Author: South Wales Miners Library, Swansea University

Provider: South Wales Miners' Library

Rights: Unknown

Interview of John, Jack by Jones, Merfyn on 1st February 1973.
The interview forms part of Swansea University�s South Wales Miners� Library collection.

1 audio file (9 min. 35 sec.)

Loading…

Transcription

Jones, Merfyn: Nawr te, cyn dod i hyn nawr, aethoch chi i’r Rhyfel Byd Cynta, nineteen fourteen?

John, Jack: Nineteen sixteen etho i….

Jones, Merfyn: Nineteen sixteen?

John, Jack: Diwedd honno ie.

Jones, Merfyn: Volunteerio neathoch chi ynte…?

John, Jack: Nage. Wel nawrte, dyna beth arall. ‘Se ni peidio neud ffuss obotu’r seventeen na, wage according to age, wel {wrth gwrs} da'th yn age i i'r amlwg. Gallen nhw gymeryd yn ganiatol bod fi'n nineteen, oedd y management yn neud e. Talu er mwyn cael tam' bach o ddaioni i chi, a os o' chi’n cael eich cyfri yn grwtyn da fel oe nhw’n dweud, bod chi’n cael e. Ond wrth gwrs oe’n i wedi mynd yn nineteen, twenty twenty-one, wage according to twenty one. Wel olreit. Amser S. O. a Bodell a’r argument against conscription, nineteen sixteen chi’n gwbod, fues i cyn hynny rhyw ychydig bach. Byse rhaid i fynd, a does gyda fi ddim byd i frago obotu hwnnw, er mwyn peidio dangos rhai o officials {Lloyd George} lan. Dwedon ni wrtho fe a fynte'n gwbod gwell. Ond s'dim gwahanieth yn byd, fe aeth hwnnw drosodd yn rhwydd. Ond oedd na battle dychrynllyd yn Tymbl, S.O. yn enwedig, yn erbyn conscription. Ofnadwy. A mae’r peth hyn wedi sefyll ar fy meddwl i hyd heddi, chi'n gwbod. Yn bendant, pan fyddwch chi’n son am ddyn fel Lloyd George ynte fe, twister yffarn medden nhw ynte fe.

Jones, Merfyn: Oedd na conscientious objectors? Yn Tymbl?

John, Jack: Oedd, digon, llawer ohonyn nhw hefyd.

Jones, Merfyn: Aelodau’r I.L.P. oeddan nhw, ynte crefyddol oeddan nhw?

John, Jack: Nagon - oedd mwy o’r ochor crefyddol. Ond dyna’r point ddigwyddodd chwel. Siwrne rhododd, yn y Conscription Act, exemption i’r ministers of religion, farw’r opposition i radde, lladd y peth. Ond dwi ddim yn gweud llai nag oedd rhai, Gwallter Ddu, a T. E. Nicholas a’r bois na, yn yr ardal hyn a Noel Rees yn Trelech, ychydig iawn o nhw oedd, {unclear} ond ychydig iawn o nhw 'n sefyll yn y battle wedyn, chi'n deall. Wel stori arall wedyn, i fi yn bersonol ‘to, oedd dod nol o’r rhyfel.

Jones, Merfyn: Ond aethoch chi i’r rhyfel, a beth fuoch chi’n neud am dair blynedd felly nawr yn y rhyfel?

John, Jack: Ges i daith ardderchog a gweud y gwir, lwcus. Amser oedd y lladdedigaeth a phethe yn y Dardanelles, Passchendaele a'r Somme, geso i fynd at yn regiment i yn y Dardenelles, ond o'n nhw yn mynd i evacuato’r Dardenelles, Paton, ond bues i ddim llawer yndi, ond dod o na ynte fe. A getho i’n hala o man’ny wedyn nôl i’r wlad hyn, waeth oe nhw’n evacuato, a m'ond cyrraedd na a dod nol. A cael yn hala wedyn nol mas i India. Taith, Sierra Leone, Freetown, Sierra Leone, yn South Africa, aros chwech diwrnod yn Cape Town, mis yn Durban a wedyn cyrraedd Bombay. A oedd hi’n bwysig i gael dynon nawr yn India. A mae honna’n stori fawr ‘to allwn i hala dwy flynedd a hanner fan’ny. Ond erbyn 'ny, o'n i wedi dod mas na. Diawch {unclear} dyn arall fuswn i yn ei enwi fel dyn gas ddylanwad mawr ar ym mywyd i oedd Sargeant {Whitehouse} . Dyn {unclear} sergeant. Dylanwad ofnadwy {unclear} cadw’r corff a’r meddwl yn lan, believe nothing, question everything. Chi’n gweld nawr. Ag yn India nawr yng nghanol y Brahmins a popeth, a’r outcasts o chi’n gweld religion a golwg arall arni i gyd. Ond trwy neud hynny, oe’n i’n neud tipyn o focso a tipyn o redeg a popeth yn byd arall, hence mewn i’r police.

