Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
rWNODION CYMREIG

_r 'W' NODION CYMREIG. Mr. Henry Neville Gladstone, trydydd fab 1\1.r. Gladstone, sydd wedi ei benodi yn Arglwydd Raglaw Sir f,"flint. Un o newyddion goreu'r wythnos yw'r gostyngiad ym mhrisy gwenith. Daw i lawr eto yn y man. Pe llwyddid eto i dynnu pris y glo i lawr, byddai beichiau'r gweithwyr wedi eu lleihau. -+- Mae Coiiant Principal Viriamu Jones,— John Viriamu Jones: His Life and Work," —yn cael ei gyhoeddi gan Mri. Smith, Elder & Co., Dris banner gini. Ysgrifenwyd y llyfr dan olygiaeth Mrs. Viriamu Jones. --+- Da gennyf weled fod Mr. Silyn Roberts yn para i gredu mewn, ymreolaeth gydag addysg. Ychydig iawn o rai sy'n llenwi swyddi cy- hoeddus sy'n credu yn hynny. Dywedai efe yr hoffai weled addysg Cymru dan reolaeth1 Cymru. Dyma un o ddelfrydau mawr Mr. Tom Ellis. Cwynir yn Arfon oherwydd fod iNi r. Caradog' Rees yn defnyddio cymeradwyaetn a roddwyd i'w ymgeisiaetto mewn lIe aralI i gymell ei hun i Arfon. Hwyrach fod Mr. Lioyd George wedi caniatau hyn, oblegid ni fuasai yn deg ei ddefnyddio heb ganiatad. Ond bua vai yn dda i'r mater gael ei -.$.- -.I-- Ameuthyn yw clywcdam eglwys yn codi cyflog ei bugail. Dyna wnaeth eglwys Chatham Street, Liverpool, yr wythnos ddi- v. eddaf. Cododd £25 y flwyddyn yng- nghyflog v Parch. R. R. Hughes, B.A. Prawf o lafur bugail. Ie, wrth gwrs. Ond prawf, hefyd, fod gan y blaenoriaid galonnau oaredig. -+- -+- Darllenais nodi-adau amryw o'm brodyr mewn papurau Seisnig ar y Gymanfa Gyffre- Z-1 I y dinol. A r hyn sydcl1 yn hiynod yw y lie a roddir ganddynt i'r cyfeillion o'r tuallan i'r Cyfun-deb y daethant i gyffyrddiad a hwy yn y Gymanfa. Canmolir hwy. Da iawn, ond ar draul cyfeillion eartrefol llawn mor deilwng. -+- -+- -+- Deallaf i'r annealltwriaeth rhwng y Llyfr- fa a Professor Jenkins, ga,el ei setlo, yn hynod o foddhaol. T'rueni i unrhyw fanylion ymdd'angos yn yr Agenda, gan na wnaed hyn gyda'r ddwy ochr, oherwydd yr oedd yn gam- arwei-niol, ac yn anheg; and dangoswyd ysbryd rhagorol yn yr ymdrafodaeth o Baen y pwyllgor, a dygwyd y cwbl i derfyniad hoddhaoI. -+- -+- Mae cyfieithu Minister of Munition yn per! trafferth yng Nghymru. Anodd taro ar 11. Z, air i gyfleu yn union ystyr ac amcan y swydd. I rai sydd yn gyneiin a"ub,eibl yn Gymraeg a Saesneg, nid yw y gair "munition" yn ddii- .e eithr. Ceir d o leiaf chwech o weithiau yn y Beibl Saesneg. All the fightings against her and her munitions." His defence be the munitions of rocks," &c. ac y mae Nahum yn gorchymyn "Keep munition, watch the way." "Amddiffynfa" ac am- ddiffyn yw y cyfieithiad Cvmraeg bob troy— yr hyn sy'n aleb i'r hen ystyr i'r gair Saes- neg, feI y daeth o'r Lladin. Ond nid gweinidog amdditfyn" ydyw Mr. Lloyd George,-nae yn agos. Ystyr ddiweddar i'r gair sydd ynglyn a'r swydd, a golyga ym- osod yn I llawn cymaint ag b amddiffyn. "Gweinidog Gyfarpar" yw un cyfieithiad a awgrymir. ddy"sed eick darllehWyr,_ tybed ? -n Dywedir fod yn agos cant o is-athrawon yn ysgolioncanolraddol Cymru yn gweithioi am gyflog o gan'1 punt yn y flwyddyn a. than hynny, a bod dros bedwar cant yn gweithio, am lai na chant