Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
i NODION CYMREIG

.¡'=: i; NODION CYMREIG. 9t • Y DDAU GLADSTONE, Rhoes un ei< ben a'i galon flwydcli maith, Y llall, ieuenctid mewn un ddyrnod' Iwyr Dros ryddid; p'run yw'r gwerthfawrocaf waith? 'Does ond y duwiau fry yn unig wyr. Penrhyndeudraeth. J. B., --0- -+ Y syniad cyffredin ymysg rhai ddylent y t, y wybod yn y cylchoedd' uwchaf yn y Deyrnas ydyw y bydd i'r Rhyfel bara tua thair blynedd. Gobeithio eu bod yn camgymeryd,. ond ar gyfer hynny y paratoir. Penderfynwyd yn llndeb y Chwarelwyr i' ddwyn allan ymgeisydd' seneddol yn Arfon, Eifion, neu Feirionydxl, yn yr etholiad nesaf. Dywedwyd nas gall y chwarelwyr ddibynnu ar hyd yn oed y mwyaf caredig o'r aelodau Cymreig. -+- Yr eneth enillodd fwyaf o farciau am Dictation Cymraeg yn Ysgol y C'yngor, Four- crosses, Lleyn, oedd geneth fach o Belgium, sef Jean (Sian) Van den Cloot. Perthyna i deulu o ddeg sydd yn aros yn yr, ardal er dechreu y flwyddyn. Darganfyddiad diweddaf y Saeson yw hwn,—nad oes gan Loegr hawl i daflu carreg at Gymru am ei haniweirdeb. Dyma y mae wedi bod yn ei wneud ar hyd y blynydldoedd. Erbyn hyn mae y Saeson yn deall mai am- gylchiadau Lloegr oedd yn wahanol. -4- Dyma gwestiwn ofynwyd i blant dan ddeg oed yn yr Arholiad Sirol diweddaf: "3. I ba le, ac i ba beth y dygpwyd yr lesu pan yn wyth nhwnod oed? Pwy oedd yno. yn ei dderbyn, a beth ddywedodd am dano Ymha Ie cafodd yr arholydd ei Feibl ? Bu Dr. Dawson Williams, golygydd y British Medical Journal" yn Nhrefriw yn ymholi i rinweddau dwr Trefriw." Daw ei adroddliad yn y man. I'w aros, da clywed fod y meddyg wedi cael ei synnu yn ddirfawr. -Beth fyddai i Drefriw roi gwahoddiad i olyg'- yddion papurau Cymru i ddyfod yno? -4- --+- Diywed g'ohebydd "fod y Parch. John Williams yn gwisgo dillad swyddogol milwr- iad ym Mhwllheli. Disgwylid y buasai yn sefyll yn yr un rheng ag Esgob Liundain, ond ni lwyddwyd. Derbynia yr Esgob dal da, ond rhaid i Mr. Williams weithio am ddim a phrynu ei dd'illad yn y fargen." -+- Cyfeiriajs d'ro yn ol at y perygl i helyntion y Cynghreiriau fyn'd yn fater difrifol. Da gennyf glywed fod un gainc o'r anhawster wedi ei ddadrys yn heddyehol drwy i'r Parch. James Evans, B.A., dderbyn £ 75 a'r llenydd- iaeth sydd d'an ei ofal fel tal am ei waith fel ysgrifennydd yr adran Gvmreig o'r Cyngrair y Cenedlaethol. D'r. F. B. Meyer a Mr. Beddoe Rees fu'n heddychu 0 du'r Cyngrair. -+- -+- Wrth a.-Or ysgol newydd: yng Nghemaes y dydd o'r blaen, danghosodd Mr. Richard Jones, Y. H., beth yw nod Pwyllgor Addysg' n Sir Drefaldwyn. Er nad oes catechism yn z7, cael ei ddysgu vn ysgo-lion y sir, darperir adeiladau e-ang- a digon o awyr iach yn rhedeg drwyddynt; dysgir i'r plant ddefnycldio y glust, y llygad a'r Haw; a danghosir iddy'nt pa mür bwysig yw geirwiredd a gonest- rwyd'd, a meddwl a chorff iach. Gwyn ei byd y si'r lie y mae nodau mor uchel o flaen y gwr sy'n arwain. ..A- I __I Drwg gennyf welecl fod y Parch. Wynne Jones, fleer Caernarfon, yn tybio fod dyfodol yr Eglwys ynesgobaeth Bangor mor ddiolwg fel nas gallai annog curad gweithgar i beidio ymadael. Ni ddylai y ficer dorri ei galon fel yna. Mae digon