Author: South Wales Miners Library, Swansea University

Provider: South Wales Miners' Library

Rights: Copyrighted

Interview of Jones, Josiah (Joe Brickman) by Hywel, Francis on 23rd October 1972.
The interview forms part of Swansea University�s South Wales Miners� Library collection.

1 audio file (7 min. 50 sec.)

Loading…

Transcription

Hywel, Francis: Lle aethoch chi ar ôl mynd i Glyncorrwg, aethoch chi nol draw i’r Rhondda wedyn?

Jones, Josiah (Joe Brickman): Etho i o Glyncorrwg i Rydamman. Nol ‘ma. A lawr i Ammanford chi’n gweld. A fues yn gweithio am sbel fan’ny yn Ammanford. Yn gwaith ucha’r Betws. Man lle oedd y streic nineteen-twenty-five, Seniority Rule dispute. Fuo i’n gweithio man’ny.

Hywel, Francis: Gesoch chi’ch galw lan man’ny ond do fe?

Jones, Josiah (Joe Brickman): Do. Chi wedi cael peth o’r hanes na o’r blaen odi chi?

Hywel, Francis: Na, na.

Jones, Josiah (Joe Brickman): Do, do getho i’ng ngalw lan i’r Rhyfel i chi’n feddwl ife?

Hywel, Francis: Ie.

Jones, Josiah (Joe Brickman): Do. Ond etho i ddim i’r Rhyfel chi’n gweld. Beth ddigwyddodd, fel wy’n gweud, fi wedi gweud cymaint a hyn wrthoch chi, fi ddim yn gwybod a ydi e lawr ar records.

Hywel, Francis: Nagyw.

Jones, Josiah (Joe Brickman): Fi wedi gweud wrthoch chi bod fi am uno a’r fyddin os gwede nhw amser oe’n i’n gweithio yn Treherbert, dechrau’r rhyfel chi’n gweld. Fi a mhartner, Idwal Jones o Gwmllynfell ‘ma. A oedd cymaint o fechgyn yn mynd yr amser ‘ny, amser dechrau'r rhyfel, oedden nhw ddim wedi meddwl bod hi fod para tair blynedd. Oe nhw’n credu taw rhyw dri mis o amser da yn Bristol oe nhw yn mynd i gael. And we’ll be home boys. Oe nhw’n credu bod nhw yn mynd i gael, na, fe, amser hapus. Fi’n cofio nhw’n mynd, fi’n cofio ni’n mynd i hebrwng nhw lawr i’r station Tonypandy. A oe’n i’n moyn mynd gyda nhw. A oedd cefnder i fi o Ystradgynlais, fe aeth e’r amser 'ny, a oe’n i’n gweud wrth Idwal y mhartner, Wel dere i ni gael joino lan nawr. Na, sa i ni gael mynd gartre gynta medde fe. Wel, oe’n i’n gweud, Unwaith ewn i gartre, pan ceith yr hen fenywod afael ynddo ni, {unclear} fydd dim byth cyfle gyda ni joino lan wedi’ny. Oedd e’n mo’yn mynd nol. Wedi mynd nol bachan, ethon, getho'n call nawr, o flaen y Medical Board ne beth i chi'n i alw fe, a 2b oedd y mhartner, rhywbeth ar ei galon e. Oe’n i’n fachgen dewr iawn, oe’n i’n A1 te. Oe’n i’n ffit for anything. Ond na, Mam yn gweud, Smo ti’n mynd nes bo rhaid i ti. Wel, beth bynnag, pan oe’n i’n gweithio yn Ammanford oe’n i’n gweud wrtho chi, ma call yn dod wedi’ny. A oedd hi’n dod tua diwedd y rhyfel nawr chi’n gweld. A oe’n i’n barod i fynd nawr. Oe’n i’n gweud, Wel nawr ma rhaid i fi fynd , gan bod nhw wedi galw arno i fynd, nage volunteer ond yn gonscript mewn ffordd nawr. A rwy’n fodlon mynd. A oe’n i’n paratoi i fynd i’r barracks i Gaerfyrddin. Ond ar station Panyffynnon, ma fi’n cwrdd a trysorydd y gwaith, Rufus Evans, fi’n cofio’i enw fe yn dda. A ma Rufus yn gweud, ichi off yn fore i chi ddim. Odw wedes i, fi wedi cael y'ng ngalw i’r fyddin nawr, rwy i yn mynd i Gaerfyrddin i’r barracks. Sefwch nawr medde Rufus, fi ddim yn credu bod eisiau i chi fynd. Wel, ma nhw wedi gweud wrtho i, rwy i wedi cael yn rhybuddio o’r Police Station bo fi fod i fynd beth bynnag. Waeth oe’n i’n lodgo nawr gerllaw’r Police Station. Dewch nol 'da fi medde fe. A nol i weld y llyfre da fe. Na, ‘sdim eisiau i chi fynd medde fe, oherwydd mae’r quota wedi mynd o’r Betws. A oedd hyn a hyn o bercentage, rhyw five percent neu rywbeth i fod i fynd yr amser ‘ny, a wedyn oe nhw’n cadw’r rhest, oherwydd bod cymaint o eisiau glo, i gadw’r wheels i droi amser rhyfel chi'n gweld. A fel’ny, fe lwyddais i beidio mynd te. A nol gartre i weud wrth Mam. Oedd yr hen fenyw fel se hi wedi cael ffortiwn, fydde hi ddim mwy hapus. Ond oe’n i’n eitha parod i fynd, oe’n i ddim conshi chi’n gweld. Oe’n i’n teimlo’r un peth pryd ’ny, waeth fydde’n brofiad newydd i fi. Ond daeth mo hwnna off. A fi bron bo'n flin heddi cofiwch na fydden i wedi cael y profiad na. Chi’n gwbod, fi’n teimlo dylen i weld cymaint o bopeth, a profi popeth a sy bosib beth bynnag.

