Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Mae Undeb Chwarelwyr Gogiedd Cymru wedi pcnderfynu dwyn g'wleidyddiaeth i mewn i amcanion yr Undeb. Pleidleisiodd 2,488 dros liviiin,, a 709 yn erbyn. -+- Lied sigledig yw y Manchester Guardian' wedi bod gyda chwestiwn Dadwaddoliad, ac yn awr cymeradwya yr awgrym i ohirio o leiaf y rhan hon or Mcsur. -+- -+- -+- Gwnaeth cwmni reilffordd y Cambrian yn rhagorol y flwyddyn ddiweddaf, a dengys pethau fod dynion profiadol yn well na bonedd- igion wrth y llyw. Talwyd ^50,000 o logau sir yr A B a C Debenture Stock. -+- -+- -+- Mae tafarnwyr Caerdydd yn foddlon i gwtogi oriau gwerthu diod feddwol os yw angen y wlad ynglyn a'r rhyfel yn galw am hynny; ond nid ydvnt am i ddirwestwyr gym- ryd mantais ar y ddeddf newydd i ymyryd a'u masnach hwy. Gair mewn pryd. -+- -+- Bu son fod ym nnvriad Mr. Lloyd George i fyned i Birmingham gvda Mr. Austen Cham- berlain i annog dynion ieuainc i ymuno a'r fyddin. Ond nid yw yn debyg fod sail i'r stori. Y tebyg yw fod clwylaw y Canghellor vn llawn o waith nas gall neb arall gymryd ei ofal. -+- -+- Mor felus yng nghanol y miri yw darllen fod Elfed i ddarlithvo ar Williams, Pantycelyn, yn Liverpool gyda M'r. William Jones, A.S., Arfon, yn y gadair! Hefyd fod y Parchn. H. Elfed Lewis, M.A., a W. E. Prytherch i gynnal cyfarfod pregethu y Sadwrn a'r Sul. Gwyn eich byd chwi yn Chatham -+- -+- Rhaid i Landrindod ,edrych ati. Cafwyd cryn anhawster A gael gan y bobl ieuainc yno ymrestru fel gwirfoddolion, oblegid, meddent, fod yno gynifer o dramorwyr mewn gwasan- aeth vm mhrif dai y dre'. Wedi deal] y gwrthwynebiad, diau yw ond i'r cyfeillion yno gael ychydig bach o amser y gellir yn hawdd 11 ei symud. -+- -+- -+- Gohebydd a ysgrifena —" Yr oedd yn dda gennyf weled y cyfeinad at yr \sgfol Sul ar Gwerslyfrau. Y mz e fi\\ dd ynglyn a cham- ddefnydd o honynt. Onid da fyddai llosgi yr hen stoc sydd yn y Llyfrfa, a dNA;N,i-i allan gy- hoeddiadau mewn type brasach yn y dvfodol 1 Tvbed nad o-es eisieu llosgi hefyd yr hen stoc o, Lyfrau Tonau yr Ysgol Sul' Dyma'r unig obaith i ni gael flyfr tonau newydd! Nid vw mainc ynadol Porthmadog yn fodd. Ion i'r uchel lys ddysgu iddynt eu dylelswydd- au. Gwrthodasant ddirwyo masnaehwyr am agor ar haner dydd Gwvl. Apeliodd yr erlyn- iad i Lundain, a daeth i lawr orchymyn i'r ynadon i ddirwyo y troseddwyr. O'r gore, ebai'r ynadon, swllt yn cynnwys y costau. Barnai Mr. W. George fod y dyfarnktd yn dangos gwendid mawr iawn o du y fainc. Fel arall yr oeddwn i yn meddwl. Nid oedd pawb yn cysgu nac yn diogi yn Sasiwn Caernarfon. Diywed cyfaill iddo ef roi i lawr pwy oedd yn siarad a pha sawl gwaith v siaradodd pob un.. Mae y rhestr o'm blaen, ond nid oes an.gen ei chyhoeddi. Siaradodd tua 24 o'r rhai oedd yn bresennol, dau chwech o weithiau, 6 bedair o weithiau, tri dair o weithiau, tri ddwywa:ith, a 47 un- waith. Dtengvs hyn nad oedd pethau fel y icwvnir yn igyffredin. Mae mantais ac an- fantais 01 fod rhai yn absennol. Y fantais yw rhoddi cyfle i lawer siarad. Parheir i glywed am angen tai i weithwyr yn ardaloedd gweithfaol poblog Morgannwg a Mynwy. Oblegid y prinder o hyn clywir am deuluoedd yn