Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. "DROS YR HOLL SAINT." (Efelychiad 0' Emyn Walsham Howe). D'ros yr ho 11 saint sy'n huno drwy y cledd, Y rhai fu'n ffyddion i Ti hyd y bedd, Dyrchafwn fawl i enw'n D'uw mewn bedd, Haleliwia! Ti yw eu Craig, eu Cadarn d'wr, a'u Tad; Eu nodded a'u harweinydd yn y gad, Eu dwyn a wna-ethost i Dy nefod wlad. HaJeliwia 0 dod i'th filwyrcadarn fel y dur Dy nefol ras i'w cad'w fyth yn bur; Ac yn y diwedd Goron aur y gwir. Haleliwia! Gymdeithas- felus! Cwmni'r Nefoedd yw! Nyni mewn ymdrech .flin-hwy yno'n byw; Ond wele hwy a ninnau'n un yn Nuw. Haleliwia! Y frwydr yn greulom, a'r gorchfygu. draw; Anthemau concwest o'r baradwys ddaw; I gryfhau'r breichiau llesg" mae'r nef gerllaw. Haleliwia! Mae dydd i wawrio., g-ogoneddus awr, D'aw'r plant i'r lan yn iach o gwsg y llawr, I gwrdd a'u Brenin yn y nefoedd fawr. Haleliwia! 0 gyrion pella'r byd, 0> eigion mor, I Drwy ddrysau perlog1 daw y sanctaidd gor, I fo-li byth yr uchel Arglwydd lor. Haleliwia! O.T.D. -+-- Hysbysa'r newyddiaduron lleol fod eglwys y M. C., Castellnewydd Emlyn, wedi estyn gwahoddiad i'r Parch. Llewelyn Lloyd, Mon, yh awr yn FTrainc gyda'r Fyddin, i fod yn olynydd i'r diweddar Hybarch Evan Phillips. -+- -+- -+- Mae enw John Gibson wedi pasio,yiiiaith, a'r Cambrian News" yn cael ei gyhoeddi gan gwmni o Ferthyr Tydfil. Cymerodd y newidiad le yn ffurfibi ddechreu y mis hwn, a chlyw.ais fod yr arian ba,siodd rywle yng nghymydogaeth un-mil-ar-ddeg o bunnau, yr hyn a gynhwysai y brydles ar yr adeiladau. -+-- --)0- Gwahoddir y Parch. W. M. Jones, Birken- head, yn gynnes gan eglwysi Llansantffraid' a Llanfechain, ym Mald'wyn, i gymryd eu gofal bugeiliol. Gwyddom fod Mr. Jones yn br-eg- ethwr rhagorol, ac fod disgwyliad cryf yn eg- b Z!1 lwysi y cylch, yn ogystal ag yn y ddwy eglwys hyn, mai derbyn yr alwad a wna. -+- -+- -+- Mae dadl yn myned ymlaen yn y Llan- dudno Advertizer," rhwng y Parch. E.. O. Davies, B.Sc., a Mr. Ernest E. Bone ar gwestiwn agoriad y golf links ar y Saboth. D'adleua Mr. Davies y dylai'r trethdalwyr gael penderfynu y mater, a chytuna Mr. Bone a hynny, ond y dylai y cyngor trefol wneud fel a fynno hyd nes y ceir etholiad. -+- -+- -+- Rhaid fod gan Gymdeithas Heddwch hoff- ter at Gym no, cany Haith ddyddorol yw mae pedwar Cymro fu yn Ysgrifenyddion iddi yn ystod y pedwar ugain mlynedd diweddaf. Daliodd Mr. Henry Richard y swydd am ddeugain mlynedd. DMynwyd ef gan Mr. William Jones,, a hwnnw drachefn gan Dr. W. Evans, Darby, am saith mlynedd ar hugain. Yr Ysgrifennydd newydd yw y Parch. Her- bert Dunnico, wyr i'r enwog Robert Owen, y Socialydd. Mae Mr. William George o'r farn fod cyfle'r Weinyddiaeth bresennol i wneud dim byd mawr dros Ddirwest wedi pasio. Gallai fod 11 awer 0' l' bai yn gorffwys wrth ddrws Ty y Cyffredin; end pe buasai gan y Weinydd- iaeth argyhoeddiad cryfachlar y cwestiwn, gallasai wneud yn well. Prin yr wyf yn credu fod Mr. George yn gywir. Nid diffyg argyhoeddiad sydd wrth wraidd y drwg. Ofni'r bragwyr cyfoethog' y mae'r Llywodr- aeth. -+- -+- Anhawdd i Ogleddwyr yw sylweddoli y cys- ylltiad agos sydd rhwng yr Eglwys Sefydledig a'r Methodistiaid yn SirAberteifi. Byddaf weith- iau yn cael cyfle i weled y cyfeillgarwch sy'n ffynnu rhwng gweinidog^ a pherson. Mae llu 0 berthynasau bron bob clerigwr yn y cape], ac yr oeddwn yn sylwi fod y galar ar ol y Parch. W. Headley, person Llainfihangel-y-Creuddyn, yn llawn cymaint yn y Dyffryn-eglwys y M.C.