Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. 'Mae y dirprwywyr yn brysur yn paratoi i' rot Deddf Dadwaddoliad mewn grym. C'wyna Esgob Llanelwy eu bod yn rhy brysur, ond ymlaen yr eir yn tgyllym iawn. -.0- Mae'r Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol wedi cyhoeddi cyfrol o waith y Parch. Griffiith Roberts, M.A., Deon Bangor, ar Why we Believe that Christ Rose from the Dead. -+- -+- Nid pawb- a wyr fod y Gyffes Ffydd wedi ei chyfi,eithu i'r Almaeneg. Gwnaethpwyd hyn gan Mueller, hanesydd y credoau, a chyfenw Capten yr Emden, yr hwn sydd, dan gofio, yn fab i Gymraes. Galwyd ar chwaer ,-priod y P'arch. Talwyn Phillips, Bala,—i ddarllen papyr yng nghyfar- fod chwarterol Annibynwyr M eir ion. Nid oes eisieu ond medidwl am y Methodistiaid yn gwneud yr un peth er mwyn sylweddoli beth olyga chwildroad fel yna. Mae y Parch. R. Gwylfa Roberts, Llanelli, wedi cael y radd {)I D.Litt. 0. Birifysgol Wash- ington. Nis gwn lawer am werth y gradd, ond gwn fod Dir. Gwylfa Roberts wedi bod yn olygydd dau gylchgrawn Cymraeg, yn fardd, ac yn bregethwr, a gobeithio fod y Brifysgol yn deilwng o bono. -+- -+- -+- Anturiaeth go bwysig" yw trefnu yn awr faterion cyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr sydd i'w cynnal ym mis Gorffennaf. Yn ddoeth iawn fe adewir pwnc y gweinidogion heb ei ddewis, a gofelir am roddi y diaconiaid uwchben eu hoff borfa, sydd byth yn wyrdd- las,Y Diacon." Wrth eu bodd! -+- -+- -+- Oni ddylai rhywun sydd mewn awdurdod atal yr onfeiriaid Pabaidd rhag tgwneud drwg ynglyn a'r caredigrwydd a ddanghosir at y Belgiaid 1 Mae un offeiriad wedi cyhoeddi rheolau ag y rhaid i'r Belgiaid eu cadw am mai Pabyddion ydynt. Gwell bod yn ddistaw, a cherdded yn wyliadwrus, a cheisio g-an y Belgiaid fod yn gall. Ymwelodd y P'arch. R. Ei. Davies, M.A., Dunedin, New Zealand, a Choleg Diwinyddol Aberystwyth y dydd o'r blaen, a thraddododd anerchiad byr i'r efrydwyr, gan ddangos y meusydd eang oedd yn algored i weinidogion yn y Dehau. Bu Mr. Dlavies saith mlynedd yn Sydney, ac am ran o'r amser yn Athro Hebraeg yno. D'eallaf fod y gweinidogion Methodistaidd a ymfudodd i Awstralasia'n ddi\yeddar yn dra llwyddiannus, megis y Parchn. E. R. Harries, T. Jameson Williams a Morgan Richards, a aeth yno o Aberafon, Treorchi a Llaneurwg. Yr un yw'r gwyn yn y filwriaeth ysbrydol a'r filwriaeth wlad- ol,—eisieu gwyr. -+- -+- -+- Dywed y "Chicago' Sunday Tribune mai y dyn hynaf yn y byd ydyw Thomas Morris, Waterville, Nebraska, yr hwn sydd yn 120 ml. a chwe' mis oed. Dywedir iddo igael ei eni yn Berriew, Sir Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1794, ac os felly yr oedd yn cydoesi am neg mlynedd ag Ann Griffiths, Dolwar Fechan, ac nid oedd John Davies, Tahiti, ond 22ain mlynedd yn hynach nag ef! Gwell i'r rbai, sydd ym meddwl mai da yw byw i fyned yn hen, sylwi ar ddau beth yn hanes y cyn- Iddiliwiad hwn,—ni bu erioed mewn ysgol, ac ni phriododd. A waeth dweyd yr holl wir,— tnae wedi arfer smocio1, a chymeryd dafn bach yn gymhedrol. Oind oofier ei ddilyn yn y pedwar peth, neu ddim. Traddododd y Parch. Isaac Joel, bugail Gosen a Horeb, a llywydd C'yfarfod Misol Gogledd Aberteifi, anerchiad campus yng nighyfarfod diweddaf gweinidogion Aberyst- wyth, ar Ddyfodiad Mab y Diyn." Da gweled ei fod mor iach yn y ffydd am y pethau diweddaf, ac mor dreiddgar