Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. Mewn mis o amser cymerodd trigolion Llandudno 1,43' 0 gyfrolau allan o'r llyfrgell, ac. o'r nifer yna nofelau oedd 1,363! -+- -+- -+- Ymhlith y rhai sydd newydd basio: mewn un pwnc ychwanegol er gorffen arholiad Matri- culation Prifysgol Cymru, gwelir enw Mr. If an ap Owen Edwards, 0 GolegAberystwyth. -+- -+- -+- Annibynwyr i bwrpas gwladol yw y Meth- odistiaid Calfinaidd yn America. Nid oes gan y cyfarfodlyldd diosbarth hawl ar yr eiddo, a gwrthoda yr eglwysi gyiflwyno gweithredoedd y capeli drosodd. Enw heb ei rym sydd gan y Cyfarfod Misol yno! I; --o- Dywed prifathraw a phrifathrawes Ysgol Sir Casnewydd nas gellir dysgu y Ffrancaeg a'r Gymraeg yn yr ysgol, ac mai, camgymer- iad i naw allan o bob deg o'r bechgyn fyddai Cymryd Ffrancaeg ac esgeuluso'r Gymraeg. Z, Saeson, cofier, sydd yn dw-eyd hyn. ,-+--+- -+- Mae Bedyddwyr Morgannwg yn symud i geisio gwneud rhywbeth i ddiiogelu'r Gymraeg yn yr eglwysi. Er cymaint a waeddir am y Gymraeg, marw y mae, ac y mae miloedd o blant Cymru yn colli bias ar wasanaeth cre- -fyddol oherwydd nad ydynt yn deall Cymraeg. -+- -+- -+- Gwelaf fod David Davies ,hen fugail Dart- moor, mewn helynt unwaith -eto,. Gwelwyd ef ar ben ysgol yn mynd i mewn L eglwys, a daliwyd ef. Llwyddodd i' daflu sypyn o all- weddau i'r afon cyn i'r heddgeidwaid ddeffro. Mae Dafydd yn 74ain mlwydd oed, a phob dyfais ddynol, yn wobr a chosh, wedi methu ei adfer. -+- -+- -+- Diywedwyd fod Ifano yn g'adael Llyfrgell Caerdydd. Nis gwn ddim o'r amgylchiadau. Hano yw enaid a chorff yr adran Gymreig o lyfrgell Caerdydd, a cholled i Gymru fyddai ei ym adla wi ad. Rywfodd, nidi yw bechgyn Cymru yn byw yn hir yn ein llyfrgelloedd, ac fe ddaw stori fel hon i'n anesmwytho'. Mi gredaf nad yw yn wir sut bynnag. -+--+- -+- Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Nolgellau ddydd Mercher, dywedbdd Syr A. Osmond Williams fod yn warth i'r wl'ad dalu ,4-4oo y .flwyddyn i aelodau seneddol er mwyn eu gallu- ogi i fyw yn y clwb goreu yn y Dleyrnas. Mae y milwr Sydd yn colli ei waed dros ei wlad yn cael wyth swll't yr wythnos. a'r aelod senedd- ol wyth bunt! -+- -+- -+- Dewiswyd Mr., Tom Jones, o Gaerdydd, yn ysgrifennydd y pwyll'gor sydd yn trefnu i gael cyfres o gyfarfodlydd o blaid cynhildeb drwy Gymru y misoedd nesaf. Yn briodol iawn fe safodd yr awdurdodau yn erbyn, gan ddweyd fod gan Professor Tom Jones ddigon o waith ar ei gefn eisoes. Ai tybed fod Cymru mor dlawd o ddyniofii fel y rhaid1 pwyso penodiad- au fel hyn ar yr un ysgwyddau? -+-, -+- -+-. Amheuthyn ambell dro yw gweled unffurf- iaeth ein gwasanaeth Sabothol yn cael ei dorri, a phan y cedwir o fewn terfynau profa yn foddion gras. Digwydldodd peth felly yn Llandrindod y S'aboth cyn y diweddaf yn eedfa'r bore. Gweinidog Cruglas, Abertaw-e oedd y genad, ac er yn traddodi yn yr iaith Seisnig, pregethai yn effeithiol ar gariad Crist, ac yn union wedi iddo orffen wele wr 0 vGymro ar ei dlraed yng nghanol y gynulleidfa yn tystio ei fod ef o nifer y boM garai'r Ceid- wad, a gwerthfawrogai' pawb yshryd