Jones, Merfyn: A ie.

John, Jack: Chi’n gweld y point. Wel nawr, cael trafaelu trwy India i gyd wedyn, escort, escort i’r Cyrnol hyn neu’r Brigadier arall, i Karachi, neu Calcutta, neu Madras, trwy India yn gyfangwbwl fel escort chi’n gweld. Oedd e’n fantais fawr geso i weld, ynte fe, a deall.

Jones, Merfyn: A dod nol wedyn i’r Tymbl….?

John, Jack: A cwrdd a dyn arall wedyn, officer, gwr bonheddig o ddyn, Major John …. beth oedd e, beth yw’r cottons na nawr, Coates un o’r Coal Cotton manufacturers, millionaire. Meddwyn pen hewl os fydd na un ‘riod. A’r joke oedd, oedd e’n gofyn i fi, oe’n i’n cael yn hala wrth gwrs i’r canteen, neu lle bynna oedd e, dozen bottles of whisky. A oedd e’n gofyn i fi, How many bottles in a dozen a fi’n dweud, eleven Sir. A oedd e’n cymeryd y joke chi’n gweld. Digon o arian cymeryd y joke. Gymerodd yn address {unclear} Llanfyrnach lawr ganwaith, mond i fi ddod nol os byse gofyn i fi fynd i Durham neu’r Cotton {unclear} o'dd job na.

John, Jack: Chi’n deall. Chi’n gweld y corrupted side o’r peth i gyd. Ond oedd e’n wr bonheddig o ddyn, gwr bonheddig yn ddi-ddadl. Chi’n gwbod, ond nele fe ddim drwg yn y byd. Wel nawr te, fi am weud na, achos fe wedodd wrtho ni pan gwplodd y rhyfel. Oe’n i more or less on the staff, a buse hi ddim yn rhwydd i gael dod gedre. A oedd yr hen Major {a Mrs} Coates yn gweud wrtho ni, You’ve got to refuse to go on parade’. Dam it medde’n i you could be shot at dawn for that. Never mind, I’ll be dealing with it, and Colonel Johnson. Beth geson ni, yn esgus peidio mynd ar parade, a cael dodi ar y drafft, Colonel Johnson yn gweud wrtho ni you are not fit to be kept in India, put on the draft. So ceson ni ddod adre. Pethe na yn bwysig i chi weld bod wahanol fath o ddynion ma, {unclear} Colonel Johnson ma, allen ni hala llyfr ar hwnnw ‘se ni yn ysgrifennwr. Gwr bonheddig o ddyn ynte fe. Chi’n deall. Na'r point. Wedyn dod nol. Nol i Tymbl wedyn ynte fe.

Jones, Merfyn: Cyn mynd i’r Rhyfel nawr pan oedd chi’n gweithio yn y Tymbl fel labrwr 1913-14 oeddech chi’n dod gartre rhywbryd?

John, Jack: oo..weekend chi’n gweld.

Jones, Merfyn: Bob weekend?

John, Jack: Nawr te amser o'n i'n gweitho prynhawn a nos, dyna un peth arall y Six {for} five am weitho prynhawn a nos, six {for} five chi’n gweld y point. Wel nawr, o'ch chi'n gallu cwpla gweitho nos nos Sadwrn {unclear} bore Sadwrn, a mynd nol dydd Llun i weitho nos, gweitho prynhawn amser 'ny, gweitho gyda Seaview, Jack Davies, Seaview, Seaview oedd enw ei le fe, {unclear} . Wel oedd e’n 'neud y jobs hyn {unclear} a more or less shift prynhawn a shift nos. O chi'n gweitho tyrn yn llai, a o'ch chi'n cal six {for} five.

