Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Mae y Parch. R. R. Mbrris, gweinidog parchus y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, wedi dychwelyd adref wedi cael llwyr adfer- iad. -+- -+- -+- Parheir i ganu Austria' gydag yni mawr mewn llawer o gapelau. Ychydig wyr llawer mai anthem genedlaethol Awstria ydyw, ac y cenir hi i symbylu y milwyr ar faes y gwaed. -+- -+- -+- Dywedir y cyflwynir Mesur i Dy y Cyff- redin gan y Prifweinidog yn gohirio rhoddi mewn gweithrediad am flwyddyn y rhannau o Fesur Dadgysylltiad i Gymru sydd yn ym- wneud a D'adwaddoliad. -+- -+- -+- Methodd pwyllgor addysg Sir Drefaldwyn t, Z!1 a chael vr un rneddyg i archwilio dannedd y plant yn yr ysgoiion dyddiol, ac yn awr maent wedi codi'r cyflog ac yn hysbysebu eto. P'obl nad ydynt yn prynnu'r "Darian," ebai'r golygydd, oecld yn ei feirniadu. Felly y digwydda yn gyffredin. Mae'r synLad yn bod mai ar ewyllys da dwsin o ddyn)on nad ydynt byth yn prynu v papur newydd y mae y truan yn byw. -+- Ar y lsfed o'r mis nesaf gwerthir 33 o lotiau 0 ystad Wynnstay sydd yn mhlwyfi Llansilin. Ffermydd bychain ydynt, ond gyda'u gilydd mesurant 3,050 o erwau. Yn ddiweddar prynodd Syr Watkin amryw fferm. ydd da. -+- Gadawodd Mr. Randal Casson, cyfreithiwr, Porthmadog, y swm o■ £ 38,753 yn ei ewyllys. Gyda'r boneddwr hwn y ibu Canghellor y Trysorlys yn paratoi i fyned yn gyfreithiwr, a ffaith nad yw wedi ei chroniclo yn hanes bywyd v Canghellor ydyw hon, fod bwriad i Mr. Lloyd George fyned i swyddfa brawd- yng-nghyfraith Mr. Casson yn Nolgellau. A phe buasai wedi mynd,—ond dyna. Nid felly y bu. -+- -+- --+- Haedda Caerdydd ei llongyfarch unwaith eto. Achubodd y blaen ar leoedd llai pwysig yng Nghymru trwy beri fod y tafarndai yno i gael eu cau am naw o'r gloch y nos. Haedda gael ei hefelychu gan bob ardal arall trwv'r wlad. Bydd yr oriau yn rhy feithion fel v maent. Gofynodd gwraig garedig i'r diweddar Barch. Richard Humphreys, Dyff- ryn, pan yn ciniavva yn ei thy, Beth gym- rwch i yfed Mr. Humphreys?" Llymed o ddwr os gwelwch yn dda," oedd yr atebiad. Dwfr glan gofynnai hithau. Gora po lana," ebe yntau. Nid oes curo. ar ddwfr glan i dorri syched, a goreu po gyntaf y deallir hyn. Cwyno y buwyd gynt yn ddiddiwedd bron ar ein pob! ieuainc. Dyma hwyrach oedd ffas- iwn y dydd. Achwynid nad oedd llu mawr o honynt wedi deffro o. gwbl i ymdeimlo a phwysigrwydd bywvd, ac mai byw i chwarae yr oeddent. Ond' nid rhaid cwyno yn awr. Dvma'r crisis wedi dod, ac un o'r pethau a'n synna yn ddirfavvr yw y modd yr ym- ddyga ein pobl ieuainc yn ei wyneb. Mae swn yr udgorn sydd yn eu galw i'r gad wedi eu deffro- mewn mwy nag un ystyr. Nid cadair i eistedd ynddi—nid gwely i orwedd ynddofflnid maes i chwarae arnoond lie i p'vflawni v dvledswyddau pwysicaf j'w bywyd —i'w cenedl, i'w teyrnas, ac i'w D'uw. Pwy nad yw yn teimlo- yn falch o honynt! 