Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 5 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
Y GOLOFN GYMRAEG

Y GOLOFN GYMRAEG. GAN Y PARCH. D. TECWYN EVANS,, B.A., BIRKENHEAD. Gweddus yn ddiau i bapur a'i geilw'i hun yn Gvmro yw cael colofn i goledd yr Iaith Gymraetg ynddi. Nijd yw unrhyw Gymro nad yw'n meithrin yr iaith yn un delfrydol, a dywedyd y lleiaf. Ac os iaith o gwbl, y mae'n tbwysig ei chael mor lan a di- anaf ag y gallwn, yn ol ein gwybodaeth. Yn y gol- ofn hon ymdrechir son am y meflau cyffredin ar gys- trawen a sillafiaeth neu orgraff yr iaith, y meflau sydd mor hiihoedlog yn ein plith er .gwaethaf pob ymdrech i'w clirio. Nid ydys, pe medrem. am ymdrin a dim cwestiynau anodd dyrys yn y galaÆn hon,—dim ond son am y pethau sy'n agos atom oil, gan hyderu y creir trwy hynny ddiddordeb, o leiaf, yn ein hiaith ardderchog. Y mae gennym oil waith dysgu, a dymunaf ddywedyd yn igroyw ar y'dechreu yma mai fel disgybl yr ysgrifennaf, ac nid fel un math ar awdurdod. Tipyn o bregethwr gweddol 'brysur yw ysgrifennydd y nodion hyn; ond un sy'n caru'r Gymraeg yn angherddol, yn dymuno oes y byd iddi, ac yn awyddus, hyd y medr, i'w hysgrif- ennu a'i harfer yn gywir a dinam. Efallai na fydd y darllenydd yn cyd-weled a phopeth a ddywedir, ond hyderaf y pair hynny iddo chwilio'n fanylach a yw y pethau hyn felly ai peidio. Y mae'n syn gynifer o wallau a wneir gan bron bawb ohonom wrth ysgrifennu Cymraeg,—a'r rheiny mewn gwirionedd yn wallau elfennol, and ein bod wedi hen arfer a hwy. Er esiampl, cefais lythyr y dydd o'r blaen oddiwrth wr darllengar a igyfrifir yn ddyn mwy galluog na'r cyffredin o lawer ond er galluoced yw fel meddyliwr, gwna hyd yn oed ef wallau amlwg wrth ysgrifennu CymraeEr. Wele enghreifftiau 1. Pan y cefais." Y gwall yw defnyddio y ar ol pan. Yr hyn sy'n gywir yw pan gefais." Y mae Ond pan y gwelwyf draw yn anghywir, yn lie "Ond pan welwyf draw." Y llinell olaf ym mhen. nill ysblennydd Williams Marchog lesu yn llwydd- iannus fel y mae yn ein Llyfrau Emynau heddyw yw Pan y byddot (neu byddost ') Ti gerllaw." Heh son yn awr am y gwall enbyd 1 byddot,' neu'n waeth fyth byddost,' yn He byddech (cymharer Math. vi. 6: pan weddiech, nid weddiost),—heb s6n am hwn yn awr, y mae gwall arall yn y llinell: ceir y aral pan. Pan fyddech Di gerllaw sy'n gywir. (Yr hyn a ddywedodd Williams ei hun oedd Tyrd am hynny maes o law "). 2. Os y medrwch." Dyma y etc lie na ddylai fod. Nid oes eisiau y ar ol os o flaen. berfau. Gell. ir ei defnyddio yn ol y galw ar ol os o flaen enwau (nouns) "üs y dyn hwn yw John." Ond cwbl anghywir yw dywedyd as y cyfyd yr haul yn lie os cyfyd," &c. Nid os y bydd," ond 'os bydd" sy'n iawn. 3. Peidiwch gwrthod." Yn gywir, Peidiwch a gwrthod." Y mae eisiau A ar ol pob ffurf i'r ferf peidiaf o flaen berfenwau (verb-nouns), ac,, hyd y sylwasom, yn ddi-eithriad o flaen pob rhianym- adirodd (part of speech) arall hefyd. Peth rhyfedd braidd na fuasem wedi sylwi ar hyn yn y Beibl, sy'n gywir bob amser ar y pen hwn. Er enghraifft, Paid â mi,, fel y cryfhawyf (Salm xxxix. 