Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREXG

NODION CYMREXG. -+-- Aeth Maer newydd Aberystwy h ac aelodau y Cyngor Trefol i gapel Saesne, yr Annibyn- c, r wyr foreu Sul i wrando pregeth fuddiol. Gadawodd Mir. J. D. Lewis, swyddfa'r 'Gomerydd,' Llandyssul, y swm ol ^7°3- Treuliodd ei oes ynglyn a'r wasg,, ac yr oedd yn lienor da. -+- -+- Llongyfarchiad i Mr. Edward Jones ar ei benodiad yn Llywydd y Sasiwn. Go lew Trefaldwyn Uchaf am gyflwyno'r lleygwr cyntaf i gadair y Sasiwn. -0- The Romances of Arthur in Wales and on the Continent," ydbedd testun darlith Miss Mary Williams, M.A., D.Litt., i Gymdeithas Cymrodorion Barri. --4.- -+- Gwelaf fod Mr. Richard Ellis, M.A., eto yn dilyn Mr. T. Gwynn Jones, ac yn gadael y Llyfrgell Genedlaethol. Gresyn yw colli 1 bechgyn rhægorol fel hyn. Dywed Mr. J. Herbert Lewis, A.S., mai dyledswydd pob plaid wleidyddol ydyw claddu eu cwerylon cyhyd ag y parhao y rhyfel, ond mai da yw cadw y peiriannau at ymladd yn barod. Cyngor da iawn. Mae pwyllgor gweithiol Undeb Cymdeithas- au Llenyddol Cymru yn apelio at bob cym- deithas drwy'r wlad i ddyfod o fewn i rwymyn yr undeb er mwyn cryfhau a threfnu y gwaith rhagorol a wneir drwy y cymdeithasau hyn. Anfonodd Mr. J. Morris, Y.H., Llety'r Eos, cyn-uchel sirydd Dinbych, y rhodd anrhydedd- us 0' £ 500 yr wythnos ddiweddaf at leihau dyled capel y Methodistiaid yn Llansannan. Nid dyma rodd gyntaf Mr". Morris ychwaith. -+- -+- -+- Yn unol a threfniad a wnaed bydd." Congl yr Alliance yn cael ei hagor yn y CYMRO rhagllaw, dan olygiaeth y P'arch. Ellis Jones, Bangor, a Plenydd. Telir sylw i, g-westiynau dirwestol y dydd gan y ddau frawd adnabydd- us a enwyd. -+- -+ -+- Mae Cofiant Cymraeg i "GriHlth John, D.D., Arwr China," wedi ei ysgrifennu gan y Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd, a'i gyhoeddi !gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Mae'n gyfrol Úthriadol o ddestlus, a hynod o ddyddorol. -+- -+- Pwnc pwysig yn Ffestiniog" ydyw ardreth y prydlesoedd. Dioddefa y trigolion yn ddir- fawr oherwydd iselder masnach, ac eto nid oes ond ychydig o ostyngiad yn y prydlesoedd. .Y z, Galwyd cyfarfod" yr wythnos ddiweddaf er gwneud cars unol at y perchenogion. Y mae Trefaldwyn Uchaf yn ddyledus iawn i Mr. Richard Jones, Pendinas, Mr. Edward Jones, M'aesmawr Hall, a theulu Llandinam, am bask) y cynllun newydd i sicrhau codi'r igydnabyddiaeth Sabothol ymhob taith 01 fewn cylch y C.M. i'w weinidogion ei hun oedd o dan salon neilltuol. Bu Syr D. Brynmor Jones yn gosod carreg sylfaen ycapel cyntaf a gc dwyd er pan basiwyd y ddeddf seneddol syd 1 yn rhoddi cydraddoldeb crefyddol i Gymru." Nid oedd Syr David agos yn gywir, oblegid y mae amryw gapelau wedi dechreu cael eu laadeil- adu er pan estynwyd cydraddoldeb crefyddol 1 Gymru. Er y flwyddyn 1850 nid oes ond i- o frodor- ion tref Aberystwyth wedi llenwi cadair y Maer yno. A chyfrif y rhai fu yn y swydd fwy nag unwaith, credaf y bu tua deuigain o rai tuallan i'r dref yn faerod yn ystod y tymor. Dyna