Dyddiad: 1913-12

Teitl Casgliad: Wawr (Aberystwyth)

Sefydliad: Prifysgol Aberystwyth

Hawliau: Copyrighted

Crynodeb:

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt 16 o 48 Nesaf Olaf Nodyn Tudalen: [page 1]

16 Cymraeg pur a dilediaith yn ein plith, paham na eill y gwerinwr ei hun ddysgu'i ddarllen yn ddidramgwydd heb ei ddychryn ganddo ? Kid jw hyn ond diogi didaro. Melltith ar ein llên fyddai i'r llenorion ysgrifennu'n " syml," sef mewn Cymraeg diniwed a diaddurn. I ba beth y tâl cyfoeth yr iaith, onid arferer ef ? Pa lenor o estron a ysgrifennai i'w " werin " ar draul tlodi ei iaith ? O ddiffyg eu harfer yr a geiriau ac idiomau'n ddiymadferth ac yn esgymun, nid oherwydd pall ar eu defnyddioldeb a'u tlysni. Diogyn llenyddol yw'r un ni thrafferthaì i chwilio am y moddion cryfaf a mwyaf cyfieus i fynegi ei feddwl. Ond erbyn hyn dysgasom gymryd trafferth, a pha waeth os gelwir ôl y drafferth yn niwl neu rodres neu fombasteiddwch gan y dienwaededig. Beth sy'n dlysach nag ysgrifau rhai o " fechgyn y Colegau " sy'n meithrin arddull Gymraeg bur ? Cas o beth ydyw ceisio ymlusgo trwy ysgrifau 31ac "llenorion" ereill, wedi cynefino a'u harddull ddestlus a phersain hwy. Ni bu farw'r hen briod-ddulliau, trwy drugaredd, eithr hepian yr oeddynt. A chwerwir yspryd rhyw dori Uenyddol gan ieithwedd a geirfa'r Hen Destament ? Choelia 'i fawr. Ac eto gwga'n draws wrth ddarllen ysgrif neu gerdd mewn Cymraeg tebyg iddo'r dyddiau hyn, Rhaid dysgu'r Gymraeg i allu cyfansoddi ynddi, a hefyd i fedru 'i mwynhau. O weled hyn, odid na ddaw breuddwydion rhai o ieuenctid yr oes hon i ben, sef gweld yr iaith ja un o ieithoedd diwylliant Iwrob, iaith ddiweddar y bydd yn rhaid ei dysgu i fod yn ** ddiwylliedig " ; a gweld hefyd ryw fardd neu lenor o Gymro'n codi ac yn cyfansoddi rhywbeth y bydd yn rhaid i'r un a fynno 'i ystyried ei hun yn u ddiwylliedig " ei ddarllen neu ddarllen cyfieithiad ohono. A phaham na ddaw,—ond i bob brân ac ëos adnabod eu llais ? Ond soniwyd am " niwl." Y mae mwy o farddoniaeth mewn niwl nag mewn llawer peth. Darllener rhai o gerddi godidog rhai o feirdd diweddar y Saeson os am niwl. Ac eto gellir eu mwynhau a'u deall er gwaethaf hwnnw. Nid oes eisiau eglurder noeth i wneud i'r galon deimlo,—a'r galon sy'n teimlo barddoniaeth. Y mae barddoniaeth rhy amlwg a delwig fel pe paentiai arlunydd bopeth yn  glir a chyflawn   yn ei ddarlun,  neu  fel   pe  cerfiai'r

Copyrighted

Mae'r deunydd hwn yn hawlfraint i Aberystwyth University. Oni bai bod y wybodaeth sy'n cyd-fynd ag ef yn nodi'n wahanol, rhaid i chi ofyn caniatâd oddi wrth ddeiliad yr hawlfraint cyn y gallwch gopïo, addasu, dosbarthu neu berfformio'r gwaith, hyd yn oed at bwrpas anfasnachol.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech chi wneud cais am fersiwn cydraniad uchel o'r ddelwedd, cysylltwch â Aberystwyth University os gwelwch yn dda.

×