Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. M'ae y Parchn. O. L. Roberts ac R. Peris Williams yn parotoi cyfrol newydd o hanes eg- lwysi yr Annibynwyr. Bydd hon yn atodiad i'r cyfrolau a ddygwyd allan gan Dr. Rees a Dr. Thomas. -+- -+- Dywed Eynon mai cymdeithas afiach yw cymdeithas Dr. Meyer, ac mai o'i hanfodd y cymerodd i fyny aclios Cymru. Ychwanega fed yn ddigon posibl fod Dr. Meyer ei hun yn iach ar gwestiwn Datgysylltiad. Pwy yw apostol dirwest hynaf Cymru? Plenydd ynte y P'arch. Morris Morgan? Mae'r ddau yn para yn dirf ac iraidd, ac er fy mod yn adnabod y ddau er ys deugain mlynedd, nid wyf wedi sylwi eu bod wedi newid fawr ddim. Gwelaf fod y ddau yn siarad ar eu hoff bwnc yr wythnos ddiweddaf. -+- -+- Cynhygiodd Dr. Shearer ym Mhwyllgor Ys- wirio1 Sir Drefaldwyn na bo enillion y meddyg- on o d'an Ddeddf Yswiriant yn .cael eu cy- hoeddi. Nid oedd cyfrifon pobl eraill yn cael eu rhoi yn y papurau. Y meddygon sydd wedi bod yn cwyno eu bod yn cael rhy fach, erbyn hyn maent am guddio< y cyfrifon. Dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, bu farw Milwriad Platt, Gorddinotg, un oi uchel- wyr Sir Gaernarfo-n. Sais 0' Oldham ydoedd, ond efe a ddewiswyd i wrthwynebu Mr. Lloyd George ym mwrdeisdrefi ei sir fabwysiedig. Dyna mae'n debyg y peth hynotaf a wnaeth, heblaw magu gwartheg duon Cymreig'. -+- +- -+- Nid oes derfyn ar garedigrwydd Cymru at y Belgiaid di-gartref. Aigorir tai iddynt, ac estynir bwyd a dillad yn ddibrin. Ond bydd eisieu gofalu am eneidiau y Belgiaid yn gystal a'u cyrff, ac y mae'r broblem yn un fawr, fel y cawn weled yn y man. Nid anhawster yr iaith yw yr unig anhawster na'r pennaf. -+- -+- Nos Lun, yn ysgoldy Pantperthog, Mach- ynlleth, a'r Parch. F. J. Davies yn y gadair, bu Miss Joyce Ruck yn rhoi hanes ei helbulon yn yr Almaen yn nechreu'r rhyfel a'i thra- fferthion ar ei ffordd adref wedi cael cennad i ymadael am wlad ei cheraint. Danghüsodd Miss Ruck fod yr Ellmynwyr, yn hen ac yn ieuanc, yn fonheddig a gwreng, yn dyheu am gael myn'd i'r gad dros eu gwlad. Yr oedd- ent yn bryderus ar y cyntaf pa un a fyddai Prydain yn uno a .Ffrainc a, Rwsia—a phan ddealasant fod y wlad hon wedi cyhoeddi rhyfel, aeth pob dyn yno' yn ddigllawn iawn yn erbyn y Prydeinwyr, "ond buan y bydd y rhyfel drosodd," meddent ymhen chwech wythnos." -«$— -+- -+- Bu Methodistiaid y Bala yn dathlu can' mlwyddiad Charles o'r Bala ddydd Mercher, dydd ei gladdedigaeth. Cyfarfu y plant o gwmpas y gofgolofn yn y prynhawn, a siarad- odd y Parch. R. R. Williams, M.A., wrthynt am wasanaeth Charles i Gymru. Rhoddodd Mr. David Jones, Birmingham House, goron- bleth o flodau ar y gofgolofn dros Y sglion Sul I y Bala. Yn yr hwyr bu cyfarfod dan lywydd- iaeth Mr. D. T. 'Morgan, pryd y cymerwyd rhan gan yr Athro Tom Evans, Miss Davies, o'r Y sgol Sir, Mr. David Jones, yr Athrawon R. 