Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: A non-numeric value encountered

Filename: views/newspaper_view.php

Line Number: 100

1 o 16

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: A non-numeric value encountered

Filename: views/newspaper_view.php

Line Number: 103

https://cymru1914.org/cy/view/newspaper/3445259/1" title="Next Page">Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
No title

Mae Esgob Llanelwy yn barod i fyned i'r ffrynt. Mae yn sicr na bydd yno well ymladd- wr o'i flaen nac ar ei ol. Cyfranodd teulu Llandinam dair mil o bunnau at y Drysorfa Sirol at anghenion lleol ynglyn a'r rhyfel. Darperir eleni 23,355p. ar gyfer cyflogau y rhai sy'n g-weiriyddu y Ddeddf Yswirio yng Nghymru, ar gyfer 27,435p. yn Iwerddon, a 3-1,120P. yn Scotland. .+- Penderfynodd y Pwyllgor Gweithiol nad oes digon o reswm dros beidio cynnal Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Mae yn dra amheus a fvdd y wlad yn bleidiol i'r penderfyniad hwn. Peth go beryglus yw pysgota canmoliaeth. Gobeithio, meddai un gwr ieuanc o bregethwr wrth hen flaenor, na flinais chwi y bore gyda hyd y bregeth. Naddo, meddai yntau, na chyda'i dyfnder. Gwr sydd yn gwneuthur gwaith rhagorol yn America yw y Parch. J. D1. Thomas, gynt 0 eglwys Saesneg Caerphili. Yr haf hwn daeth adref i'w hen wlad am ei wyliau, ac arfaetha ddychwelyd yn yr Hydref. Mae y Parch. J. Rhiwen Williams wedi symud o Fair Haven i fugeilio y praidd yn eglwys Wayne Ave., Scranton, ac fel y nifer liosocaf o Gymry blaenllaw yr Unol Dalaeth- au yn ffyddlon iawn i'r CYMRO -+- Fel prawf o'r modd y mae y rhyfel yn taflu popeth arall i'r cysgod, gellir nodi y ffaith i Syr Brynmor Jones gael ei ethol yn ddiwrth- wynebiad yr wythnos ddiweddaf, heb fod ne- mawr neb yn teimlo dyddordeb yn hynny. Aeth Mr. Emlyn Davies, F.R.C.O., Rhos, am eifis mel i Siwitzerland, ac yno y mae efe a'i wraig ieuanc byth. Yn Montrieux y maent yn aros, yn hollol ddiogel wrth gwrs, ond yn teimlo fod modd i hyd yn oed fe mel ymestyn yn rhy hir. Nid rhyw barod iawn yw Abertawe i gyd- nabod ei dyled mewn dim i Gaerdydd, canys teimla yn ogyhyd ei hesgeiriau a hithau. Ond bellach ni fydd diolch iddi am wneud, canys yr Aelod Seneddol dros Gaerdydd yw pen cadben catrodau amddiffynol Abertawe. Yn ol y Parch. J. D. Jones, Ficer Bangor, un camgymeriad a wnaeth y Methodistiaid Calfinaidd wrth adael yr Eiglwys oedd peidio cymeryd y Llyfr Gweddi Cyffredin gyda hwy. Beth bynnag am hyn, fe fyddai defnyddiad 0 hono yn sicrhau mwy o amrywiaeth yn yr addoliad. Mae gwyr craff wedi dod o hyd i'r ffaith ddyddorol fod gan Mr. Lloyd George hynaf- iaid yn adeg Harri III. Digon posibl fod gan eraill hynafiaid tua'r un adeg. Ond byddai Z, dyfod o hyd i'r llinach yn help i adlewyrchu tipyn o fri ar Georg-eiaid eraill sy'n byw mewn dinodedd. Byna syqd wrth wraidd chwilio achau. Mae'r "Drych" yn awgrymu mai cyhoedd- wr C'ymreig a ysgrifennodd yr emyn Beth sydd i mi yn y byd," &c. Mewn gorthrymder y treulia cyhoeddiadau Cymru eu hoes, a blinder yw eu diwedd. Wel ie, yn sicr, cy- hoeddwr a ysgrifennodd yr emyn, ond yr oedd eisieu craffter yr eryr Americanaidd