Collection Title: Dinesydd Cymreig

Provider: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 7 of 8 Next Last
Full Screen
9 articles on this page
DAN Y GROES

DAN Y GROES NELYNTIQN TEULU ADWY'R CLAWBB. PENNOD LV. Dorothy a Cecil. Rhyw gyfarfyddiad hynod gafwyd yn Lanes Dorothy a Cecil, gan fod y cysyllt- iad yn nn e'thriadol. Fe gofia'r darllen- ydd fod y cidau wedi dechreu yr yrfa garwviaethol yn dwym iawn, a'u bod wedi ymddieithrio, ond iddynt ddod i gysylitiad arbennig a'u gilydd yn yr ysbyty ar y Cyf- andir. Gwelir felly fod y cyfarfyddiad yn un neilltuol dros ben. Dynia Sadi wedi mynd i ffwrdd, a Cecil wedi dod adref yn fachgen trwyadl newydd o ran meddwl a gweithred. Heblaw hynny, yr oedd o gorff mwy liuniaidd ac atdyniadol na Sadi, ac yn dod i mown i'r Ystad fwyaf yn y wlad. Y cwestiwn mawr yn awr yd- oedd beth ddeuai o Sadi a Dorothy. Dyma'r dydd prpwf wedi dod. Yn Adwy'r Clawdd y cymei-odd y cyf- arfyddiad le, a hynny ar brynhawn dydd Gwener pan yr oedd yr Yswain ac yntau wedi eu gwahodd vno i dreulio'r hwyr. Pan welodd Dorothy ef gyntaf fe'i cyn- hyrfwyd i'r fath raddau fel y cododd gwrid i'w gruddiau ond ni welodd Cecil mohonynt, drwy drugaredd, neu gallai liynnv siarad gormod wrth ei galon yntau. Yn wylaidd yr aeth ef ati hi, ac estyn- odd ei law allan iddi. Sut y mae hi erstalwm, Miss Dafis ? gofynai. Rwy'n reit dda, diolch i chi ebai hith- au. Sut yr ydych chi? Wet yn wir, yr wy'n dod ymlaen yn well na'm haeddiant, ebai Cecil. Toes arna i ddim isio gwella'n rhy dda, nac yn rhy fuan chwaith. Pam, deudwch, ebai Dorothy. Rown i'n meddwl fod pawb eisiau gwella. Na'n siwr i chi, ebai Cecil, nid peth mOr braf ydi meddwl gwella i fynd i'r fangre uffernol yna eto. Does unman yn debyg i gartref. Nac oes mae hynny yn wir, ebai Doro- thy. Ond tydi cartref heb iechyd o fawr werth, Cecil. AN-el, mi fasan well liefo iechyd pe caw- sai bachgen ieuanc aros ynddo i'w fwyn- hau. Ond, fel mae pethau heddvw, mae mwy o. swvn mewn cartref hyd yn oed heb fraich neu goes, na bod yn swn y fagnel yn iach. Hwyrach wir, ebai Dorothy. Tydi bod yn y rhyfel ddim yn beth pleasant, a dweyd y goreu am dani. Nag ydi wir, ebai Cecil. Ond wvddoch chi be Miss Dafis P Dorothy, os gwelwch yn dda, Cecil. Sadi pia'r enw yna, ebai Cecil, rwyf fi wedi fforffetio fy hawl iddo erstalwm. Nag ydych siwr, ebai Dorothy. Mae gennvch chwi a Sadi hawl i'w arfer o. Fedra i ddim yn wir. Miss Dafis. Chanvl1 i ddim er mwyn parchu ac an- rhydeddn Sadi ei hun. Wel, mi ddigia. i hefo chi am bytli os na newch chi, ebai Dorothy. Faswn i ddim vn caru