o waith yng Nghaernarfon, digon bach o weithwyr, a digonedd o le i gurad egnio]. -+- Am y tro cyntaf yn ei hanes mae Mr. LloyJ George wedi gorfod troi yn oil. Aeth y Fas- nach Feddwol yn drech nag ef, er cywil/da i Senedd ein gwlad a barn gyhoeddus. Cvf- 9 t, addawd ag amgylchiadau oedd y cynllun a gynhygiwyd,, ac yr oedd hynny yn elfen o wendid ynddo. Rhaid i'r Llywodraeth gym- ryd mesurau o gyfeiriad arall, a gadael Haw rydd r'r Canghellor. Enillodd gweriniaeth fuddugoliaeth bur fawr yng' Ngwrecsam. Cynhygiai Cyfeis- teddlod y Biala fod chwech o reolau yn cael eu troi o'r neilltu, er mwyn diddymu hawl y Cvfarfodydd Misol i gael unrhyw lais yn newisiad Prifathro i'r Coleg Diwinyddol, a gosod y mater yn Haw y Cyfeisteddfocl. Ond nid oedd amheuaeth i fod am farn y Gym- deithasfa, a gwelodd y rhai mwyaf hirben sut yr oedd pethau yn mynd. Yn awr, daw yr holl gwestiwn i'r Cyfarfodydd Misol. -+- Gwneir paratodau yn awr i fyned i frwydr a'r cler. Ceir swyddogion iechydol gwa- hanol ranbarthau o'r wlad yn chwythu yn yr udgyrn ac yn galw'r bobl i'r ornest. Diau yr haedda hyn gefnogaeth wresocaf pawb, ond g'resyn yw v caniateir i fwystfil difaol y fasnach feddwol barhau i reibio ein pobl, ac nad ofes j erth digonol yn y wlad i ymosod' yn effeithiol arno. Haedda Syr Alfred Mond-.ei longyfarch am siarad cyn gryfed ag y gwnaeth ar y mater ar lawr T'y'r Cyffredin, ac nid heb sail dda y cymharodd yr aelodau i gerddorfa o Neroaid chwareuent eu crythau tra yr oedd Rhufain yn llosgi. -+- -+- Mae rhan helaeth 01 ystad Mr. Humphreys- Owen, Glansevern, yn Sir Drefaldwyn, i gael ei chynnyg ar werth un o'r wythnosau nesaf. Yr oedd y Cygor Sirol mewn trafodaeth a Mr. Owen gyda golwg ar brynu i wneud man- ddaliadau; ond' wedi i'r rhyfel dorri allan barnwyd yn ddoeth ohirio prynu, ac felly syrthiodd y mater r'r llawr. Y pryd hwnnw gwrthwynebai y tenantiaid i'r Cyngor Sir brynnu, am y bydd i hynny rannu llawer ar eu ffermydd hwy. Y mae teuluoedd rhai ohon- ynt wed'i bod yn dal y ffermydd am amryw genedlaethau, ac felly teimlent gryn ymlyniad wrth eu daliadau. Mae yn perthyn i'r fferm- ydd hyn beth o'r tir goreu yn holl ddyffryn yr Hafren. -+- -+- Mae'r proffwycU eto wrth. eu gwaith yn y Geninen yn canu galarnadau. Neu gwell fyddai dweyd, y rhai a dybiant eu bod yn bro- ffwydi. Rhoddir yr Annibynwyr Cymreig yn y glorian, ac fel y g'ellid disgwyl ceir hwy yn brin iawn mewn pwysau. Rhoddir y bys hefyd ar wythien garddwrn y Methodistiaid, a cheir fod: y curiad yn wan, a gwywo a dad- feilio fydd ei hanes mwy, ac ni fydd nemor o'i ol ar Gymru ddechreu y ganrif nesaf. C'yffelyb fydd tynged y Wesleyaid. Nid yw y Bedyddwyr cynddrwg, ond y mae gobaith eu dyfodol hwythau yn seiliedig ar iddynt gyd- weithredu a'r enwad newydd, sef yr Eglwys Ddadsefydledig. Hon bii,ar dyfodol, ac eisoes gwel yr ysgrifennydd arwyddion fod y gwenyn yn dychwelyd' i'w cwch'. Rhyfedd y fath allu sydd gan rai i ganfod diffygion ac i lunio bai lie na bydd—y pentan yn achwyn fod y tegell yn ddu. Dichon nad oes neb wedi gwneud mwy i gyfoethogi a pherffeithio. Caniadaeth y Cysegr na Mr. John Thomas, L,Ianwrtyd,- gwr adnabyddus i Gymru gyfan. 