13) nid wyf yn peidio a diolch drosoch (Ephies. i. 16). Yn y igfin hysbys "Peidiwch gofyn imi ganu yr hyn sy'n gywir yw Peidiwch a gofyn." Ac yn y darn adTodd Paid rhoi fyny dylid dywedyd Paid â rhoi." Gweler hefyd Jerem. xxxi. 36. 4. Hyderaf na bydd ichwi gad eieh rhvrystro." Y mae gor-fynychu cad fel berf gynorthwyol yn wendid mawr yng Nghymraeg ugeiniau ohonom, ac y mae lladd yT arfer bron yn amhosibl. Wrth gwrs rhaid ei oael weithiau hyd yn oed fel berf gynorth- wyol, ond anaml iawn y digwydd hynny. Beth sydd eisiau yn lle'r saith gair yn y frawddeg a ddyfyn- v nwyd? Y pedwar igair a ganlyn,—" Hyderaf na rwystrir chwi." Dyma enghraifft arall, "Y mae"r llyfr i gael ei ddefnyddio yn lie Y mae'r llyfr i'w ddefnyddio." Gwelais daflu'i lleill" ebe'r Bardd Cwsg yn gryno a tbaws,, ond yr hyn a ddywed. id fel rheol heddyw fyddai hyn, Gwelais y lleill yn cael eu taflu." Ac eto fyth, Yr oeddwn wedi arfer cael fy nysgu yn lie Arferid, fy nysgu." 5. "Cation gore." Gwelsai y gwr da a yrrai'i gofion gore y ffurf bore yn rhywle; a thybiai, gan fod bore 'n gywir, mai cywir hefyd oedd gore. Ond y gwir yw hyn,er fod boreu a borau 'n anghywir, y mae goreu a gorau 'n berffaith gywir a gore "r un mor anghywir. Un ffurf yn unig sydd i'r gair bore; end ceir dwy ffurf ar y llall, goreu neu gorau. 6. Os ydych yn ei adwaen." Yn lie os ydych yn ei adnabod."Ystyr adwaen ydyw I know-first person singular present indicative; ond ystyr ad- nabod ydyw to know: y berf-enw ydyw. Y mae'r Beibl eta'n berff.aithi iawn yn ei ddefnydd o'r geiriau hyn. Er enghraifft, Myfi yw y Bugail da ac a adwaen yr eiddof fi," loan x. 14. Adwaen holl adar y mynyddoedd," Salm L. 11. Gan hynny, y mae a ydych chwi yn adwaen y gwr yn anghywir yn lie yn adnabod." A'r un mor anghywir yw dywedyd fod "y Tad, yn adwaen y Mab;" yr hyn sydd ,gywir yw fod y Tad yn adnabod y Mab." 7. Os y gwnewch y wasanaeth hon." Yn gywir, Os gwnewch y gwasanaeth hwn." Gwrywaidd (inascutine) yw xhyw neu genedl (gender) gwasan- aeth." Er hynny mynych y dywedir gwasanaeth wertbfawr," igwasanaeth dda," pan ddylid dywedyd '( gwasanaetb, gwerthfawr a "da. Sylwes hefyd mai gwrywaidd yw delfTyd, ac nid cywir yw y ddelfryd hon "eithr "y delfryd hwn." Y rheswm am hyn yw fod rhyw gair cyfansiawdd yn Gymraeg yn dibynnu fel rheol ar yr elfen olaf ynddo. Fel hyn,—gan mai bryd yw'r elfen olaf yn delfryd" y mae delfryd yn wrywaidd am fod bryd" felly. CymhareT meddylfryd,' elusendy' (" yr elusen hon" ond yr elusendy hwn ") 8. "Mor lavmed." Yn He cyn llawned neu "mor lawn." Ni ellir defnyddio mor o fl,aen y radd gyfartal (equative degree) mewn ansoddekiau, eithr ar ol ffurf wreiddiol yr ansoddair (positive degree). Er