Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Paham y maiit cynifer o gapelau Cymru hel) ddim o'r tuallan i ddweyd wrth ddieithriaid beth ydynt? Dylem arddel ein henwau a'n foenwad". Dr. Vaughan Thomas, o Abertawe, a ddewiswyd yn feirniad cerddorol yn Eistedd- fod Genedlaethol Bangor yn lle'r diweddar Mr. Harry Evans. Defnyddir casgliad neilltuol yr Eglwys Sef- ydledig at Gehadaeth India eleni i waddoli esgobaeth Assam. Ordeinir yr Esgob cyntaf cyn diwedd y flwyddyn hon. -.0.- Aeth ysgolion dyddiol y Wesleyaid i lawr o 590 yn 1905 i 291 yn 1913, ac yn ystod yr un adeg mae lleihad o hanner can' mil wedi cym- eryd lie yn rhif yr Ysgol Sabothol. -+- -+- E,r fod Mesur Ymreolaeth i Gymru i lawr am ail-ddarlleniad yr wythnos ddiweddaf, nid yw y Mesur eto wedi cael ei osod wrth ei gilydd. Mae rhai adrannau o hono dan ys- tyriaeth bellach." +- Bydd capel newydd y Methodistiaid yn New York yn deilwng o'r ddinas a'r enwad. Mae mewn man canolog ac amlwg, a'r cyfan o'r adeilad1 wedi ei gynllunio gyda chwaeth dda, heb fod yn rhy grintachlyd. Mae Ilyfr Lieut. Col. P. R. T. Gurdon, C.S.I., commissioner dosbarth dyffryn Assam ar y Khasiaid wedi cyrraedd ail-argraffiad. Z!1 Ysgrifenwyd rhagdraeth iddo gan Syr Charles Lyall, K.C.S.I., ac y mae ynddo amryw fapiau a darluniau. -+- Traddodir I4 o dclarlithiau ynglyn a'r gyn- hadledd yn Ysgol Amaethyddol Plas Madryn, a llywyddir yn narlith Syr Horace Plunkot ar 'Agricultural Co-operation in Ireland," gan Mr. Lloyd George. Hon fydd y ddarlith olaf ar yr 11 eg o Fedi. -+- Mae y Parch. W. M. Phillips, B.A., bugail eglwys Gymraeg y Methodistiaid yn Johns- town, Pa., wedi rhoi ei eglwys i fyny er myned I Athrofa Ddiwinyddol Princeton. Dywed y Drh' fod Mr. Phillips wedi cael ei radd o B.A., yng Ngholeg y Bala! -.0.- --+- Mae cais i gael ei wneud am garagen o ^vyddfa y Public Trustee yng Nghaerdydd. Cwaith y swyddfa hon ydyw gofalu fel ym- ^diriedolydd am eiddo. adewir mewn ewyllys- lau. Aeth tua 35 miliwn o bunnau drwy ei dwylaw y flwyddyn ddiweddaf. Dywedai Esgob Llahelwy fod ar Gymru ^flgfen am ragor o ysgolion tebyg 1 Ysgol Howell yn Ninbych. Pe buasai pawb fel yr E.sgob ni fuasai ysgolion canol wedi eu hagor yng Nghymru, a buasai yr ysgolion yn rhoi eu fereintiau i Eglwyswyr fel y gwna Ysgol Howell. Diolch yn fawr i bawb sydd yn rhoi. cynorth- gyda'r CYMRO, ac am y cynghorion rhagor- l a estynir. Nid ydym yn d'isgwvl troi allan newyddiadur cystal a'r 'Britishly Weekly,' nac ychwaith "bapur tebyg i'r Times." Dyna tyniad rhai brodyr nas gwyddant ddim am y gWalth Clywir dau neu dri o frodyr yn Qysgu yn aiddgar gyda hyn. Awgrymodd rhyw 'lVag. iddynt mai gwell fuasai idd'ynt son am S'odi City Temple »eu Metropolitan Tabernacle eu frunain, yn hytrach na cheisio dysgu ereill alXl waith na wyddant ddim am dano. .