'Mae dau fab M!r. Lloyd George wedi ym- uno a'r fyddin, ac yn paratoi i fyned allan i'r rhyfel. -+- -+- -+- Mae y Parch. R. J. Rees, M.A., a Principal Roberts, wedi eu tyngu i mewn fel cwnstabl- iaid i ofalu am heddwch a diogelwch tref Aberystwyth. -+- Mae Mr. Diavid Davies, A.S., Llandinam, gyda'r 7fed Gatrawd o Fyddin Gymreig sydd yn myned drwy gwrs o ddisgyblaeth yn Northampton, ac yn paratoi i fyned allan i'r rhyfel. -+- -+- Dywed llythyr sydd newydd dyfod i law o India y disgwylid y Parch. J. C'eredig Evans yn ol 0"i fordaith i Awstralia cyn diwedd Awst. Ymddengys i Mr. Evans gael lies drwy'r fordaith. -+- -+- Rhaid fod tir yn uchel ei bris ym M6n pan y mae Ardalydd M6n yn gofyn £200' yr erw am dir i wneud llyn er cyflenwi pobl P'orthaethwy a dwfr. Hanner can' punt yr erw vw gwerth y tir yn ol barn yr ochr arall. -+- Cwvna ficer Caernarfon fod y Swyddfa Ryfel yn gwrthod iddo ef fyned yn gaplan i'r fyddin ag yntau ond 65 mlwydd oed, ac yn derbyn Esgoib Llanelwy sydd yn 66 mlwydd oed. Ond nid yw Mr. Wynne Jones wedi deall mai nid pwnc o oedran yw gwahaniaeth rhwng ficer ac Esgob. -+- Diywed y Cerddor fel hyn Wrth edrych dros daflenni Cymanfaoedd Canu M.C. De a Gogledd, mae y dosbarthiadau yn bur gyffre- dinol yn mynd oddiallan i Lyfr Tonau y Meth- odistiaid am donau cymwys, a waeth i ambell i ddosbarth uchel-Galfinaidd geisio rhwystro'r mor a'i lanw na rhwystro dewisiad tonau teil. vvng ymha lyfrau bynnageu cyhoeddir." Nid oes yr un cylch nad yw eisoes yn teimlo oddiwrth effeithiau y rhyfel, ac nid y lleiaf yw y cylch crefyddol. Rhoddodd tref Tenby wahoddiad cvnnes i Gymdeithasfa'r De i gynal ei chyfarfodydd hyfrydol yno, ond erbyn hyn rhaid yw tynnu'r gwahoddiad yn ol, gan fod y milwyr eisoes yn cael lloches ynddi, a boddlon iawn fydd y pregethwyr a'r blaenoriaid i gael eu disodli ganddynt am dro. Ond diau na chaiff y Sasiwn fynd o'r Sir, a dywedir fod mwy nag un lie eisoes yn awyddus i neidio- i'r adwy. Dyma ysbryd gwerth ei ganmol. o O Pa le mae Maesyplwm? Yn un o'r newydd- iaduron Cymreig yr wythnos ddiweddaf yr oedd ysgrif o eiddo un yn disgrifio ei ym- weliad a Chyfarfod Misol Sir Fflint, a gyn- helid mewn pentref wrth droed Moel Famau. Yn ol ei ddisgrifiad o'r lie, er nad enwa ef, nis gall fod yn un man ond Cilcen. A dyma, Z, yn ol yr ysgrifennydd hwn, lie mae M!aesy- Z, plwm, cartref yr emynydd enwog Edward Jones!! Wrth gynghori nifer o bregethwyr ieuainc y dydd o'r blaen, pwysleisiodd y cynghorwr y mawr bwys ar iddynt feithrin ysbryd gweddi, a gwnaeth ddefnydd effeithiol o'r hanesyn am "Robert Roberts, Clynnog. Pa le yr ydych yn cael y pregethau ofnadwy yna," s-ofynai cyfaill iddo unwaith ;a chan agor cil y drws i'w ystafell ddirgel atebodd, Yna, yna," meddai "mewn gweddiau taerion ac ymdrech gyda Duw y byddaf yn eu cael." Da yw coflo mai yr hyn yw nodwedd ysbryd y pregethwr vn ei berthynas a Duw, mai dyna fydd dvlanwad ei bregeth ar ei gyd- ddynion. M'ae llawer peth doniol wedi digwydd ynglyn a galwad bugail. Ond ni chlywais am ddim i guro'r hysbysiad welir yn y G"wyl- iedydd Newydd