a banner. Pan y meddylir am safle yr athrawon hyn, a'r rheidrwydd am iddynt ymddangos yn deilwng o'u safle, a chynnydd aruthrol prisoedd angenrheidiau bywyd, fe wcl pawb nad yw y cyflogau hyn yn deilwng. Ond o ba le a pha bryd y daw divvvgiad. Yn sicr y mae mawr angen am dano. D'ywedai y Parch. John Williams, Bryn- siencyn, y dydd o'r blaen y byddai efe yn barod' ddigon i wneuthur a allai ar ryw fferm os y gallai trwy hynny fod yn foddion i rydd- hau un o'r meibion neu o'r gweision i was- anaethu yn y frwydr. Gwneir peth cyffelyb eisoes gan Rector o Gymro yn Norfolk, yr y I hwn sydd enedigol o bentre bychan ym Mro Morgannwg, a'r hwn fu am beth amser yn ysgolfeistr ym Mhenybont. Gwelir ef o ddydd i, ddydd yn myn'd o ddrws i ddrws gan gario llaeth i'r cwsmeriaid, gan fod y llaethwr wcdi ymrestru. Fe1 enghraifft o'r camrau brieision wnaed gan Ymneilltuaeth yn y blynyddoedd diweddaf, gellir mynegu fod o leiaf ddeg o aelodau y Weinyddtaeth bresennol yn Ymneilltuwyr, neu yn hannu o deuluocdcl Ymneilltuol: Mr. Asquith, Mr. McKenna, Syr John Simon, Mr. Bonar Law, Mr. Austen Chamberlain, Mr. Lloyd George, Mr. Runciman, Mr. Birrell, Mr. Mckinnon Wood, a Mr. Arthur Hender- son. Gellir bod yn berffaith sicr o un peth, na chynhwysodd yr un Weinyddiaeth yn hanes y deyrnas hon o'r blaen gynifer o> Ym- neilltuwyr. -+- Tynodd erthygl Syr Robertson Nicoll ar y y I Rhvfel sylw mawr yng Nghymru. Cymer efe blaid Arglwydd Northcliffe a'i newyddiadur- on, a dysga "r Weinyddiaeth sut i gario'r Rhyfel vmlaen fel pe byddai ymerawdwr. Flynyddoedd yn ol yr oeddwn yn son am y "British Weekly" wfln frawd oedd ar y pryd yn fugail ar Eglwys Ymneilltuol. Teimlai yn chwerw odiaeth oherwydd ym- ddygiad Dr. Robertson Nicoll at Ryfel D'e Affrica. I hoelio'r ddadl ebai y cyfaill: Mae'n well gen i uffern Blaitchford na nef- oedd Rohertson Nicoll." -+- Cyhoeddwyd yr wythnos ddiweddaf, mewn lliain hardd, 383 0' dudalennau, Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr," wedi eu golygu o'r Llawysgrifau, gyda Rhagymad- rodd, Nodiadau, a Geirfa, gan Ifor Williams, M.A., Goleg y Gogledd, Bangor, a Thomas Roberts, M.A., Coleg Normal, Bangor. Rhoir yndcto ymdriniaeth lawn ar fywyd a chysylltiadau llonvddol Dafydd ap Gwilym, a'r beirdd a gydoesodd ag 'ef. Ffurfiwyd testun newydd i 87 o'i gywyddau, a cheir nod- iadau llawn ar y prif anhawsterau mewn iaith a chystrawen. Gwnai'r tro yn wych fel maes llafur Cymd'eithas Lenyddol. -+- Pwy fydd Cadeirydd newydd1 Undeb yr An- nibynwyr Cymreig gyfarfydda y mis nesaf. Dyna'r gofyniad gynhyrfa wersyll Independia ar hyn o bryd, ac hawlia ragfeddwl ac ystyr- iaeth bwysig". Enwir mwy nag un gwr cym- wys, ac yn eu plith y Parch. II. M. Hughes, B.A., Caerdydd. Nid: oes neb amheua ei gymhwysterau, ac ychydig iawn geir ychwaith i ameu ei hawl i'r anrhydedd. Os yw gwaith i'w enwad a'i genedl i gael ei gyfrif yn bwysau yp y glorian, anodd fydicLcael n-e-b i bwyso mwy nag ,eL Dia'u pan 7 iiav/ yr ad-eg y cant yr arw-einiad. il.1&4 Dydd Sadwrn trefnwyd pererindod i Maes- glasau, hen gartref Hugh Jones, yr Emynydd a'r Lienor. Lied ddetholedig oedd y cwmni, —rhyw ddau ddwsin. Cafwyd bin