hanes pob tref,—cael ei gofesgyn, a di- eithriaid yn llywodI aethu -+- -+- Yr oedd gweinidog ieuancun o wyr y B. D. ,-wedi cael benthyg ceffyl a char yn ddi- weddar yn un 01 siroedd amaethyddol y Gag- ledd. A buan ffeindiodd nad ai, y ceffyl heb arfer iaith gref! Ac yn hytrach na dweyd gair na fyn'sai, gwaeddai "Jam" yn sarug. Ac ebai hen wag, pam na waedd'sai Dam- son Jam." -+- -+- -+- Rhaid i'r Parch. Philip Jones edrych ati. Dywed yn ei ddarlith ar Edward Matthews mai efe oedd yr olaf 0 gewri pulpud Cymru. Clywais y ddarlith flynyddoedd yn ol, ac ni sylwais fod neb yn codi ei wrychyn. Ond aeth y igwr ffraeth i Liverpool, ac fe dynnodd y sylw wg rhai pobl sydd yn credu nad yw dyddiau y cewri wedi darfod. -+- -+- -+- Gymaint o wahaniaeth a wna marwolaeth un dyn! Dyna ddeuai i'm meddwl wrth ddarllen hanes cyfarfod y Bwrdd Canol yn yr Amwythig ddydd Gwener a Syr Edward Anwyl ddim yno! Gwn gryn lawer o hanes yr hyn sydd wedi digwydd y tu ol i'r lien er pan fu farw Syr Edward. Daw'r adeg ryw dro i'w adrodd, hwyrach -+- Gobeithio y bydd i'r tan sydd wedi ei gynneu i gynhesu aelwyd i'r Belgiaid yn par- hau i losgi, ac y cyrhaedda ei wres hyd at eraill sydd yn yr oerfel. Diyma y tro cyntaf i lawer cybudd agor ei galon, ac erbyn hyn ceir eglwysi sydd yn rhoddi punt yr wythnos i'w bugeiliaid yn cyfrannu 25s. yr wythnos i'r Belgiaid. Da iawn. Fe agorir calonnau llawer cyn bo hir. Mr. J. M. Edwards, M.A., prifathraw Ysgol Sir Treffvnnon. ydyw awdwr y igyfrol !6 y ar Sir Fflint yng Nghyfres y Cambridge County Handbooks a gyhoeddir gan wasg P'rifystgol Caergrawnt. Yr oedd dwy o'r blaen o Gymru,—Caernarfon gan Proff. Lloyd, a Morgannwg gan Mr. J. H. Wade, M.A. yn y gyfres, ac o ran gofal, manylder, a dydd- ordeb, mae'r gyfrol ar Sir Fflint rgystal ag unrhyw un yn y gyfres. -+- Nid gwr am siarad yn unig ydyw Canon Nicholas, Fflint. Dywedodd lawer o bethau hallt 0 bryd i bryd am Ymneilltuwyr, ac yn awr danghosodd ei fod nid yn unig yn casau yr Ymneilltuwyr, ond hefyd yn caru ei Eglwys. Cyflwyna drosodcl wertn o 1,400 i £ [,500 o gyfraniadau yn Ariandy y London City and Midland i ffurfio cnewyllyn trysorfa at gynnal y weinidogaeth yn esgobaeth Llanelwy. Dyma gychwyniad rhatgoirol. -+- -+- -+- Gwnaeth Cymrodorion ardal o Sir Drefal- dwyn apel at awdurdod addysg y Sir am gan- iatad i gynnal eu cyfarfodydd yn yr ysgol ddyddiol yn ddidraul eleni. Arwyddwyd yr apel gan athroo. Brifysgol Cymru, gweinidog", ac athraw ysgol. Yr ateb oedd hysbysu y byddai raid iddynt dalu y 'full charge,' sef hanner coron y noson. Tybed i'r apel fod o flaen y pwyllgor ? Y mae'n hysbys fod yr un ysgol yn cael ei rhoi am ddim at rai pethau. A wyr y clerc hynny tybed? Hefyd y mae ambell i glerc yn go ?od ambell i ysgol tu cefn i'r Managers wedi i'r 'Managers wrthod. Pa gysondeb sydd mewn pethau fel hyn? Oind dyna! gwna unrhyw driniaeth y tro i Gymry a Chymraeg1!! 