enghraifft, Mor lluosog" and nid "mor lluosoced;" "mor wyn" eithr nid "mor wynned," ond cyn wynned," cyn lluasaced." Sylwer ar ddull cywir y Beibl o arfer cyn o flaen y radd gyfartal: "ant cyn wynned a'r eira," Esai. i. 18; and" mor gu gennyf dy gyfraithi di, Salm cxix. 97 (nid mor gued "). Onid yw'n syndod. fod cymaint o bobl sy'n darllen llawer ar eu Beiblau mor chwannog i wneuthur camgymeriadau mor amlw,g a chyn waethed a'r rhain? Nid wyf yn adnabod poib un o ddarllenwyr y Cymro'n ddiau; ond adwaen lawer ohonynt. Ac atolygaf arnynt beidio d phetruso igyrru ambell gwestiwn imi ar y Gymraeg. Gwnaf fy ngoreu i ateb eu cwestiynau. Os gofynnant gwestiynau heb fod yn rhy anodd, hyderai .na siomir hwy (nid na bydd lddynt gael eu siomi "). Pan ofynnont rywbeth y gallaf eu cynorthjwyo ynglyn ag ef, igwnaf y gwas- anaeth goreu a fedraf iddynt, ablegid y mae imi ddelfryd da beth bynnag, er nad wyf mor hyddysg na chyn fedrused yn yr iaith ag y dymunwn fod o dipyn. Cofion gorau, D. TECWYN EVANS. 14, Low-wood Road, Birkenhead. O.Y.-Ar ol ysgrifennu'r uchod dyma air oddi. wrthi W. yn gofyn, tros Lydawr dysgedig a banheddig y cefais y pleser o'i adnabod yr haf diweddaf, ai reywir y cyfieithiad a ganlyn o Y Ddraig goch a ddyry gychwyn,"—The Red Dragon shall begin." Na, digon prin: Y Ddraig goch a gychwyn fuasai hynny. Credaf mai'r cynieithLad goreu o'r frawddeg hyglod fuasai The Red Dragon will provide (neu causef a start." Atolwg, y ffurf gywir ar y frawddeg yw Y Ddraig goch ddyry cychfwyn,"—saith sillai fel y gweddai mewn llinell gyngan.eddol o gywydd, a,c nid wyth; a'r ddwy g sy'n digwydd wrth ymyl ei gilydd yn cyfat,eb i'r c yn cychwyn. Gwelir oddiwrih hyn fod dau wendid yn y llinell fel yr ysgrife,n.n,ir oi'n gyffredin,-y mae'n rhy hir o un sillaf, ac y mae ynddi w,all,cynghanedd (ceir q yn ateb i ddwy g yn y drws. nesaf i'w gilydd, pryd y dylid cael c fel y ceir yn Y Ddraig goch ddyry cychwyn "). Wrth gwrs, ddyry fgychwyn yw'r treigliad priodol erbyn hyn. Y Llydawr uchod yw M. Mocaer, gwr ieuanc ysgolheigaidd a hynaws, gwladgarwr a Christion sy'n gwneuthur ei ran yn Llydaw, rywbeth fel y gwna Mr. O. M. Edwards yng Nghymru. Ili,godilr hen wlad yn ei h&l." Y mae'n 'angherddol awyddus i .gadw'r Oydaweg yn fyw ac yn firain, ac i gael bob chware iteg i anianawd briod ei genedl goledd ei llenydd- iaeth a'i chelfyddydau." Rhwydd hynt iddo yn ei waith da. A choffa da am yr oriau aur a dreuliais gydag ef a'i gyfaill y Parch. W. M. Williams, Llan- gwyllog, ym Mon dirion dir yr haf diweddaf. Da-eth M. Mocaer i Gymru i astudio'n hiaith a'n bywyd, ac i dderby-n ysbrydi-aeth Geltaidd Gymreig i wasan- aethu'i wlad ei hun yn well. Brysied yma eto. Buasai'n dda iawn gennyf pe gwelai'r Parch. W. M. Williams ei ffordd yn glir i yrru ysgrif ar M. Mocaer a'i waith i'ch colofnau, a buasai'n sicr o fod yn ddiddorol gan eich darllenwyr.— D'.T.E.