'Morris a D. Phillips, a'r Parch. R. R. Williams. Yn Llanuwchllyn nos Saboth, tra- 'ddododd Mr. O. M. Edwards anerchiad g/odidog. Dlywedai mai ffyddlondeb i'r Ysgol Sul ydyw y deyrnged uwchaf i gymeriad Charles. Daw yr adeg, ac fe ddylai ddyfod yn fuan, pan y gellir gorfodi rhai dan y darfodedigaeth i gael eu neilltuo ac i fyned dan driniaeth mewn sanatorium. Cwyna y meddygon fod llawer 0 gleifibn rhagfarnllyd yn gwasgar hadau heintus y clefyd, ac yn gwneud yn am- hosibl ei atal. -+- -+- Ar gais unfrydol Cyngor Trefol Caer- fyrddin, cydsyniodd y Maer i aros yn ei swydd am flwyddyn etc. Os nad ydym yn cam- gymeryd, hon fydd y bedwaredd waith i Mr. Lewis g-ael ei anrhydeddu a chadair uchaf ei dref enedigol. Ac er prysured yw nid oes neb ffyddlonach nag- ef i'w gapel, a gwelir ef bob Su! yn yr ysg-ol yn Heoldwr. Llongyfarchiad- au cynnes iddo. Protestia: y Bedyddwyr a'r Presbyteriaid yn Neheudir America yn erbyn ymyriad y P'ab- yddion a llywodraeth y wlad. Ceir arwyddion fod elfennau peryglus yn rhywle o'r golwg, a bod yr Anghydffurfwyr yn benderfynol o sefyll eu tir. Amcan y Pabyddion yw ennill mwyaf- rif yn y llywodraeth, ac yna osod prawf ar olygiadau crefyddol ynglyn a phob swydd. Dyma hen arfer y Babaeth. Condemnia un o ohebwyr y Drych yn ddiarbed y duedd ffynna ymhlith Cymry yn enwedig o gyfnewid enwau cynhefi'n a chartrefol, megis Jane ac Ann, i Jennie, Jennet, Annie, Anna, &c. Gwell o lawer, meddai ef, fyddai myned yn ol at yr hen gyn- llun, a mabwysiadu yr hen ffurfi'au o Shani, Nani, Lowri, Bet, &c. Beth hefyd am Shon, Shan, Sal, Malen. 0 leiaf y maent yn llawn cystal ac yn well tia'r ffurfiau modern. -+- -+- -+- Mae'r Dlarian' yn sefyll yn erbyn y rhyfel. Nid wyf yn meddwl fod gan neb hawl i gwyno am hynny, waeth byd rhydd yw hi, neu a ddylai fod. Ond sut y mae'r golygydd am wastatau pethau? A ydyw efe am ddilyn ei bolisi i'r pen draw, ac aros a'i bwysau ar gan- llaw y bont nes y daw German heibio? Wrth gwrs, y mae ganddo hawl i wneud hynny, hefyd. Gobeithio nad oes ganddo wraig a phlant! -+- -+- D'yma dystiolaeth yr Hybarch Wm. Evans, M.A., Pembroke Dock: Ni ddarllenais erioed well Adolygiad, yn rhoi crynhodeb can- moliaethus o neilltuolion pump cant o dudalen- nau, na'r brif erthygl yn y CYMRO am Hydref 7fed, gan y Parch. J. Henry Williarns, Porth- madog, rhaid fod Gwersi Uwchaf Llyfr y Psalmau wedi cael eu hastudio, yn fanwl ganddo. o-'u dechreu i'w diwedd cyn y buasai yn medru gwneud crynhoad mor gelfydd o honynt." -+- -+ -+- Dichon na ddylid bod yn rhy barod i feio, yr Eglwyswyr am roddi datganiad i'w hachwyn- iadau yn y d'yddiau hyn. Da weithiau yw gollwng- yr ager allan. Oind doeth er hynny fyddai iddynt arfer ychydig ddoethineb. Mor eithafol o ffol er engraifft oedd geiriau Arch- ddiacon Edmondes yng Nghaerdydd yr wyth- nos ddiweddaf, ac er gwneuthur cyfiawnder ag ef rhoddir ei eiriau yn yr iaith llefarwyd hwy. The causes of this act of injustice were three—jealousy, greed of gain, and lust of power." Diau na allasai feddwl am gyhuddiadau bryntach i'w hyrddio' yn erbyn Ymneilltuwyr, ac ni phetrusodd roddi myneg- iant cyhoeddus iddynt. Cyfaddefai na welai ond gobaith gwan i'r act igael ei dadwneud, canys byddai y Llywodraeth hon, medd'ai, yn sicr 0 gael ei dychwelyd eto' gyda mwyafrif buddugoliaethus, ac ofer' fyddai i Dy'r Arg- lwyddi geisio union'r camwri. Gadawodd Syr Edward Anwyl eiddo oedd yn werth £ 