i weled paham yr ysgfrifennodd hi! Yn ol Josi'r Gof," yn y Llan,' y mae yn ddigon posibl mai diwedd y rhyfel hon fydd i Bili golli ei goron, ac y bydd yn falch i gael dod i fyw i wlad ei famgu, er ei fod yn ddigon dig-ownt o honi heddyw. Er ei fod heddyw yn bur benuchel, ni fydd yn syn gennyf ei weld yn chwilio am le i roi ei ben i lawr yn ein gwlad fach ni 1 Pwy wyr nad yw yn dweyd y gwir! Cyfyd Golygydd Tarian y Gweithiwr' ei lef yn erbyn y cynhadleddau dirif ar bob mater. Y mae lie i ofni meddai fod cynhad- leddau wedi mynd yn grefft. Ni bu erioed fwy o hynny nag sydd yn awr, ac ychydig iawn yw y ffrwyth welir. Parod iawn yw llawer i ddywedyd Amen. Yr angen mawr ymhob man yw mwy o waith gartre, a llai o wastraffu hyawdledd oddicartre. Gyda dyddordeb pruddaidd y darllena pob Cymro mai un o'r emynau y byddai y diwedd- ar Mr. Harry Evans yn hoff o geisio ei chanu tn' yn ei gystudd olaf oedd,— Arglwydd, paid a gadael imi Ymfoddloni heb y gwir; Lamp heb olew a ddiffodda Yn y treial mawr cyn hir; Rho imi olew Yn fy llestr gyda'm lamp." Penderfynodd cyngor trefol Pembroke Dock beidio rhoddi cwrw i'r rhai oedd yn gweithio gyda'r cynhaeaf eleni. Mae'n amlwg mai plygu i farn gyhoeddus a wnaeth y Cyngor, canys y mae'r difyrwch a gawsant wrth son am y peth yn dangos fod rhywrai yno yn credu fod cwrw a chynhaeaf yn bethau i fyned gyda'u gilydd. Er gwaethaf popeth, llwyddo ac ennill y dydd y mae egwyddorion dirwest. -+- Mr. John Owens, U.H., Caerlleon, ydyw Llywydd Cynhadledd yr Achosion Saesneg, a gynhelir yng Nghaerlleon, Medi 15-17, a'r Parch. William M'endus sydd i'w ddilyn yn y gadair. Mae Mr. a Mrs. Owensyn rhoddi croesawiad i'r cynrychiolwyr, a'r Parchn. J. A. Hutton, M.A., Glasgow, a T'. Charles Williams, M.A., yn traddodi pregethau y Gynhadledd. Bydd Dr. F. B. Meyer yn bres- enol, ac yn cymeryd rhan mewn un cyfarfod cyhoeddus. Dywedwyd yn y CYMRO yr wythnos ddiwedd- af fod Cymru yn unol ar gwestiwn y Rhyfel. Mae cryn son ar hyd y glannau fod gwr ad- nabyddus iawn yn traethu syniadau eraill, ac yn dangos ei syniadau uchel am y Germaniaid mewn dull nad yw y mwyafrif yn ei gymer- adwyo. Rhydd i bawb ei farn. Ond nid yw caredigrwydd a dderbyniwyd oddiar law Ger- maniaid yn ddigon o reswm dros anghofio ein cig a'n gwaed ein hunain sydd wedi eu hanfon allan i ymladd dros ein gwlad. -+- Cyfarfyddodd Emergency Committee Cym- deithasfa y Gogledd ddydd Mawrth, a phen- derfynwyd cynnal y Gymdeithasfa yng Nghaernarfon ddydd Mawrth, y 25ain cyflsol, gan ei chyfyngu i ddau eisteddiid-,Cynhad- ledd i drafod yr holl fusnes am 1.30, a seiat am 7. Mater," Yr Argyfwng Presennol yn Hanes ein Teyrnas a'r Byd." Teimlid nad doeth gohirio y Gymdeithasfa yn gyfangwbl, ond yn hytrach ei chyfyngu i'r hyn a raid ei wneud. Teimlir hefyd na ddylem roi o'r neilltu y cyfle i arwain a chyfarwyddo ein haelodau; a thawelu meddyliau ein pobl. Y mae y wasg yn gwneud ei rhan yn rhagorol yn hynny. Ni bydd trafodaeth ar y cynllun- iau o gwbl, ac ni chynhelir cyfarfodydd y pregethwyr a'r blaenoriaid, &c. Nos Sul diweddaf yr oedd cenhadon dros y Cyfarfod Misol yn derbyn llais eglwys Beth- ania, Rhuthyn, yng ngalwad