preswylio mewn ystablau, ac y mae hyn yn wrthun i'r eithaf. Da gennym ddeall fod yr awdurdodau yn ddiar- bed yn eu condemniad o hyn, ond nid digon yw gwrthdystio a chosbii heb ar yr un pryd sicrhau darpariaeth amgenach. -+- -+- -+- Mae Llyfr IV. o Giniadai-i,Ioel"-vii allan o w;asg y GYMRO yn Nolgellau. Mae'n llyfr eithriadol o brydferth o ran argraffw'aith a rhwymiad. Digwyddais weled copi yn y swyddfa, a gallwn dybio y bydd yn y farchnad yn union. Credaf fod yn y gyfrol amryw ddarnau fydd ynychwanegu at glod yr awdwr fel un o feirdd tlysaf a mwyaf meddylgar y genedl. -+- -+- -+- Mae Mri. Hughes a'i Fab, Wrexham, wedi cyhoeddi cyfrol ddestlus odiaeth dan y penawd Poems of Wales.' wedi eu casglu gan Mr. Edmund D. Jones, M.A., prifathravv vsgol sir Abermaw. At wasanaeth ysgolion y bwriedir y llyfr, ond y mae gyda hynny yn werth ei ddarllen a'i astudio gan bawb sydd yn caru barddoniaeth Saesneg sydd yn canu am Gymru a Chymry. Mae'r gyfrol yn deilwng o adolygiad llawnach nag a ellir roddi vma. -+- -+- -+- Wrth son am y priodoldeb i ddynion cyhoeddus mwyaf blaenllaw y wlad siarad mewn gwahafiol ganolfannau o'r deyrnas ar y rhyfel, dywed y Nation, un o gyhoeddiadau y pwysicaf y Saeson,—" Carem yn fawr weled Mr. Lloyd George yn ymgymeryd a'r ym- gyrch. 'Dbes neb all wneud apel rymusach ac effeithiolach ar ran cenhedloedd bychain a'r gwladweinydd hwn sydd wedi hannu ei hun o genedl fechan, a thrwy ei holl oes wedi bod yn champion iddynt." iNid oes ball ar y datganiadau o bob cyfeiriad o werthfawrog- iad o wasanaeth y Canghellydd yn y cyfwng hwn. -+- -+- Byr fu arhosiad y Parch. D. Tecwyn Evans, M.A., a'i briod yn America. Cyrhaeddodd yn ol wedi taith digon pryderus. 'Mewn llythyr at Gwynfryn, dywed Gwnaeth y fordaith les mawr i ni, ond aeth Mrs. Evans ttruan yn wael ar y ffordd adref, a bydd rai wythnosau,y mae arnaf ofn, cyn dyfod ati'i hun. Mordaith i'w chofio ydoedd, oblegid buom heb fod yn nepell oddiwrth ddwy neu dair o German Cruisers. Cychwynasom yn ol Awst iaf, ac ar ol Awst 4ydd, amser llawn o bryder a dychryn i swyddogion y llong oedd y dyddiau a'r nosweithiau dilynol. Ond trwy gadw allan o'r cwrs cyffredin, a mynd i'r de, llwyddwyd i osgoi'r gelyn. a glanio'ii ddiogel. Hyfryd oedd cyrraedd Mon dirion dir ar ol enbyd- rwydd mor a swn y rhyfel." -+- -+- -+- Awgrymiad rhagorol roddir gan Mr. 0. M. Edwards gyda goIwg ar gael termau cyfaddas er dysgu gwyddoniaeth i siarad Cymraeg. Dyma ei awgrym: fod un o'r Ciymdeithasau Cymreig i ethol pwyllgor o ysgolheigion, cyffelyb i'r un reola gyfnewidiadau iaith y Ffrancod; y pwyllgor hwnnw i gyfarfod yn gyson i benderfynu pynciau dyrus perthynol i'r Gymraeg', i restru termau pivrpasol al raid. Gellid tynnu llawer o dermau newyddion o ad- noddau'r iaith. er mai ffolineb o'r mwyaf fyddai g-wrthod termau estronol, hawdd eu deall, gan ddewis yn hytrach eiriau gwneud clogyrnaidd. Tuedd gweithrediadau pwyll- gor o'r fath fyddai cadarnhau ffydd penwein- iaid sydd yn cysgodi tu ol i'r esgusion gwael a glywir o dro i dro parthed tlodi ein hiaith a'i hansefydlogrwydd. Y peth pwysicaf i'w ddweyd am y Boar's Head Inn, Llanidloes, ydyw fod John Wesley wedi lletya yno pan