hvnn1 v j ebai Cecil. Ond fe fyddai yn well gennvf hyd yn oed eich digio chi am byth na bod yn fradwr j'm gwaredwr. Dw i'n siwr na leicia Sadi ddim fy nghlwad yn cich galw yn Dorothy. Cwestiwn i mi ydyw, Cecil, ac nid iddo fo, ebai Dorothy. Ond yn fy mlierthynas i, ebai Cecil, a. chwi, cwestiwn iddo fo ydyw. A fo gaiff ei benderfynu gennvf hefyd, diolch i chi. Yda chi yn meddwl mai fo pia'r haw] ar fy annibyniaeth i, os ydw i wedi en- gagio iddo fo, gofynai Dorothy Tydw i ddim am fynd i ateb hwnyna, Dorothy, ebai Cecil. Y peth rydw i am ei ddeyd ydi mai fo pia fy ymddygiada i mor belled ag yr ydym ni ein dau yn y cwestiwn, iic nid oes neb na dim a wnai i mi newid chwaith. (Ac yn y fan yma y daeth v Prawf mawr) Ai e wir, ebai Dorothy, a rhyw wen drydanaidd ar ei gwyneb. Dwedwch fy mod i yn clweyd wrthyoh y byddai yn well gennyf iddo ef ddigio am byth wrthyf nag iddo eich gwrthod i gael fy ngalw yn Dorothy, But y buasai wedvn ? Yr un fath yn union, ebai Cecil. Fe lynwn wrth Sadi, a chawsech chithau fod yn Miss Dafis neu ddim gennyf am byth. A ydyw yn well gennych Sadi na myfi? gofynai Dorothy. Ydyw yn siwr i chi Miss Dafis, ebai Cecil.. A ("inwedaf wrthych ymhellach os nad ydyw vu well gennych chwithau ef na mi tyda chi ddim yn deilwng ohono. Felly'n v/ir, ebai Dorothy. Rown i'n meddwl eich bod yn dweyd mai fi oedd bia'ch calon erstalwm. Yda chi wedi newid erhall heddyw, fe welaf. r Wedi newid Yr un iot, ebai Cecil. Yn- noch chi y mae'r cyfnewidiad, ac yr wyf yn synu doch. Dywedasoch wrthyf nad allech byth fv ngharu, gan mai Sadi oedd pia'ch calon. Be su'n bod heddyw, tybed ? Toes dim yn bod, ebai Dorothy, ond mod i yn dewis i chi ngalw i yn ol fy enw. 0 dim byd arall, gofynai Cecil. 9 T Dim, ebai hithau. Mae'n dda gen i glywed, ebai Cecil, neu fe roeddech yn siarad braidd yn am- heus. Raid i chi ddim ofni, ebai Dorothy. Mae hi'n iawn hefo mi a Sadi. Da iawn, ebai Cecil. Wyddoch chi beth, Miss Dafis, lie gwag su acw heb fy mam, ia wir. Hydw i bron tori'm calon Bew, ydw wii-, Dyna sy'n gneud cartref yn sâl-dim mam. Dyn anwyl, y mae mam yn fii-v o werth na'r byd i gyd, ydi wij-. Peidiwch siarad mor fabiaidd, da chi, Cecil, ebai Dorothy. Ryda chi fel babi bach, byddwch yn ddyn, da chi. Dyn, yn wir, ebai Cecil. Wyddoch chi mai'r babi ydi'r dyn. Piti na faswn i wedi bod yn ddigon o fabi i beldio- poeni fy mam byd arall erstalwm. Dyn, dyn, rydw i wedi blino arnoch yn wir, ebai Dorothy. Ac aeth i ffwrdd at ei mam gan ei adael vn yr ardd. Ond bu cyfarfod arall yn hwyrach ddywedodd yn fwy arn i J fwv arni. (I'w barhan.)I