—ac yn unman. Ynü yr oiedd ei dad yn flaenor, ac yno y cafodd Mr. Headley gychwyniad ar ei yrfa Iwyddiannus. P'arhaed brawdgarwch -+- -+- -+- Deailaf fod Clyfarfod Misol Sir Frycheiniog mewn cvflwr boddhaol iawn O' ran bugeiliaeth. Y chydig o eglwysi sydd heb weinidog, a dis- gwylir na phar ymadawiad efrydwyr Tre- fecca anhwylusdod mawr, yn enwedig os trefnir hyd y byddo modd i weinidogion y Sir wasanaethu gartref. Tra byddo''r Coleg ynghau, bydd y Parch. T. How at yn casglu, a thebyg y ceir gwasanaeth y Parch. D. Tudor Jones yn y Sir yn gyffredinol. Yn lonawt- y dechreua'r Parch. J. Davies ar ei waith fel gweinidog1 y capel Seisnig yn Aberhonddu ac olynydd y Parch. Ezekiel Williams. Yr wyf yn cofio clywed fod y diweddar Barch. Edward Morgan, 0"r Dyffryn, yn dweyd yn y Cyfarfod Misol unwaith ei fod ef wedi pregethu un o'i bregethau goreu i bymtheg a dau gi yn un o g'apeli bychain Sir Feirionydd. Cynulleidfa fechan, onide? le, ond fe glywais fod y P:arch. Robert Thomas, Talysarnau, wedi pregethu yn hynod rymus i bedwar ym mharlwr ty capel Bryn- engan, Sir Gaernarfon, fore Sul wythnos i'r diweddaf. Y gwlaw a ddisgynodd, a'r llifeiriaint a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant," fel nad allai y gynulleidfa arferol ddod at y capel. Er hynny ni tharfu- wyd ysbryd yr hen weinidog, ond pregethodd gydag eneiniad amlwg, fel y mae y pedwar gwrandawr yn methu peidio canmol yr oedfa. --d.- Ymddengys nad oes weledigaeth eglur eto pa bryd y cyferfydd P'wyllgor Undebol y ddwy Athrofa i benderfynu- beth a, wneir yn wyneb yr argyfwng presennol ynghylch y rhyfel a'r ffurfiau hynny o wasanaeth ynglyn ag ef y mae'r efrydwyr neu'r athrawon yn ei roddi neu ar fedr ei roddi. Gwyddis y bydd yr Athro J. Owen Thomas, M.A., yn myned i Ffrainc gyda'r Y.M.C.A, ac y mae tri c leiaf oi athrawon eraill y ddwy A.throfa'n awyddus igael y ffordd yn g'lir iddynt fyned i rai o wersylloedd y wlad hon neu'r Cyfan- dir ar genadaethau crefyddol. Gyda hynny dichon y bydd raid i rai o'r efrydwyr hynny sydd hyd yma,'n rhydd ateb y gofynion a wneir arnynt gan y Llywodraeth os ceir nad yw'r trefniadau presenol yn ddigonol yng ngolwg yr awdurdodau. Ond diau y ceir goleuni ar bethau cyn diwedd' y fhvyddyn, a disgwylir mai yn nechreu'r flwyddyn nesaf y bydd cyn- rychiolwy'r y ddwy GynTanfa'n trafod y mater- ion dvrvs yrna gydag athrawon y Bala ac Aberystwyth. Clywaf fod yr Athro David Williams yn bwriadu treulio rnis yn awr fel caplan cynorthvvyol yn Aldershot. < .A- Da gennyf glywed 00 Aberystwyth fod Mrs. David Lloyd, gwraig y blaenor adnabyddus o Salem, yn gwella'n rhagorol o'i chystudd. Gaffed adferiad llwyr a buan. -+- -+- -0- Gyrhaeddodd