Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Gwahoddir Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhydd i gynnal eu cyfarfod blynyddol nesaf ym Mhenmaenmawr. --+-- -+- -+- Bwriedir codi 65 o dai gweithwyr yn Johns- town, ger Rhiwabon, a bydd y gost tua 13,ooop., gan gynnwys y tir. Gwahoddwyd yr Y. M. G.A., i ddarpar pabell ynglyn ag Eisteddfod Bangor fel y gallo yr yrnwelwyreistedd a darllen a chael bwyd yn rhydd oddiwrth arogl diodydd meddwol. -+- -+- -+- Gwaria'r gorfforaeth yo.ooop. i redeg y bedwaredd bibell i gario dwfr o Gwm Elan i Birmingham. Disgwylir i'r gwaith gael ei orffen ymhen pedair blynedd. .-+- -+- -+- Cynygia Arglwydd Howard de Walden gan Punt o wobr am y gwaith cerddorol goreu cyfaddas i gerddorfa 021 o offerynnau a chor, &c. Mae'r cyfansoddiadau i fod yn waith Cymry, ond y geiriau i fod un ai yn Gymraeg neu Saesneg. Mae Mr. Beriah Gwynfe Evans, Caernar- fon, wedi paratoi Drama Ysgrythvrol, seil- ledig ar hanes Esther. Actiwyd hi yng Nghaernarfon, a bydd yn cael ei hactio eto ym Mangor am dair noswaith. Addawa yr awdwr roi pob cynorthwy i gwmniau fo'n dymuno actio'r ddrama. Cyflwynir deuddeg i'w hordeinio eleni yng Nghymdeithasfa'r De,—tri yn raddedigion a'r oil wedi bod am y cwrs gofynnol o addysg. Yn y Gymdeithasfa yr wythnos hon, hefyd, fe etholir llywydd am flwyddyn, ac ysgrifennydd y Gymdeithasfa ac arholydd ymgeiswyr am y Weinid-ogaeth am dair blynedd. -+- -+- -+- Yn yr arholiadau diweddar am benodiad i gylch mvchaf y Civil Service, nid oes neb o Gymru wedi llwyddo. Bechgyn o'r hen brif- ysgolion cyhoeddus welir yn y rhestr a 140 Sydd wedi llwyddo. Rhaid cofio mai'n ddi- Weddar y trodd Cymru ei sylw i'r cyfeir- lad yma. -+- -+- -+- Yn Westgate Hotel, Casnewydd, mewn ar- ^erthiant cyhoeddus, gwerthwyd y Central Hotel, Llanhilleth, Mynwy, i Mri. Webb Bros., Bragwyr Aberbeeg, am 25,500^ Mae hwn yn un o'r ychydig westai ym Mynwy sydd yn dat rhydd, ond ar brydles y mae y ty yn sefyll, a thelir 6op. y flwyddyn am honno. Etofe gyrhaeddodd y pris anferth a nodwyd! -+- -+- -+- C. yflwynwyd ei ddarlun i Mr. Ormsby-Gore gan ei edmygwyr ym Mwrdeisdrefi Dinbych. J^rth ddiolch am dano, dywedodd Mr. Orms- by-Gore ei fod yn disgwyl cael cynrychioli y bwrdeisdrefi yn y senedd cyhyd ag y byddai ganddynt hawl i aelod. Y tebyg yw, meddai, y diddymir y sedd pan basir mesur atrefniad seddi. -+- -+- -+- Dtwy ail bleidlais y Cadeirydd, codwyd tyflog Dr. Humphreys, Llanfair, swyddog ttieddygol Sir Drefaldwyn, o bed war i bum' cant o bunnau, a 120p. at gostau teithio. Nid oes amheuaeth nad yw meddygon ein gwlad Yn llawn haeddu y cyflogau da a roddir iddynt, Ond y mae rhywbeth yn sylfaenol bwdr mewn gwlad sydd yn talu soop. y flwyddyn i feddyg ac yn gadael i lawer o'i gweinidogion ymdaro Oreu gallant ar bunt a deg swllt ar hugain yr Wythnos. Y ffaith syrnl yw hon, nad oes neb Yng Nghymru heddyw yn cael ei gydnabod yn salach na'n bugeiliaid. J Y Parch. T. Charles Williams, ML A., sydd i lanw pulpud y Parch. Dr. J. D'. Jones, Bournemouth, dros fi's Awst, a gwahoddwyd ef i bregethu yn hen gapel Mr. Spurgeon ym Medi. Ac