Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Mae hyd yma chwech wedi eu henwi gan y gwahanol Gyfarfodydd Misol i'w cyflwyiio, ilr Gymdeithasfa yn Harlech i ddewis un o hon- ynt yn Brifathro Coleg y Bala. Dyma yr enwau, yng-hydag- enwau y Gyfarfodydd Misol sydd wedi eu dewis :— Y Parch. T. Charles Williams, M.A., P,orth- aethwy. Dwyrain Meirionydd (yn unfrydol). Mon (yn unfrydol). Arfoil (yn unfrydol). Gorllewin Meirionydd (yn un o dri). Trefaldwyn Uchaf (yn un o dri). Sir Fflint (yn un o dri). Y Parch. David Williams, M.A., Aberystwyth Gorllewin Meirionydd (yn un o dri). Trefaldwyn Uchaf (yn un o dri). Y Parch. J. Puleston Jones, M.A., Pwllheli. Trefaldwyn Uchaf (yn un o dri). Y Parch. David Phillips, M.A., y Bala. Gorllewin Meirionydd (yn un 0' dri). Y Parch- John Owen Thomas, M.A., y Bala. Sir Fflint (yn un o dri). Y Parch. G. Parry Williams, M.A., Wyddgrug- Sir Fflint (yn un o dri). Mae y Cyfarfodydd Misol eanlynol heb ddewis, ac yn cyfarfod ar y dyddiad a nodir: Liverpool-Mehefln 9. Dyffryn Clwyd-Mehefin 10. Dwyrain Dinbyeh-Mehefin 14, 15. Lleyn ac Eiifionydd—Mehefin 14, 15. Manchester—Mehefin 15. D'yffryn Conwy. Trefaldwyn Uchaf. Henaduriaeth Trefaldwyn. Henaduriaeth Lancashire. Mae ang-hydwelediad rhwng Proff. Jenkins, Aberystwyth, a phwyllgor Caernarfon yng nghylch hawlysgrif tonau ac anthem, a'r achos yn nwylaw cyfreithwyr. Gwelais fod gweinidog yn Sir Aberteili yn dweyd y buasai ar y diafol gywilydd gwneud' y pethau a wna y Caisar. Mae'n sicr fod y diafol yn falch 0 glywed y sylw. Nid yn ami y caiff etc gompliment gan bregethwr. -+- M'ewn trafodaeth ar gwestiwn y Golegau yn un o'r Cyfarfodydd Misol, dywedodd un brawd graddedig a phrofiadol, fod athrawon Coleg y Bala ar eu salaf yn well nag athnnvo-n yr hen Golegau Seisnig ar eu salaf, ac ar eu goreu yn annhraethol uwch nag athrawon yr hen golegau ar eu goreu. -+- -+- Mae "Blodwen," chwareugerdd boblog- aidd Dr. Joseph Parry, i gael ei hail-argraffu, dan olygiaeth Dr. DL C. Williams, Merthyr. Llosgwyd y plates drwy doriad tail allan yn yr argraffdy, ac felly nid oedd gopiau o'r gwaith. Caniataodd mainc ynadol Aberaeron drwy- dded eithriadol i Mr. Enoch James, Prince of Wales, Ceinewydd, i Nv-ertliu cwrw a gwirod- ydd yn ffair Llanarth. Ar y fainc yr oedd wyth o ynadon, ac mor bell ag y dywed yr adroddiad, ni ddywedodd yr un 0 honynt ond Mr. J. M. Howell air yn erbyn yr hen arferiad annheilwng" hon 01 roi trwydded i werthu diod mewn ffair. Dywedai tri o heddgeidwaid nad oedd angen y drwydded, a dywedai Mr. Howell fod dau dafarndy yn Llanarth, a bod hynny yn llawn digon ar gyfer ffair sydd yn llai o lawer nag y bu. Er hynny caniatawyd y drwydded! Mae y Parch. Deri Morgan, Crugybar, 6 Maesycoed, ger Pbntypndd, wedi ei benodi i ofalu am newyddion o'r Deheudir i'r CYMRO. Bydd yn ddiolchgar am bob cynhorthwy a estynir iddo. DyIai popeth fwriedir at y rhifyn dilynol o'r CYMRO ei gyrraedd erbyn bore Iau ac os bydd rhywfoeth diweddarach, gellir ei anfon yn uniongyrchol i'r Swyddfa yn No'lgelJau. Mae Mr. Dcri