gweinidog. Yr oedd yr eglwys yn unfryd o blaid y Parch. T. Elwy Williams, L.T.S.C., Birithdir, a hyderir yn fawr y derbynia yr alwad. Caiff Mr. Williams groesaw fel olynydd i'r diweddar Barch. E. Stephens, yr hwn a fu yn weinidog ffyddlon ar eghvys Bethania am 18 mlynedd. Ysgrifenna un o enwad arall ei farn ar y Gymdeithasfa yn Aberaman, a chwyna yn enbyd oblegid absenoldeb y prif bregethwyr yn yr wyl. Onclchwareu teg iddynt, nid o'u bodd y digwyddodd hyn. Ac o'r tu arall gall fod i hyn ei fanteision, gan i rywrai eraill gael cyfle i ymarfer eu doniau. Heblaw hyn dywed na chlywodd ganu mwy aneffeithiol erioed mewn Cymanfa. Os felly eithriad ydoedd, ac y ni ddylid bod yn chwanog i chwilio brychau. -+-, -+- Nid heb seiliau digonol y dywedai un gwr mawr yn ddiweddar mai angen mawr Cymru, a phob gwlad arall, oedd diwygiad teuluaidd. Yr olwyn fawr deuluaidd sydd wedi peidio troi gyda'r cywirdeb a'r sefydlogrwydd cyntefig, a dyna sy'n peri fod yr olwynion masnachol, gwladwriaethol a moesol yn troi gyda'r fath rugldrwst annioddefus. Wrth sodlau diwyg- iad teuluaidd y cerdda holl ddiwygiadau y byd. Gwelir llygriadau teuluaidd yn cerdded i lawr trwy'r cenedlaethau— Oni cheidw Duw rhag nam, F'e dripia'r ferch lie tripia'r fam." Mae'r Geninen Eisteddfodol yn cynnwys y ,gwerth swllt mwyaf amrywiol o farddon- iaeth a gynhygiwyd erioed i'r Cymry uchel eu breintiau. Mae dros hanner cant o benawd- au ar y wyneb-ddalen, ac nid oes yno ond y pethau mwyaf. Ac y mae'r cyfan yn wobrwy- edig! 0 Gymru uchel ei breintiau a hael ei chalon yn medru cynnyg cynifer o wobrwyon Ac er gwaethaf pob cernodio, dyma'r Geninen yn fyw, a phawb yn anfon ei farddoniaeth iddi, ac yn prynu copi,—neu rag'or. Ond, at- olwg, Eifibnydd, a oes rhywun yn arfer trywel i sychu dagrau? Apel deilwng 0 ystyriaeth a chydymdeimlad ymarferol yw yr un ledaenir 0 blaid lleihau j dyled un o gapeli y Gogledd. Oblegid am- gylchiadau gweithfaol y mae yr eglwys wedi I lleihau, a'r baich mewn canlyniad yn an- hawddach i'w gario. Diau na wneir yr apel yn ofer. Ar yr un pryd, on id oes ynddi ei chenadwri a'i gwers i bawb? Sicr yw na ddylid gwario cymaint ag a wneir ar adeilad- au, a dylai y Cyfarfodydd Misol arfer mwy o arolygiaeth. Gellir yn hawdd enwi nifer o engreifftiau profedigaethus ar hyn 0 bryd sydd yn ffrwythh diffyg barn yn y cyfeiriad • hwn. j Colofn y rhoddir cryn bwys arni yn rhai o'r newyddiaduron Seisnig yw colofn Holi ac Ateb. Ond nid peth newydd ydyw hyn. Ceir hon yn meddu lie pwysig yn yr hen Drysorfa. i Yn y flwyddyn 1833, gwna un o'r darllenwyr ofyn i'r Golygydd am atebiad i'r gofyniadau ? canlynol:— j Blinir fi gian .anhwiyldeb coifforol, megis llwfrdra gwiastadol yn fy stumag, ac v/eithiau boen cnofaol. Y mae anhwyldiab hefyd yn y pen, set tiyndna yn fiy nhaleem, gweilliadau yn y temiptes, ac ar aniserau penfeddwdod, a thuedd- i.adau cyfogaidd. Y mae fy nghnawd yn curio, fy ngwedd1 yn, llwydo, a fy meddwl yn llwfrhau. Beth vw natux y cyifryv^ beth, a hyn? Pa fath j Ifywoliaetihyw y goreu i un flinir fel hyn? Trwy ba (foddion iy gallwn ddisig.wyl iachad?" Rhaid yr edrychid ar y Golygydd fel dyn gwybodus iawn.