CIAERNARFON AR CYLCH

CIAERNARFON A'R CYLCH. Penowyd Mr. a MIlS. Griffith iLewis. Owen, Thomas Street, yn ofalwyr capel Moriah (M.C.) ny lie y di- weddar Mr. Wm. Owen. Gwnaed elw o 20 :gini oddiwrth berfformiad o'r Messiah," a roddwyd yn ddiweddar yng nghapel iMoriah gan Undeb Gorawl Caernarfon. Elai yr elw at gronfa Tywysog Cymru. Cyfarfod Ysgol.—ID'ydd Sul (Ionawr 31ain), cyn- haliwyd Cyfarfod Ysgol M.C. Dosiharih Caernarfon yn Nazareth, .0 dan lyWyddiaeth Mr. W. Gwenlyn Evans, (Engedi). Yn y cyfarfod- cyntaf caed adrodd. iad yr Ysgrifennydd (Mr. W. T. Williams), ac yr oedd yn gal,onoigol iawn. Yn v cyfarfod cyhoeddus darllenwyd papur aimserol ar "Dlodi meddyliol a'i ganlyniadau," gan Mr. Morris Griffith. (Tanycoed), a ichaed sylwadau pellach gan y Llywydd Mri. R. T. Griffith (Pontrhythallt), iRichard. Jones (Waenfawr), J. Rowlands (Engedi), Capt. iRd. Jones. (Caernarfon), a'r arholydd newydd (Parch. R. T. Williams, B.A. (Llanrug). Yn ystod y cyfarfod uchod canodd y plant, a chaed deuawd gan Annai M.air Jones (Station House) ac R. Jones, Dolgynfydd). Cwyna un o newyddiaduron Caernarfon yn erbyn gwlaith un o weinidoigion y dref yn sylwi, mewn pregeth yn ddiweddar fod "gohebwyr yn rhoddi paragraffau i ganmol persOonau neilltuol am rodd gildwrn." Ni ddylai neb wneuthur bianiadau fel hyn os na ellir eu profi. Nid wyf yn gwybod i mi erioed dderlblyn arian am ganmol neb yn y newydd- iadur, ond fe'u gwrthodais bob tro, gan jgyfeirio y cyfryw at y golygydd. Nos Feroher yr oedd nifer o bobl ieuainc Caernar. fon yn dawnsio mewn ystafell nei, a'r bore dilynOol derbyni.odd ,ceidwad yr ystafell lythyr (oedd yn llawn o blu .gwyn—' white feathers) gyda dymun- iad am iddo eu rhannu ymysg y dynion ieu ainc oedd yn y ddawns gan ychwanegu mai eu lie oedd maes y gad ac nid mewn dawnsfeydd Nos Fawrth darfu i aelocUiu y Clwb IRhyddfrydol roddi gwledd i'r Belgiaid clwyfedig sydd yn y dref. 'Caed gwledd ragorol, a chyifarfod dan gamp ar ol. Yn ystod y cyfarfod adroddodd Mr. T. O. Jones (Gwynfor) yr englynion 'oanlynol i'r igwahoddedigion a'u cy-mrodyr:- I'r Caisar ac i'w weision—anrasol, Rihoislant ddyrnod brydlon; Gwyr ieuainc, cewri eon, Nad oes un brad sai 'n eu bron,. Eu golud, eu gwlad, y gelyn-,a fynnodd, ■. Gwnaeth hi'n .fonwent wedyn, Wedi'r oil, 'cadwyd er hyn Ryddid dynoliaeth trwyddyn! Ail i'r diluw'r diallyddwnai hymlid Draws temlau a threfydd V Hwy safasant nes i feusydd Gan men wa-ed redeg yn rhydd. A'i hanrhaith Almaen benrydd—aeth o'i phwyll, Melldith ffawd a'i derfydd A "ctienedl fach yn dal fyd-d Yn awyr y byd newydd. Llanbeiblig.—Dydd Iau, ym Mynwent Ll.anbeblig, Caernarfon., dodwyd gweddillion Miss Sarah Griffith, Glandwr, a hi yn 31 imlwydd oed. Yr oedd yn wynes i'r diweddar Mr. Robert Griffith, fferyllydd, Caernarfon, ac yn aelod o eglwys Moriah. Y Parch. D. O.'Brien Owen w,asanaethai yn yr angladd. Llongyfarchwn y cyfaill ieuanc diymhongar Mr. O. R. Jones, F.R.H.,S., ar ei benodiad yn ddarlith- ydd ac arddangosydd garddwriaeth yilg Ngholeg Ilollybourne, Ceint. Mae Mr. Jones yn s-elo-g gyda'r achos ceahadol yn Siloh Bach, a gedy fwlcb mawr ar (ei ol yno.

