Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. ♦— Mae Syr Harry Reichel wedi cyrraedd yn ol i Fangor o gyfarfod y Gymdeithas Brydeinig yn Awstralia. -+- -+- -+- Llew Tegid yw y diweddaf o wyr adnabydd- us yr Eisteddfod Genedl aethol i ymdaflu i'r gwaith o- alw Cymru i'r gad. Penodwyd ef yn swyddog ymrestrti-yni M angor. -+- -+- -+- Am awr a hanner yr wythnos disgwylir i blant Seasneg Rhyl ddysgu Cymraeg. Rhaid fod y plant yn eithriadol o effro, neu fod y rhai sydd yn gofalu am eu haddysg yn eithr- iadol 0' ddwl. Pa un? -+- Sylw pert a gwir amserol ynddo oedd yr un wnaeth Moelwyn y dydd 0"r blaen wrth son am y rhyfel. Dywedai mai son am "Y fi a Duw yr oedd Emprwr Germani, a pherygl John. Bull oedd son am Y fi fy hun." M'ae'{ sibrwd ar led fod gweinidog adna- bvddus yng Nghymru i gael ei wneud yn farchog os nad yn farwnig. Mae braidd yn fuan i son am hynny yn awr, ond y mae rhai pobl yn gweled ymhell. -4- -+- Form of Marriage, with suitable address (Welsh and English) ydyw pennawd llyfr a gymhellwyd i mi y dydd o'r blaen. T'rannoeth daeth cylchlythyr yn cymell Sermons on the War with Authenticated Stories." Sylwer ar y frawddeg olaf -«►- --+- -4.- Mae y Parch. T. W. Thomas, cenhadwr y Colonial and Continental Church Society yn Cassel, Germani, yn cael rhyddid i gynnal gwasanaeth ac i ymweled aV carcharorion Seisnig yn C'assel. Estynir cynhorthwy iddo, hefyd, ac y.mddygir yn garedig tuag ato. -+- -+- Disgwylir Gwylfa yn ol o America cyn y bydd y rhifyn hwn allan O'i[ wasg. Caf- odd daith hapus a chroesaw diddiwedd. Bron na ddywedwn fod y croesaw wedi symud o ganhwyllbren y Methodistiaid i oleuo mewn cvlch arall. 0 leiaf mae'r canmol yn swnio felly. 'Mae perygl i rai o'n gweinidogion ddwyn eu hunain a'r achos i brofedigaeth ynglyn a'r rhyfel. Dywedir fod rhai mewn perygl o golli eu pennau yn eu hawydd am dynnu sylw fel recruiting officers," a'r lleill a'u tuedd yn ormod i ganmol Germani. A'r canlyniad yw ambell ffrwydriad yma ac acw. Mae y Parch. Thomas Roberts, gweinidog yr Annibynwyr, yr Wyddgrug, wedi gofalu am yr un eglwys am ddeugain mlynedd. Dyw^edir id do bregethu tair mil ü bregethau i'r un gynulleidfa! Rhaid fod M'r. Thomas yn angel 0 ddyn a'r gynulleidfa yn saint cyn y buasai y peth yn bosibl. -+- -+- -+- Cynhygiodd Miss Lilian Edwards, merch Principal Edwards, Caerdydd, ei gwasanaeth i Netley Hospital. Cenhades oedd hi yn India, a daeth adref er mwyn ei hiechyd. Gall fod o gynhorthwy a chysur i'n milwyr o India, gan ei bod yn siarad dwy o'r ieithoedd mwyaf cyffredin yn India. -+- -+- -+- Ois hoffa rhywun weled Syr 'Marchant Wil- liams 0 ddau safbwynt, darllenned y sylw yn y "Welsh Outlook," lie y ceir heli yr ysgol newydd, ac yna erthygl Brynfab yn y Dar- ian," lie y ceir mel yr hen. Mae Marchant yn amlwig yn llefaru eto yng nghlustiau rhai 01") beirdd; newydd tua C'haerdydd. Mewn tref neilltuol y Saboth o'r blaen fe gwynai gweinidog mewn un capel fod y merched yn chwerthin ac yn wamal; mewn capel arall fe gwynai y gweinidog fod y merched yn cysgu. Dyma gyfle. rhagorol i roi prawf ar newid