Morgan yn ad- nabyddus fel gwr 0 ynni ac ymroddiad. Gwelaf fed ffermwr yn Sir Drdaldwyn wedi ei wysio o Haen yr ynadon oherwydd iddo gario cymydog yn ei gert ag yntau heb drwy- dded. Diyna'r gyfraith. O's 11a bydd gan ddyn drwydded, nis gall ddangos caredig- r\yydd at gymydog fydd yn digwydd cerdded Nid wyf yn synnu at y gyfraith, ond beth am y bobl sydd yn ei gweinyddu. -+- -+- -+- mholir bth fydd ffawd D'adgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru wedi'r chwildroad fu yn y Weinyddiaeth. "Popeth yn dda," ebai Mr. Lloyd George wrth ohebydd papur newydd. Mae'n sicr y bydd y blaid Gym- rei.g yn fwy diymadferth nag erioed, ac y rhaid dibynnu ar Mr. Lloyd George a Mr. Herbert Lewis. -+- D'ethlir can'mlwyddiant genedigaeth John Ambrose Lloyd eleni. Ar y 14eg o Fehefin, 1815, y ganwyd ef yn y Wyddgrug,ac ysgrif- enna Dr. Caradoc Roberts i apelio am i gorau y gwahanol eglwysi ddathlu'r amgylchiad trwy ganu detholion o'i weithiau ar Saboth y 13eg o'r mis hwn. Diiati y cydymffurfir a'r apel, ganfod y gwr da hwn yn ei ddydd ar y blaen ymysg ei gyfoeswyr, lac ni fynegir gormod wrth ddywedyd fod ei gyfansoddiad- au yn dal yn eu bias hyd heddyw. -+- -+- "Poems of Wales" yw'r enw ar glawr swyiio-I eyfrol fechan sydd newydd ei chy- hoeddi gan Evans Bros., Ltd., Cyhoeddwyr, Llundain. Mae'r llyfr wedi ei gyflwyno i Mr. Alfred T. Da vies am ei wasanaeth amIwg i'w wlad: drwy ei ymdrechion ffrwythlon i hyr- wyddo'r iaith Gymraeg, ac i gymell cadw'n well ddydd Gwyl Diewi yn vsgolion Cymru. Mae'r detholiad yn un eang ac amrywiol, yr argraff a'r papur yn dda. Dylai'r llyfr fod yn boblog'aidd iawn yn yr ysgolion. -+- -+- -+- Mae'r aelodau Cymreig am sefyll i fyny yn erbyn y Llywodraeth os cyffyrddir a chwest- iwn Dladgysylltiad. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, waeth gad a el i bethau gymryd eu cwrs. Sonia Jeremiah am bobl yn blino gyda'r gwyr traed, ac yn gofyn Pa fodd yr ymdarewi a'r mcirch l' Ac os blinasant di mewn tir heddychlawn, yn yr hwn yr ymddir- ied'aist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen ? Mae'r dyfyniad yna yn dangos fod Noclwr up to' date.' Yn y proffwydi y mae chwarel fawr pregethau y dyddiau hyn -+- Nid yw swyn Cymru'r Plant yn lleihau dim. Pery i wneud ei ran trwy fod yn ffydd- Ion i'w arwyddair 0 Godi'r Hen Wlad yn ei ho1.' Yn ychwanegol at ddifyru ei ddarllen- wyr, gwna waith canmoladwy trwy eu haddysg'u ym materion y dydd. Dyddorol yw y ffigyrau geir yn rhifyn Mehefin am bobl- ogaeth yr Almaen. Yn t91 o dywed fod yno 64,925,993 0 boibl. Ol'r rhai hyn yr oedd 39,991,421 yn Brotestaniaid, 23,821,453 yn Biabyddion, 283,945 yn Gristionogion ar ryw enw arall, 615,021 yn Iddewon, a 214,152 na wyddid beth oedd crefydd llawer 0 honynt. Gwelir fod ei phoblogaeth yn anferth, a phan gofir am ei pharatodau milwrol, nid svndod yw ei bod mor anodd ei choncro. Buasai yn dda gennyf fedru credu, meddai Mr. 0 M. Edwards, yn y "Cymru," fod dirwest yn dal i ennill tir yng Nghymru.. Nid ydyw felly, ysywaeth, mewn rhai manau. Yn ddiweddar