Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Gwelais adroddiad wedi ei baratoi gan Bwyllgor y Goleuad, ac yr wyf wedi anfon atebiad iddo. Caiff darllenwyr y CYMRO gyfle eto i ddarllen y ddau. Digon yw dweyd yma na wnant un ymgais i newid na chywiro dim gair o'r hyn a gyhoeddwyd gentrym; ac an- wybyddir pob ffeithiau ond sydd yn fanteisiol i bwrpas y Pwyllgor. Gwahoddir Cymdeithasfa'r Gogledd yn mis Tachwedd i Lanfyllin, lie sydd wedi arfer bod yn letygar. --+- --+- -+- Mae 77 o bersonau yn ngwasanaeth Dir- prwywyr Yswiriol Cymru heb fod ar y staff reolaidd. Cymer Arglwydd Ninian Stuart ddyddordeb mawr ymhob peth ynglyn a'r dir- prwywyr yswiriol! -+- -+ -+- Ym mysg bwndel o hen lawysgrifau Bod- rhyddlan, daethpwyd o hyd i siarter gyntaf Rhuddlan, wedi ei harwyddo ar yr 8fed o Fedi, 1284, gan Iorwerth I. Yr un dyddiad yr arwyddwyd siarteri Fflint, CÓnwy, a Chaer- narfon. -+- -+- -+- Mae eglwys yr Aberthyn wedi ei hanrhegu gan Mr. W. Yorwerth, un o swyddogion yr eglwys, a llestri cymundeb (cwpanau unigol) hardd iawn. Cyfranogwyd o'r cymun y waith cyntaf a hwynt y Sul o'r blaen, a dan arweiniad y bugail, y Parch. Emrys Davies. -+-- -+- -+- Mae siom chwerw yng Nghaerfyrddin am fod y pwyllgor wedi dweyd nad oes rhagor o ynadori t'w penodi am ddwy flynedd neu dair. Mae Mr. Towyn Jones wedi cymeryd y mater mewn llaw, a thebyg yw yr anfonir dirprwy- aeth at yr Arglwydd Ganghellydd. Buaswn yn hoffi clywed Towyn yn ei chyflwyno. -+- -+- -+- Mae adfywiad neilltuol wedi bod ar yr Ysgol Sabothol yn Eglwys y Demi, New- bridge, Mynwy. Deffrodd yr eglwys i weled ei gwaith, ac mewn blwyddyn o amser cod- y I wyd yr Ysgol o fod dan 200 o nifer i fod dros 500. Dynia esiampt a llwyddiant ddylai sym- byly eglwysi eraill y wlad. -+-- -+- -+ Penderfynu gadael i bwyllgor Ty yr Arg- lwyddi wncud a welo yn dda gyda'r ymchwil- iad i'r ddeiseb yn erbyn dadwaddoliad a wnaeth yr Aelodau Cymreig. Gan y Prif- weinidog y mae'r ddeiseb, ac nid yw wedi blino neb. Waeth g-adael iddi, yn lie rhoi gwaitheto i Mr. Haydn Jones i'w dadlenu. -+-- Cyfeiria amryw ohebwyr at vr "Orgraff Newydd," a dywed un lienor gwych Nid wyf yn myned i ysgrilennu diddoral." Erbyn edrych Geirlyfr Bbdfan gwelaf mai dyddor- 01" geir yno, ac fe ddywed Syr Edward Anwyl yn y Rhagair fod yr Athro John Morris Jones wedi cymeradwyo yr hyn sydd yn y Geirlyfr. Felly "dyddorol" yw y ffurf un- iawngred. -+- -+- -+- Faint o amaethwyr cefnog sydd yn goddef i'w gweision gysgu mewn croglofft uwchben yr ystabl neu'r beudy yn siroedd amaethyddol Cymru? Codwyd y pwnc ym Mhwllheli gan Dr. Owen, a haedda sylw ymhob cynhulhad drwy'r wlad. Mewn llawer o ffermdai nid oes ystafell wely yn cael ei pharatoi i'r gweis- ion ond yn y tai allan; ac vn y ffermdai parchus iawn bydd dwy neu dair o ystafell- oedd yn cael eu cadw yn wag erbyn y claw ymwelwyr," a'r gweision yn llofft y 'stabl. Dyma bwnc ag y byddai YI1 dda cofio am dano wrth holi hanes yr achos mewn ami i gymyd- ogaeth. Mae'r gynhadledd er dwyshau y bywyd ys- prydol i'w chynnal eleni fel arfer yn Llandrin- dod o'r 3ydd hyd y 7fed o Awst. Y siarad- wyr ydynt y Parchn. W. Talbot Price, M.A., W. Griffith Thomas, D.D., Toronto, W. Y. Fullerton, Llundain, Keri