Advertising

PWYSIG I BAWB SYDD GANDDYNT Waith ARGRAFFU! YN SWYDDFA Y DINESYDD CYMREIC GWNEIR POB MATH 0 WAITH ARGRAFFU YN RHAD. AM EIN TELERAU YMOFYNER YN SWYDDFA'R DINESYDD CYMREIG 16, PALACE STREET, CARNARVON.

CYMRU AR Y BLAENI

¡ CYMRU AR Y BLAEN. I I Hanes Diddorol q Ffrainc. I Edrydd preifab o'r Royal Welsh Fusi- liers hanes diddorol am barti gynhaliwyd mewn "dug-out" yn Ffrainc yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd naw o fechgyn yno, yr oil ohonyut yn tarddu o Rhosllanerch- rugog, ger Gwrecsam. Ar ol cael gwledd, cododd y cadeirydd i fyny i anerch y cyf- arfod. Dywedodd mai Cymry oedd pob un oedd yn bresennol y noson honno, ac anrbydedd doedd gwybod eu bod yn per- thyn i gatrawd oedd yn ail i'r un yu y F.vddin Brydeinig Cymro oedd Mr Lloyd George, yr hwn unwaith fU'll teithio cymoedd CymfU mewn trol a mul, ac yr oedd yn Ylllffrostio rll hynny (cym.). Yr oedd yn tier fod yr hen ful yn gorfod mynd gan ei fod yn gwneud popeth fynd ar ol hynny (cym.).. Cymro ydyw Freddy Welsh, Jimmy Wilde, a Billy Meredith. Pwy gliriodd y Germaniaid o Mametz Wood ? Cydgan Y milwyr Cymreig. Pwy chwythodd fiosydd y gelyn i fyny? Cydgan: Y inilivi-i- Cymreig. Pwy wna'r morv/yr goreu? Cydgan Cymry. Lie caiff y Morlys eu glop Cydgan: 0 Gymru. Pwy sy'n anfon arfau i't- iiiilwyl.?-. Cymro. Terfynwyd y cyfarfod drwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau."

OES FAITH

OES FAITH. Yr wythnos ddiweddaf bu farw Mrs Anne Beatty, West Meath, yn 108 mlwydd eed. 0

DAL MILWR GERAIANAIDD

DAL MILWR GERAIANAIDD. Yn Middlesbrough eyhuddwyd Frede- rick Wcr nriiaine o fod yn y wlad hon heb ganiatad. Ymddengys i'r cvhuddedig fod yn aelod 