Jones, Merfyn: Oeddech chin dod gartref wedyn dydd Sadwrn?

John, Jack: O'n, dim bob dydd sadwrn, o na, pob mis , o'dd nhad yn mynd falle, nhad yn mynd every few weeks or so.

Jones, Merfyn: Gyda tren?

John, Jack: Oo ie gyda tren

Jones, Merfyn: Tren o ble nawr, o Tymbl i..?

John, Jack: Ie, o ie, na stori arall to, oedd nhad yn cerdded, gweithio pnawn, yn cerdded i ddala tren i Gaerfyrddin, traen pump yn bore

Jones, Merfyn: O ble?

John, Jack: O Tymbl, eleven miles

Jones, Merfyn: I Gaerfyrddin?

John, Jack: I Gaerfyrddin i ddala tren pump yn bore. O'dd na ddau fys yn dod, neu dri yr wythnos nawr ynte, erbyn bod rheini yn dod o Ammanford oedd hi’n hopless i gael lle ynddyn nhw yn Drefach. Beth o'ch chi yn 'neud wedyn, traen Cwm Mawr lawr i Burry Port a dala’r Swansea Camarthen slow nol i Gaerfyrddin a lawr ‘ma. Wel, gallech chi ddim dod ar ol cwpla gwaith chi’n gweld. O'dd rhaid i chi fynd..

Jones, Merfyn: Nid ar ddydd Sadwrn chwaith?

John, Jack: Na allech, dim se chi'n cwpla gwaith dydd Sadwrn, byddei ar ben, o'dd rhaid chi fynd mor gynted a gallech chi yn y bore. Dala’r tren yn Cwmmawr o'dd ore, biti eleven o’clock a wedyn dala'r slow ‘nol i Carmarthen, a o'ch chi getre ma wedyn biti, falle'r traen dwetha, neu falle afternoon, se chi lwcus dala'r afternoon train.

Jones, Merfyn: Oedd na lawer yn y Tymbl o bobol fel chi'n dod, wyddo chi'n lojo, yn dod o Sir Benfro neu Sir Aberteifi ...

John, Jack: Duw, wedd na gannoedd, bues i'n neud hwnnw fyd, lodjars, rhyw fath o fun day, cadw trips a mynd i ffair Aberteifi, ffair Castell Newydd a'r ffeire na, do, rownd ffordd hyn, {Rhoslyn} a Trelech roedd y trens hyn yn llawn pry'ny amser holidays .. roedd na, beth o'n ni, saith ne wyth o Lanfyrnach, wedyn saith neu wyth o Hermon, Tegryn a Glog a'r llefydd 'na

Jones, Merfyn: Ble oeddan nhw’n gweithio yn y Tymbl ta..?

John, Jack: Yn y Tymbl neu yn y gweithfeydd {Blaenerwen} Cross Hands, a gwaith {cerrig} {unclear} yn y gwaith cyfagos chi'n gweld

Jones, Merfyn: Beth oedd y bobl o Tymbl yn feddwl o’r ... wennoliaid, fel petai, bobl odd yn dod nol a mlaen?

