Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIGI

NODION CYMREIG. I HYDiREF. fv medd bywyd, Galwaf fy ngwyr-dd yn ol, Casglaf fy mlodau adref O'r mynydd, yr ardd, a'r ddol; Clybu y maes a'r prennau, ■ A rhywbryd rhwng hwyr a gwawr Cyfodo-dd y gwersj-Il blodau,— Mae'r pebyll yn ihvyd hyd lawr. EIFION WYN. --+- -+- -+- Gelwir cyfarfod arbennig o dy isaf talaeth Caergaint i ystyried yr amgylchiadau eithr- iado-1 ynglyn a Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghvmru. --+- Adroddir yn y "Drafnd" hanes Gwyl y Glaniad yn 1865-1914. Un yn unig o'r ym- fudwyr cyntaf ocdd yn y cyfarfodydcl cleni, Mr. Wm, J. GriHitns. -(>- -+- Penododd Bwrdd Canol Cymru bwyllgor i ystyried yr amgylchiadau eiihriadol y mae'r swyddfa ynddo, ac i baratoi cynllun er gosod pethau ar safle fwy boddhaol. 4>- Caeir tafarndai dosbarth Caergwrle yn y dyfodol am naw o'r gloch y nos, a bydd hyn yn help i ennill yn ol enw da i'r gymydogaeth. Pur w lyb yw ei hanes wedi bod. -9- -+- Anfonodd pwyllgor Cymdeithas Amaeth- ydcol C'errigydruidion ,r-A-o at drysorfa goff- adwriaethol Tyw-ysog Cymru, y swm yma yn I ychwanegol at a gasglwyd ddydd yr ar- ddanghosfa. -+- AJchosir llawer o bryder yn Cdedllai, Fflint, gan y newydd fod y Phoenix Colliery i'w gau. Mae yno tua 400 yn -gweithio, a go-lwg pur ddu sydd ar bethau yn y gymydogaeth yn awr. Er fod poblogaeth Cymru yn ddwy filiwn yn rhagor nag ydoedd gant a hanner o flyn- yddoedd yn ol, mae y trefniadau milwrol yn hollol yr hyn oeddynt pan oedd Howell Harries byw! Bu y diweddar Barch. Dr. Thomas John, Capel Als, yn pregethu i'r un gynulleidfa am hanner can: mlynedd. Ac yr oedd yn gynull- eidfa lliosog. Ai tybed mai efe oedd y bugail fu hwyaf yn gofalu am yr un ddiadell? -4- -4- iviae papur newydd Cymraeg arall wedi dyfod allan yn y \,Vladfa," Y Gwerinwr." Nid ocdd "Y Drafod" wrth fodd pawb, ac felly daeth un arall allan. Mewn amlder papurau newyddion y mae diogelwch. -+- -+--+- Pasiodd pwyllgor Undeb Cerddorol Liver- pool i roi pen ar gynlluniau y tymor nesaf. Wedi marwolaeth Mr. Harry Evans nid oedd parodrwydd i anturio llawer, ac ar warthaf y digalondid hwnnw fe ddaeth y rhyfel. -+- Mae y Parch. 1). Edwards, M.A., yr hwn a fu am 2 5ain mlynedd yn brifathraw Coleg D'enstonc, wedi cyhoeddi eyfrol 0 atgofion. Ganwyd Mr. Edwards yn Crynfryn, Nant- cwnlle, a chasglodd lawer o bethau dyddorol ynglyn a hanes Daniel Rowlands. -+- Da y gwnaeth Cyngor Sirol Trefaldwyn yn gwrthod myned ymlaen ar hyn o bryd gyda'r cynllun mawr i brynu ystad Glansevern a'i rhannu yn fan-dyddynod, Nid oedd y tenant- laid yn foddlon ar y cychwyn, ac y mae llawer o anhawsterau wedi codi ar ol hynny. Aeth aelodau y Boy's Bridge, Penyffordd, Z;, I I gyda'u gilydd i gapel Zion y Saboth cyn y diweddaf, a thraddodwyd anerchiad iddynt gan yr Athro Phillips, o Goleg Divvinvddol y Bala. Bu gwr heb lawer i'w wneyd yn cyfrif yn fan- wl, a dywed fod yn Ngogledd Cymru bregeth- wr ar gyfer pob 125 or boblogaeth, ac ynad ar gyfer pob 620. Fe ddywedir, er fod yr efengyl yn ilwyddo, fod rhif yr ynadon hefyd yn myned ar gynydd --0- -0.