eto fe ddywedir fod gwyr mawr Mon a'u bryd ar dorri pob moddion cymundeb a'r Anghydffurfwyr Seisnig! Rhaid i wtr mawr Mon fod yn ofalus. J Yr wythnos ddiweddaf yr oedd ynadon Caerphili yn myned dros hanes tanchwa ofn- adwy Senghenydd, ar waith y Swyddfa Gar- trefol yn erlyn y prif oruchwyliwr. Yn y diwedd gorchymynwyd i'r goruchwyliwr dalu dirwy o ^24 a 26p. 5s. o gostau, a gollyng- wyd y cwmni yn rhydd. Cwyno wna arwein- wyr y glowyr nad oedd y cyfan ond ffug a gwagedd. .-+- -+- -+- Ffaith ddylai beri anesmwythyd i fesur i Ymneilltuwyr a Phrotestaniaid yw cynnydd cyson a chyflym Pabyddiaeth yn y wlacl hon. Erioed nid ymddanghosai yn fwy heinyf, gweithgar, a phenderfynol. Ehfyn ei chen- hadau i bob cwr o'r wlad. Amgylcha for a thir i wneuthur proselytiaid. Adeilada deml- au gwychion ymhob tref, sefydla achosion newyddion, a lliosoga ei lleiandai. Cafwyd golwg arni mewn nerth yng Nghaerdydd y Saboth o'r blaen. Edrycha yn hyderus i'r dyfodol am fuddugoliaethau, a theimla ei swyddogion yn hyderus y bydd iddi eto aden- nill y tir gollodd yn y Piwygiad Protestan- aidd. Nid mewn ysbryd dolefus yr ysgrifen- nir fel hyn, eithr yn hytrach mewn ysbryd rhy- buddiol, a gallasai y Cyfundebau Crefvddol wneuthur ffolach gwaith na wynebu'r ffeith- iau hyn a threfnu eu tai i'w cyfarfod. -+- -+- -+- Pa faint yw hyd Eisteddfod Bangor i fod? Son am gyfarfod pregethu a Sasiwn! Dyma z:,Y i chwi friwsionyn bach allan o brogram Eis- teddfod Bangor:—Saith o gorau yn cystadlu yn y brif gystadleuaeth gorawl; wyth yn yr ail gystadleuaeth; 5 o gorau meibion, a 8 o gorau merched; 17 o gorau plant; 4 parti cymysg; io, pedwarawd; 19 deuawd soprano; 48 unawd soprano; 48 contralto; tenor, 40; bariton, 3°; bass, 22; canu gyda'r tannau (dull y De), 8; eto, dull y Gogledd, 15; eto i blant, 16; can ystum, 13 parti; ar y delyn droed, 9; ar y deir-res, 5. Os nad oes yna ddigon i lenwi dyhead y mwyaf eithafol o'r eisteddfodwyr, beth wna? -+- Y mae Pwyllgor y Caniedydd Cynulleidfaol —llyfr emynau a thonau yr Annibynwyr- wedi prynu gan weddw y diweddar Mr. D. Emlyn Evans yr oil o'r tonau gyfansoddwyd gan y diweddar bencerddor adnabyddus. Dylai y pwyllgor hwn-gyda thonau y di- weddar Ddr. Joseph Parry, brynwyd ganddo dro yn ol, ac hefyd gyda thonau Mr. Emlyn Evans, yn chwanegol at y tonau goreu sydd yn y llyfr ddefnyddir gan yr enwad yn awr- ddwyn allan lyfr newydd campus. Dywedir fod rhyw bedwar ugain o'r tonau sydd yn y Caniedydd a thua chwech ugain o'r emyn- au i gael eu cau allan o'r llyfr newydd. Wrth gwrs bydd tonau ac emynau newyddion yn cymeryd eu lie. Mae'n amlv/g" erbyn hyn, fod y syniad o gael un llyfr oll-enwadol allan o'r cwestiwn. Cyhoeddwyd ychydig amser yn ol fod y Bedyddwyr bron wedi jjorffen eu llyfr newydd, pan awgrymwyd cael llyfr oll- enwadol, a bydd hwnnw o'r wasg yn bur fuan bellach-y rhan gerddorol o hono wedi ei olygu gan Mr. John Henry Roberts, Mus.Bac. (Pencerdd Gwynedd), Liverpool, a'r emynau wedi eu golygu gan y Parch. Dr. H. C. Williams (Hywel Cernyw), Corwen. Drwg gan bawb yw gweled fod Coleg Diwinyddol Aberystwyth fel pob coleg Cym- reig