Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. — Dygir allan gyfrol o gyfansoddiadau y di- weddar gerddür adnabyddus, Mr. David Lewis, Llanrhystyd, gan ei deulu. Mlae 55,9101 yn derbyn cymorth plwyfol (allanol a mewnol) yng Nghymru,43,5,0-4 yn y De a Mynwy, a 12,406 yn y Gogledd. D'arlithia person Liang eitho ar Daniel Rowlands, ac ymysg pethau dyddorol eraill, dywed mai Eglwyswr oedd Rowlands ar hyd ei oes. Dywed Gwylfa. fod un mil ar ddeg o Gymry yn byw yn New York. A barnu oddiwrth sefyllfa yr achosion Cymreig yno, rhaid fod y doreth o honynt wedi peidio a bod yn Gymry mewn popeth ond enw. Aeth lleidr medrus, i ffair Rhuthyn dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, ac ysgafnha- odd logellau llawer o amaethwyr. Cbflodd Mr. R. Roberts, Rhoslydan, Llandegla, bapurau oedd yn werth wyth gant 0' bunnau. D3: fydd gan bawb ddeall fod Cymru yn dal 'w chymharu yn ffafriol a rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol yn ei phroficn o'i theyrn- gar ,/ch i'w Brenin yn y cyfwng" dicyffelyb llWL Llaw-inydd ydyw gweled hefyci fod yr Hen Gorif mor iach a chryf ar bwnc y rhyfel, ac yn dangos cymaint o barcdrwycd i aberthu. -+- -+- Da y gall rhai o ardaloedd Sir Gaer lawen- 'hau yn llwyddiant yr acho-s dirwestol, ac yng Z, nghoro-niad ymdrechion clodwiw ei garedig- ion. Er engraifft, newydd cysurlawn yw fod yr holl Gymdeithasau Dyngarol mewn un lie pob log wedi symud allan o'r tafarndai, ac yn awr yn cael eu cynnal mewn lleoedd mwy cyson a'u hanianawd. -+- "Chwareuon Hanes y gelwir cyfres o lyfrau at wasanaeth ysgolion, gan Mr. T. Gwynn Jones, a gyhoeddir gan Mri. Hughes a'i Fab, Wrecsam. Amcenir drwy'r gyfres hon o chwareuon gyrraedd dau nod,—deffro a defnyddio'r gallu dramatig sydd mewn plant, a cheisio gwneuthur yr hanes a ddysger yn beth mwy byw iddynt ar y pryd." -+- -+- -+- [ Yn y British Weekly' am yr wythnos ddi- weddaf, cymer y Parch. David Smith, D.D., draffertb i ateb un o'i ohebwyr ar fater llosg- awl yr ysmygu. Fel ar bob mater arall, ymhüb pen mae piniwn, ac rid pob Cymro. gytuna a'i olygiadau, ond dilys yw y bydd pob Cymro yn llawen i ddeall fod y doe(hawr parchedig yn difynnu o. "Rhys Lewis," ac felly yn profi ei fod yn gydnabyddus a pheth o weithiau Daniel Owen. Cynhelid cyngerdd yn yr Ysgol Eglwys yng Nghorris, nos Iau, Rhajg. 3ydd. Parhaodd am ddwy awr. Ond ni ddefnyddiwyd dim Cymraeg o'r dechreu i'r diwedd ynddo Y rnae'r staff' yn ochri gyd'a'r cymydogion nesaf atom. Tybed na ddylai pethau fel hyn fod ymhlith a fu mewn hen ardal Gymreig fel Corns? Ond, ysywaeth, y mae gformod o. ardaloedd eto yn siroedd Gymreig y Gogledd a Saeson uniaith yn brifathrawon ynddynt. Gwn am un prifathro1 wedi bod am bymtheg mlynedd ar hugain mewn ardal cwbl Gymreig ac heb ddysgu gair 01 Gymraeg. Efallai y gellir casglu y ffeithiau hyn ynghyd a rhoi goIeu ddydd iddynt yn y man. Mae'r anerchiad a draddododd Principal Roberts, Aberystwyth, o gadair Undeb y Bed- yddwyr, wedi ei chyhoeddi yn llyfr destlus dan y pennawd Iachawdwriaeth leuenctid," o wasg y Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon. Synnir mewn