Evans, M.A., Caer- fyrddin, W. W. Lewis, Abertawe, R. B. Jones, Forth, W. S. Jones, Llwynpia, O. M. Owen, Birkenhead, J. Rhys Davies, Bradford, ac eraill. +- +- -+-- Mewn cyfarfod o Fwrdd Diwinyddol Prif- ysgol Cymru yn yr Amwythig ddydd Mercher, etholwyd Syr Edward Anwyl yn llywydd am yr wythfed tro. Prif ddigwyddiad y cyfarfod oedd terfyniad hir wasanaeth Dr. Gwatkin, Athro mewn hanes eglwysig yng Nghaer- grawnt, fel arholydd yn ei bwnc am 15 mlyn- edd ynglyn a Phrifysgol Cymru. Eleni yw y t, t, y flwyddyn gyntaf i'r rheolau newydd fod mewn grym vnglyn ag Arholiad y B.D. -+- -+- --+-- Aeth dirprwyaeth ddirwestol i Lundain yr wythnos ddiweddaf i ddweyd fod Cymru yn anesmwyth eisieu cael mesurau dirwestol. O'r De yr oedd y ddirprwyaeth yn dyfod, a Syr Herbert Roberts, Gogleddwr, a'i cyflwyn- ai i Syr Brynmor Jones. Yr unig atebiad a gaed oedd, fod pob cydymdeimlad a'r amcan, ond fod anhawsterau ar y ffordd, a bod yn rhaid cael cyfarfod ar ol i siarad am y rhai hynny. Mae'n haws i Gymru gael Dadwadd- oliad ac Ymreolaeth na chael mesur dirwestol. -+- -+- -+- Parthed eich nodyn yr wythnos ddiweddaf ynglyn ag erthyglau Cymraeg mewn un o wythnosolion masnachol Lloegr, dyddorol ydyw darllen y cyfieithiad rhydd canlynol wel- ais y dydd o'r blaen yn y Medical Officer :— Yr ydym wedi sylwi lawer gwaith yn adi- weddar mor hynod o werthfawr ydyw medru siarad iaith frodorol Mr. LJoyd George, ac y mae penodiadau wedi eu croniclo lie yr oedd gwybodaeth o Gymraeg yn troi y fantol. Nid yw yn iaith hawdd ei meistroli; ond pan ys- tyrir ei bod yn werth 200p. y flwyddyn yn ychwanegol gan adrannau y Llywodraeth, dylai y rhai sydd yn myned i fewn am swydd- feydd perthynol i iechyd cyhoeddus weled fod Cymraeg yn rhan o'u cwrs. Ar hyn o bryd mae cryn lawer yn gwaeddi am wneud i ffwrdd a g-orfodaeth i ddysgu Groeg yn ein colegau a'n prifysgolion. Gawn ni awgrymu rhoddi Cymraeg yn lie Groeg, fel iaith sydd mor uchel ei phris yn y firchnad? -+- Mewn araeth rymus yn yr awyr agored, yn un o gyfarfodydd y Temlwyr Da yn Aberdar y noson o'r blaen, dywedodd y Parch. Cynog Williams, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Nhrecynon, mai masnach y ddiod oedd y peth mwyaf dinistriol yn ein bywyd cenedl- aethol. Yr oedd pob math o droseddau yn cael eu magu gan y ddiod a melldith Cymru oedd y dafarn. Yr oedd y tafarnwyr wedi gwneud eu goreu i ddenu'r cyhoedd trwy brynu gramophones a chyflogi merched glan- deg i wasanaethu yn y bar. I wella y drygau hyn, yr oedd yn rhaid iddynt gael Eglwys, yr hon a fyddai yn lan ac wedi ei datgysylltu yn llwyr oddiwrth y fasnach feddwol. Yr oedd yn rhaid iddynt gael pulpud glan. Wedyn yr oedd yn rhaid dweyd wrth eu swyddogion eg- lwysig mai un peth oedd hi i fod, naill ai y set fawr neu far y if tafarn. Nis gellid gadael iddynt gario cwpan yr Arglwydd ar y Sul, a chario cwpan y diafol ar noson clybiau. Yr oedd yn rhaid i bob un fod yn llwyr ym- wrthodwr cyn y derbynid ef yn aelod, ac yr oedd yn rhaid i'r eglwysi gydweithredu er cyr- raedd yr amcan hwn. Byddai yn rhaid iddynt greu cydwybod dirwestol. < Dyrysbwnc y dyfodol yw cwestiwn y Saboth. Anodd gwneud yn deg at bawb. Aeth aelodau y Gymdeithas Ddirwestol at y Cyngor Trefol