Hywel, Francis: Oedd llawer o bobol yn yr ardal hyn yn pallu ymladd? Glowyr yn erbyn y rhyfel?

Jones, Josiah (Joe Brickman): Yn erbyn rhyfel?

Hywel, Francis: Ie.

Jones, Josiah (Joe Brickman): Allai ddim gweud yn y cwm hyn, Cwmllynfell, Cwmtwrch, allai ddim gweud bod fi’n nabod dim un conshi ‘ma. Fi’n ffaelu cofio nawr, fi’n gwbod bod llawer ohonyn nhw wedi cael eu lladd druain bach. Ond oedd bechgyn lawr Gwaun Cae Gurwen yn conscientious objectors, o'dd un, brawd yng nghyfraith i fi, yn briod a chwaer y wraig, mi fuodd e yn y jail, yn hytrach na mynd. A fi ddim yn gwbod p’un ai i chi wedi clywed am Lot Cwmbach, eich tad wedi clywed, os na'g oedd e’n i nabod e, Lot Evans, o’r Waun ‘na, oedd e’n gadeirydd Lodge y Waun, oedd e’n gonshi. Wedyn aeth ei frawd i’r jail, Johnny Cwmbach, a Johnny Morgan y mrawd yng nghyfraith. Beth yw enw’r, Dartmoor … beth yw enw’r carchar, fi ddim yn cofio nawr, fi'n ffili'n deg a cofio. Ond fuodd nhw yn Dartmoor. A fuo nhw i’r diwedd yn erbyn rhyfel chi’n gweld. Wedi’ny, wedi iddyn nhw gael dod allan o fan’ny fuon nhw lan ar Llyn y Fan ‘ma, yn gweithio man’na fel prisoners of war bron te. A o nhw’n gweithio’n galed, torri {peips} {unclear} A rhyw bethau fel’ny oedd eu gwaith nhw chi’n gweld. Ond oe nhw’n eitha cydwybodol yn erbyn rhyfel, chi'n gweld. Wrth gwrs, nage bod fi’n cydfynd a’r rhyfel, ond fel fi’n gweud wrthoch chi, fi’n fachan, mwy fel rhyw blentyn bach, mo’yn gweld tu fewn i bob bocs oe’n i o hyd chi’n gweld, i weld shwt beth oedd e.

Hywel, Francis: Beth oedd ei rhesymau nhw am fynd yn erbyn y rhyfel te?

Jones, Josiah (Joe Brickman): Wel wi’n credu bod nhw wedi bod yn darllen a dilyn gwaith Nicholas Glais chi’n gweld. Chi wedi clywed am Nicholas Glais ynta. Wel oedd e yn erbyn rhyfel, a wedi ysgrifennu llawer o lyfrau chi’n gweld, i’r cyfeiriad ‘na. A’r peth mwya yn erbyn rhyfel wrth gwrs oedd taw, fel rwy i wedi cael lle i ddeall, mae ryfel y gwyr mawr oedd hi, er mwyn lles y gwyr mawr, gweithwyr oedd yn gorffod dioddef, a’r gwyr mawr, cyfoethog yn neud proffits. A fel, rwy’n cofio’n dda un yn gweud, take profits out of war, and there will be no war. Yn erbyn yr egwyddor ‘na oe nhw chi’n deall. Ie, ie.