rhai cylchoedd y rhoddir cyn lleied o le i goffa Syr Edward Anwyl yng nghylchgrawn Cbleg Cenedlaethol Aberyst- wyth.. Traetha Miss Winstanley, y ddarlith- yddes Saesneg", a'r nofelyddes enwog, yn dra helaeth yno1 ar Nietzsche. -+- -+- Mewn cyfarfod 01 Gyngor Cenedlaethol yr Ejglwysi Rhydd, a gynhaliwyd yn Llundain, ddydd Gwener, cymeradwywyd yn unfrydol y penderfyniad oedd wedi ei basio gan y pwyll- gor gweithiol Cymreig, i'r perwyl fod yn am- hosibl cymeradwyo cais Cynhadleddi Caer- dydd am gael uno a'r Cyngor Cenedlaethol. Ymysg y rhai oedd yn bresennol pan basiwyd y penderfyniad hwn yr oedd y. Gwir Anrhyd- J. Herbert Lewis. -+- -+- Y T'eulu ydoedd testun Darlith y Parch. S. E,. Prytherch, Nantymoel, yn Trinity, Abertawe, yr wythnos ddiweddaf. Anhawdd fuasai i :neb ddewis testun mwy ffodus ac am- serol, a mwy o angen traethu arno, ac ni wnaeth y gwr parchediggam a'i fater, ac ni, bu yn euog 0' ddarnguddio'r gwirionedd. Cafwyd ,amser dyddorol ac ad-eiladol., a mawr fwynhaodd pawb yr arlwy—gyda'r eithriad efallai o'r hen lanciau. Diau y gwel llawer un o honynt ar fyr o dro g-yfeiliorni eu ffordd. ^chwanegiad pwysig at ddyddordeb y ddarlith oedd y ffaith eithriadol fod y gwr oedd yn y gadair yn frawd yn y weinidügaeth i'r dar- lithydd yn ogystal ag yn frawd iddo o ran y cnawd. -+- Er pan ddechreuodd y rhyfel gwelir nifer fawr o diramorwyr yn Llundain, a chlywir rhyw gymysgfa ryfedd o ieithoedd ar brydiau. Digwyddwn fod yng nghymydogaeth Sihep- herds Biush yr wythnos hon, a throais i fewn i un o dai Lyons am gwpaned o de. Cyd- eisteddai a mi wrth y bwrdd, ddau dramorwr, y rhai, a ymgomient a'u g.ilydd mewn rhyw dafodiaith ddieithr iawn i mi. Defnyddid cryn lawer o'r Hispaenaeg, ac ychydig o'r Ffrancaeg, yr hyn a ddeallwn; ond nid oedd gennyf, er dyfalu, y syniad lleiaf pa iaith a siaredid ganddynt. Ymhen ychydig ymun- odd cyfaill a hwynt, ac mewn Saesneg clir a pherffaith, gofynodd i un 6'r gwasanaethydd- esau am gwpaned o gnffi. Erbyn hyn yr oedd fy chwilfrydedd wedi ei ennyn; a gofyn- ais iddo pa iaith a siaredid ganddo ef a'i gyfeillion. O," atebai, rhyw Jargon ydyw-cymysgfa o Hispaenaeg, Ffrancaeg, a Thwrcaeg. luddewon Hispaenaidd ydym; wedi ein geni a'n magu yng Nghaercystenyn, a gallwn siarad wyth neu naw o ieithoedd yn rhwydd, gan eu henwi. Dywedai fod nifer o luddewon wedi, ymadael o'r Hispaen, ac wedi ymgartrefu yng' Nghaercystenyn, rhyw bedwar can' mlynedd yn ol; ac y mae eu disgynyddiün yn parhau i goleddu eu hiaith o gariad tuag a ty wlad yr hannant o honi. Lilongyfarchais. ef am ei wladgarwch, a'i hoff- ter at iaith ei gyndadau, a dywedais wrtho fy mod innau yn cael fy symbylu gan yr un teimlad er maÎt brodor o'r wlad hon ydwyf, fod gennyf iaith briodof fy hunan, a dysgwn hi i'm plant. Pa un yw hon-no," gofynnai. "Y Gymraeg," atebwn. Sut yr ydych chwi," meddai wed'yn mewn Cymraeg croew. Syfrdanwyd fr gan ei ofyniad. Ar ol ychydig y Z!1 o ymgom ymhellach ynglyn a Chymru, canas- om yn iach i'n gilydd. Nos dawch," meddai wrthyf wrth ymadael. Teimlo yn bur chwerw at eu gilydd wna y ddau aelod Seneddol dros ranbarth Merthyr, sef