ITRAGWYDDOL GOSB I

TRAGWYDDOL GOSB. (At Olygydd y "Dinesydd"). Syr,-Efallai y caniatewch ran o'ch gofod unwaith yn rhagor i wneud sylw o lythyrrau Myfvrfab a Mr J. R. Jones yn "Ninesydd" Go. it. 26 ac Awst 2.. Dy- wed Mr Jones fy mod yn cyfeHioni ac yn camfarnu y Gemaniaid pan ddywedais eu bod yn aberthu cymdeithas er mwyn yr unigolion,—dywed ef mai y wlad hon sydd felly, ac nid Germani,—fod Germani yn gofalu am y lliaws yn rhagorol. Hefyd honiadau Mr Jones a Myfyrfab mai nid Duw sydd yn cosbi, nad yw yr hyn a elwir yn cosbau ond canlyniadau naturiol troseddau, mai dyn yn unig sydd yn hunan-gosbydd. Swm a sylwedd profiad y byd am heL yntion dynolryw ydyw dysgeidiaeth Llvfr Genesis iii. 22, "Wele y dyn.Ac weithian rhag iddo estyn ei law a chymer- yd hefyd o bren y bywyd, a bwyta a byw yn dragywydd; am hynny yr Arglwydd Dduw a'i hanfonodd ef allan o ardd Eden i lafurio y ddaear yr hon y cymerasid ef ohoni. Felly efe a yrodd allan y dyn, ac a, osododd o'r tu y dwyrain i Ardd Eden y Cerubiaid, a chleddyf tanllvd ysgwyd- edig i gadw ffordd pren y bywy L" Eglur yw na buasai canlyniadau naturiol i dro- sedd o gwbl oni buasai i weithrediadau goruwehnaturiol pendant gymeryd lie, sef gosod y "Cerubiaid gyda chleddyf tanllyd ysgwydedig i gadw ffordd pren y bywyd." Beth yw hyn ond profiad dynolryw ar hyd yr oesoedd yn ceisio myned yn ol i Ardd Eden,—a lianes Germani mewn niodd eithriaiol edi meddwl yn sicr fod y "Dydd" wedi gwawrio y byddai lioll Ger- maniaid y byd yn cael myned i mewn i wynfYd gorfoleddus? Ond y maent wedi metlm. Methu Yina pawb, a phob gwlad, a. phob llywodraeth, yr un modd a Ger- mani, am eu bod yn anghofio fod y Cerub- iaid yn sicr o drywanu pawb yn Vi ymdrech -fe di-ywiti-isaiit Fab Dnw ei hnnan-hyd nes y daw y dydd y bydd y "cleddyf tan- llyd" yn cael ei gymeryd oddiarnynt. Fel rheol, pan y mae un yn dechreu cael ych- ydig o neroedd ddi.gosb dyn gonest yr ochr yma i angau, yr adeg honno y mae y Cerubiaid tanllyd yn gofalu am ei dorri i lawi-, a simsan, fel y pawb, ydyw pob nefoedd ellir gael o dan yr amodau meidrol presennol, am y rheswm fod y "Ci,i,ul)iald," -nen Angau ,vn Bofyll ar ganol llwybr bywyd y ddynoliacth. Ond nid dedfryd oruwchnatirriol, ond canlyniadau naturiol gweithredoedd dyn- oli-v-,v yw hyn oil, medd Mr Jones. Y mae Mr Jones yn credu mai yr esbon- iad goreu 1r bc-tijatt ydyw crefydd yr hen Dderwyddion a'r Indiaid,—"Ein bod yma i ddysgu y wers, ac i ail-ymddangos awi- ryw weithiau." Nis gallaf weled pa fodd y gwna hynny newid dim ar y owestiwn, oblegid y mae y Beibl hefyd yn dysgu fod "Dydd" Barn,—faint bynnag fydd ei hyd. Awgryma. Hyfr y Datguddiad ei fod i barliau am fil o flynyddoedd. Dysga hefyd fod "Ail-farwolaeth" i gymeryd lie ar derfyn y cyfnod hwnnw. Fel nad wyf yn gweled fod Mr Jones wi th ddewis goleu cannwyll Paganiaeth yn He goleu haul y Beibl yn ennill dim o gwbl. Ond gwel.ii" fod ]\fr Jones yn "Dinesydd" Awst 26 yn dweyd nad oes y fath beth a "Dydd" barn,—mai "Deffroad y Gyd- wybod" yn unig ydyw "dydd barn." Ond y mae Mr Jones yn anghofio mai ystyr ac amcan pob tarn ydyw argvlioeddi y barn- wr, y llys, a'r rheithwyr fod y <• ■udd- edig yn euog, ac nid deffo oydwybod yr euog. Mae yn rhy hwyr, pan wedi dod i farn, i ddetfro cvdwybod v troseddwr. "Siarad am Dduw fol dyn ffivdanllyd blin, a byr ei amynedd, ydyw siarad am Dduw yn cosbi," medd Mr