bu gwraig un o'n cenliadon enwoc- af yn aros am rai misoedd yn yr hen fro. Dywedodd ei bod yn gresynu wrth weled meddwdod rhai ardaloedd yn Neheudir Cymru rhagor a fu. -+- -+- -+- "Nes penelin na garddwrn," meddai hen ddywediad Cymraeg. Blood is thicker than water," meddai hen ddihareb Seisnig. A chalwyd prawf 0' wirionedd y ddau osodiad yn ol gohebydd y Cerddor mewn cyngerdd Cymreig yn Chicago yn. ddiweddar. Dywed fod dros fil yn bresennol, a phan ganwyd Anthem Genedlaethol Cymru, ac Anthem Genedlaethol y Taleithiau Unedig, fe gododd pawb ar eu traed, a hawdd oedd canfod llawen- ydd a dagrau ar wynebau cannoedd-atgofion am Gymru, ac yn enwedig y dyddiau ofnadwy hyn, yn taro, tant tyner iawn y:m mynwes pob gwir Gymro a Chymraes. Noson i'w chofio meddai ydoedd. -+- -+- -+- Cyfrol odiaeth 01 ddyddorol a gwerthfawr yw The Free Church Year Book am y flwyddyn ddiweddaf. Geir ynddi i gychwyn syniad am beth o waith yr Eglwysi Rhyddion, ac er mor chwannog yw llawer i'w beirniadu, safed rhai o'r beirniaid hyn yn feddylgar uwchben cynnwys cyfoethog y llyfr hwn, a buan y tarewir hwy a mudandod. Cbfnodir yr anerchiadau ar brif faterion y dydd, a thalant yn dda i'w hastudio yn fanwl. Mwy na gwertli, y gyfrol yw pregeth ein cydwladwr poblogaidd, y Parch. T. Charles Williams, M.A., Porthaethwy, ar Drugaredd yn cael ei hamlygu mewn Barn. Nid syn yw fod cynifer o'r Saeson yn awyddus i'w weled yn Brifathro yn y Bala. Yn ddamweiniol daeth i'm Haw adroddiad blynyddol eglwys Ysgoldy, Arfon, lie y llaf- uria fy hen gyfaill Alafon er ys blynyddoedd. Mae'r adroddiad allan er ys misoedd, ond, nid oedd lai dyddorol serch hynny. Mae'r eglwys yn hollol ddieithr i mi. Nid wyf yn adnabod neb yno! ond y bugail. Gallwn dybio mai eglwys o weithwyr a man-dyddynwyr ydyw. Hawdd gweled ei bod ddymunol anghyffredin. Dyma restr 0 dros ddau gant, a dim ond dau neu dri heb gyfrannu at gynnal yr achos. A'r bugail yn arwain! Gallwn feddwl fod y cyfartaledd tuag 28s. yr aelod. Credaf fod cyfartaledd casgliad y weinidogaeth mor uchel ag ydyw yn eglwysi cyfoethog- Caer- narfon a Bangor. Eiglwysi fel un Ysgoldy ydyw asgwrn cefn Ymneilltuaeth a chrefydd yng Nghymru. Nid rhyfedd gennym y gahvyd am ail- argraffiad o Lyfr Mr. L. J. Roberts ar 2, "Owen Glyndwr" (Hughes a'i Fab, Gwrec- znl sam), ac arwydd er daioni yw y dyddordeb adnewyddol gymerir ynci haires yn y dyddiau hyn, ac ni wyddom am ddim byd gwell fel disgriliad o'n harwr cenedlaethol na'r gyfrol dlos ddarluniedig hon. Meddai yr Awdwr Ymhob lIe ar y Cyfandir, codir cofgolofnau ardderchog i'n hatgoffa am gymwynaswyr y gienedl. Anodd rhifo y cofgolofnau sydd yn Ffrainc i Jeanne d'Arc yn unig". Os eir i'r Alban gwelir yno g'ofadail ysblennydd i William Wallace, arwr na ddeil i'w gymharu mewn gwir fawredd ag Owen Glyndwr. Cyfyd gwrid i wyneb i'ymio pan y gwel yr arwyddion hyn O1 barch cenedlaethol eraill i gof eu harwyr. Nid oes eto golofn i Lewelyn nac i Owen Glyndwr; y mae'r esgeulustra yn warth cenedlaethol." Fwy na theirnla fod vr Awdwr yn dweyd y gwir? 0