Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: A non-numeric value encountered

Filename: views/newspaper_view.php

Line Number: 100

1 o 16

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: A non-numeric value encountered

Filename: views/newspaper_view.php

Line Number: 103

https://cymru1914.org/cy/view/newspaper/3445276/1" title="Next Page">Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION 0CYMREIG

NODION 0 CYMREIG Yn y rhifyn nesaf cyhoeddir adroddiad air am air o'r drafodaeth yng Nghyfarfod Cy- hoeddus Cymdeithasfa Caernarfoh ar Yr Ar- gyfwng Presennol a'r Eglwysi. - allan o'r ffasiwn yn America, ac nid yw hynny wrth fodd yr Ianci newyddiadurol. Beio sydd am wastraff Cymru, gan anghofio yr hyn sydd y tu ol i'r galarwisgoedd. Fel y mae'r gred mewn byd arall yn cilio, y mae'r galar yn Ileihau! -+- Y mis hwn cyhoeddir llyfr y Parch. J. T. Evans, rheithior Stow, ar The Church Plate of Cardiganshire." Mae y gyfrol yn cyn- nwys toreth o erthyglau ar faterion o ddy- ddordeb mawr i henafiaethwyr, a'i phris yn hanner gini i danysgrifwyr, a gini i bawb arall. Os. gwae y gwr y dywed pawb yn dda am dano, yna rhaid i Ganghellydd y Trysorlys edrych ati, canys un o effeithiau y rhyfel yw agor llygaid y rhai oeddent gynt yn elynion ffyrnig iddo i ganfod ei worth, ac ni phetrus- ant yn awr bentyrru canmoliaethau arno. Da ydyw iddo gael byw mewn byd lie mae y wermod am ychydig beth bynnag wedi troi yn m. Z" Mae y Parch. W. F. D'ickens Lewis, M'.A., D.D., mab Dr. Dickens Lewis, ac wyr i Dr. Lewis Edwards, bugail prif eglwys y Presby- teriaid yn Findlay, Ohio, yn awr ar ymweliad a'r wlad 'hon. Heblaw pregethu, y mae yn- ystod ei arhosiad yn y wlad hon yn ysgrifennu cyfres o lythyrau i bapurau America. Pasiodd pwyllgor ariannol Eisteddfod Bangor i annog y pwyllgor gweithiol i beidio cynnal yr eisteddfod. Yn y wlad nid oes ond un syniad ar hyn, ac amlwg yw fod y pwyllgor ariannol yn deall hynny. Cadarnhawyd y penderfyniad hwn gan gyfarfod o'r rhai oedd wedi myned dan y baich ariannol. -+--+--+- Y mae eglwvsi Bethania a Bryndaionyn, Dyffryn Conwy, wedi penderfynu galw gweinidog i gymeryd gofal y ddwy eglwys; ond oherwydd prinder tai yn yr ardal, teim- lwyd anhawster. Nos Sahoth diweddaf pen- derfynwyd yn unfrydol yn Bethania i adeiladu ty perthynol i'r eglwys, i fod at wasanaeth y gweinidog. Diameu fed hyn yn symudiad yn yr iawn gyfeiriad. -+- -+- -+- Dywedir mai un o'r pethau mwyaf toddedig yng nghIaddedigaeth Syr Edward Anwyl oedd gweddi'r Hybarch Aaron Davies, fu mewn cysylltiad didor a'r ymadawedig oddiar syl- faeniad Prifysgol Cymru a'r Bwrdd Canolog" Cymreig. Bu mwy o law gan Syr Edward Anwyl nag a wyddis yn gyffredin yn nadlen- iad y pethau annymunol a ddaeth gerbron y frawdlys yng Nghaerdydd. -+~ -+- Pan y mae yr enwadau yn son am ddull y Wesleyaid o newid eu gweinidogion bob tair blynedd, da yw sylwi fod y Wesleyaid eu hunain yn awyddus am eu cadw yn hwy. Mae nifer v rhai a. ddymunent eu cadw am chwe' blynedd eleni yn 137 0 gylchdeithiau ar gyfer 128 y llynedd. Y tebyg yw fod y Wes- leyaid yn teimlo fod tair blynedd yn rhy fyr a'r enwadau eraill yn teimlo fod hyd byth yn rhy hir. -+- -+- -+- C'yhoeddiad misol y gall Cymry deimlo yn falch o hono fel rheol ydyw Wales, a dengys y Golygydd la wet* 0: fedrusrwydd,wrth ei olygu. Ond paham, tybed, yr ildiodd i roddi p lie yn y cyhoeddiad i'r ymgom a'r paffiwr. Nid heb achos y teimlir mai difwyno ei dudal- enau a wnaeth wrth hyn. Os oes rhywbeth ag angen codi llais yn ei erbyn yn y wlad yn y cyfnod hwn, y pallio creulon, digywilydd, a bwystfilaidd, ydyw hwnnw. Ni fuasai wedi dod i agos cymaint o fri ag" y mae, onibai fod Z, y wasg Seisnig--yn niffyg rhywbeth gwell i'w wneud-wedi rhoddi y fath amlygrwydd iddo. -+- -+- Wrth groniclo hanes rhyfeloedd yn gyff- redin, teflir hug dros eu galanastra, ac fel rheol pwysleisir medrusrwydd y cadfridog a dewrder y milwr, ac