- Siaradodd Canon Roberts, Cblwyn Bay, yn chwerw yn erbyn Deddf Datgysylltiad o'r pulpud y Saboth 0"r blaen. Dywedai mai yr Eglwyswyr sy'n cyfrannu mwyaf at ysgafn- hau diodd-efiadau y rhyfel, a byddai Dadwadd- oliad yn rhoi beichiau trymach arnynt. Er gwaethaf caledi yr amseroedd, cwynir fod cryn lawer o feddwi yn y wlad. Mae'n ddirgelwch sut y mae pobl yn cael arian i'w gwario ar ddiod pan y mae gwaith yn brin a'r cyfiog yn isel. Dywedir fod hyn yn bod yn ardaloedd y chwareli yn y Gogledd lawn cymaint ag un man. Yng nghyfarfod pwyllgor gweinyddol Athrofa Bala-Bangor, dygodd y Prifathro T. Rees i sylw y cais a wnaed at y myfyrwyr i ymrestru yn y fyddin. Pasiwyd penderfyniad yn mynegi. nad oedd y Pwyllgor yn credu y dylai efrydwyr sydd yn myned i'r weinidog- aeth ymuno a'r fyddin. -.0- Mae tua 2,800 o garcharorion Germanaidd yn Queensferry, heb fed vmhell o Gaerlleon, dan ofal catrawd o filwyr Cymreig. Ymhlith y carcharorion y mae Barwn von Trutzschler, boneddwr adnabyddus iawn i'r dosbarth sydd yn dilyn yr helgwn yn siroedd Caer a'r Am- wythig. Cymerodd y Llywodraeth feddiant o'i geffylau a'i gerbyd modur, ond dihangodd ef i ymladd dros ei wlad. Erbyn hyn mae'n garcharor yng ngolwg v wlad He y bu yn treulio rhan fawr o'i amser y blynyddoedd di- weddaf yn hela. Dyma fel yr adrodda y Parch. Eynon Dav- ies hanes ymdaith olaf Mesur Datgysylltiad yn Nhy yr Arglwyddi:—" Aethum i'r Lords prynhawn dydd Mercher i gael bod yn yr angladd. 'Doedd yno ddim cynhebrwng mawr. Yr oedd yno bump o Arglwyddi ys- brydol—allan o- 26—1 oil yn eu gynau gwyn- ion 'pedwar esgob (tri Cymro) ac un arch- esgob. Siaradodd Arglwydd St. Aldwyn ac 'Arglw.ydd Curzon yn ddiflas ddigon—yn union fel dau ddyn wedi hen flino ar y testyn, ac yn falch o gael dweyd y gair olaf uwch ei ben. Am Curzon, dywedodd ffarwel wrth ei bwnc mewn dwy funud, ac aeth i'r Iwerddon am ysbrydoliaeth. Ond fflat a dibwynt yd- oedd. Da oedd gennyf g'lywed Dr. John Owen yn y Ty. Yr wyf wedi ei glywed yn y pulpud yn Sir Aberteifi un tro pan yn agor eglwys fechan Blaenporth, ac yn cydolygu a chy, f ail] ffraeth i mi pan yn awgrymu mai rhyw ddawn I ch-2ch punt y mis oedd ei ddawn pregethwrol y waith honno, a barnu yn ol safon pethau yn y farchnad Ymneilltuol. Nid fel siaradwr nac fel pregethwr y mae yr Esgob yn rhagori, ond fel dadleuwr ac ym- laddwr. Nid yw natur erioed wedi ei fwr- iadu i ragori fel aelod o gyrndeithas heddwch. Bydd fel dyn allan o job ar ol hyn. A dweyd y gwir, araith fechan eiddil ddigon gafwyd ganddo. Hash o hen bethau wedi eu dweyd filwaith o'r blaen. Cerddodd y rhan ofwyaf o;r Arglwyddi allan o'r Ty yn ystod y tra- ddodi. Rhy ddrwg yw hynny pan y mae pregHethwr ar ei draed. _z Clywais fod awdurdodau un o Golegau Cenedlaethol Cymru wedi bod yn brysur yn ceisio cael caniatad i athraw Germanaidd ddyfod yn ol. Ai tybed y goddefir hyn? Gwelais beth wnaed yng Ngholegau Ysgot- land, ac nid wyf yn tybio fod Cymru ar o1 i Scotland mewn gwladgarwch. -4-- -0- ■& Gohebydd a ysgrifenna —"Yichydig amser yn ol