Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Deallaf ar awdurdod sydd uwchlaw amheu- aeth y bydd i'r Senedcf gael ei gohirio er Z, mvvyn pasio Mesur Ymreolaeth a Mesur Dat- gysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yng Nghymru. Gwneir yr hysbysiad hwn ar ol ymchwiliad manwl, a gellir ei dderbyn fel datganiad o fwriad y Weinyddiaeth. -+- -+- Gwasanaethid yng nghyfarfod blynyddol Cwmaman, Aberdar, gan y Parchn. W. J. Williams, Llanfair, Sir Fon, a'r Dr. Moelwyn Hughes, Aberteifi. -+- "Ydych chwi yn darllen v -1" gofynai Y Parch. i'r Parch. —— Nacydwyf. Beth oedd? Dim ond eisieu gwybod eich oed." -+- -+- Mae Mr. Gwilym Lloyd George, sy'n efryd- ydd ym Mhrifysgo1 Caergrawnt, wedi ei benodi yn lieutenant ym myddin y Tiriogaeth- Wyr, ac wedi myned allan gyda'i gatrawd. t Mae Dr. T, Witton Davies, Bangor, wedi ei ddewis yng nghyfarfod unedig y British and French Associations yn un o dri llywydd anrhydeddus yr Anthropological Section. Dywedai Iarll Crawford o flaen Pwyllgor v yr Arglwyd^i fod; ^-anddo h-\y,Q,Xl}111ÇUb. tuwyr ymhlith ei denantiaid, ac nad oedd yn- ddynt dim teimlad drwig, at yr Eglwys Sefydl- edig. Costiodd cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth y swm 0 £ &7 19s. Cysurai y Pwyllgor eu hunain drwy ddweyd i'r seremoni 'stio llai nag a wnaeth yng Nghaerfyrddin a Wrecsam. -+- -+- -+- Yr wythnos ddiweddaf cyhoeddwyd cyfrifon ananno1 Eisteddfod Powys, gynhaliwyd yn y Drefnewydd, ym mis Mai diweddaf. Dengys y cyfrifon fod y gweddill mewn llaw wedi talu POb costau yn £301 18s. 8c. -+- -+- Dal yn benderfynol o beidio ymuno a Chymru gyda Welsh National Memorial As- sociation y mae Sir Benfro. Wedi trafodaeth faith, penderfynwyd trefnu i anfon cleifion i Sanatoria Seisnig. Beth sy'n bod? -+- -+- -+- Gosododd Mrs. Ellis dablet i fyny yng Nghartref yr Amddifaid yn y Bontnewydd, Caernarfon, er cof am ei diweddar briod, Mr. R. B. Ellis, sylfaenydd 'y sefydliad. Mae, hefyd, ddarlun o Mr. Ellis wedi ei osod ar y -+- -+- Bu Dr. T. H. Parry Williams yn darlithio ar "Caniadau Newydd" yn Baladeulyn, a'i ,a 1 Sender, Mr. R. Williams Parry, M.A., yn j*larad ar ol,—y ddau frawd athrylithgar yn elpu i ddangfos cvdymdeimlad a brawd mewn trallod. -+- -+- Bydd amryw o'r aelodau C'ymreig yji y yddin yn ymladd dros eu gwlad. Arglwydd mian oedd un o'r rhai cyntaf i gynnyg ei Vas £ *naeth, ac i gynnyg codi catrawd. Mae 'r- D. Davies a M!r. T. Parry yn swyddog- 10 11 yn y fydtiin, J^aliwyd y Parch. J. Gwynoro Davies, berrnaw, a'i fab, M!r. Watkin Davies, gan e'yntion y rhyfel pan ar droi yn ol a Berne, "vltzerland. Wrth gwrs y maent yn hollol onc* 11hawdd ar hyn o bryd yw dynt groesi ar draws Ffrainc. Mr. David Ellis, Penyfed, Corwen, a enill- odd y gadair yn Eisteddfod Corwen ar y testyn "Y Wawr"; a Mr. Griffith J. Wil- liams, B.A., Llanbedr, a enillodd y gadair yn Eisteddfod Pwllheli. Dyma ddau fardd icuanc sydd ar y ffordd i'r Genedlaethol. --Oll- --+- Ycnydig" iawn sydd o ddarllen ar lyfrau da yn y dyddiau hyn. Edrychwch yma. Dyna Bangor, un o'r trefi