pulpudau. -+- -+- -+- "Studies in Questions relating to Eye- traming," yw enw llyfr newydd o waith yr Athro William Phillips, 0 Goleg Caerdydd, sydd wedi ei gyhoeddi gan Mri. Blackie & Son.. Llyfr i athrawon yn bennaf ydyw, ond ccir ynddo1 bethau dyddorol i bawb, yn enwedig rhai sy'n gofalu am blant mewn cartref ac ysgol. -+- -+- -+- Croesawyd y Parch. T. J. Rowlands, M'.A., B. D., gan eglwys Laird Street, Birkenhead, yn y dull uniawngred a ffasiynol, sef mewn cwrdd te. Dyma'r dull goreu, meddir, i fugail adnabod pobl ei ofal." Nos Fercher (heno) croesawir ef mewn cyfarfod sefydlu cyhoeddus, a phobl Mon yn ei hebrwng, a phobl Liverpool yn ei dderbyn. -+- -+- Disgwylir y bydd capel newydd Bryn, Port Talbot, yn barod erbyn diwedd y flwyddyn; a phan y cwblheir ef, bydd yn un 0'1' capeli prydferthaf yn yr holl ardal. Haedda, yr eglwys ei llongyfarch yn galonog ar ei hym- gymeriad pwysig. Er nad yw ond cymharol fechan y mae gan y bobl galon i weithio, a gwynebant eu cyfrifoldeb yn galonnog a Haw en. -+- -+- Tynnodd cenadwri un C. M1. sylw mawr yn y Dinas am ei bod yn gofyn am lythyr o ym- gyflwyniad i frawd i'r America. Cwynir fod rhai ysgrifenyddion yn ddiffygiol iawn mewn Cymraeg. Dywedir fod rhaglen un C.M. yn ddiweddar wedi bod yn destyn difyrwch mawr i blant yr ysgolion elfenol ar gyfrif y gwallau mewn sillebiaeth, &c. Dlylasai bid sicr bob C'yniro bellach fedru ysgrifennu iaith ei fam yn gywir. -+- -+- -+- Colled annhraethol i fywyd cyhoeddus Aber- ystwyth fydd ymneilltuad Mr. D. CL Roberts o'r Cyngor Trefol. Teimla'r Maer fod arno eisieu seibiant, a bydd ganddo ddigon o swyddau cyhoeddus yn weddill i drethu ei amser ai, egni. Ar yr un pryd, tra cydneb- ydd pawb mai doeth yw penderfyniad y Maer i fod yn ddarbodus o'i iechyd, addlefir, na ddichon neb lenwi ei le. Caffed hir oes i was- anaethu ei genedl. 'Maer newydd Aberyst- wyth fydd Mr. Edwin Morus, perchennog gwesty Waterloo, Jle y mae gofidiau'r flwyddyn 1914, wedii ei wneuthur yn enwog drachefn yn hanes y byd. Hyderaf y bydd hyn yn argoel dda. ;+- -+ -+- Prif-F'eirdd Eifionydd Eu Hanes yn Syml, ynghyda Detholion cymwys i Blant, o'u Gwaith," ydyw enw llyfr 01 waith Mr. E. D. Rowlands, sydd wedi ei ddwyn allan gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig. Prin y mae un ardal yng Nghymru yn gyfoethocach ei ¡ lleryddiaeth nag Eifionydd. D'yma restr awdwr y gyfrol brydferth hon Robert ab Gwilym Ddu, Pedr Fardd, Dewi Wyn o Eifion, Sion Wyn 0 Eifion, Eben Fardd, a Nicander. Mae'r detholiad wedi ei wneud gyda chwaeth dda, ac yn cynnwys darnau nodweddiadol o'r beirdd. Drwg gennym ddeall fod Mr. Rowlands wedi ei gymeryd yn wael, a pharodd hynny oediad gyda chyf- lwyno1 y gyfrol i sylw y wlad. Yna daeth y Rhyfel i ddinistrio- popeth. Gobeithio er pob anffodion y bydd gwerthiant da ar y llyfr, yr hwn sydd yn eithriadol 01 rad am Slwllt. Nid heb achos yr edrychir ar swydd blaenor gyda mesur helaeth 0 barch. Nid anrhydedd bach yw i ddyn gael ei ddyrchafu iddi. Nid peth bach yw i un mewn teulu fod ynddi, ond yn eglwys Jerusalem, Pbntrhydyfen, ceir yno dri o frodyr yn