daeth heibio yma, gyda pherthyn- asau i mi mewn car, wr parchus o Wrexham, perchennog Garage (nis fjwn am air Cymraeg) yr Imperial yn y dref. Caergwrle yw ei fangre genedigol ac yno ymgartrefodd hyd o Z, fewn rhai blynyddau yn ol. Llafuriodd gyda'r Brewery fel peiriannydd, ac yn ystod yr holl amser yn ddirwestwr hollol. Priododd; a'r Parch. Owen Lloyd a wnaeth y cwlwm cyfam- odol. Yn fuan wedi hyn, cafodd gynhygiad haelfrydig gan y Cwmni, i gymeryd gofal ty tafarn o'i heiddo yn Nantwich—trwydded pa un oedd yn y glorian, a rhoddwyd iddo beth amser i ystyried y cynhygiad temtiadyddol. Yr oedd un Sul i sumio'r cwestiwn. Eglwys- wr ei hunan, ond y nos Sul yma aeth efo'i briod i'r capel. Y gweinidog a wasanaethai oedd y Parch. R. L. Roose, Holt. Yn yr oedfa, deallodd ei feddwl,-dywedodd y preg- ethwr wrtho am beidio cellwair a phechod, a chredodd yn gwbl sicr mai nid tafarn oedd y lie iddoi ef allu osgoi y drwg hwn. It was,' meddai wrthyf, like a bolt from the blue.' Mae'r gwr yn priodoliei Iwyddiant, o dan fendith yr Arglwydd, i'r bregeth hon; a sicr wyf nadwyr y pregethwr ddim o gwbl am y ffaith arddechog yma. Tybiwyf ei bod yn werth i'w chroniclo, er mwyn i'r gwas wybod mai nid ofer yw ei lafur yn yr Arglwydd. Gwel y P'regethwr xi." -40- Y11 ystod yr ymgyrch genhadol ddygwyd ymlaen gan Eglwys Loegr ddechreu y mis hwn, 0 dan y Parch. Ganon Burr- onghs a'r Parch. A. B. Fisher, o Uganda, tystiodd yrl af yn uchel i weithgarwch a dyh zi d C yn y Sudan, yr Henry Llewelyn Gvvynne, o Khartoum, Yn 01 Mr. Fisher, nid oes enw mwy parchus ar lan y Nile na'r Cymro hwn. Ychydig amser yn ol darfu i'r Mahometaniaid, neu o'r hyn lleiaf adran neilltuol o honynt, y rhai sydd yn dis- gwyl i'r Messiah ddyfod, apelio ar i'r Esgob ddyfod allan fel eu Messiah. Credent nas gallai neb ymddangos yn fwy sanctaidd, mwy pur, mwy caruaidd a mwy ymroddgar na'r Cymro o Khartoum. Er ffoled eu cred rhydd dystiolaeth uchel i fywyd a llafur y bachgen fagwyd ar lan y Tawe. M!ab ydyw i ysgol- feistr o Abertawe. Addysgwyd ef yn y Lon- don College of Divinity. Qrdeiniwyd ef yn 1886 i Eglwys St. Chad, Derby. Bu yno hyd i8go, ac yn St. Andreas, Nottingham, hyd 1892. Bu yn Fleer Ejglwys Emanuel yn y dref bono hyd 1899. Yn y ftwyddyn hono adth allan yn genhadwr i'r Sudan o dan y Gymdeithas Genhadol Eiglwysig (c. M. S.), yn 1905 dyrchafwyd ef i'r Archddiaconiaeth, yn 1908 daeth yn Esgob cynorthwyol o dan yr Esgob yn Jerusalem, ac yn 1902 yn Ðsgob Khartoum. 0 dan ei arolygiaeth ef y cerir ymlaen y genhadaeth a elwir yn 'Egypt and the Sudan Missions* o dan nawdd y G.G, E., Dywedir y medr Cymro ddadblygu mwy pan oddicartref naigOi fewn cyffiniau ei wlad ei hun Cyll ei waseidd-dra; mae yn fwy annibynol a gwreiddiol. Gwel lwybrau newy-dd i'w yni, a medr wenu yng ngwyneb rhwystrau. Bid hynny fel y bo, mac ganddc faes digon eang yng ngwledydd Anghristionogol i roddi mynegiant i\v alluoedd a'i gynheddafau. Mae ei ddygiad i fyny ar aelwyd1 grefyddol mewn awyrgylch g'\veddi a mawl wedi ei addasu, fel Saul 0 Tarsus gynt i fod yn Paul y cenhadwr.