mwyaf balch-lenyddol yng Nghymru. Yno fe fenthyciwyd 689 o gyfrolau 639 o honynt yn ffug-chwedlau, a dim ond 19 o lyfrau eraill o bob dosbarth. -+- -4- Rhoed croesaw cynnes i'r P'arch. R. G. Roberts gan eglwysi Siloh, Johnstown, a Moriah, Ponkey, ar ei ymsefydliad yno fel eu bugail. Gwahoddwyd yr holl aelodau i gwrdd a'r bugail o gwmpas y bwrdd te, a t, b phawb mewn hwyl dda yn estyn croesaw i Mr. Roberts. -+- -+- -+- Ymhlith y rhai sydd wedi eu cau ar y Cyf- andir mae y rhai dilynol o. Gymru:—Miss Mary Davies, Cwrtmawr; Mr. R. Roberts, mab Principal Roberts, Aberystwyth, sydd yn Germani; Miss Lydia Jones, Glanmerin, Machynlleth; Mr. Richard Richards, Gwar- felin; Mr. a Mrs. Ashton a Mr. Ernest Jones, o Ysgol Sir Aberystwyth. Mae amryw o athrawon Cbleg y Brifysgol yn Germani a Ffrainc, a thebyg yw eu bod erbyn hyn yn uparatoi-i.ymladd yn erbyn eu Beirniaid y Gadair yn Eisteddfod Genedl- aethol Aberystwyth ydynt yr Athro, J. Morris Jones a'r Parch. J. J. Williams; a'r Bryddest Elfed, Gwili, a W. J. Gruffydd. Gofelir am y gweddill o'r farddoniaeth gan yr Athro J. Glyn Diavies, Eifion Wyn, Robert Bryan, Sarnicol, Berw, ac Elphin. Yn adran llen- yddiaeth beirniedir gan y P'arch. D. Adams, B.A., Prifathro T. F. Roberts, Syr Edward Anwyl, D. Lleufer Thomas, Miall Edwards, T. Shankland, Dr. Hartwell Jones, J. Fisher, Syr J. Rhys a T. Powell. Mae yng Nghymru 5,5000 ffactris, a 9,500 6 6 weithdai, ac yn ystod y flwyddyn ddiweddaf bu 78 o ddamweiniau angeuol ynddynt, a 1947 o ddamweiniau eraill. Mae 11,500 yng Nghymru yng ngwasanaeth y Llywodraeth, 33,700 yn gwasanaethu awdurdodau lleol, 37,900 ar y reilffyrdd, 251,20.0 yn y gwaith glo, 109,500 yn gweithio ar y tir, 24,000 mewn gweithydd alcan, 22,700 mewn gwaith haearn a dur, a 12,800s mewn chwarelydd llechi. Nid oes yr un 'pawnbroker' yn siroedd Meirion, Trefaldwyn, Aberteifi', Penfro, na M'aesyfed! -+- -+- -+- Dywed y Parch. Eynon Davies ei fod yn bleidiol i gael Cyngrair Eglwysi Rhydd i Gymru. Mae'r machine yma sydd yn y Memorial Hall yn hollol analluog i weithi-o, Cymru fel y dylai gael ei gweithio. C'ystal dweyd ar unwaith na chafwyd fawr help gan- ddynt i gario allan y gwaith o oleuo, Lloegr ar fater D'atgysylltiad yng Nghymru. Cofiwyd yn dda sut y cafodd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, a minnau ein galw (yn unfed ar ddeg ar y list) i roddi achos Cymru 0 flaen y Sais yng ngliyrddau Southport. Yr oeddem i gael deg munud yr un; ond ar ol i bob Dic a-rom a Harri gael traethu ei len ar bob pwnc dan haul, cofiwyf v diweddar Barch. Thomas Law yn dweyd mai three minutes oedd i fod i'r Cymry. Drwy fforsio'r mater y caf- wyd sylw at y pwnc o gwbl: ac wedi'r cyfan, tair munud, ar ddiwedd oedfa wedi blino, gaf- odd Cymru. Dyna oedd policy y dyddiau hynny—' These Welshmen are such a nuis- ance! Dyna oedd y farn am danom." Yn Liverpool, Hydref 13, 14 a'r 15, y cyn- helir cyfarfod blynyddol Undeb Dirwestol Gogedd Cymru. Disgwylir Mrs. Caine, Mr. Leif Jones, A. S., a'r Parch. A. T. Guttery, i siarad yno. Yn y pwyllgor gweithiol yr wythnos ddiweddaf, hysbyswyd fod y Medal Aur, sy'n rhodd Mrs. Edward Jones, Maes- mawr, wedi ei hennill yn yr arholiad dirwest- ol gan M'iss O'lwen Edwards, Rhyl; a'r Medal Arian, rhodd Mrs. Norman Davies, Caernarfon, gan Mr. G. E. Owen, Blaenau Ffestiniog. .