Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. -+- Yn ystod y chwarter diweddaf talwyd ^3,997 i feddygon Sir Ddinbych o dan Ddeddf Yswiriant. Rhoddwyd 24,624 o prescrip- tions," y rhai sydd yn costio ychydig llai na 7C. yr un, neu tua dimai yr un yn llai na'r chwarter blaenorol. --+- -+ --+-- Mae y Parch. W. J. Jones, B.A., Trefor- est, wedi derbyn yr alwad i fugeilio eglwys Saesneg y Methodistiaid yn y R!hyl. Dyma fel) y safai casgliad Liverpool at Gymdeithas y Beiblau y flwyddyn ddiweddaf: Y Methodistiaid, ^271 15s. 6c.; yr Annibyn- wyr, £ 22 7s. gc.; yr enwadau eraill, ^17 4s. 7c. Cyflwynwyd ^280 i'r Fam Gymdeithas. Agorwyd capel y Methodistiaid yng Nghas- ten Caereinion yr wythnos ddiweddaf ar ol ei a( ttcwyddu a'i harddu ar gost o £34°' Baieh trwm ocdd hwn i eglwys o 38 o aelodau, yn cynrychioli deuddeg o deuluoedd. Ond drwy ffy-ddlondeb mawr, fe dalwyd hanner y swm cyn ail-agor y capel, a daeth Mr. Edward Jones, Y.H., Maesmawr Hall, yno i lywyddu y cyfarfod agor. Wyr neb faint yw gwerth gwasanaeth Mr. Jones i eglwysi bach y cylch. Tra y mac y byd yn son am y rhyfel ar y Cyfandir, mac tref dawel Dinbych ynghanol helynt ddifrifol gyda'r cytiau moch. Dadleua y trig-olion nad oes dim yn beryglus mewn cael yr adeiladau hyn gerllaw'r ty, ond fel araU y dywed y meddvgon. Mae'r anghyd- welediad yn rhoi gwaith i'r twrneiod, yr heddlu, a'r ynadon. Wrth gwrs y meddygon ennilla'r dydd, ond am argyhoeddi gwerin Cymru a Daniel Owen o'u ,plaid,wel, dim pervgl. -+- Yn adroddiad diweddaf gweithrediadau Gymdeithas Hynafiaethol Sir Aberteifi, fe wneir yr hysbysiad dyddorol fed Keble y Bardd wedi bod ar ymweliad a'r Cwm, ger Aberystwyth, ac wedi vsgrifennu un o'i ddarn- ;ui barddonol yno. O'nd ai tybed fod yna awdurdod digonol dros ddywedyd hyn? Os oes, da fuasai gan lawer gymer ddyddordeb mewn pethau o'r fath wybod y seiliau. --+- --+- --+-, Yr oedd angen 'bath chair at wasanaeth tlptv Conwy y dydd o'r blaen, ac er mwyn sicr- hau ubod yn cad eiddo gonest, awgrymwyd- fod y gwr trymaf o blith y gwarcheidAvaid i gael ei gymryd yn y gadair drwy'r dref, cad- eirydd y bwrdd i'w dynnu. D'yma yr hyn a elwir mewn cylchoedd eraill yn bregethu ar brawf. 0 flaen Bwrdd y Gwarcheidwaid, Llanrwst, dydd Mawrth, hugwraig o Gymraes yn dweyd ei chwyn ac yn gofyn am help. Cym- raes oedd hi, wedi ei geni a'i magu yn LJan- rwst, ond yr oedd wedi fpriodi German; ac er pan dorrodd y rhyfel allan, methai y g'wr a chael gwaith. Gweithiai yn Dolcaradog, a chanmolld ef gan ei feistriaid; ond gan ei fod yn German, rhaid iddo f'yned. Aeth y wraig at y Gwarcheidwaid i ddweyd ei chwyn. Mae ganddi bedwar o blant, ar rhai hynny. mewn angen, ac apeliai am help. Y Parch. H. jone,s:-Ond yr ydych yn GeT. man yn awr, wyddoch chwi. Y Cadeirydd :-W,elwch chwi, feiddiwn i ddim rhoi hfjlj) i rai sydd "mewn rhyfel yn nbyn ein gwlad. Y cwbl fedrwn ni wneud ydi cynmyg v ty i chi. Y Wraig:—M.a.e'n well geni hvgu na myn'd 1 r ty. Ar ol peth siarad, gadawyd y mater i'r swydd- og.. O! ryfel creulon Y ti sydd yn gwneud Peth fel yna vn bosibl. Rhoddodd Aberystwyth y ffordd i Fangor, a bydd Eisteddfod Genedlaethol 1915 yn cael ei chynnal ym Mangor, ac un 1916 yn Aber- I ystwyth. +- --+- Bu cwyno mawr a chwerw ar Olygydd parchus y ',Geninen beth amser yn 01 am iddo ganiatau i'r ysgrif dan y pennawd Y Pulpud Pres" ymddangos ar dudalenau y cy- hoeddiad, yn yr hon yr ysgrif,enwyd pethau chwerw am bregethwyr a ph regethu. Ond yn y rhifyn hwn gofala y Golygydd fel arfer wneud iawn am yr amryfusedd trwy gyhoeddi atebiad iddi, a hwnnw yn un byw, cryf, a di- droi-yn-ol. Gwyr yr awdwr pwy bynnag yw y 1 6 pa fodd i drinci gleddyf ac i dorri hyd at y mer. +- --+- Prynhawn y Saboth o'r blaen aethum gyda chyfaill ar ymweliad ag un o gapeli bychain GorllewinMeirionydd,capel Reho'both, wrth droed Cader Idris. Y Parch. E. Jones Ed- wards, y bug-ail, oedd yn pregethu, a phreg- ethu yn rhagorol yr oedd. "Yroedd yma gynulleidfa dda," meddwn wrtho ar y diwedd. Yr oedd y gynulleidfa yn gyflawn ond tin," oedd yr atebiad. Goeithri.adol, <)nide? Ni chlywais am beth tebyg ynglyn ag unrhyw gynulleidfa o'r blaen. --+- Peth peryglus yw siarad mewn cyfarfod ymrestru. Bu Mr. Haydn Jones, yr aelod dros Feirion, a Mr. Sam Thompson, yr ym- geisydd Ceidwadol, ar yr un esgynlawr yn Ffestiniog, a Ir peth cyntaf wnaeth y papur lleol oedd dweyd y gwnelent ddau filwr braf, ac y dylent ymrestru eu hunain. -+- --+- -+- Gwnaeth Elfyn y gair