Jones. Os felly, yn lie bod yn edrychydd llonydd ar ddynolryw yn rbyfela ac yn cosbi eu giiydd ar 1 yd yr oesoedd, onid gwell fu- asai i Hollalluowgrwydd roddi atalfa ddi- ymdoi arnynt? Onid eglur yw nas gallai wue-ud hynny heb un ai difodi dynolyw neu ynte dynnu ymaith "gleddyf tanllyd y cerubiaid" oddiar ganol ffordd bywyd y ddynoliaeth—hynny yw, tynnu Angau ym- aith o ergyd y fagnel, ac o fin y fidog a'r cledd, ac o bopeth -it-all, fel y tynwyd ef ymaith o'r ffwrn dan ym Mabilon; rhodd- ni hynny derfyn ar bob cosbi ac ymladd am byth. Ond wrth siarad fel hyn yr ydym yn siarad fel Germaniaid, gan hawlio fod gan fodau meidrol gymaint hawl i ddweyd sut mae pethau i fod a Duw anfeidrol. Ond dywed Mr Jones fy mod yn Cam- farnu y Germaniaid pan ddywedais eu bod trwy (oU "Diwyliiant" bydenwog yn aberthu Cvmdoithas er mwyn yr Unigol- ion. Dywed ef mai y wlad hon sydd felly, ac nid Germani, fod Germani yn gofalu am y Lliaws yn rhagorol,—a hynny am eu bod yn credu mewn Trefn, a ninnau ond yn credu mewn Rhyddid; ac an- hawdd clymu y ddau ynghyd," meddai. "Aeth Mr Lloyd George i Germani i chwilio am batrwm Pensiwn yr Hen," llleddai. Do, ac aeth yno hefyd am bat- "WIll yr Yswiriant Cenedlaethol. Dadleua Mr Jones drwy hyn, fel y Kaiser, fod Trefnoldeb Diwyliiant bydenwog Germani yn well i'r byd na Rhyddid PiydcJi'g (A rhaid cofio mai grym Diwyliiant Germani ydyw ei gwadiad o Dragwyddol Gosb?). Ond beth yw tystiolaeth Ivvrop heddyw ? Onid gwae sydd yn arcs pob gwlad sydd yn anghofio mai mewn Rhiyddid yn unig y mae iawn-drefn Cymdeithas ? Trefn y oarchardy a threfn y byd milwrol ydyw holl Drefnoideb Germani. Ac y mae gor. mod ohono iiedi ei fabwvsiadu ym Mhry- dain hefyd. A'i sylfaen ydyw Trais yr Tmigolion, neu yr Ycbydig, o'u cyfcrbynu a'r Lliaws, Ond gall y Prydeiniwr, ond iddo agor ei lygad, newid Y cyfan, tra nas gall yr Almaenwr yngan yr un gair heb fod yn euog o deyriifradwriaeth yn erbyn Prwsia. Ei Effeithiau ar Wleidyddiaeth. Wrth yr Unigolion neu yr Ychydig y golygir y Cyfoethogion sydd yn gyflogwyr llafur o bob maintioli-rhai yn cyflogi un neu ddau yn ogystal a'r rhai gyflogant 2,000 a 3,000 a rhagor. Allan o boblog- aeth o 45,000,000 gallai fod eu nifer yn un filiwn yn feistriaid yn yr lioll wahanol fathau o Lafur ynglyn ag Adeiladwaith, Trafnidiaeih, Argraffwaith, DilladAvaith, Ymborth a Diodydd, ynghyda phob math o swyddau Fel j-heol, pan y mae un yn cyflogi gweithiwr, y mae yn enzlill ey- maint arall arno o leiaf ag y mae yn dalu o gyflog iddo; ac os bydd yn cyflogi 4 neu 5 bydd yn ennill digon arnynt i'w gorfodi i dalu Treth yr Incwm ond pan v mae un yn cyflogi y fath nifer a dwy neu-dair mil, v mae ei gyfoeth yn myned yn an- ferth. Ni buasai yn llawer o drafferth i ddangos fod rhai perehenogion mawrion vn ennill yn flynyddol JOOp oddiar bob un o'u gweithwyr. Yn ol ystadegau y Llywodraeth, yr oedd swm yr Inciviii a adolygwyd yn y flwyddyn 1914 yn cyrraedd dros fil o filiynnau, neu fil o bunnau y flwyddyn o elw clii- ai, gyfei- pob un o'r miliwn meistriaid llafur-neu 125p y flwyddyn o elw clir ar bob gweith- iwr drwy'r deyrnas. Y mae gan y Llyw- odraeth hawl resymol a dyledswydd foesol i fyned i mewn am o leiaf banner y mil milynnau incwm blynyddol y perehenogion mawrion at gynnal y Llywodraeth, tra nad oes ganddi hawl o gwbl i fyned at yr un o'r saith miliwn gweithwyr y deyrnas i ofyn yr un