John, Jack: Ie dynion o’r wlad, wedd tam bach o hwnnw, dynion o'r wlad, ond ro'dd gyment o fai ar y bois o'r wlad a'r bois o {unclear} chi'n gwbod, o'dd na derfysg am bach, ond farw hwnnw mas o fewn. Hollol wahanol by the way, bues i'n gweitho peth yn Rhondda, hollol wahanol i'r Rhondda. O'dd lodjo'n Rhondda, o' chi’n barchus, un o'dd yn aros da ni, yn dy fe. Ond lojar o chi, {unclear} lojar o chi’n Tymbl, yn dy fe, byd o wahaniaeth fan na. Ond mai’n dependio arnoch chi to, aetho i'n lwcus iawn, gyda Mrs Jones {unclear} a Mrs Jones arall 'fyd, bues i na am flynydde, aeth rheiny off i Llunden. Fues i’n lwcus iawn, yn dy fe. {unclear} Oherwydd o'dd dau beth yn cownto chwel, arian, fi still yn credu ma'r, os na cewch chi {unclear} chi ar ben, arian o'dd yn cownto, wedd rhai o’r bois yn gallu bo'n fen. Gwedw'ch chi bo chi'n lodjo a prynu bwyd y'ch hunan, a talu coron am lodjings, coron, coron o ni’n dalu Mrs Jones a fine’n gadael Mrs Jones i brynu cwbl da hynna yn siop Richards man 'ny, a prynu'r cwbwl a cadw cownt, a hi'n neud e'i hunan. Wel o'dd e'm yn costi fifteen bob i fi wedyn, hi o'dd yn prynu cryse i fi, {oedd hi'n gweud bo fi} {unclear} {second man} Ond nawr trwy bo chi'n acto, a'r boi o'dd da fi fyd, Jack Williams o'dd hwnnw, un o Pendine, o'dd hwnnw wedyn more or less yn mynd off weekends chi'n gweld, wel geso ni le ardderchog 'na. A wel, a we'n ni’n gallu bo'n help ac nid yn rhwystr chi'n gweld, yn dy fe, ond o'dd na bach o glash rhwng dynion dwad.

Jones, Merfyn: Oedd gin Tymbl dipyn o bad reputation yn doedd fel lle braidd yn wyllt?

John, Jack: Odd. Chi'n gwbod y stori hyn? Oes rywun di dweud y stori hyn wrthoch chi? Ti mas o waith, a bo chi'n cwrdd a'ch gilydd yn Gaerfyrddin neu Abertawe, cer i Tymbl. Ceith unrhyw un sydd a dwy law a dwy dro'd waith na. A o'n nhw'n gweud o ma Canada fach reit.

Jones, Merfyn: Canada fach

John, Jack: Chi'n gwbod, {murderers} i gyd yn rhedeg e!

Jones, Merfyn: Klondyke

John, Jack: Na chi, {o'dd hwnna'n} un amser

Jones, Merfyn: Oedd pethau yn ryff yno?

John, Jack: Nagoedd, chwmo beth oedd yn Tymbl pryd hynny, a mae rhaid tynnu'r pictiwr hyn, y pictiwr gwir nawr yn fy meddwl i, oedd y {tai cwrdde} i gyd yn llawn, fwy na llawn. Oedd y clwb mawr, clwb Tymbl, clwb Upper Tymbl oedd hwnnw dod, clwb mawr yn cwrdd, newydd {unclear} yn Tymbl, yn dy fe. Lower Tymbl, clwb newydd yn cal i fildo yn hwnnw, llawn. Tîm ffwtbol, run peth a nawr, ennill y cwpan, popeth! Côr bois, {unbeatable} côr bois, ennill tair gwaith a'r ddeg o'r bron a'r Crusaders, mynd trwy Gymru gyfan. Popeth yn mynd. Ninne wedyn, section bach ohono ni, amser Tom Nefyn a'r rheina, yn dy fe, section bach o ni, galw'n hunen yn Secularists, neu free thinkers, beth bynnag yn byd, yn dy fe.

Jones, Merfyn: Ond cyn y Rhyfel Byd Cyntaf nawr?

John, Jack: O cyn hynny, nagoedd, o'n i ddim yn cymeryd part. Wrth gwrs mae’r amser yna yn fach iawn, cofiwch chi, tair mlynedd yw e!

Jones, Merfyn: Ond sgynoch chi gof wyddoch chi, oedd y lle i fod pobol yn cwffio ..?

John, Jack: O'dd rough {unclear} i gal na, Tumble Hotel, o'dd rough {unclear} i gal na chi'n gwbod, ond wedi dod nol weles i fwy o hwnna, a getho i lonydd, trwy bo fi wedi cal peth training yn dy fe, ac ennill y'ch parch heb ymladd yn dy fe. Hanes wedi dod o'm mlaen i, bois erill wedi bod 'run man a fi, a wedi mynd yn India i'r, wel i'r semi-final oedd hwnw dyfe. Ond oedd na le ryff achan nos Sadwrn, oedd y dynion cyn y rhyfel nawr, locals hefyd.