'Mae Mr. Llewelyn Gordon Owen, brodor o'r Borth, ger Aberystwyth, wedi ei benodi yn athraw mewn Miathematics yng Ngholeg y LIywodraeth yn Rangoon, India. Mab i ysgolfeistr fu yng rNghwmtirmynach, ger y Bala, yw Mr. Owen, ac aeth drwy Goleg Aber- ystwyth i Rydychen. -+- Pregethodd y Parch. Peter Hughes Griffiths, Llundain bregeth angladdol i'r Parch. James Morris, ym Moriah, Llan-' stephan, nos Saboth, y isfed cyfisol, i gynull- eidfa fawr, alarus. Yr oedd y gwasanaeth drwyddo yn deilwng o'r amgylchiad, ac o'r pregethwr enwog. Mae y Parch. C. L. Perry, Casnewydd, wedi ei benodi yn gaplan i'r fyddin, ac wedi myned i wersyll Tidworth. Brodor 00 Porthleven, Cornwall, ydyw 'Mr. Perry, daeth i Ddeheudir Cymru yn y 'nineties,' ac ymunodd a'r For- ward Movement. Mae'n debyg o fod yn bobl- ogaidd iawn gyda'r milwyr, oblegid nid oes odid gamp ar chwarae nad yw efe yn feistr arno. A chyda hyn bu yn Llywydd y Cyfar- fod Misol, ac yn aelod o Fwrdd y Gwarcheid- waid. -+- -+- -+- Cefais gopi o lawlyfr Dr. Phillips ar (t Ddamhegion Crist,"—llyfr hanner coron, a rhad iawn am y pris. Dywed yr adolysgwyr fod hwn yn un 0' lyfrau rhagoraf yr awdwr,— ac fe ddylent hwy wybod. Gallaf finnau ddwyn tystiolaeth i ragoroldeb y llawlyfr oddi- ar brofiad o hono wrth baratoi ar gyfer yr Ysgol Sabothol. Diyiia'r prawf goreu ar INTfr, a rhoddwn gyngor i'r darllenwyr roddi cynnyg arno. Esboniwr gwych a diguro yw Dr. Phillips yn ei faes. -+- -+- -+- Dyma air o'r D-i, ych: B,u ymweliad y Parch. Dr. H. D. Jones, Cymru, a Minnea- polis, yn llwyddiant mawr. Enillodd y preg- ethwr galluog Cymry y ddinas. Cafwyd cyn < ulliadau mawrion a chynhyddent o ran nifer Saboth ar ol Saboth. Mae y Parch. H. D. Jones yn un 0 feistri y gynulleidfa, ac yn bregethwr o'r radd fliaenaf. Da fuasai gen- nym pe gallasai aros gyda ni yn llawer hwy, ond diolchwn am yr hyn a gawsom. Dymun- wn iddo wenau y nef tra yn ymweled a'n heglwysi ar ei daith yn ol tua Chymru." -+- -+- Daeth y stori yma o Aberystwyth, a rhaid felly ein bod yn wir:—Aeth efrydydd o Goleg Diwinyddol i bregethu mewn capel yn y wlad. Yr oedd y codwr canu yn absenol, a gofynwyd i'r pregethwr gymeryd ei le. Gyda'r emyn gyntaf, gorfu i'r pregethwr ganu ei hun o'r dechreu i'r diwedd, a chyda'r ail penderfynodd gael dealltwriaeth pa don oedd yn hysbys i,'r gynulleidfa. Felly gofynodd i'r blaenor,— Ydych ch'i yn gallu 'French' yma?" French wir," "ebai'r blaenor mewn syndod. Oes yma fawr neb yn gallu Saesncg heb son am French." -+- -+- Chwith iawn yw meddwl dygymod a cholli Mr. Richard Bennett, 0 Gyfarfod Misol Tref- aldwyn Uchaf. Sirioldeb mawr i bawb yw deall nad yw'n torri ei gysylltiad a'i hen Gyfar- y t, fod Misol. Mawr obeithir yr egyr Rhaglun* iaeth ryw ffordd iddo ddod yn 01, a hynny'n fuan. Hyd y gwyddis fe bery i ysgrifennu i'r Cofiedydd,' er wedi pabellu ym Mangor. Caiff bellach hamdden i lenora a chwilota er budd cylch mawr sy'n disgwyl wrtho. Bu y 6 wrthi'n ddygn yr wythnosau diweddaf yn cyniwair o ardal i ardal ac o bhvy' i blwy'. Ac ni wyr neb yn well nag ef berthynas gwein- t, y I idogion y Corff a phersoniaid y plwy'—gwyr faint o ffryndiau neu o elynion ydynt i gyd.