i ddeall proffwyd- oliaethau ei gyfenw. -+- -+- -+- Pwy a pheth yw'r Cossacs Nid gofyniad newydd yw hwn, canys ceir ef yn cael ei ofyn yn agos i drigain mlynedd yn ol yn un o newyddiaduron y wlad, ac yn cael ei ateb, ac fel hyn yr atebir Gallai fod yn hyfryd gan rai wybod ystyr y gair Cossac. Y mae yn tarddu o'r gair Cosa—yn iaith pobl Poland, ac yn arwyddo- gafr. Gelwir y bobl hyn gan hynny wrth yr enw hwn ar gyfrif eu bywiog- rwydd a'u cyflymdra anarferol." Dyna yr hen ateb, a diau y gwna y tro os nad oes gan rywun ei well. -+- -+- Rhyfedd fel y mae wedi gwella mewn llawer o gyfeiriadau? Fel un engraifft 0 hon, gellir 6 nodi y posiblrwydd i rai wedi eu geni a'u magu mewn safleoedd cymharol ddistadl i ddringo i'r safleoedd anrhydeddusaf. Dyna Faer Merthyr, ac Arglwydd Faer Caerdydd— dau o frodorion yr un pentref, plant i weith- wyr, ac heb gael ond y manteision cyffredin oedd yn gyrhaeddadwy i fechgyn eu hoes, ond trwy benderfyniad a diwydrwydd wedi dringo i fyny yn gyson dros ffynn yr ysgol, nes erbyn heddyw allu sefyll yn un o'r mannau attilycaf arnr. Haedda y ddau eu llongyfarch yn galonog, a sicr yw y byddant yn deilwng o'r anrhydedd. Ac er clod iddynt nid oes yr un o'r ddau wedi anghofio y graig y naddwyd ef o hon i. -+- -+- Dyma air wedi ei gymeryd o'r British Times am yr wythnos dd'iweddaf There were two provincial ministers in town on Sunday, who are probably two of the finest preachers out of London—the Rev. John Hutton, M.A., at Kingsway Hall (West London Mission), and the Rev. T. Charles Williams, 'M.A., at Westminster Chapel. Mr. Charles Williams presents quite unique gifts as a preacher. He is a Welshman, and imparts fire and unction into his sermons, but he. does not seem to, share the ordinary Welsh characteristics." Gwelais fod Mr. Charles Williams yn pregethu ym Myrtle St., Liverpool,—hen bulpud y Parch. J. Thomas, M.A.,—y Saboth diweddaf. Diaw yn gwest- iwn i'w ystyried yn ddifrifol yn fuan i ba enwad y mae Mr. Williams yn perthyn. -+- -+- Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu casgliad Panton o'r llawysgrifau a adawodd Ieuan Brydydd Hir, yr hwn fu farw yn 1788. Flwyddyn cyn ei farwolaeth yr oedd Ieuan ym methu gweithio, a'i arian wedi, darfod, a chyf- lwynodd ei ysgrifau i Paul Panton, Plasigwj-n, yn gyfnewid am flwydd-dal. Yno y buont hvl nes y prynwyd hwy i fyned i Aberystwvth. Yn eu plith ceir llythyr, dyddiedig Awst la, 1788, a anfonodd person Ystrad Meurig at berson Treffynnon yn adrodd hanes marwol- aeth leuan The Rev. E. Evans, of Gynhawdre, is no more. He died last Monday, suddenly, without a soul near him .and last Friday we attended him to the grave. He had for some weeks been in indifferent health, though he generally con- trived tO' get up and take a walk out, which he had done even on the Sunday evening before. I said above that he died on Monday but it is not known for certain at what hour he died, between 8 o'clock on Sunday night and 5 or 6 the follow- ing evening, when he was found by his mother lying dead on the floor, in his shirt, and cold and stiff. She was out at the hay all day on Monday, and had not seen him since the foregoing even- ing. What melancholy reflections on this sad occasion! But I need not suggest them to you." Mae Gwasg Rhydychen yn hysbysu y gyfrol gyntaf o'r Records of the Social and Economic