Advertising

The County School, DOLGELLEY. (The Dolgelley Grammar School). Dr. Ellis Endowment, A.D. 1665. BOARDING & DAY SCHOOL FOR BOYS. EXCELLENT general education and training pro. vided, with special preparations for the Universities, the Civil Service and Commerce. BOARDERS received at the HEADMASTER'S HOUSE. For Prospectus, Fees, &c., apply to the Headmaster. Old College School, CARMARTHEN. Principals Rev. J. B. THOMAS, Rev. D. GLYNDWR RICHARDS, B.A., Hons., B.D., Wales. Science and 'Mathematical Master Mr. EVAN WILLIAMS, B.Sc. Late Headmaster of Park-y-Velvet Acad. Under- grad. of Lon. University, 10pen Exhibitioner of Cardiff University. 1st in English, & Distinction in Chemistry, 1St Prizeman in Classics & Mathe- matics aA Trevecca College. Welsh Matric. complete 7 Welsh Matric. 5 subjects. 2 College Preceptors, Classes 1, 2 & -3 49 IBanks, Civil Service etc 11 Alberys.. Theol. Coll. Pts. 1 & II 8 PT-esbyt. College, Clthien 7 Prelim. Theological Exams 3 RESULTS of 1913 64 Brecon 'Memorial Coll. 2 Bangor Independent Coll 2 Cardiff Baptist Coll. 2 Bangor .Baptist Coll. 1 f Bradford Coll. I Richmond Coll. Glasgow Institute I Grand TOTAL for 1914 97 BOARDERS RECEIVED. TERMS MODERATE. Apply to Principals. Cymdelthas Yswtrlol f Methodlsttald Calflfiafdd. Yn unol a phenderfyniad y Gymanfa Gyffredinol yn Nihrefnewydd, Mehefin 10-11, 1912, ffurfiwyd y Gymdeithas yn ddioed, a chymeradwywyd hi gan y Dirprwywyr lechyd Cenedlaethol Cymru ar y 27 o Fehefin, 1912. Aelodaeth Gwirfoddol. Bydd yn. dda gan, yr Ysgrifenyddion ddanfon rhestr o'r cyfraniadau wythnosol sydd mewn grym oddiar y icfed o (Ionawr. Prif Swyddfa— 34, QUEEN STREET, CAERDYDD. Ysgrifenyddion— I'r De: THOS. THOMAS, o'r Brif Swyddfa. I'r Gogledd Parch. W. W. [LLOYD, Hawthorne House, Llanbeblig Road, Carnarvon. Trysryddion— I'r De: Mr. EDWARD JENKINS, J.P., 154, Cathedral Road, Caerdydd. I'r Gogledd: Mr. JOHN DAVIES, Caernarfon. ARTIFICIAL Legs hands, crutches, deformity boots, trusses, Steel-less Easifit, truss. List free. Ladies' belt corsets, elastic stockings, etc.-Allen Pearce, 23, Charles Street, Cardiff. Tel. 1282. Hours: 10—6 daily, Wednesdays 10—1 Saturdays 10-8.