ar un a'i deithiau y preg- ethodd yn y dref. Crybwyllwyd hyn pan y dadleuai y cyfreithiwr dros roi iawn pur uchel i berchenog presennol y lie. Hynafiaid y gwr hwn oedd yn croesawu John Wesley, ac wrth roi y drwydded i fyny fe gafodd 225P. o iawn, a'r tenant 2 5p. Mae'n amlwg nad oedd y tenant yno yn adeg John Wesley. -4-- Synodd' rhywrai yn fawr wrth ddarllen y Nodiad yn y golofn hon yr wythnos ddiwedd. af pan yr hysbysid fod yna gynifer o eglwysi mewn un Cyfarfod Misol ym Morgannwg heb fod d'an ofal bugeiliol. Ond nid oes ynddo gymaint o ddefnyddiau syndod. Cym- erer fel engraifft un Dosbarth o G. ML arall. Perthyn i'r Dosbarth hwn ddwy ar bymtheg o eglwysi, ac y mae 0 leiaf naw o honynt heb fod dan ofal gweinidog. Hwyrach y tybiant eu bod yn g'allu ymlwybro yn weddol gom- fforddus, ond sicr yw nas gellir dychymygu am un Cyfundeb arall yn gallu bod yn euog o'r amryfusedd. -+- -+- -+- Llwyddodd Mr. Clement Da vies, y bar- gyfreithiwr o Lanfyllin, i unoli y gwahanol enwadau a'r Eglwys Wladol mewn cyfarfod vmostyngiad yn ddiweddar. Trefnwyd y moddion gan weinidogion y dref, a chawd amser dymunol iawn. Darllenwyd y llithiau a'r gweddiau gan y Parchn. J. H. Williams, O. T. Davies, a T. N. Roberts (yn absenol- deb y Parch. DL 'Morris). Arweiniwyd y cwrdd gan y Parch. W. LI. Diavies, y deon gvvladol, a da oedd gweled yr oil o'r brodyr yno'n un heb neb yn tynnu'n groes." Ond tybed a ddaw yr Eglwyswyr i gapelau yr Ym- neilltuwyr? -+- -+- -+- Y mae lie yn ddiau i'r penderfyniad daeth- pwyd iddo yng Nghyfarfod Misol Lerpwl parthed gwaith a chyflawniadau Cymdeithas Ddirwestol y Gorff. Efallai fod gormod o dincera" ynglyn a'r mater. Onid oes ymhob Sir gangen o Gymdeithas Ddirwestol Gwvnedd, ac oni wneir llawer gan y Gym- deithas y Chwiorydd, a chan Gynghorau yr Eglwysi Rhyddion. Gwell fyddai cyd-weithio ag enwadau eraill a dileu ein Cymdeithas Gyf- undebol. Sicr yw na fydd v byd nemawr yn sobrach oni newidir y cynllun presennol. Nid oes gan y Sasiynau gyfarfodydd i blant. Llai o ddeddfu a mwy o weithredu sydd eisieu. -.0-- Llosgwyd palas Esgob Llandaf i'r llawr nos Fawrth. Yr oedd yr Esgob, ei wraig. a'i ferch yn aros am bythefnos yn Church Stret- ton, ac nid oedd ond tri o'r gwasanaethydd- ion yn y palas. Gwelwyd y tan gan fachgen oedd yn pasio, a galwodd ar y rhai oedd i mewn. Drwy hynny, fe achubwyd y pethau gwerthfawrooaf, yn llestri a llyfrau. Cyr- haeddodd brigad dan Caerdydd ymhen ugain munud wedi ei galw ond nid oedd digon o bwysau yn y dwfr i'w galluogi i ddiffodd y tan, ac ymhen hanner awr syrthiodd y to i mewn. Mae'r modd y torrodd y tan allan yn ddirgelwch hollol. Nid oedd y palas yn hen iawn, na dim yn brydferth yn ei gynllun na'i ddefnydd. Adeiladwyd ef tua 175a i'r Llyng- hesydd Matthews, ond yr oedd yr hen lyng- hesydd yn rhy falch i gysgu noson yn y fath le. Tua thriugian mlynedd yn ol y daeth yn drigfan esgob,—yr Esgob Ollivant. Fel yr oil o hen balasau esgobion Cymru, yr oedd hwn yn fwy o faich nag 0 gysur ar lawer cyfrif. Er hynny yr oedd y digwyddiad yn w ■brofedis'aeth fawr i'r teulu, a gweinidogion Anghydffurfiol Caerdydd oedd yn blaenori mewn cydymdeimlad a'r Esgob Hughes a'i deulu.