Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
Dyddiau Olaf Ymrestru

-+- Dyddiau Olaf Ymrestru Ysgrifennwn cyn fod canlyniad yr ymgais dan gynllun Arglwydd Derby i achub yr: eg wyddor wirfoddol yn hysbys ond yn ol yr adroddiadau o wahanol rannau'r wlad bu'r alwad, ar yr unfed awr ar ddeg, yn effeithiol i dynnu'r gwirfoddolwyr yn lluoedd dirifedi. Ni fu'r fath lif o ymrestru er cyfnod boreuol y rhyfel, ac yn Llundain a'r trefydd poblog yr oedd y rhuthr mor fawr fel ag i wneud y dar- pariaethau i basio'r dynion trwodd yn hollol annigonul. Gweithid hyd hanner nos ac hyd oriau man y boreu yn y swyddfeydd, a gorfod- id lluoedd i droi adref hyd y dyddiau dilynol Hernid nas gellid mewn llawer lie ddyfod i ben a'r gwaith cyn hanner nos, nos Sadwrn, yr awr olaf o dan y cynllun, a chan ei fod wedi ei wneud yn hysbys nad oedd yr amser i'w estyn, ofnid y ceid llawer o'r rhai oeddynt o'r diwedd yn barod i fyn'd i mewn a'r drws wedi ei gau rhagddynt. Er hyrwyddo pethau, mewn llawer He, gwnaed y gwaith yn rliannol,-yn gyffredin. gadewid yr archwiliad meddygol heibio am y pryd hyd y ceid mwy o egwyl. Rhaid aros am rai dyddiau am hysbysiad y Prifweinidog am ganlyniad yr ymdrech fawr ddiweddaf hon dros wirfoddoliaeth Wrth gwrs, er fod y niferi hyn yn fawr, bydd raid myn'd trwy y rhestrau yn fanwl. Bydd miloedd lawer o'r rhai roisant eu henwau nas gellir eu rhyddhau o'u goruchwylion presennol; ac nid oes sicr- wydd fod y dynion sengl wedi dyfod i fyny a'r disgwyliadau. Ar yr un pryd, teimlir yn bur hyderus fod yr ateb wedi dyfod i fyny a'r galw, ac na raid rlloi'r wlad dan iau gorfod- iaeth.

Y Rhyfel yn Serbia

Y Rhyfel yn Serbia. Dengys newyddion o Serbia yn ystod yr wythnos fod y sefyllfa yno am y pryd yn bur ddifrifol, a bod milwyr Ffrainc a Phrydain yn cael eu gwthio. yn ol gan y Bwlgariaid i gyf- eiriad Groeg. Daeth y newydd yn gynnar ar yr wythnos fod y Bwlgariaid wedi ymosod yn ffyrnig ar safle ein milwyr ni i'r gorllewin o Lyn Doiran gerllaw ffinau Groeg. Llwyddodd y gelyn i ruthro i linell gyntaf y ffosydd; ond gyrrwyd hwy yn ol drachefn gyda'r bidogau. Y dydd dilynol gwnaethant ruthr eilwaith, ac yr oeddynt mor niferus fel ag i orfodi ein milwyr i encilio a chymryd eu safle ar linell newydd fwy yn ol. Bu raid cilio ymhellach ddydd Mercher ac unioni'r llinell; ond dywed pellebr o Salonica fod y llinell newydd ddydd Iau yn dal yn gadarn er fod y gelyn yn parhau i ymosod ac yn ymddangos yn benderfynol o dorri trwodd. Hysbysir hefyd fod y Ffrancod wedi gorfod encilio1 o Demir Kapu, a bod yr ymladd yn parhau. D'ywed1 yr adroddiadau Ffrengig eu bod yn encilio am resymau hawdd i'w deall. Gan fod byddin Serbia am y pryd allan ogyfrif, dywedant nad yw presenoldeb milwyr Ffrainc yn angenrheidiol ar dir Serbia. Tra yr honna'r Bwlgariaid oruchafiaeth fawr, igwna'r adroddiad swyddogol hwn o eiddo ar- weinwyir byddin Ffrainc yn g-lir nad yw'n golygu mwy na bod y gelyn yn cymryd medd- iant o dir na cheisiwyd ei ddal rhagddynt.