Mri. Edgar Jones a Keir Hardie, ac ni phetrusant ddatgan eu syniadau ac amlygu y chwerwder hwn yn y wasg ac ar y llwyfan. Ffraeo ynglyn a'r rhyfel wnant yn awr; ond nid yw hyn amgen nag achlysur y fifrwydriad. Dyma'r wreichionen. Yr oedd y pylor yn bod yna o'r blaen. -+- -+- -+- Mae cyfrol y Parch. T. Mbrdaf Pierce, Dol- gellau, ar "Dr. William O'wen Pughe: Ei Hanes, ei Waith, ei Athrylith, a'i Feirniaid," wedi ei dwyn allan yn Swyddfa Cymru. Dywed Mr .0 .M. Edwards am, dani Ym- gymerodd Mordaf a dangos beth yw lie Dr. W. O. Pughe yn hanes a meddwl ei genedl. Yr oedd yn bryd rhoddi'r gwr mawr hwn yn ei le o flaen ei bobl ei hun." Llonder i galon dyn yw clywed hanes gweithrediadau canmoladwy caredigion yr achos mawr ar hyd y wlad, ac hyfryd meddwl fod yn perthyn i ni gynnifer o honyntpübl fynnant dorri eu blychau enaint, a tnywallt eu cynnwys gwerthfawr er dangos eu cariad a'u rhwymedigaeth. Y mhlith y cyfryw y mae Mr. S. Williams, Talybont, yr hwn sydd wedi rhoddi i'r eglwys yno dy gweinidog, cil0_1 gwerth ^500, ac ysgoldy hardd a helaeth, ynghydag ag ymgymeryd a rhan helaeth o draul adgyweiriad y capel. Mae darilen am beth fel hyn yn iechyd i ben a chalon dyn, a phrofa fod yn aros yn ein plith bobl ym meddwl am ei enw E,f,ac ym meddu ar ewyllys i gyfrannu yn ogystal a gallu. Da fyddai gweled eu nifer yn amlhau. -+- -+- Un o gwestiynau pwysig y dyfodol fydd, A ddylid adfer addysg grefyddol i'r Ysgolion Dyddiol? Siaradodd y Parch. R. J. Camp- bell yn gryf ar y mater, ac addefodd iddo ef gamgymeryd wrth bleidio, cau allan addysg grefyddol. Pe byddai yn bosibl i mi gael fy amser drosodd etü," medd Dr. Camp- bell, ":ni phleidiwn byth dros roddi yr ail le i addysg grefyddol yn ein hysgolion dyddiol. Nid llai ond mwy o'r addysg hyn sydd arnom eisiau yn bresennol. Mae cymeriad mewn athraw yn fwy gwerthfawr nag ysgolheig- iaeth. Dylai y moesod ragflaenu y meddyl- iol. Nid ydym am ddyfod yn genedl o sharpers'; ond o wyr a gwragedd sydd yn ofni Duw. Nid yw y genhedlaeth bresennol yn gwybod y Beibl fel yr oedd yr hen dadau. Nid yw yn ei ddarllen chwaith, na derbyn unrhyw gymorth oddiwrtho. Bu eglwys Moriah, Utica, yn dathlu cwbl- had deng mlynedd o. wasanaeth y Parch. D. M. Richards fel ei bugail. Pasiodd yr eglwys i wneud hyn yn ystod ei absenoldeb yn New York y Sul blaenorol. Traddodwyd ganddo bregeth neilltuol bwrpasol i'r amgylchiad y Sul hwnnw, a nos Fercher drweddaf cynhull- odd yr eglwys ynghyd i'w anrhydeddu. Yr oedd rhoddion hael wedi dod i law y swyd dog- ion, ac yn ystod y cyfarfod cyflwynwyd i'r gweinidog poblogaidd diamond pin gwerth- fawr ac amhryw o anrhegion sylweddol eraill. Y mae gan eglwys 'Moriah feddwl mawr ü'i gweinidog, a haedda y parch hwnnw oddiar ei llaw am y gwaith da y mae wedi ei wneud. Daeth ef yma ddeng mlynedd yn ol o Capel Coch, Llanberis, lie hefyd yr oedd yn boblog- z, aidd ac yn fawr ei barch. Er yr adeg y sefydlwyd ef yn weinidog yma, bu cynnydd sylweddol yng ngwahanol ganghenau yr eglwys. Cynhyddodd rhif yr aelodau dros ddau cant yn ystod y deng mlynedd, a hynny yng ngwyneb colledion anarferol o uchel.