a dewr- der ei dystiolaeth. -=-=:=: Gofyniad dyddorol yw, Pa lyfr Cymraeg sydd wedi cael y cylchrediad hela,ethan Am- rywiol mae'n ddiau yw'r atebion, ond ni phet- rusa un gwr ddylai wybodi roddi y flaenoriaeth i'r Rhodd Mam. Ag eithrio'r Beibl, meddai, hwn o ddigon sydd ar ben y rhestr. Pan yr holid un o bregethwyr enwocaf Cymru ar gychwyniad ei yrfa gan genhadau y Cyfarfod Misol, os oedd wedi darllen unrhyw lyfr trwy- ddo Oil, dywedai ei fod, a phan ofynwyd iddo drachefn pa lyfr ydbedd, dywedodd yntau Y Rhodd Mam." -+- -+- Llawer o son fu ac sydd am y gwr ddring- odd o'r Caban Coed i'r Ty Gwyn, a phery ei yrfa ramantus i fod yn ysbryd'iaeth i bobl ieu- ainc o hyd. Ond nid oes angen myn'd cyn belled ag America am batrwn, canys ceir llawer un yn nes atom yng Nghymru, ac un o'r cyfryw oedd y diweddar Arglwydd Glan- tawe fu farw yr wythnos ddiweddaf. Dech- reuodd yntau ar ris isaf yr ysgol, ac heb 'ond ychydig fanteision dringodd i'r safleoedd uchaf o anrhydedd ac awdurdod, a hynny heb ang- hofio 'r graig y naddwyd ef o honi. Llongyfarchiadau i Awdurdodau Caerphili ar eu cryfder a'u sefydlogrwydd yn glynnu wrth eu penderfyniadau blaenorol ynglyn a. Dirwest. Gwnaed ymdrech egniol yr wythnos ddiweddaf i'w perswadio i ail-ystyried eu dyfarniad ynglyn a chau Ciybiau Yfed ar y Sul. Defnyddiwyd pob rheswm y gelli-d dych- mygu am dano, a threthwyd adnoddau ffrynd- iau'r Fasnach o b-laid eu hapel. Onder clod i'r awdurdodau, ni chredasant i'w hymadrodd, a chaiff y wladi lonydd gan y rhai fynnant halogi'r Saboth. -+- -+- Me'n debyg fod rywbeth neilltuof ar y ffordid ynglyn a dirwest. M,ewn cyngor yn ddiweddar cynrychiolwyd y Pabyddion, Eg- lwys Loegr, Bedyddwyr, Crynwyr, Presbyter- iaid Seisnig a Chymreig, Salvation Army, Wesleyaid, Methodistiaid Unedig a Chyn- tefig. Ffurfiwyd pwyllgor cryf i' gymryd mewn Haw deddfwriaeth ar y cwesttwn dir- westol. Y llywyddion 'ynt Cardinal Bourne, D'r. W. :B.. Sielbi.e,' General Booth; Esgob Croydon, Cadeiryddi; a'r Is-lywyddion, Dr. Scott, Lidgett a Sir A. Pearce a Gould, is- gadeirwyr. Sobor o beth yw na feddyliwyd ffurfio undeb o'r fath chwarter canrif yn ol. Buasai'r gwaith erbyn hyn wedi ei wneud. -+- -+- -+- Wrth son am "Amser yn enwi ei blant," dywed Ceiriog am Awst- 0' barch i' Octavius Augustus, cei fod Yn Awst, meddai Amser, Oes chwaneg i ddod." Ond ai tybed ei fod yn dweyd y gfwir pan y dywed,— Y mae amaethwyr Cymry wen Yn edrych ar eu cnydlau; Os ant i'r capel ar y Sul Mae'r galon efo'r yd'au." Ar y Sul a'r Llun cyntafyn Awst fel rheol y cynhelir cyfarfodydd pregethu blynyddol eg- lwys Groeswen, fugeilir gan wr adnabyddus sydd yn hoff iawn o'r awen, ac fe Ihyn yr ysgrifenodd i wahodld un o'i frodyr i' ddod yno i bregethu,— Pan ddelo Awst i'r wlad am dro, A'i Ddygwyl annwyl gydag o, Caiff Banciau'r llawr eu cau bob un, A masnach saif y cyntaf Lun; Ond bane y Nef ar ben y: Groes, Agorir hwnnw ar bob oes, Tro iddo frawd, os mynni 4*. Dy ran o gyfoeth Calfari." __M Biu dadl yng .Nghynhad'ledd fawr flynyddo-I y Wesleyaid ar y priodoldeb o fodloni ar dri Choleg yn lie pedwar, a