ddymunol, a chafwyd diwrnod yn ysbrydiaeth i goriif ac ysbryd. Wedi canu yr emyn, "0 tyn y gorchudd," &c., ac i'r Parch. R. W. Jones offrwm gweddi, cafwyd anerchiadau byr g-an, Miss J. Helen Rowlands, B.A., Mri. D. Row- lands, B.A., Carno, W. T. Jones, Cemaes, E. Thomas, Aberangell. Wedi talu diolch i'r chwiorydd fu yn gweini ac offrwm gweddi, ymwahanwyd eilwaith i fyned bob un i'w fan gydag atgof mclus am brydnawnddydd tawel yn unigrwydd y mynydd. --+- --4- --+-- Swn cwyno- glywir yn Nodiadau'r Golygydd yn y Treasury am y mis hwn. Cwyna ar natur cyfansoddiad y gwahanol Bwyllgorau Cyfundebol, a dywed y penodir dynion iddynt na feddant ar ronyn o gymhwyster, ac na chodant eu bys bach i gynoirthwyo i gario'r baich; eu hunig awydd yw cyfranogi o'r dan- teithion ar y bwrdd ddarperir ar eu cyfer, a chyfyd hyn o'r duedd i benodi rhywun, a phawb yn, eu tro. Yn ychwanegol dywed fod y Treasury yn golled drom, ac oddieithr i'r Cyfarfodydd Misol ddeffro i'w gefnogi y bydd yn fuan wedi peidio a bod." Nid peth melus yw canu galarnadau ac ochain, ac eto rhaid gwneud weithiau. Gobeithio y cyr- haedda'r alarnad hon ei hamcan. -+- -+- --+ A glywsoch chwi chwedl y llew a'r afr ? Ar ddiwrnod tesoig o haf pan yr oedd popeth yn diodd'ef gan y gwres, d'aeth llew a gafr i dorri eu syched at ffynnon fechan o ddwfr. Dechreuasant yn ddioed ymrafaelio1 pa un a gai yfed gyntaf, nes o'r diwedd yr ymddang- osent fel yn barod i ymdrechu hyd at farw am y fiaenoriaeth. Ond yn fuan gwelsant haid 01 fwlturiaid yn hofran uwchben iddynt yn barod i ddisgyn ar pa un bynnag o honynt a led did. Ar hynny gwnaethant eu cweryl i fyny yn ddioed gan farnu mai gw.ell iddynt hynny na myn'd yn ysglyfaeth i fwlturiaid. Daeth y chwedl i'r medd'wl wrth ddarllen, hanes yr ym- gipris am swyddi yn ddiwreddar rhwng blaen- oriaid a gweinidogion. Onid yw'r fwltur- iaid yn yr ymyl? --+- -+- Da gennym weled ambell lyfr Cymraeg yn tynnu sylw dysgedigiom tuallan i Gymru. Yn y Methodist Review am y mis hwn, un o- gylchgroinau pwysicaf a dysgedicaf America, ceir erthygl faith a galluog gan y Prof. W. W. Davies, M.A., RDL, Ph.D., athro mev/n Hebraeg a Germanaeg ym Mhrifysgol Dela- ware, Ohio, lie mae dros 1,500 o fyfyrwyr, Golygydd Adran Archaelogy and Biblical Re- search,' yn y Cylchgawn uchod, ar Craig yr Oesau," gan y Parch. R. Williams, M.A., Glan Conwy, cyhoeddedig yn Swyddfa y CYMRO, Dolgellau. Dywed yr Athro dysgedig z- idd-o ddarllen y llyfr ddwywaith drosodd, a rhai rhannau rag-or 01 weithiau, gyda'r fath ddyddordeb mawr ac adeiladaeth nes id-do benderfynu rhoi rhai o'i ymresymiadau mewn erthygl yn y Review," dan y pennawd The Permanent Value of the Old Testament Revelation." Wele baragraff cyntaf yr erthygl, The title of this paper, as well as a number of the points therein discussed, were suggested upon reading Rock of Ages, a volume bv the Rev. R. Williams, M. A., an eminent Welsh minister. The author has a lucid, instructive style, and is well versed in Biblical criticism. The object of the book is to counteract the baneful influences of des- tructive ,critçism) and toq produce mere- inter- est in the study of the Old Testament."