Mr. D. A. Thomas yn 01 i'r wlad hon o'r America wedi bod yno am amryw jfisoedd yn prynu cadarpar i fyddinoedd L-loegr. Er pob ymgais methodd gohebwyr y papurau newyddion a chael ganddo ddweyd dim am ei hanes a'i waith yn yr America. -+- Mis o garchariad gyda llafur caled am saethu pheasant! D'yna gafodd Mr. John Watts, Dicdbridge, Pendoylan, gan clctau ynad yn Llandaf. Mae'r wlad wedi ei chynhyrfu gan wrthynx y gosp, a chyn nos Wener yr oedd Mr. John Watts yn ddyn rhydd. Ond cymer gryn amser i'r dd'au ynad glirio eu hunain yn marn y wlad. Dydd Iau cyhoeddir Cofiant Watcyn Wyn, gan y Parch. Penar Griffiths, Pentre, Aher- tawe, yn llyfr hardd 0. wasg yr Educational Publishing Coo., Caerdydd. Ma:e yn llyfr eitbriadol o, ddyddorol, a cheir adolygpid arno mewn rhifyn dyfodol 0'1' CYMRO. -+- Ü's oes rhywun yn meddwl fod goleuni gwareiddiad a chrefydd wedi cyrraedd i bob cilfach yng Nghymru, darllened hanes cyngor dosbarth diweddaf Llandudog, a sylwadau Dr. Havard. Hanes teulu yn byw yn Cil- geran ydyw, ac amheus gennyf a all yr un cenhadwr yn India ddisgrifio golygfa, fwy prudd na hon. Tad meddw, mam feddw, plant yn byw mewn afiendid, ty llaith ac aflan,- afiechyd, marwolaeth, meddwdod. Nid typhoid oedd yr achois o afiechyd y plentyn,—yr oedd yn gwella o'r clefyd. Bu farw o. wendid oherwydd nad oedd neb yn gofaluam dano." "There would be more cases in Cilgerran as the drainage all came out to the main street." -+- Pa fodd i gael gan y bob! gynhilo yw y cwestiwn sydd yn dwyn sylw ma.nylaf llawer o bobl yn y dyddiau hyn. Nid yw hyn yn cael ei wneud heb fod ei angen, oherwydd heb os y mae amser caled o'n blaen fel gwlad. Yn yr Economist yn ddiweddar, ymddangos- odd erthygl alluog gan Mr. Drummond Freser o Fanceinion, yn dwyn perthynas a'r mater hwn. Awgryma, ef gael nifer o gasglyddion o'r Sefydliadau Eluseng:ar, yr Eglwysi, a'r Ariandai Gynhilo, yn y wlad, i ymweled a chasglu cynhilion y teuluoedd bob wythnos, er mwyn ei fuddsoddi yng nghyllid y Llywodr- aeth. I gario hyn oddiamgylch, teimla ef fod eisiau cael rhywun i alw gyda'r merched a'r gwragedd trwy y wlad gan fod pwrs y gweithiwr gan y wraig. Seilia ei anogaeth ar yr hyn sydd yn cael ei wneud gan y Cym- deithasa.u Yswiriol trwy y wlad, trwy i'w cyn- rychiolwyr alw felly mae y Cymdeithasau hyn yn casglu rhyngddynt bob blwyddyn dras ugain miliwn o bunnau, mewn ymiau man— dim ond dwy neu dair ceiniog yr wythnos gan bob aelod. Ei g-ynllun ef yw cael cardiau i roi ,stamps arnynt, a phan fyddp gwerth punt wedi eu cael felly eu bod i gael eu budd- soddi trwy y Llythyrdy, fel war bond pass- book," ac y dygant bump y cant ol log felly i'w perch en. TeirnJa ef mai mantais y cyn- llun yw fod pawb felly yn cael rhoi ychydig ar y tro o'r neilltu bob wythnos. lybia y gellid yn y modd hwn gasglu dwv neu dair miliwn"^ o bunnaiv bob wythnos gan weithwyr y wlad, a thrwy hynny y gellid talu costau y rhyfel wrth fyned ymlaen. Gwir fod cynllun Mr. Freser yn un mawr, ac efallai anhawdd ei gario allan, ond mae eisiau gwneud rhywbeth yn y cyfwng presennol.