flaenoriaid. Sior yw mai peth eithriadol iawn yw hyn. Meibion ydynt i'r diweddar flaenor annwyl, duwiol, ac adna- byddus, M'r. T'hos. Thomas, a thystia pawb eu bod yn olynwyr teilwng iddo. Hyfryd gweled y meibion fel hyn yn dod yn lle'r tadau. -+- -+- -+- Nid oedd yr awdurdodau milwrol yn can- iatau i filwyr siarad Cymraeg pan dan ddis- gyblaeth. Y rheswm am hynny oedd hyn, Saeson uniaith oedd y swyddogion, a byddai John Jones yn pasio- ambell i sylw yn Gym- raeg ar yr hyn oedd yn myned ymlaen. Ffromai y swyddog, ac o'r diwedd rhoddwyd taw ar John. O'nd erbyn hyn y mae galw am John, ac y mae yntau wedi dweyd nad aiff allan heb gael siarad Cymraeg. Cymerodd Mr. Ellis Davies, A.S., hyn mewn llaw, ac y mae Arglwydd Kitchener wedi adfer rhyddid llafar i John Jones. Ymhellach, dywedir y rhaid i bob swyddog yn y Fyddin Gymreig" fedru siarad Cymraeg. -+- -+- -+- Diau yw fod Pwyllgor y Feibl Gymdeithas wedi bod dan arweiniad yn newisiad olynydd iv Parch. D. Eurof Walters, B.D., cynrych- iolydd Goruchwyliwr y Gymdeithas yn y De. Y mae y Parch. Grwys Williams, Brynmawr, yn enw adnabyddus fel pregethwr poblogaidd a bardd 0 fri. Y mae ganddo lygad i weled, a chalon i deimlo, a dewrder i gydfyned a phob ymdrech i wneuthur daioni yn hoB gylchoedd bywyd. Medd ar natur garedig, ac hyawdl- Zl> edd naturiol, a llawn yw 0 dan Cymreig. Gofid mawr illu yn y wlad fod y Parch. Eurof Walters yn ymddiswyddo oblegid ystad ei iechyd. Hir oes ac iechyd i'w olynydd i wynebu ar el waith caled a'i gyfrifoldeb trwm. Haedda gydweithrediad cyffredinol pawb, a diau yw y caiff ef. Pa fodd i wneud ein pobl ieuainc yn fwy 0' arwyr yw'r pwnc ymdrinir ag ef gan un 0 ohebwyr y Tys-t. Angen pennaf ieuenctyd ein heglwysi meddai yw arwriaeth. O'nd pa fodd i'w sicrhau? Dyma'r ateb: Boed ein har- weinwyr yn fwy o arwyr blaen-symudol nag" ydynt. Rhodder mwy o waith i'n pobl ieu- ainc, a llai o de. Dalier yr anhawdd mewn crefydd o'u blaen yn gystal a'r hawdd. Dar- bwyller hwy i gymeryd taith genhadol i wled- ydd anwar yn hytrach na rhoddi iddynt bleser- A daith flynyddol i lan y mor. Boed y cledd o hyd yn y golwg, a rhodder y cledd1 yn amod aelodaeth eglwysig. Gwneler y pulpud yn llai o angladd, a'r angladd yn fwy o bulpud." Cyngor da, mae'n ddiau, ond onid oes gormod o farddoniaeth ynddo. -+- -+- -+- Bydd bwlch mawr mewn llawer cylch ar ol y diweddar Barch. Emlyn Jones, Treforris. Cafwyd profion digamsyniol ddiwrnod ei angladd o'r lie mawr oedd iddo yn syniad a chalon y gymydogaeth a'r genedl, canys daeth tyrfa anferth ynghyd i dalu'r gymwynas olaf i'w weddillion, a thystia pawb'yn unfryd fod yna wr mawr a thywysog yn Israel wedi g-orffen ei yrfa. Nid yn fynych y ceir !gwr mor amlochrog ei weithgarwch ag ef, canys yn ychwanegol at ei ddonilau fel pregethwr, a'i alluoedd fel trefniedydd, yr oedd hefyd yn fardd gwych, ac yn tgerddor o fri. Heddwch i'w lwch, a nawdd y nef fyddo dros ei deulu galarus. Nid yn ddiachos yr amlygir syndod na fuasai cyfle wedi ei roddi i rywrai o'r tu- allan i gylch ei enwad ei hun i dalu teyrnged goffadwriaeth ddiwrnod ei gladdedigaeth.