3,462 is. 8c. Nid oedd wedi gwneud ewyllys, a rhoed gofal yr eiddo1 i'w dad, Mr. John Anwyl. -+- -4- Ar ein ffordd i gyfarfod dadorchuddio Cof- golofnau Dafydd Morgan yn Ysbytty Ystwyth dd'ydd M'ercher, cawsom ein hunain ganol dydd yng nghanol cynnwrf gwrth-Germanaidd Aberystwyth. Cyfeiriais yn gynnil bythef- nos yn ol at waith awdurdodau y Coleg yn trefnu i gael Dir. Ethe yn ol. Nos Fawrth cyrhaeddodd yr athraw hybarch yn ol, a dywed y papurau fod Principal Roberts, Mri. J. H. Davies, John Ballinger, a'r Maer Mr. D. C. Roberts, yn rhoi croesawiad iddo. Gyda'r un tren fe ddeuai nifer 0"r ffoaduriaid Bel- giaidd, ac yr oedd llawer wedi troi allan i'w croesawu. 'Mae'n debyg fod hyn wedi chwythu"r tan, a'r peth cyntaf a glywsom wedi cyrraedd Aberystwyth ganol dydd, dydd Mercher, oedd fod gorymdaith a phrotestio i fod am un o'r gloch. Arhosodd un o honom yn y dref, ac aeth dau ymlaen i Ysbytty Ys- twyth. Y peth cyntaf oedd yn amlwg iawn oedd fod y dorf o ddifrif. Wrth droi yn ei phlith, cef- ais syniad lied gywir beth oedd wrth wraidd yr helynt. Bu Dr. Ethe yn byw am 3.0 mlyn- edd yn Aberyswyth, ac er yn derbyn cyflog am wasanaethu y Llywodraeth Brydeinig, parhau yr oedd yn Germaniad treuliai ei wyliau yno, a dywedir mai lie y mae trysor dyn, yno. y mae ei galon. Dywedwyd, hefyd, fod dyn ieuanc oedd wedi myned am fis mel i Germani wedi ei gadw yno yn garcharor, a'i wraig wedi ei danfon adref. C'lywais amryw bethau eraill oedd yn dangos sut yr edrychai y dorf ar bethau. -+- Dilynais y dyrfa yn gyntaf at gapel Siloh, a gwelais Mr. T. J. Samuel, D'r. Harries, ac eraill yn siarad, er nad oeddwn yn eu clywed. Aed oddiyno at dy Dr. Ethe, cymerwyd medd- iant o'r ardd a dringodd llawer i ben y coed. Mr. Enoch Davies, un 0 blant Dyffryn Clwyd, oedd y siaradwr yma. Galwyd am Dr. Ethe, ond dywedodd ei briod ei fod ef yn y Coleg. Dywedodd 'Mrs. Ethe fod ganddi hi frawd yn ymladd gyda'r P'rydeiniaid. Cariwyd allan yma yr awgrym a wnaed gan Dr. Harries, a igofynodd M'r. Einoch Davies am i Dr. Ethe adael y dref cyn pen pedair awr ar hugain. Addawodd Mrs. Ethe igydsynior. D'aeth dau o athrawon y Coleg fel y deallais yno, i ymyryd, a dywedwyd fod un, yr Athro Marshall, wedi galw'r dorf yn pack of foots." Dechreuodd pethau edrych yn ddrwg, a chymerodd yr heddlu ofal y ddau athraw. Cyn ymadael fe wnaeth y siaradwr ymddiheuriad, ac wedi tipyn o helynt fe ymadawodd y dorf i fyned i rannau eraill o'r dref. Wedi hynny aeth y dorf i fyny at dy un arall o athrawon y Coleg, Dr. Schott. Pechod yr athraw hwn, yn ol siarad y dorf, oedd gadael i'w wraig, sydd yn Germanaes, i chwareu anthem genedlaethol Germani. Gofynwyd i Dr. Schott adael y dref o fewn pedair awr ar hugain. Wedi hynny aed at ddau westy, Belle Vue Hotel a'r Queen's, a gofynwyd i ddau Germaniad oedd yno ddianc o fewn deuddeg awr. Y canlyniad fu i Dr. Ethe a'i briod, a'r Germaniaid eraill, adael Aberyst- wyth nos Fercher. Gwelaf yn y papurau fod yno. gyfarfod arall wedi bod ddydd Iau. Caed eglurhad bodd- haol gan Dr. Schott, a rhoddwyd tair hwre iddo. Nodweddiadol iawn 0. dorf! Dywed- wyd fod y Germaniaid oil wedi ymadael.