yn swn y cyflegrau, a phrydferthwch mawreddus yr olygfa, yr ydym mewn perygl o golli golwg ar y trueni an- hraethol sydd or tu ol i'r cwbl. Da gennym feddwl y rhoddir sylw i'r wedd hon ar bethau yn y cyfwng- presennol, a thra y mae yr Eg- lwysi yn dal i weddio am i'r nefoedd weld yn dda ostegu twrf tymhestl fawr nwydau llidiog dynion, ac adfer heddwch eto fel yr afon, y maent hefyd yn gwneuthur a allont i leddfu trueni yr anghenus, a d'a cofio geiriau Ceir- iog— O1 cofia, pan ganfyddot y tlawd yn gofyn bwyd, Fod Duw yn edrych arnat ti mewn llawer gwyneb llwyd." Un diwrnod yw Cymdeithasfa Caernarfon i fod eleni. O'nd mewn un eisteddiad ceir am- ryw bethau pwysig. Yn y rhaglen argym- hellir gwneud i ffwrdd a'r Ysgol Ragbarato- awl yn y Bala. Yr oedd costau hon yn ^272 4s. 3c. y llynedd, a derbyniwyd £34 5s. oddi- wrth efrydwvr. Yr oedd dyled yr Athrofa ar ddechreu y flwyddyn yn ^559 13s. 8c., ac ar y diwedd yn Z466 19s. 4c. 0!'r D'rysorfa newydd, nid oes ond Z187L 18s. wedi ei gasglu, ac ymddengys fod y gwaith o gasglu wedi ei roddi i fyny, oblegid fe ofynwyd i'r ysgrifennydd gyfarw'yddo y rhai sydd wedi addaw i dalu eu cyfraniadau i'r Trysorydd. -+- -+-- Yn y flwyddyn 1759 cyhoeddwyd yng* Nghaerfyrddin lyfr bychan eithriadol o ddydd- orol, dan y teitl "Aceldama neu Faes y Gwaed, sef hanes alaethus 0"r anghyfanedd-dra gres- ynol sy'n amgylchynnu trigfannau rhyfel, wedi ei gymeryd allan de ddau lythyr a ysgrif- enwyd yn gyntaf yn yr iaith Germanaidd (neu Dutch), gian y Parchedig" Mr. Sorge, yn Shil- berg, at ddau o'i gyfeillion." Eglur yw fod y pwnc wedi apelio at gydwybod y wlad ar y pryd, canys cyhoeddwyd y llyfr yn Saesneg gan y Parch. Mr. George WThitfijeld, cyfieith- iwyd ef i'r Gymraeg gan y Parch. Mr. Daniel Rowland, ac hysbyswyd ei fod ar werth gan y Parch. Mr. Peter Wiillams. Nid yn fynych y gwelwyd cydgyfarfyddiad cyffelyb. Pa nifer o'r llyfr sydd ar gael tybed yn y wlad heddyw -+- -+- -+- Mae llawer yn synnu at ymddygiad tref Caer- narfon at y Gymdeithasfa oedd i'w chynnal yno yr wythnos hon. Pasiodd y pwyllgor lleol a C.M. Arfon, eu bod "oherwydd am- gylchiadau eithriadol ein gwlad, wedi gorfod gyda gofid, galw yn ol y gwahoddiad i'r Gym- deithasfa i Gaernarfon yn ei ffurf arferol." Wedi i bwyllgor y Gymdeithasfa benderfynu cael "cynhadledd" yn y prynhawn, a seiat tgyffredinol am saith, anfonwyd post card i'r cynrychiolwyr, oedd fel ia y pegynnau. Os oedd rhywun ag awydd myned i Gaernarfon cynt, mae'n sicr iddo feddwl ddwywaith ar ol cael y post card! Yr oedd amryw 0'1' cyn- rychiolwyr yn troi adref cynted gallent. Gwelais fod y Parch. John Williams, Bryn- siencyn, yn dweyd ei feddwl yn lied blaen am ymddygiad Caernarfon. -+- -+- -+-- Anfonodd Syr Henry Lewis, blaenor adna- byddus gyda'r Methodistiaid ym Mangor, lythyr i'r 'Manchester Guardian' yn beirn- iadu, ac i raddau yn condemnio, y manifesto a anfonwyd allan gan Undeb Eighvysi Efeng- ylaidd Cymru. Cyhoeddwyd y manifesto hwn yn ein rhifyn diweddaf. T'eimla Syr Henry Lewis ei fod yn anghyflawn. "Ai dyma," meddai yn y llythyr y cyfeiriwyd ato, yr oil sydd gan ein harweinwyr i'w ddweyd wrth- ym ? Beth am ein dyledswyddau fel dinasydd- ion ? Beth am y sefydliadau elusentiol a dyngarol oddiwrtih ha rai y mae yr holl fyd yn derbyn budd? A pha beth am yr ymddiried- aeth a'r baich sydd wedi ei osod arnom ar ran cenhedloedd eraill dros wyneb y byd? By- tgythir y rhai 'hyn oil. A fydd i ni sefyll ü'r neilltu tra y cei'sir ysbeilio ein gwlad o'i chyfoeth a'i phrydferthwch." Gofynna ai nid yw yr amser wedi dyfod pan y dylid cyhoeddi o bob pulpud yn y wlad Y neb sydd gan- ddo1 bwrs, cymered; a'r un modd, god; a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bals, a phrynned gleddyf." Yn niwedd ei lythyr dywed Let ministers therefore blow the trumpet with no uncertain sound, and encour- age in every possible way a hearty response to, Lord Kitchener's call."