Author: South Wales Miners Library, Swansea University

Provider: South Wales Miners' Library

Rights: Unknown

Interview of Jones, Edward P. by Jones, Merfyn on 7th February 1973.
The interview forms part of Swansea Universitys South Wales Miners Library collection.

1 audio file (5 min. 50 sec.)

Loading…

Transcription

Jones, Merfyn: Ond oeddach chi’n cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth?

Jones, Edward P.: O o hyd, o hyd.

Jones, Merfyn: Oeddach chi yn mynd I rhyw glasses, neu rywbeth felly, oedd hynny’n beth pwysig ond oedd, - evening classes ac yn y blaen?

Jones, Edward P.: O do, fues i yn mynd i’r dosbarthiadau allanol am flynyddoedd. Gyda Tom Hughes Griffiths a Saunders Lewis a {unclear} am flynydde.

Jones, Merfyn: Yn y Rhondda?

Jones, Edward P.: O na, ‘ma.

Jones, Merfyn: Wel beth ddigwyddodd ar ol. . . . . sut ddaru i chi symud o Bontypridd?

Jones, Edward P.: Oe’n i’n gweud wrthoch chi nawr, etho i yn wrthynebwyr cydwybydol. Wedyn fues i’n carchar, ac o flaen y tribunals, ac wedyn i’r carchar ac wedyn oeddach chi’n cael rhyddhau wedi bod o flaen y central tribunals yn Llunden, i neud gwaith o beth o nhw’n alw National Importance . Ag yno detho i’ ma, i weithio ar y {unclear} . Ac yma y cwrddes i a hi chi’n gweld. Ac yma wy i wedi bod fyth.

Jones, Merfyn: Oedd na lawer yn yr un sefyllfa a chi yn y Rhondda, yn Pontypridd, yn gwrthod…?

Jones, Edward P.: O oedd, na dipyn go lew. Wrth gwrs oedd y boblogaeth yn fawr i chi’n gweld.

Jones, Merfyn: Ond am resymau crefyddol yn hytrach na gwleidyddol?

Jones, Edward P.: Ie, o ie.

Jones, Merfyn: Oedd na ryw organisations, fel, beth sy' na nawr, yr anti-conscription League…?

Jones, Edward P.: a…oedd, a beth yw’r lleill?

Jones, Merfyn: Fellowship and Reconciliation?

Jones, Edward P.: Ie, fi’n perthyn i hwnnw nawr. Yr F.R. ‘ma.

Jones, Merfyn: Oedd rheiny, o'dd gynnon nhw rhyw organization yn y Rhondda, ynte ar ben eich hun oedd rhaid i chi fod?

Jones, Edward P.: Wel fel individuals, ar ben eich hunan chi’n gweld, oe chi’n mynd fwya. Oedd ‘na groups yma ac acw ond tenau iawn, tenau iawn.

Jones, Merfyn: Pam ddaru i chi, beth oedd eich rhesymau chi, am beidio …?

Jones, Edward P.: Ymladd?

Jones, Merfyn: Ie

Jones, Edward P.: Wel, safon Gristnogol ‘achan, dim byd arall. Bod rhyfel yn wrong ynte? O unrhyw fath. Does gyda chi ddim hawl i ladd eich cyd-ddyn 'achan, achos fod e o genedl arall, am bod rhyw ddyn arall mewn llywodraeth yn treio dweud wrtho chi bod e’n iawn.

Jones, Merfyn: Faint oedd eich oed chi felly yr adeg hynny? Oeddech chi'n bedwar ar hugain oeddech chi, dechrau’r rhyfel?

Jones, Edward P.: Pump ar hugain.

Jones, Merfyn: Nineteen fifteen ,ddaru i chi ddechrau gwrthod ie?

Jones, Edward P.: Ie, ie, o ie. Wel pryd hynny oedd galw amdanyn nhw ar ol y Conscription Act i chi’n gweld. Neu oe’n i’n dal y syniadau ar hyd yn oes jest.

Jones, Merfyn: Sut driniaeth gewsoch chi yn y carchar?

Jones, Edward P.: Wel, fuon ni’m ond rhyw chwech wythnos yng Nghaernarfon, a fuon ni’m ond rhyw saith diwrnod yn Wormwood Scrubs, on nhw'n dweud mai hen ddyn cas oedd yn fanno pryd hynny, ond dwi’m yn gwybod. Ond gwr bonheddig oedd hwnnw yn Walton pryd hynny, John Dillons, Gwyddel. Diar, oedd hwnnw’n garedig ‘achan. Oedd hwnnw’n garedig dros ben, os buo Cristion erioed, John Dillon oedd hwnnw.

Jones, Merfyn: Yn Lerpwl oedd hyn ie?

Jones, Edward P.: Ie, yn Walton, Lerpwl.

Jones, Merfyn: Am faint fuo chi’n fan’no?

Jones, Edward P.: O fan’no fuon ni fwya, rhyw dri, bedwar mis.

Jones, Merfyn: Oeddach chi efo ffrindiau, ynteu ... oedd bobol oeddach chi’n nabod?

Jones, Edward P.: Na, oe’n i’n nabod neb ohonyn nhw, ond ddaetho i i nabod nhw te, oedd rhei o’r ardal yma, un o Llwynhendy, a tipyn o Port Talbot acw, fel Selwyn Lloyd, nage nid Selwyn Lloyd, Selwyn Lewis neu rywbeth.

Jones, Merfyn: Cymry oeddan nhw, ond oeddach chi yn cyfarfod rhai o ranau eraill o’r wlad?

Jones, Edward P.: O diar oedd, oedd na lot. A Tomos Davies, T.R. Davies o Bontardawe, na dderyn oedd hwnnw.

Jones, Merfyn: Oedd ‘na ryw gydymdeimlad oddi wrth y cyhoedd at eich stand chi?

Jones, Edward P.: Oedd y Tumble ‘ma yn neilltuol, yn neilltuol fel’na. Oe chi’n cael mynd i de efo nhw ar ddydd Sul a phopeth, i bobman, pob enwad ac yn garedig, efo popeth, menthyg y library a chwbwl, oedd ‘na Library ‘ma pryd hynny. Wel fedre chi ddim cael mwy o garedigrwydd erioed, ac wedyn wedi gorffen y gwaith fan’ma, etho ni i Talgarth, i weithio ar y Senatorium, ac oedd rheiny yn garedig hefyd. Oeddan nhw ddim yn Gymry yr un fath a’r rhein i chi’n gweld, yn Gymry iawn te.

Jones, Merfyn: Pam fod hynny i chi’n credu, fod y gymdeithas, llawer o’r hogiau yn y rhyfel ac yn y blaen, ag eto yn medru bod. . medru cydymdeimlo a bobol. . .

Jones, Edward P.: O diar mi o'n nhw, mi o'n nhw achan