=;=: Anodd dweyd mai yr un gyfraith sydd i dlawd a chyfoethog pan y gwelir dyn tlawd yn cael ei anfon i garchar bedwar mis gyda llafur caled, a dyn oedd mewn lie da ac a dwyllodd ei feistr hyd gannoedd o bunnau yn cael ei anfon i garchar am bedwar mis yn yr ail ddosbarth." -+- -+- Trist yw rhagolygon chwareli llechi'r Gogledd. Dywedir fod 800 yn cael eu taflu allan o waith yn Nyffryn Nantlle oherwydd fod gormod o lechi mewn stoc. Sonir am gael ar- ddangosfa o lechi Cymreig yn Llundain. Ond mae'n ofnus mai'r gwir achos o'r dirwasgiad yw marweidd-dra gydag adeiladu. Caniataodd mainc ynadoil Trcgaron estyn- iad o awr i wrerthu diodydd meddwol yn y Star Inn, Ysbytty Ystwyth, ar y 7fed o'r mis hwn am fod Eisteddfod i'w chynnal yno! Gwrthwynebai yr heddlu, ond caniatawyd hyn, ac estyniad oriau gwerthu yn y Talbot Hotel, Tregaron, ar y sed-Eisteddfod arall! --4- --41- Testun yr ail erthygl ar wyneb-ddalen y 'Drych,' am Gorffennaf 16eg ydyw "Rhag- wybodaeth a Hollwybodaeth," g-,tti Plas Gwyn. Pa bapur newydd yng Nghymru fuasai yn agor ei golofnau i erthygl athronyddol fel yna, tybed ? Ond yn America mae darllenwyr y papurau Cymraeg yn parhau yn ddiwinyddion. -+- -+- Dywedodd y Parch. John Owen, M.A., Criccieth, wrth ei gyd-aelodau, ar y cyngor tref- ol fod y cyngor yn rhy ddinod i gario dim dylanwad ar y Llywodraeth. Eisio rhoi miri y merched i lawr oedd ar rai o'r aelodau, a dyna'r gwirionedd a draethodd Mr. Owen wrthynt, a g-wrandawyd arno. Mae'n ddigon o'r dydd i bawb wybod mai "penderfyniad" ydyw un o'r pethau diniweitiaf yn y cread. Dywed y papurau Seisnig fod Dr. Marcus Paterson wedi paratoi llawlyfr bychan i ddysgu i gleifion fydd wedi dyfod adref o Sanatorium sut i ofalu am danynt eu hunain. I aros nes y daw y llvfr all an yng Nghymraeg dyma yn fyr ei gynghorion: (i) Cymerwch ddigon o fwyd; (2) Gofalwch am gartref iach a glan; (3) Cysgwch ddigon, a (4) cymerwch ddigon o ymarferiad corfforol. Mae'n debyg pe gwnelai pawb hyn na fyddai angen sana- torium. Dyddorol iawn oedd cael darluniau dau hynafgwyr mor agos i'w gilydd o rarj oedran ac ymhlith darllenwyr y CYMRO. Un ydoedd Mr. Rowland Williams, o Ddolgellau, ac y rhoddwyd ei ddarlun yr Wythnos ddiweddaf. Y Hall oedd Mr. Richard Bulkeley, o Langoed, Mon, ag y gwelir ei ddarlun yn y rhifyn hwn. Bydd Mr. Rowland Williams yn 94 yn Tach- wedd nesaf, a Mr. Richard Bulkeley yn 93 yw Ionawr nesaf. Cawsom ddarluniau tua dwsin rhwng 80 a 90 sydd yn d'arllen y CYMRO. Yn canlyn eu hymdaith yn y Deheulir bwr- iada y Parti Dramayddol Cymreig gymeryd taith trwy ardaloedd mwyaf poblog y Gog- I ledd, a dyddorol fydd gwylio y derbyniad a gant. Nid arbedwyd ymdrech na thraul er gwneyd yr ymgyrch yn llwyddiant yn y De. Cefnogwyd hi yn galonog gan y newyddiadur- on dyddiol ac wythnosol. Beiddiodd ambell un hwnt ac yma daro nodyn croes. Tybir yn gyffredin fod y rhagfarn yn erbyn y Ddrama yn gryfach yn y Gogledd. Ai tybed y llwyddir i'w orchfygu a pheth fydd natur y derbyniad gaiff yr anturiaeth newydd hon Rhaid cyf- addef pan yr ystyrir yr holl drafferth gymer- wyd i hysbysebu'r symudiad na fu y cynhaeaf yn fawe yn rhai o brif drefi'r De. :c: Gwrthododd corfforaeth Wrecsam g-yfrannij dim at drysorfa adeiladu y Llyfrgell Genedl- aethol yn Aberystwyth. -