History of England and Wales,"— Survey of the Honour of Denbigh, 1334," dan olygiaeth Paul Vinogradoff a Frank Morgan. Mae'r gyfrol yn rhoi cipdrem ar sefyllfa rhan 0 Sir Ddinbych cyn gorchfygiad Cymru gan Edward 1. -+- -+- Trwy haelioni nifer o ddinasyddion cyfoeth- og Chicago a thalaeth Wisconsin, y mae cynllun ar droed i apwyntio proffeswr o addysg uchel i draddodi yn athrofa Wisconsin nifer o ddarlithiau ar "Y Beibl fel llenydd- iaeth," ac hefyd i fod a gofal lledaeniad addysg Feiblaidd fel llenyddiaeth a hanes- iaeth, drwy holl athrofeydd America, ymha rai y mae 180,000 01 ddisgyblion. Golyga y lledaeniad waith lleol a gwaith i Gymry y talaethau. Gwnaeth hyn yn bosibl drwy lythyrau roddwyd gan lywodraethwr talaeth Wisconsin, Francis E. MiOGüvern, i'w hen athraw, y Proff. W. H. Williams, o athrofa Wiisconsin. Y mae y Llywodraethwr Mc- Govern yn raddedig o athrofa Wisconsin. Cyf_ ranwyd yn arbennig i gronfa Gymreig ar gyfer y mudiad hwn gan Gymry 0. fri, yn eu plith Mri. W. H. Jones, is-lywydd yr Har- vester Company of Chicago; Arthur B. Jones, goruchwyliwr ystad Marshal Field, Chicago; John M. Thomas, Milwaukee; W. T. Lewis, Racine; W. T. Edwards, Colum- bus; Ð. T. Roberts, Randolph, ac amryw eraill. r -+- -+- -+- Brenig a ysgrifenna ataf: Yn y rhifyn diweddaf o'r CYMRO, coffheir fel peth eithriad- ol ac ar ei ben ei hun, fod tri 0 frodyr naturiol yn flaenoriaid yn yr eglwys Fethodistaidd ym Mhontrhydyfen, Morgannwg. Yn ddiwedd- ar, bu y Parch. Rhys Morgan, a Mr. Evans, Llanio Fawr, dros Gyfarfod Misol De Aber- teifi, yn cynorthwyo eglwys fechan ynghanol y mynyddoedd uchel ar derfynau siroedd Aber- teifi, Maesyfed, Brycheiniog, a Chaerfyrddin, i ethol blaenoriaid. Y mae Soar, yn un o igapelau mwyaf rhamantus Cymru, ar gyfrif ei safie, ei hanes, a'r cylch helaeth o wlad y ma,e yn wasanaethu, yr hyn sydd gymaint a hanner ambell sir. Cyn yr etholiad diweddar, dau oedd nifer y blaenoriaid yno,, ac ychwan- egwyd atynt yn ol patrwn etholiad cyntaf blaenoriaid yn yr eglwys apostolaidd, seith- wyr da eu gair," ac yn eu plith, y mae tri sydd yn frodyr yn ol y cnawd. Am ddau o'r lleill, y maent amryw o flynyddoedd dros eu pedwar ugain mlwydd oed, ond nid ydynt yn hen, oblegid nid yw pobl y mynyddoedd hynny yn heneiddio.. A pha ryfedd? Y mae ardal Soar yn gyffelyb mewn llawer 0 bethau i Ardd Eden; llifa pedair afon allan o honi, Doithie, Camddwr, Towi, ac Irfon, a hynny i wahanol gyfeiriadau, i ddwyrain a gorllewin, gan am- gylchynu a dyfrhau gwledydd breision lawer, a gellid casglu oddiwrth oedran mawr llawer o'r trigolion, fod pren y bywyd yn rhinwedd- oli dwfr, daear, ac awyr y lie. Y mae yr ieu- angaf o'r saith blaenor newydd yn fab i D. R. Edwards. Ysw., Y.H., Nan y stalwyn, un o'r dau flaenor oedd yno o'r blaen. Symud- odd y tad yn ddiweddar i Dregaron, ond y mae yn parhau i igadw ei le yn ffyddlawn yn Soar bob Saboth agos,er fod ganddo tuag 'ugain milltir o ffordd uchel a garw i w theithio rhwng myned a dychwelyd. Bugail i Miss Jones, o'r Fanog, yw un o'r tri brawd naturiol etholwyd, a myn llawer sydd yn gyd- nabyddus a'r lie y dylasai Miss Jones ei hun fod ymhlith yr etholedigion, oblegid, fel ei mam.ragorol o'i blaen, y mae drwy ei hoes yn cyflawni gwaith y swydd, a pha amhriodol- deb gan hynny, er mai merch ydyw, fyddai iddi gael ei igosod yn y swydd yn ffurfiol. ?