoriaeth. Mae yma ddefn- yddiau digonol i wneyd cor canu da, hefyd mae yma awydd jrmhlith y cor i ddatblygu yr elfen gerddorol, a chyda'r amcan o berffeithio canu'r cysegr, sefvdl- wyd y dosbai-th hwn. a chyfarfyddant bob nos Fawrth.. COFIO'R DEWRION .-Fel plwyfi ereill, i4ae amryw o'n haelodau yn gwisgo'r khaki, a chlywir son am danynt ymhob man y mae y fyddin fawr Brydeinig. Ceir bechgyn Eglwys Capel Tygwydd yn gy t, ngwlad y Pyriamidiau, gwlad y Groeg, ac hefyd yn Ffrainc a Belgium. Er cy- maint yr hiraeth deimlir ar eu hoi, ceir gradd o fwynhad yn y ffaith fod son am Gape] Tygwydd yn y gwledydd uchod. Canys ni all y Cymro byth beidio son am ei hen garttef, a'r Eglwys y magwyd ef ynddi. Er mwyn sicrhau y dewrion nas anghofir am danynt yn eu habsenoldeb, ar ran yr Eglwys anfonwyd parseli teilwng i bob un wythnos cyn y Nadolig. Dar- parwyd y nwyddau gan y chwiorydd can- lynol:—Mrs E. T. Evans, y Persondy Mrs George, Bryn Tygwydd; Miss EVLUS, Penwern Fach, a Miss Frances Davies, Troodrhiwforgan. Casglwyd swm da iawn ymhlith yr aelodau gan Mr John George, Bryn Tygwydd, a Mr Richard Jones, Tir-ddol, tuag at y treuliau. Caw-. sant dderbymad croesawgar ymhob man. Derbynied pawb ein diolchgarwch gwree- zn In ocaf am eu parodrwydd diffael. LLONGYFARCHIAD. Dymunwn longy- farch ein cyfaill hoff a hynaws, y Parch. David Thomas, B.A. (Cwerchyr), ar ei ddyrchafiad i fywoliaeth Pentrefoelas. Un o wyr yr encilion yw ein cyfaill haedda fod mwy yn y 'ffrynt.' Dymunwn bob llwydd iddo yn ei faes newydd, a bydded iddo dderbvn o weniadau goreu Duw.— Teifi.

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney. Y mae Rhiwmatio yn ganlyniad uru acid crystau yn y llywethau a'r cymalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansodd- iad y methodd yr o!wlod (kidneys) ei symud fel y bwri^doda natur j gyda hya y cytuna pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r acbos o bo n yn y cefu, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dWr, carreg. grafel, a dropsy. Mae llwyddiaufc Tabledi Estora at drin Rhiwmatic a ffurfiau oraill o anbwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r fFaitb eu bod yc adferu yr elwlod i wodthroda'n natuiiol, a thrwy hynny symudir achoe yr anbwyldeJa, yr hyn o angenrheidrwydd a symuda t efFeithiau drwg a ddeillia o bono; ac mae wedi iachau achos ion dirifedi gwadi meth- iant meddygioiaethau ereill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd lle'r meddyginiaetbau hen ffasiwn a werthir am brisiac sydd allan o gyraedd pawb ond cyfoethog. Mae Tabledi Estora yu liawn deilyngu y desgrifiad ohonyntr-meddyginiaeth onest am bria gonetlt-la. 3c. y blwch o 40 dab!edi, ueu chwe' blychaid am 6c. 9c. Ar weirth gan Fferyllwyr ymhob man, neu'n rhad trwy'r post, am y prisiau hyn, oddi- wrtb Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C. MERCHED. Dioddefa Merched yn fynych oddiwrtb aaldra, cur a phoen, o dan yr argraff eu bod yn ebyrth i afiechydou sy'n gyffredin ir ystlen deg, ond yn amlach nag i'r gwrthwyneb y mae i'w briodoli i'r elwlod (kidneys), ac mewn acboeion o'r fatb fe fydd i flychaid neu ddau o ESTORA TABLETS eu Hwyr adferu 0 leiaf, mae'r prawf yn werth ei wneud, gan fod dedwyidweh a llwyddiant merch ar byd ei hoeø yn di- bymiu yn hollol br ei hieohyd.