geiniog. Ond nid at y Meistriaid Llafur mawrion yr a y Llyw- odraeth i godi ei chyllid, ond at y llliaws —at y saith miliwn gweithwyr a'u gwragedd a'u teuluoedd, trwy eu trethu yn eu te a'u siwgr a'u tybaco a'u diodydd meddwoJ, &c. Mae yn wir fod y meistr- iaid llafur, neu y cyfoethogion, yn gorfod talu Treth yr Incwm a'r Land Tax, ac yn ddiweddar y Death Duties a'r Super Tax, rhag llethu y werin yn rhy brysur. Oy- merer engraifft o Dreth y Tybaco. Deunaw miliwn a chwarter o bunnau a godwyd o doll oddiar y myglys yn y flwyddyn 1914, yn ol toll o 3s 8c y pwys, yr llyn oedd yn golygu fod can miliwn o bwysi ohono wedi pasio trwy'r bond. Cyn cyrraedd cownter y siopwr yr oedd y can nÜliwn pwysi wedi ei chwyddo o bosibl yn ddau can miIiwn o bwvsi—trwy ei wneud yn wahanol "Smoking Mixtures," &c.- trwy hefyd ychwanegu 40 y cant o leiaf o ddwfi gludiog i wneud "Common Shag Tobacco" a'r Myglys caled. Gwyr y dar- llenydd yn dda mai 4c yr owns neu 3s 4c y pwys oedd pris y Myglys a werthir o dan yr enw Tybacco ac erbyn fod 42 i 53 y cant o ddwfr ynddo, yr oedd 5s 4c y pwys yn gyfartal i 8s am dano fel yr oedd yn dod o'r bond, Gwerthid y Cigarette yn 5 am geiniog, neu 6c yr owns, ac 8s y pwys. Yn awr y mae can miliwn o bwysi yn ol 8s y pwys yn dod i 40,000,000p. Gellir ychwanegu at hyn un ran o bedair o leiaf, fjef 10,000,000p, ar gyfer y gv/ahanol "Mixtures" sydd yn cael eu gwneud o'r can miliwn pwysi, yn gwneud y cyfaiiswm yn 50,000,000p, yr hyn, ar ol i'r Llywodr aeth gael ei 18,000,000p o doll allan, oedd yn gadael 32,000,000p o gynyrch i'r fas- nach n ,ewn Myglys. Nifer y gweithwyr ynglyn a Myglys yn 1910 ydoedd 37,450. Pe byddent yn cael lOOp y flwyddyn yr un o gyflog, cyrhaedd- ai hynny vn agos i 4,000,000p. Pe byddai pob siopwr drachefn yn cael 9c y pwys o brofiid ar bob pwys o 150,000,000 o bwysi, cyrhaeddai hynny 5,500,000p. Ac at hyn rhaid rhoddi 5,000,000p yn bris y myglys C'yn ei ddadforio. Ar ol tynnu Toll y Llywodraeth, cyflog y g-weithiwr, yroffid y siopwr, a phris y myglys cyn ei ddadforio, yr oedd gweddill helaeth o In o filiynau o bunnau ym meddiant meistriaid agos i 40,000 o weithwyr tybaco-yr hyn sydd yn gwneud proffid clir iddynt o 500p y flwyddyn ar bob gweithiwr. A beth am gynyrcliion aruthrol y cyf- logw yr mawrion ymllob masnach arall ? Ond dychmygaf glywed rhai yn gofyn betli sydd a wnelo cyflwr marclmad y wlad a'r cwestiwn o Dragwyddol Gosb? Dy- wedodd Mr J. R Jones nad oeddwn yn edrych ar bethau fel y maent, ac am liynny yn cyfeiliorni-fod Germani yn gofalu am ¡ y Lliaws yu rhagorol, ac fod Mr Lloyd George wedi bod yno yn cael patrwm yr Yswiriant Cenedlaethol a Phensiwn Hen- ddyddiau. Eglur yw fod yr Yswiriant Cenedlaethol gododd ym meddwl Mr Lloyd George oherwydd cynni mawr y di-waith yn 1911 yn un godidog, sef gwneud i'r perchenogion cyfoethog dalu yr holl Ys. wiriant dros bawb. Ond ow! gwneud fel yn Germani wnaed—gwneud i'r gweithiwr dalu 4c bob wythnos allan o'i gyflog!! a 2c yn y dreth. Er8 o leiaf 150 o flynyddoedd mae ysgol- ion bydenwog Germani yn dysgu cyfoeth- ogion y byd, r duwinydd penaf hyd at y gambler mwyaf, nad oes y fath beth a Thragwyddol Gosb—mai deddf cyfiawndel rhwng dyn-a-dyn ydyw Trechaf Treisied, &c. Eglur yw mai dylanwad y ddysgeid- iaeth hon sydd yn gorthrymu gweithwyr a gwerin y gwledydd, ac yn achos o'r holl ryfeloedd. Caeinarfon. W. GRIFFITH.

