Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Beth sy'n, bod? Mae son drwy'r wlad fod caplan arall wedi mynedl allan 01 gyfarfod' C) n i'r Fendith Apostolaidd gael ei chyhoeddi! Syniad hapus o eiddo golygydd y Winllan oedd cael pregethwyr i adrodd hanes eu pre- geth gyntaf. Beth fyddai i Anthropos gym- ryd yr awgrym ? -+- -+- Un o arwydidion yr amscroedd yw clywed fod Principal Prys yn pregethu yn Gymraeg ■vn y bore ac yn Saesneg yn yr hwyr, yn hen gapel y Tabernacl, Afoeraeron. -+- -+- Rhoddodd awdurdodau Prifysgol Cymru y radd o M.A. i Mr. T. Gwynn Jones, darlith- ydd Cymraeg yng Ngholeg Aberystwyth. Testun y traethawd' a ddygodd y" radd hon iddo oedd Bardi'sm and Romance." -+- -+- Gosodwyd coflech i fyny yn Nhrefriw i ddangüs man genedigaeth Dafydd Jones, yr z, z;1 t, argraffydd cyntaf yug Nghymru. Daeth Tanyryw i feddiant Mr. R. H. Williams, ac efe a dalodd y deyrnged fechan hon i'r hen argrarfydd. •4" Gwnaeth ysgol Capel Mawr, Rhos, ei1 chasgliad chwarterol y Saboth diweddaf, a chyrhaeddodd y swm anrhydeddus -0 .6104. Credaf mai ysgol o weithwyr ydyw hon, and jhoffwn glywed yinha le y gwneir casgliadau tebyg i hyn? -+- -+- Mae ynadon Llandilo wedi penodi pwyllgor i benderfynu beth yw amaethwr." Daw'r cwestiwn yn bwysig ynglyn a rhoi caniatad' i' gadw ewn heb drwydded. A ydyw person plwyf sy'n cadw buwch yn ffermwr? Anodd yw cael deffiniad manwl i dermau cyffredin. -+- Yn yr Eurgrawn Wesleyaidd am y mis linvii eeir darlun o- Mr. John Williams, Fron D'eg, Dblgellau, un 01 ffyddloniaid1 yr eglwys yn Nolgellau. Gwekhiwr oedd fy hen gyfaill, a threuliodd ei oes yn ei dref ienedigol. Nid oedd ei ffyddlonach i'w enwad yn bod, a gwyr y Wesleyaid sut y mae anrhydeddu dynion felly yn well na'u brodyr y Calfiniaid. Medd- yliwch am roi darlun o weithiwr yn y Drysorfa -4- --41- Rhifyn a digon o amrywiaeth ynddo yw un Gorffennaf o'r Geninen.' Mae dros dri dwsin, o benawdau ar y wyiieb-ddalen, ac nid yw'r oil o gynnwys y rhifyn yno. Ymholir ai Hanes ynte Chwedl yw Llyfr Jonah; Beth yw cysylltiad Gweddi a Rhyfel; Paham y mae'r Bobl yn cilio o'r Capel; Beth am Wesleyaeth ? Mae Plenydd yn rhoi pen nod arall 01 Atgof- ion, ac lior Jones yn treulio Orig gyda tolo Caernarfon. Dyna ryw syniad am amryw- iaeth y rhifyn. Yn y Cevddor am y mis hwn, ergydia yr Athro David Jenkins 0'1' ysgwydd, a dywed y gwir yn ddigel. Meddai: llawii bryd I tn' dad at fwy o symlrwydd ynglyn a'n gweith- rediadau cerddorol yrnliob cylch. Cof gcn- nyin am y canwr salaf oedd gennym yn y Colcg yma-crc oedd y cyntaf i wisgo 'cut a cll\vt," I tharawodd bavvb o honom a syndod noson y gyngerdd. Druan o.hono', nid ydym yn meddwl iddo gael cyflle i ddangos ei regi- mentals byth wed'yn. Ceir gormod o'r swag- ger ga:n lawer o'n cantorion a'n cautoresau. Os lturfir cor o chwarelwyr neu lowyr, rhaid gwneud fel yr epa, sef efelychu pethau salaf ein cantorion—mewn gwisg a neisiad wen, &c. Yn wir yr ydym wedi gweled rha*i o'n prcgethwyr ieuainc yn Eled y gClladwri. i dre. IHae gennyf sail go dda dros gredu na chlywir dim son am y "Welsh Church (Post- ponement) Bill," er ei fod i lawr ar raglen y )Ty.: I rbwrpas arall y mac'r Weinjddiaeth bresennol