arall yn dioddef oherwydd diffyg yn y cyllid. Yr oedd y diffyg y flwyddyn ddiwedd- af yn 212p. is. ic.. a'r flwyddyn flaenorol yn 2gop. 2s. 5c., yn gwneud y ddyled yn y banc yn 502p. 3s. 6c. ar ol tynnu allan dreth yr in- cwm sydd i ddyfod yn ol. Dywedir y rhaid cael 400P. yn rhagor bob blwyddyn cyn y gellir disgwyl i bethau fod yn foddhaol. -+- -+- Anfonodd y Parch. W. Pari Huws, B.D., Dolgellau, lythyr anghyffredin o finiog i'r Brython yn gwrthdystio yn erbyn gwaith -01 golygydd y Geninen yn caniatau ysgrifau i'r cyhoeddiad hwnnw yn dylorni yr Eglwys Gristionogol a'i gweinidogion. Llythyr a min gwirionedd ar bob gair ynddo ydyw, a chan mai Annibynwyr yw y condemniwr a'r condemniedig, 'does dim o wermod enwadaeth ynddo. Bum inna yn condemnio llythyrau Siluriad flynyddoedd yn ol. Y rhai hynny oedd tad y drwg, ac y maent erbyn hyn yn cael eu cyhoeddi fel clasuron y Gymraeg! A gweinidogion yn cadw'r Gminen yn wyrdd- las! -+- -+- -+- Cwyna y Parch. Edward Thomas, Llanrhai- adr, ei fod wrth fyned trwy Gaerfyrddin yn ddiweddar wedi cael golwg lled adfeiliedig ar fedd yr Hybarch David Charles, ac apelia at Fethodistiaid rhagorol tref Caerfyrddin a'r cylch i wneud rhywbeth yn ddioed er ei ad- newyddu. Dywed hefyd iddo gyfarfod a gwr o ardal Capel Dewi yn haeru mai hen fardd o'r ardal honno ydoedd awdwr yr hen bennill anf arwol-- 0 fryniau Caersalem ceir gweled," &c. A oes rhywun ymysg darllenwyr y CYMRO fedr brofi fod yr hen frawd o Gapel Dewi yn cyfeil- iorni? Bydd yn syndod os gellir profi. nad y I Charles o Gaerfyrddin ydoedd awdwr pennill ag yr arferir ei briodoli iddo ar hyd yr holl flynyddoedd. -+- -+- -+- Ymha sawl rhan o'r wlad y mae Sasiynau Plant yn cadw eu bri a'u poblogrwydd Yr Wyddgrug yw un o'r lleoedd hynny. Am agos i ddeunaw mlynedd mae Sasiwn Plant wedi tynnu torfeydd yno nes gwneud yn am- hosibl cael adeilad digon eang i'w cynnwys. Y Parch. J. Howell Hughes, y Bala, fu'r holwr am flynyddoedd lawer, ac wedi ei golli ef, mae y Parch. R. P. Hughes, Diyserth, wedi cadw i fyny glod y swydd. Ddwy flynedd yn ol, cymerwyd Coedllai, Cbedtalon, a Nerquis, oddiwrth ddosbarth yr Wyddgrug at ddosbarth Llanarmon. Eto yn y Sasiwn olaf, yr oedd capel mawr yr Wyddgrug yn orlawn. Cafwyd Cymanfa ragorol yn Llan- armon. Y Parch. R. P. Hughes yn holi yma hefyd. -+- -+- Nid peth newydd ydyw i'r C'ymry fyned drosodd i gyflenwi angen y Saeson am weini- dogaeth. Galwodd Dr. Herber Evans sylw at hyn flynyddoedd lawer yn ol, a thra y dy- wedai y dylem ymfalchio wrth feddwl am yr anrhydedd o gael llanw pulpudau cenhedloedd eraill, dywedai gyda llaw nas gall Cymru fforddio edrych yn ddiofal a dibryder ar ei meibion goreu yn ei gadael. Y mae y Rest- less Saxon wedi meddiannu ein prif chwarel- au, ein pyllau glo, ein gweithfeydd haearn— tybed y gwnant etc sicrhau iddynt eu hunain ein prif bregethwyr? Bendith fwyaf Cymru er ys blvnyddoedd lawer bellach ydyw llu o bregethwyr galluog-meistriaid y gvnulleidfa. Gwylied rhag iddi gael profi beth fyddai cael ei gadael heb neb i esgyn grisiau ei phul- pudau ond dynion gweiniaid heb nerth, dawn, na thalent."