LLYTHYR MllWR

LLYTHYR MllWR. UN 0 FECHGYN DYFFRYN NANTLLE (At Olygydd y "Dinesydd"). Annwyl Gvfaill -Gair yw hwn mae'n bosibl bar svndod, hyd yn oed i olygydd papur newydd, i feddwl fod y corff gwael hwn sy'n ysgrifennu wedi bod yn deilwng o sylw gwyr pwysicaf y deyrnas, ac wedi gweled yn dda roddi am danaf wisg y Brenin a'm galw'n filwr (feallai y dylaswn roddi y gair milwr mewn prif lythrennau), gan ei fod heddyw y bod pwysicaf yn y wlad. Dvsgir hwy gan eu huwehafiaid i gredu liynny—The orders are "Walk along the street as if you own it." Rhoddaf hyn Yllla yn rheswm dros fod ein milwyr, rai ohonynt, yn hynod o ddifocs. Heddyw mae llanw newydd wedi dod i fewn (ni chai-wn ddweyd dim am y rhai sydd wedi dod fisoedd yn ol), ond credaf ar ar sail g) ef mat dynion yw y rhai sy'n dod heddyw y rhai sy'n caru heddweh ae yn dyhcu am i wawr dorri i chwalu y cymylau sydd ar aelwydydd y wlad. Mac yma nifer dda, o Gymr." sydd yn ('am'r iaith, a chlywaf hi yn cael ei siarad bob dydd. Maent hefyd yn hoffi pregeth Gymreig, ac wedi i mi ddeall eu hawydd bum yn siarad a'r awdurdodau, a chawsom "Welsh Parade." Cawn fynd yn un a chytun i Gapel yr Annibynwyr Cymreig, yr hwn adeiladwyd gan mlynedd yn ol; a melus ydyw clywed bechgyn Cymru, rai ohonynt yn Lloegr am y tro cyntaf, mown hwyl yn canu emynau Pant y Celyn. Cawn groeso neilltuol gan y Wesleaid Seisnig, y rhai sydd yn cadw ystafell ar- bennig ar gyfer y milwyr. Nos Iaou, Medi 27ain cynhaliwyd cyngerdd yn y Central Hall, a chtifwyd hwyl yno. Ni wnaf ysgrifennu rhagor y t-ro hwn. Yr ydym yn berffaith hapus. Cofion eu at bawb. WALTER.

EIN BEIRDD

EIN BEIRDD. MAE'R WAWR YN TORRI DRAW. Dringo llethrau'r mynydd, Rhedeg hyd y bryn, Casglu blodau'r dolydd, Chwareu gyda'r myn. Ganwaith pan yu blentyn, Cofiaf 'rawr v dydd, Pan yn lion bob telyn, Heb un nodyn prudd. Cyfyd hen adgofion Am yr amser fu. Lluniau hen gyfeillion Welaf heddyw'n llu. Pie y mae eu trigfan ? Duw ei hun a wyr; Minnau wrth fy hunan Dan gysgodion hwyr. Draw mae'r wawr yn torn, Ymlid wna y nos; Dol a bryn sy'n gwenu » Dan y ewrlid rhos. Ond o'r du dywyliwch. Heddyw sy'n gor doi, Teyrnwialen heddwch Wna, i ormes ffoi. W. s. JONES. Llanllyfni (g,vnt). ,V. S. JONES.

GWEITHWYR RHEILFFYRDDDE AFFRIG

GWEITHWYR RHEILFFYRDD DE AFFRIG. Yn ol yr "International," o Johannes- berg y mae Gweinyddiaeth y Rheiiffyrdd wedi cyhoeddi rheolau yn gwahardd gweithwyr y rheilffvrdd i gymeryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Ni all y dynion hyd yn oed anvyddo cais ymgeisydd, na, siarad mewn cyfarfod, canfasio, na sefyll dros y Senedd. Gall sefyll dros y Senedd j neu ryw Gyngor arall, ond y mae yn ffor- ffetio ei le, ac ni all gael ei le yn ol, en-  nil! neu goIH y sedd..