Collection Title: Dydd

Provider: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 3 of 8 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
MEIRION I

Parhad o tudalen 2. AMRYW ACHOSION. Gwrthodwyd cais Mr. Williams, Bryn Morlo, Pennal, am esgusodiad Thomas Williams, 23 mlwydd oed, amaethwr. Gwrthodwyd Hugh P. Evans 18 oed, Tal Treuddyn, Dyffryn. Rhoddwyd esgus- odiad amodol i Griffith D. Ellis, Mynogau Isa, IDinas Mawddwy. Gwrthodwyd Thomas Edwards, Cefn Ucha, Brithdir; a Thomas Thomas, Allt Goch, Llwyngwril. Gwrthodwyd R. P. Lewis, mab Mrs. Lewis' gwraig weddw, 6, Griffin Terraec 19 oed, Penrhvndeudraeth, yr hynaf o bedwar o blant.. GWAIR YN PYDRU. Apeliodd amryw amaethwyr o dueddau Dolgellau am esgusodiad i'w meibion. Dywedodd un fod dwy das wair iddo wedi pydru am nas gallai gael dynion i'w .toi. Dywedodd un arall fod ganddo acer wedi dyfetha am nas gallent gael gweith- I wyr i'w caroi i ddiddosrwydd. GWRTHOD ESGUSODIAD. Gwrthodwyd esgusodiad i'r rhai canlyn- ol:— John Williams, Tyddyn y Garreg, Dolgellau; Griffith Jones, Abergarw Fawr, Llanfachreth; David Griffiths, Tyddyn Du, Llanfachreth; D. Griffith Lloyd, Trefaes, Llanegryn; Hugh Roberts' Bryn Rhyfel, Dyffryn; David Roberts, Llanegryn.