thueddid i roddi un o honynt yn Hospital at wasanaeth y Llyw odraeth i glwyfedigion rhyfel. Ar ol hyn bydd yn haws nag erioed o'r blaen gan rai ddadleu fod un Athrofa Ddiwinyddol yn ddigon i'r Methodistiaid Calfinaidd Yn un o gapelau Sir Feirionydd y Saboth o'r blaen digwyddodd tro. trwstan ddylai ddysgu gwers i'r cyhoeddwyr. Qarllenodd y brawd hysbysiad fod cyfarfod gynnal y nos Fercher dilynol i egluro Deddf Yswiriant, y cyfarfod i'w annerch gan ddau aelod sen- eddol! Wedi llechu rhrwng dalennau y Llyfr Hymnau yr oedd hen hysbysiadi dwy fl'wydd o.ed Gwnaeth un o bersoniaid Eglwys Loegr rywbeth yn debyg flynyddoedd1 yn ol, ond iddo ef roi hysbysiad am arwerthiant yng nghanol pregeth -+- -+- -+- Y mae y Parch. John Williams, Caergybi, yn treulio ei wyliau yn Llandrindod, a da y gwna rhai o eglwysi'r De fanteisio ar ei arhos- iad yno trwy ei wahodd atynt i bregethu ar y Suliau, canys gwr ydyw a chenadwri ganddi gwerth i'w gwrando a'i hystyried. Bu am Suliau, canys gwr ydyw a chenadwi-i ganddo Sasiwn y Gogiedd y fraint o letya yn nghartre cysurus Cyn-Lywydd Sasiwn y De. Yng ngardd y mwyar gwyllt a'r llus, Lie mae'r ehedydd bach a'r dryw, Ac adar man y grug yn byw." -+- -+- Cododd Mr. Ellis D'avies y lien oddiar fwng- lereiddiwch swyddfeydd y Llywodraeth yn Nhy y Cyffredin. Gofynodd fitter yng Nghaernarfon am le mewn gweithfa cadarpar, a chymerodd ddeuddeng niwrnod o amser i gael atebiad i'r llythyr. Dyma hanes swydd- feydd y Llywodraeth yn gyffredin. Clywai-s am ddau yn gofyn am waith dan y Llywodr- aeth,—un gyda phrofiad o saith mlynedd a'r Hall gyda dim ond pedlwar mis. Y lleiaf profiadol ddewiswyd, a gwyr pawb mai yn ol medr dyn i dynu'r gwifrau y mesurir ei lwydd- iant. -+- -+- -+- Croesi cleddyfau a rhywrai o'i brr-dd y mae y Parch. Richard Roberts, gynt 0 Flaenau Ffestiniog, ar ddalennau y Christian Com- monwealth. Methu cysoni Rhyfel a Dysgeid- iaeth Crist y mae Mr. Roberts, a dywed ei feddwl yn glir a chryf. Clywais stori am ryw bregethwr y dlywedir iddo fagu infideliaid wrth geisio ateb Spencer, Huxley, a Darwin, o'r pulpud. Onid oes perygl yn awr wrth i breg- ethwyr geisio cysoni Rhyfel a'r Bregeth ar y Mynydd ? Nid magu infi'deliaid1 wyf yn feddwl, ond lladd parch i'r pulpud. Gwell gadael y cwestiynau hyn o'r tuallan i'r pulpud a'u' dadleu o'r tuallan i'r gwersyll, fel y gwna Mr. Roberts. -+- Yn ei erthygl graff a dyddorol ar y streic yn Neheudir Cymru, wrth ddisgrifio yr amryw- iaeth mawr sydd yn y boblogaeth a'r gwahan- or elfennau chwildrüadol sydd yn yr ardaloedd gweithfaol, tystiolaethai golygydld galluog y Daily News mai yr unig allu i ddisgyblu a dyrchafu yn y lleoedd hyn yw y capel Ym- neilltuol a"r d'ylanwadau a gynrychiolir ganddo. Mawr yw gofal Esgob Llanelwy, a, rhai o'r un ysbryd ag ef, i alw addoldai yr Ymneilltuwyr yn gapelau, ac nid eglwysi. Ond nid ydym yn cwyno am hynny. Gwel Saeson gonest mai isel a thywyll fuasai cyflwr Cymru heddyw fel yn y dy-duiau gynt oni buasai am y Village Chapel." Mae dylan- wad y Village, Clhlapel yn amlwg heddyw ar filoedd lawer o filwyr dewrion ein gwlad.