0 edrych arno, o nifer blynyddoedd ei fywyd y mae y I erbyn hyn yn hynafgwr, ond gyda'r eithriad o wynder ei wallt a'i farf nid oes olion henaint ar er gorff, ac y mae ei ysbryd mor ieuanc a hoew ag erioed. Tystia y rhai a'i gwelodd ac a'i clywodd yng- Nghymanfaüedd ei wlad eleni ei fod o dan y gwlith gymaint ag erioed, a hwnnw yn disgyn yn drwm ar y cynulleidfa- oedd. Boed iddo flynyddoedd lawer eto i weithio yn y rhan hon o. winllan ei Arglwydd, a chadwer ef yn dirf ac iraidd hyd derfyn ei daith. Gofyniadau dyddorol odiaeth yw y rhai ddanfonwyd gan Olygwyr y Cerddor i nifer o arweinwyr Cymanfaoedd Canu Cynulleidfa- 0.1, a mwy dyddorol fyth yw yr atebion iddynt gyhoeddir ar dudalenau y cyhoeddiad o fis i fis. Rhyfedd yr amrywiaeth ddatguddir ym marn y Cerddorion am yr hen sefydliad hwn. Tybia rhai 0 honynt y buasai'r canu yn llawer effeithiolach heb gynhorthwy un offeryn, tra y ffafria eraill gerddorfa gyflawn. Ceir ambell un o honynt yn llawenhau yn wyneb yr awyddion amlwg o, gynnycld sydd wedi cym- ryd' lie y ystod yr ugain mlynedd) diweddaf, tra y ceir eraill yn datgan yn groew a phen- dant nad ydynt wedi teimlo yr un math 0' well- iant. Gan fod yr arweinwyr yn anghytunü, rhydd i'r cantorion hefyd eu barn. Yr wythnos ddiweddaf rhoed gweddillion Mrs. Gwen Roberts, Tycapel, Croesor, i orffwys yn yr un bedd a'i gwr ym mynwent Llanfrothen. Gweddw chwarelwr ydoedd hi, a'i henw hi ac yntau'n ddinod onibai am un digwyddiad. Pan ar ei wely angau, dymun- odd Robert .Roberts am gael ei gladdu wrth ochr ei ferch ym mynwent y plwyf. Caniata- odd y rheithor hJ«ny, ond pan oedd y bedd ar hanner ei dorri, rhoed rhybudd y byddai y Parch. T. Ei. Roberts, M.A., gweinidog y Methodistiaid, yn gwasanaethu yn yr angladd. Wed'i cael hwnnw, y Rheithor a ffromodd yn aruthr, cauwyd y bedd, a chyn- hygiwyd i'r teulu gladdu gwr ty capel mewn rhan o'r fynwent neilltuedig i hunanleiddiaid, &c. Aed at Mr. Lloyd George, a than ei gyf- arwyddid ef, torwyd clo'r fynwent, a chladd- wyd Robert Roberts wrth ochr ei ferch. Erbyn hyn mae'r weddw yno hefyd. Gymaint o bethau sydd wedi digwydd er 1888! Ond mae culni eto yn blaguro yn y tir! -+- Os am gael enghreifftiau o ragfarn cibddall darllener dwy ysgrif yn y Geninen' am y mis hwn, ac ynddynt ceir dau offeiriad yn ddigon gwynebgaled i briodoli y rhyfel alaeth- us hwn i Fesur Dadgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Ond rhag gwneud cam a hwynt wele eu geiriau :—" Am i ddynion yn eu haer- llugrwydd a'u cenfigen gymryd y ddegfed ran oddiar Dduw, y mae yntau heddyw yn cyflym gymryd y naw rhan arall oddi wrthynt hwy- thau." Eto, Rhaid disgwyl cosp ddifrifol i dduyn cysegr-ysbeillad, ac ym marn llawer un daeth y gosp eisoes, a chredant fod yna fwy o gysylltiad rhwng y rhyfel creulon yma a'r Dadwaddoliad creulon nag y mae pobl yn ddirnad. Oleiaf y mae hyn yn ffaith anwad- adwy. Wedi' r Wladwriaeth gyfoethbg gym- Z, ryd odd'iar yr Eglwys dlawd ^158,0001 bob blwydd'yn, ie, tra yr oedd yr inc yn wlyb ar y Mesur, gorfodwyd y Canghellor i ofyn am ^360,000,000 i ddwyn costau y rhyfel, &c. Yn wir rhaid fod y saw! all g'redu pethau fel hyn wedi ei eni y dydd cyntaf wedi'r diweddaf o fis Mawrth.