wedi ei ffurfio, ac nid oes gan Mr. Asquith ond un atebiad i bawb sy'n holi tynged y mesur. -+- -+- -+- Mother-Tongue and' Other-Tongue" yw emv llyfr o waith Mr. James G. Williams, o Goleg Disgyblaethol Bangor. Hanes taith yr awdwr ydyw ar y Cyfandir pan yn dal travelling scholarship.' I rai sy'n cyfrannu addysg1 bydd y llyfr yn werthfawr a dyddorol iawn. -+- -+- -+- Bu cais am gael trafodaeth yng nghyngor dinesig y DalaJ ar waith tafarnwr yn torri gwair ar y Saboth. O'nd rheolodd y cadeir- ydd. fod hynny allan 0 drefn heb rybudd. Yr pedd y tafarnwr yn y cyfarfod, a dywedodd fod y gwair yn y gadlas, ac yntau yn, berffaith dawel. Mae gennyf ryw adco am rywun arall yn dweyd rhywbeth yn debyg. Sicrheir fod Cofiant William Jones i'w gyhoeddi ar fyrder. Bydd 0' waith amryw awdwyr: cyfeillion, a phobi a adwaenent ei gymeriad hardd yn dda. Cyhoeddir dwy gyfrol o'i weithiau, un Saesneg, yn cynnwys ei areithiau'n bennaf, ac un Gymraeg, yn cyn- nwys ei gyfieithiadau o'r Saesneg i'r Gym- raeg. Gadawodd o'i ol bentwr mawr o ysg- rifau, a chan ei fod yn lienor gwych, rhaid eu bod yn nodedig 01 werthfawr. Bydd cyhocddi lfeithiau ei, hanes yn amddiffyniad da i'w fywyd ymroddgar a d'ihunan, ac yn esboniad rhagorol ar fywyd meibion goreu Cymru. -+- -+- -+- Cynhelir Llys Prifysgol Cymru yng N ghaerdydd dd'ydd Gwener nesaf, a chyfer- fydd y Gynhadledd Addysg nos Wener. Cyf- lwynir y graddau yn Llyfrgell Coleg Caer- dydd fore dydd Sadwrn. Oherwydd yr afreol- eidd-dra sydd wedi nodweddu'r cyfarfodydd urddo o bryd i'w gilydd, yn ystod gwyliau'r haf y cynhelir hwynt bellach. Gresyn, na fed'r doethion y Brifysgol drefnu moddion i hyr- wyddo'r gwaith o urddo'r graddolion. Cyn- Ilun rhagorol yw'r hwn a ddilynir yn Llun- dain. Paham, tybed, nad digon un cyfarch- iad cyffredinol i'r sawl a dderbynio-r un radd, heb yr holl ffwdan a welir yn awr mewn ym- grymu a thynnu hetiau? Clywaf yr urddir Mr. T. Gwynn Jones yn M.A. Ni bu ei deil- yngach. -+- -+- Penderfynodd y Bwrdd Diwinyddol estyn cyfnod' yr Athro W. Jenkyn Jones, M.A., fel arholwr yn yr Ysgrythyrau ynglyn ag Arhol- i,ad Cyntaf y B.D., gan odidoced ei waith. Ysgrythyrwr penigamp yw'r athronydd diwin- yddol o Benygarn, a chyffawna gyffelyb waith dros Brifysgol C'aergrawnt, fel y gwnai gynt hefyd ynglýn ag" arholiadau'r Bwrdd Canol Cymreig. I Rydychen y perthyn y pedvvar Arholwr arall sydd yn pwyso a mcsur gwybodaeth ymgciswyr am radd B. A, ym Mhrifysgol Cymru, sef yr Hybarch Arch- ddiacon Allen (awdwr yr esboniad ar Efengyl Matthew yng nghyfres Clarke), y Parch. Brif- athro Garvie (0"r Coleg Newydd yn Llundain), a'r Athrawon Gray (awdwr yr esboniadau ar Numeri ac Eisaiah yn y gyfres uchod) a Bartlet. Ath'rawon yng Ngholeg Mansfield, lie bu Dr. Garvie'n gyd-efrydydd a'r Parchn. Ð. O. Davies, B.Sc., ac R.. J. Rees, M.A., yw'r ddau olaf. Y mae Dr. Bartlet wedi gwasanaethu Prifysgol Cymru am lawer o flynyddbedd. Dilynodd Dr. Denney fel arhol- wr yn y Testament Newydd, a phenodwyd ef y llynedd i, arhoili yn Hanes yr Eglwys ar clerfyn hir gyfnod Dr. Gwatkin, Enillodd yr efrydwyr a ganlyn o Goleg Diwinyddol Aberystwyth y radd o Bl. Di. yn Mhrifysgol Cymru -Má. J. C. Bacon, B.A., Rhaiadr; J. W. Clothier, B.A., Tredegar; D. J. Evans, B.A., Capel Scion; Emlyn James, B.A., Rhaiadr, a T. Houghton, B.A. Hefyd fe basiodd Mri. Edwin James, B.A., Aberdaugleddyf, a Dan Evans, B.A., Cilcwm, mewn dau o bynclau y subsidiary course'; a Mr. R. M. Roberts, B.A., Caernarfon, ddau o'r subsidiary subjects,' ac un o'r prif bync- •ia:u, a bwri-ada gwblhau ei arholiadau y flwyddyn nesaf. Mae Mr. Higgins, hefyd, wedi pasioi mewn un o bynciau y subsidiary ^course,' a Mri. J. F. Powell a Mr. Williams wedi pasio arholiad cyntaf y BID1. Gwelir fod y Coleg wedi rhagor na chadw ei goron. -+--+--+- 0 Go-leg y Bala mae'r efrydwyr canlynol wedi pasio.Fi-rst B.D. Examination, Wm. Foulke Evans, B.A., and Coningsby Lloyd Williams, B.A. Second B.D. Examination,, Subsidiary Grade: The New Testament in Greek, Hugh Humphrey Jones, B.A., and Owen Robert Owen, B.A.; History of the Church, William Edwin Hughes, M.A., and Owen Robert Owen, Bi.A. Second' B.D. Ex- amination, Principal Grade The Old Testa- ment in Hebrew, David Morris Jones, M.A. Christian Doctrine, David Morris Jones, M.A. Second B.D. Examination (Under Old Reg-il- lations), Edward Williams, B.A. Davidl Morris Jones and Edward Williams, have, qualified for the Hi. D. degree. -+- Mewn llythyr o Montreal at gyfoed iddo, dywed Mr. Edmund Evans: fod y Parch. John- Hughes, M.A., Fitzclarence St., Li^rpooi, yn aros mis yn y Sefydliad Cenhadol i Syrth- edig'ion y ddinas yn St. Antoine St.,—sefydl- iad y gofelir am d'ano gan Mr. a Mrs. Robert Jones,—chwaer i Olygydd y Brython, sydd yno'n cenhadu er ys dros ddeng mlynedd ar hugain. Y mae yno- ddiadell Gymraeg hefyd yn cydaddo-li mewn ystafell ard'rethol, end heb fugail sefydlog; ac i ddyrnaid o saint alltud a gwancus felly am yd efengylaidd yr Hen Wlad, mor freision a melus y rhaid fod arlwy'r llong lawn a d'daeth atynt mor ddi- ddisgwyl o Fitzlarence Street. Ac heblaw pregethu a chadw seiat, caed darlith gyfoeth- og ei hawgrym ganddo1 ar y Rhyfel. Bendith Z", t, fawr i'r gorlan bell oedd cael mis o John Hughes. -+- -+- -+- Etholwyd Mr. Walter J. Evans, Prifathro Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin, yn Llywydd Bwrdd Diwinyddol Prifysgol Cymru am y flwyddyn 1915-16. Daliasai Syr Edward Anwyl y swydd anrhydeddus hon am saith mlynedd. Perthyn i'r Llywydd newydd y nodweddion eithriadol ymhiith Prifathrawon Cblegau Cymru o fod ar yr un pryd yn Un- jdodwr, lleygwr, ac Ynad. Bu'n Ddeon Diwinyddiaeth y Brifysgol (sef yw hynny, Cadeirydd y Senedd' Ddiwinyddol, a gynnwys holl athrawon cyfrifedig y Cblegau Diwinydd- ol sydd mewn cymdeithas a'r Brifysgül) o 1910 i 1913, ac ar un adegi bu'r Prifathro- Thomas Rees o Fangor yn ddisgybl iddo. Graddiodd o Goleg yr Iesu yn Rhydychen llynyddoedd yn ol, ac ymhlith ei gydoeswyr yno oedd y Parch. D. Grimaldi Davies 01 Drallwng. Fel y cry- bwyllwyd eisoes yn y golofn hon, y mae'r Prifathro1 Evans yn ysgolhaig clasurol 0 fri, ac nidesg-eulusa 4darllen rhan o waith Homer beunydd1. Y mae ei unig1 fab, Mr. Stuart Evans, newydd gychwyn i'r Dwyrain fel meddiyg milwrol, ac y i-nae'r hyiiaf o'i ddwy fcrch yn gwasanaethu 11 ddiwyd ynglyn a'r ysbyty milwrol yng Ng-haerfyrddin.