am yr wythnos ddiweddaf. Mae Eglwys Gymreig y Methodistiaid Es- gobol yn Bangor, Pa., U.S.A., eisieu gweini- dog galluog i siarad y ddwy iaith, sengl neu briod, a thelir cludiad (2nd. cabin), un neu ddau." Un a gymerir, mae'n debyg, ond beth ddaw o'r aiJ! -"0- Mae taflen sydd wedi ei pharatoi gan yr enwad yn dangos fod gan y Bedyddwyr yng Nghymru 352 o eglwysi dros g'ant 0' aelodau, 92 rhwng 75 a 100, 126 rhwng 50 a, 75, 108 rhwng 25 a 50, a 71 dan 25 o< aelodau. Rhifa yr oil o'r eglwysi 745, ac y mae 568 dan ofal bugeiliol, a 191 heb fod felly. Amcenir yn ol y cynllun sydd o iflaen yr enwad i gael Z, gweinidog i 150 o'r eglwysi sydd heb fugeil- iaid. I gyfarfod hyn ceisir casglu ^50^000 fel Cronfa Ganolog. Gofynwvd unwaith i'r Lacedaemoniaid, P'a le yr oedd eu caerau, ac atebasant, Ein caer- au ni yw ein dinaswyr dewrion. Gellir meddwl y gellir dywedyd yr un peth am Brydain heddyw. Naturiol inni yw ymffro-stio yn ein Llynges a'n Byddin, ond uwchlaw yr oil gallwn lawenhau yn yr ysbryd rhagorol ddatguddir ymhob rhanbarth 0"r deyrnas yn y dyddiau hyn, a'r profion clir fod yn perthyn iddi heddyw fel cynt ei chymeriadau cysgod- fawr sydd yn ymguddfa rhag y gwynt ac yn gysgod craig fawr mewn storm i genedl. -+- -+- -+- Llyfryddiaeth y C'rynwyr, yn dwyn per- thynas a Chymru, yw prif gynnwys cyhoedd- iad y Gymdeithas Lyfriaethol Gymreig. Y golygydd, Mr. J. H. Davies, sydd wedi casglu'r defnyddiau hyn ynghyd. Nid oes yma ddim Cymraeg ond a ddaw drwy'r Saes- neg. Mae Mr. Davies yn casglu defnyddiau helaethach, a bydd y rhai hynny yn fwy dydd- orol mae'n sicr. 0 lyfrau eraill a gyhoedd- wyd gan y Crynwyr y mae'r casgliad hwn. Bwriadai Mr. Edward Griffith, U.H., Dolgell- au, ysgrifennu hanes y C'rynwyr, a chasglodd lawer o hanes a llawysgrifau. Daw'r oil o werth i'r hanesydd pan y daw. -+- -+- Arwydd er daioni yw y duedd gynhyddol yng Nghymru i anrhydeddu dynion byw, a dangos gwerthfawrogiad o'u llafur. Mil gwell yw hyn na byw i fyny ar hen arwydd- air, Bid glod, bid farw." Da y gwnaeth y gwragedd hynny wrth fyned at y bedd i eneinio corff y Ceidwad, ond gwell oed gwaith y wraig dorrodd y blwch enaint ar ben y Crist byw. Da y gwnaeth y pendefig hwnpw roddi benthyg bedd i'w gladdu, ond gwell y gwnaeth teulu Bethania daflu drws eu cartref yn agor iddo i'w letya. ar ei deithiau. Nid oes angen i ni ymarfer cynhildeb yn eu. geiriau calünogoL Gwnant fwy o ddaioni nag a ddychymygant. 'Mewn ardal arbennig dywedir fod yna ddeffroad digamsyniol wedi cymeryd lie gyd- a'r laddoliad teuluaidd. Os gwir hyn, dyma mae'n ddilys un wedd ar ddiwygiad gwirion- eddol. Ni,d oes neb all fynegi maint dylan- wad yr aelwyd. Yma y gosoclwyd sylfeini cymeriadau torf aneirif i lawr. Meddai Davies, Castellhywel,— Gweld fy nhad yn plygu ei liniau Mewn defosiwn hwyr a borau, Barodd imi"n blentyn gyntaf Feddwl am y Duw Goruchaf." Gall miloedd heblaw ef dystio yn yyffelyb. Yn amgylchoedd yr allor y gwreiddia ac y tyf cymeriadau cryfxjn.