Y RWMANIAID I

Y RWMANIAID. I Perygl v Rwmaniaid ydyw yr agwedd fwyaf ddifrifol a phwysicaf yn y sefyllfa filwrol heddyw. Mae yn anodd dweud pa mor bell y gall y gelyn lwyddo yn eu hymosodiad yn Transylvania a'r Dob- rudja, ymosodiad sydd eisoes wedi peri i'r Rwmaniaid a'r Rwsiaid ymneilltuo a rhoi i fyny gryn lawer o dir i'r gelyn. Mae yr ymosodiad hen a'i ffyrnigrwydd yn profi fod y gelyn ym mhell o gyrhaedd y pwynt o gael eu gorlethu. Er eu bod yu cael eu gwasgu ar bob ffrynt, y maent rywfodd wedi llwyddo i gasglu byddin gref yn yr adran hon, a tharo ergyd i'r gelyn diweddaf ddod i mewn i'r maes yn ei erbyn, ergyd a bery, os na lwyddir i'w atal yn fuan, ganlyniadau politicaidd a milwrol pwysig. Y gwir ydyw i'r ffarth i Rwmania ddod i'r Rhyfel, tra yn y diw- ecld yn sdcr o fod yn farwol i holl gynlluniau y Germaniaid, roddi cyfle dros amser i'r gelyn adennill ei safle yn rhanol yng ngolwg y byd. Os gallent lwyddo i oresgyn Rwmania, fel y gwnaethant Servia, bycdal I yr ennill yn boliticaidd, a milwrol yn ddigon o ad-daliad am bron unrhyw aberth a cholled ar eu rhan. Ni ddylid dod i'r penderfyniad yn rhy fuan beth byn- ag, y gellir tori i lawr wrthwynebiad y Rwmaniaid. Yn ystod yr wythnos aeth y brwydro yn eu ffafr yn Transylvania, ond nid ydyw y gelyn wedi eu gyru yn ol yn y lleoedd y daethant dros y terfyn i Rwmania. Yn y Dolrudja mae byddin y Rwsiaid a Rwmaniaid wedi gorfodgwynebu ymosodiad cryf ar hyd eu holl linell, ac wedi cael eu gorfodi i ymneilltuo rhwng yr afon Danube a'r Mor Du. Mae ym- sodiad y gelyn yn y rhan hon wadi esgor ar gymeryd porthladd pwysig y Rwmania- id yn y Mor Du, sef Constanza, a hysbysir gan Mackensen iddynt gymryd 1693 o ddynion yn garcharorion, 75 o swyddogion. Hysbysir hefyd yn mhellach eu bod wedi wedi cyrraedd Haramurad 15 milltir i'r dwyrain o Constanza. Mae yr anghyd- welediad gyda Groeg yn peri fod y fyddin Brydeinig a Ffrengig yn yn Salonica yn methu rhoddi y cynorthwy a allent trwy ymosod yn yr adran hon, gyda'r perygl i fyddin Groeg weithredu y tu ol iddynt, ac atal eu supplies y maent yn methu symud ymlaen. I YN FFRAINC. I Mae y newyddion yn llawer iawn mwy calonogol. I fyny i ddiwedd yr wythnos yr oedd man ymosodiadau yn cymryd lie ar y ffrynt Ffrengig, yr hyn a esgorodd ar feddiant llwyr o Sailly-Saillisel. Yns canlynwyd gan ymosodiad mawr. gan y Prydeinwyr ar y ffrynt rhwng Schwalen Redoubt a Le Sars, yr hwn drodd allan fil a Le Sars, yr hwn drodd allan yn llwydd- ianus, a chymerwyd dros fil o garchar- orion, a syniudodd y llinell ymlaen o 1000 o latheni. Hefyd, heddyw (Mercher) daw newydd da fod y Ffrancod wedi ad-ennill caerfa Douamont a'r pentref ac wedi cymryd 4,500 o garcharorion. [ LLADD PRIF WEINIDOG AWSTRIA. I Dydd Sul, daeth hysbysrwydd swydd- ogol o Berlin fod Count Stuargkh, prif weinidog Awstria Hungary, wedi ei saethu ddydd Sadwrn, pan yr oedd yn ciniawa, gan olvgydd newyddiadur yn Vienna. Yr oedd y Count yn Brif Weinidog y wlad er Tachwedd 1911. Hanai o deuluoedd aristocrataidd yr Almaen, ac yr oedd yn wrthwynebydd aiddgar i bob elfen ddem- ¡ ocrataidd yn y wlad. Yr oedd yn gefn- ogydd selog i'r Eglwys Babaidd, a gwnaeth I ei oreu i ddyfnhau ei awdurdod swyddogol I yn y tir. Yr oedd yn wrthwynebydd chwerw estyniad yr etholfraint i'r bobl gyffredin, ac am y rheswm hwnw yr oedd wedi ei dd yrchafu i Dy Arglwyddi'r deyrnas ANALLUOGI RHYFEL-LONG Y GELYN. I i ANALLUOGI RHYF EL-LONG Y GELYN. I Cyhoedda Ysgrifennydd y Llys Morwrol fod cwch tan forawl Prydeinig wedi saethu I torpedo at long-rhyfel ysgafn perthynol i'r Almaen yn Mor y Gogledd ddydd lau I diweddaf, a gwelwyd hi yn mynd tuag adref wedi ei hanalluogi. — ) j DYRYSWCH GROEG ETO. I Synna'r byd fod Prydain a'i Chyng- hreiriaid wedi dioddef mor hir ac mor amyn-eddgar i Frenin Groeg chware ei gastiau twyllodrus. O'r diwedd gosod- odd Ffrainc ei throed i lawr gan ddywedyd "Hyd yma yr ei, ac nid ymhellach." Maent, fel yr hysbyswyd wedi gosod atalfa effeithiol ar allu'r Brenin i wneud llawer o niwed. Yr wythnos hon cyfyngwyd _r. ymhellach ar ryddid Groeg i wneud brai, j Y syndod yw na fuasai wedi diorseddirlr Brenin cyn hyn. Amlwg yw mai hyny yw dymuniacl gwerin Groeg. Bydd y mesurau a gymerwyd yr wythnos ddtw- eddaf gan Ben Llywydd Cyd-Fyd&u Salonica yn gymorth mawr, nid yn unig i ddiogelu Byddin Salonica, ond i feyr- wyddo ei mynediad ymlaen yn erbym Bwlgaria. Ynfydrwydd a fuasai gwthim ymlaen y hell yn erbyn Bwlgaria lse& ofalu fod y lie o'r tu ol i'n Byddin ni fa berffaith ddiogel. Rhaid cofio fod !N&- j ellau rheilffyrdd y gelyn yn ei allaa? i ddwyn Byddin gref ar yr rybudd yn erbypt Cyd-Fyddin Salonica, tra nad oes cyffelyk gyfleusterau rheilffyrdd genym ni. FeBy, pr yr anturiem ymhell ymlaen, aphey dygai Falkenhayn neu Mackensen Fyddfe gref i'n herbyn, a ninnau o'r newydd ym ¡ gorfod cilio yn ol, cawsai Brenin Grm-g gyfle digyffelyb i ymodod arnom yn eiis I gwendid o'r tu ol. Mae y perygl hwncvr I bellach drosodd.

I ER COF

I ER COF.. Am Private James Griffiths, R:W.F, yr hwn a fu farw yn ysbyty Caer, Mawrtfe 25ain. 1916. Ac a gladdwyd yn U