i ofyn am iddynt apelio at gychwyr Pwllheli am iddynt barchu y Saboth. Oind beth am y bobl sydd yn cadw cerbydau i redeg ar y Saboth?" ebai rhywun. Ië, dyna'r anhawster. Olid rhaid ymestyn at gysondeb ym mhopeth. -+- -+- Yn Wales am y mis hwn ceir ysgrif gan yr Athro Young Evans ar Ramant Llinell y Cambrian. Nid dyna'r penawd, ond gwna'r tro. Adrodd y mae ymha le y mae chwilio am ol troed Gerald y Cymra pan yr aeth yng' nghwmni'r Archesgob Baldwin tua Phasg u88 o Lanbadarn i Nefyn i ddenu milwyr i'r Drydedd Grwysgad. Gorffwysodd Gerald y noson gyntaf yn Nhywyn Meirionydd, a thrannoeth croesodd y Fawddach ger Llan- elltyd, gan orffwys yr ail noson yn Llanfair, a chyhaeddodd Nefyn drannoeth. Cadwodd Gerald i fyny o lan y mor yn Nhywyn, ac felly fe g-ollodd yr olwg ar ogoniant Traeth Meir- ion! Nid yw Gerald ond un o amryw sydd wedi teithio ar hyd y ffyrdd geirwon sy'n cys- ylltu Ceredigion ac Arfon. Am fanylion pellach, darllener yr ysgrif ddyddorol yn "Wales." -+- -+- Yn hanes Cyngor Siirol Arfon ceir engraifft o'r modd y mae'r trethi yn cael eu gwario. Rhoddir cyfrif o'r symiau a dalwyd i aelodau a swyddogion fel treuliau teithio &c., pan y'u danfonid gan y Cyngor i bwyllgorau a chyn- hadleddau. Dywedai Mr. Issard Davies fod treuliau yr aelodau wedi myned i lawr gan' punt, ond traul y swyddogion wedi myned i fyny 76op. Mae treuliau Mr. J. R. Hughes, un o aelodau mwyaf pybyr y cyngor, yn 5op. is. Fel y dywedai Mr. J. R. Pritchard, ar y cyngor y mae'r bai yn galw am i'r aelodau Z7, redeg o'r naill bwyllgor i'r llall. Ond fel y mae peth yn myned ymlaen bydd ar bob aelod o'r byrddau cyhoeddus eisieu tal am wasan- aethu y cyhoedd. Caniateir hynny gyda phwyllgor yswiriant, a phaham hwy mwy na byrddau eraill, ebai Mr. Pritchard. Peid- iwch a son yn ddiddiwedd am arian," ebai Mr. R. Thomas. Yr oedd Mr. Issard Dav- ies a Mr. J. R. Pritchard yn anghofio am yr anrhydedd o wasanaethu y cyhoedd." -+-- -+- Mae Cyngor Sir Maldwyn yn un o'r rhai blaenaf yng Nghymru mewn hyrwyddo "mud- iad y man-ddaliadau. Deallwn fod eisoes tua phedwar ugain a deg o'r cyfryw ddaliadau yn y sir. Nid oes anedd-dai nac unrhyw adeil- adau ar rai o honynt; ond ar y rhan liosocaf o'r daliadau y mae tai newyddion cyfieus ac adeiladau eraill wedi eu codi. Mae hyn yn fantais fawr i iechyd a moesau y preswylwyr.- Gan fod etc liaws o ymgeiswyr am dir heb eu boddloni, y mae y Cyngor Sirol wedi cymer- adwyo awgrymiad o eiddo Pwyllgor y Man- ddaliadau i brynu tua thair mil ereill o erwau o dir. Mae M'r. Humphreys-Owen a'r teulu wedi penderfynu gwerthu cyfran ü'u ystad, yng nghymydogaeth Berriew, ac wedi ei gynnyg yn gyntaf i'r Cyngor Sir, a dyma yr hyn y bwriedir ei brynu yn awr os gellir dod i delerau am y pris. Mae y 3000 erwau yn cynnwys peth o'r tir goreu yn Nyffryn yr Hafren, a rhai o'r ffermydd mwyaf yn yr ardal; ac oherwydd hynny teimlir gwrthwyn- ebiad cryf gan rai o'r tenantiaid. Heblaw y tenantiaid, cawn fod yr adran Dbriaidd a Cheidwadol o aelodau y Cyngor Sir hefyd yn gwneud eu goreu yn erbyn prynu y ffermydd Z, mawr. Tybiant y dylai y rhai hynny g'ael llonydd, pwy bvnnag fyddo heb dir. Ond er pob gwrthwynebiad, arwyddo cynyddu y mae ystad y Cyngor Sir ym Maldwyn.