+- ,-+- I Nantgarw yr aeth pleserdaith flynyddol Cenhadaeth Mudion Mbrgannwg eleni, ar ddydd Mawrth, trannoeth Gwyl y Banc. Yn ysgoldy'r Annibynwyr v buwyd yn ymborthi, ac yn nhiroedd Mr. a Mrs. R. A. Lewis, Dyffryn Ffrwd, y buwyd yn ymbleseru, a chafwyd felly esiampl deg o uno'r enwad- au." Yr oedd y trefniadau yn nwylo'r Arol- ygydd, y Parch. J. Bodfan Anwyl, a'i dad hybarch, loan Anwyl, a gwnaed popeth yn reit hwylus. Hyderir na bydd i eglwysi Sir Forgannwg anghofio'r genhadaeth deilwng hon er hon ferw'r teyrnasoedd. -+- -+- --+- 0 Mentrbdd y gohebwr o'r Trallwm haeru mai y felin wynt a chwalwyd yn Trelydan oedd yr unig faelfa yn y sir, oedd ar ei thraed ac a fu yn malu yd. Nid oedd efe yn hysbys fod yn y Coed way eto'll aros un o'r hen dwm- 't-«rnu hyn. 0 f-eW11 cof llawer sydd eto'n fyw, malodd hon filoedd o fwsheli 0' wenith i'r trigolion. Bu melin Trelydan yn gwneud blawd i'r mynachod, ond bu melin y Coedway yn malu i deuluoedd cyfain, heb son am hen lanciau unigol. Gerllaw mae Braginton Hall, lie, meddai Matthew Henry, yr ordeiniwyd Rice Protheroe ym Mehefi'n, 1702. Bu Vava- sor Powell yno yn pregethu. Felly gall hen felin y Coedway ymffrostio o fod wedi porthi, nid mynachod mwvn, ond proffwydi pybyr y gororau. -+- -+- -+- Un o felltithiol1 pcnnaf rhannau gwledig Cymru ydyw y trwyddedau achlysurol a estynir i dafarndai. Mae Sir Aberteifi yn ddwfn iawn yn y camwedd hwn. Nis gall ar- werthiant nac arddanghosfa nac hyd yn oed eisteddfod fod yn foddhaol heb gael estyn oriau gwerthu neu agor cyfleustra newydd i bobl i yfed. Nid yw y Gogledd ychwaith yn lan. Yn Abergele, a Syr J. Herbert Roberts yn gadeirydd y llys, rhoed trwydded i dafarn- wr y Bee Hotel i werthu diod mewn pabell yng nghae'r arddanghosfa. Prin y teimlai yr ynadon fod galw am hyn, a rhoed blwyddyn o rybudd i'r tafarnwr v bydd hyn yn cael edrych i mewn iddo' y flwyddyn nesaf. Pa le y mae merched dirwestol y cylch? Oni. ddylent hwy flaenori gyda hyn, a dysgu ar- weinwyr y wlad fod modd gwneud bwyd da heb i arogl diod fod yn agos iddo. -+- --+- -+- "Gwaith Mynyddog ydyw y gyfrol newydd yng Nghyfres y Fil gan M'r. O. M. Edwards. Yn y rhagair fe ddywed y Golyg- ydd: Flynyidoedd yn ol, dywedodd ei chwaer wrthyf fod lliaws mawr o'i ganeuon olaf ganodd, heb eu cyhoeddi, yn eu mysg" I Z!1 ganeuon glywswn i ef yn ganu. Ar fy ngiiais, paratodd y diweddar D. Ernlyn Evans y gyfrol hon i'r wasg. Y mae cyfrol arall debyg iddi i'w dilyn, yn cynnwys caneu- Z, on perffeithiaf Mynyddog, ymddiriedwyd i mi gan ei weddw." Dywed Mr. Edwards fod yn dda ganddo fedru rhoi'r caneuon syml, doniol, iach a phur hyn i'm cenedl," ac nid oes yn bosibl canmol mwy na hynyna ar y llyfr bach dè1 hwn, sydd wedi ei gyhoeddi dros Ab Owen gan Mri. Hughes a'i Fab, Gwrecsam.