Germani a Heddwch

Germani a Heddwch. Mae'n amlwg fod Germani o'r farn fod y ddadl ar heddwch yn gy fie ardderchog i utganu mewn utgoirn ac i geisio, rhoi ar ddeall i'r gwledydd sy'n rhyfela a hi, ac i'r holl fyd, fod ei nerth yn parhau i gario y rhyfel ymlaen, ac nad oes yno'r awydd lleiaf am geisio heddi- wch. Hysbysir fod y Sbsialwyr godasant y cwestiwn wedi eu cwbl f odd Ion i yn atebiad ffrostgar y Canghellor, ac ymddengys yr hall ddad'l fel pe wedi ei threfnu i roi cyfle i Beth- mann Hollweg- i frawy chu gelynipn Germani ac i'w hargyhoeddi nad oes y gobaith lleiaf iddynt lwydcto i'w newynu nac i'w gorchfygu ar faes y gad. Yn ol yr araith fombastaidd hon hwyaf y deil y Cynghreiriaid i gario y rhyfel ymlaen cryfach oil y daw Germani, a chaletach oil fydd ei thelerau heddwch. Cyf- eiriodd1 at adfeddiannu Alsace a Lorraine gan Ffrainc, ac at ddinistrio militariaeth Germani fel pethau cwbl amhosibl. Cynhwysai'r araith hefyd fygythiad fed Germani yn abl i ledu cylch y rhyfel ac i'w gario ymlaen mewn "Irne,usydd newyddion. Yr oedd yn y wlad ddigonedd o ymborth, os nad ellid dweyd fod T_ yno or-gyflenwad, a deuai cyflawnder o gotwm i fyny 'r Danube, a digon o gopr a rubber.' Cyfeiriodd at ,agor y ffordd i Twrci fel carreg filltir bwysig yn hanes y rhyfel. Nid oedd yr holl adroddiadau fod Germani yn ceisio heddwch trwy Yswisdir, yr Is-Almaen, Sweden a lleoedd eraill, ond chwedlau ffol ledaenid gan y Cynghreiriaid er mwyn cuddio eu methiantau milwrol, a gwneud i'r byd feddwl fod Germani yn agos ar ben. Os nad oedd ar elynion Germani eisiau gweld ei nerth yn awr, byddai yn rhaid iddynt ei weld ym- hellach ymlaen. Nid anodd canfod fod cyweirnod yr holl araith wedi ei daro yn rhy uchel, a swnia yn fwy tebyg i ysgrech dyn mewn lie cyfyng a pheryglus nag i ddatganiad pwyllog gwladweinydd yn credu ei eiri-au ei hun.

Mesur y Senedd

Mesur y Senedd. O'r diwedd daeth y Mesur i estyn oes y Senedd ac i drefnu'r Gofrestr gerbron y Ty. Cyflwynwyd ef gan Syr John Simon, dan y ddeddf deng munud, a phasiwyd y darlleniad cyntaf. Trefna'r Mesur foddion syml i osgoi etholiad ddechreu'r flwyddyn nesaJ, a gwneir y gohiriad am flwyddyn yn unig. Yng ngeir- iad y Mesur, ni bydd Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesaf, oni bydd i'r Llywodraeth ofyn i'r Brenin ddadgorffori'r Senedd. Tre-fna hefyd na bydd i'r milwyr yn y ffrynt golli eu. pleidlais, ar eu dychweliad, yn ol rheolau presennol cofrestriad. Gwnaeth Syr John yn hysbys wrth ei gyflwyno fod Mr. Bonar Law, Mr. Walter Long, Mr. A. Henderson, a Syr F. E. Smith, wedi rhoi eu henwau fel cefnog- wyr y Mesur, fel y symudir pob drwgdybiaeth am unrhyw ddadl ddifrifol yn ei gylch. Ffordd gywrain y Mesur i gario allan yr es- tyniad yw ystyried y flwyddyn 1916 fel pe yn dilyn y flwyddyn 1914, a gwneud oes y Senedd yn chwech yn lie pum' mlynedd. Yr unig wrthddadl godwyd ar gyflwyniad y Mesur oedd un oddiar y meinciau Toriaidd yn honni ei fod yn niweidio safle ac egwyddorion gwrthwynebwyr diddymiadl yr Aml-bleidlais. Dyma'n ddiau'r anhawster fu yn y Cabinet; ond yn ol pob arwydd mae':r Mesur yn ei ffurf bresennol yn cymeradwyo ei hun i fwyafrif aelodau'r Lly wodraeth unedig, a diau y gwna hynny ifwyafrify Ty.' v.

Araith yr Arlywydd Wilson

Araith yr Arlywydd Wilson. Nis gall cenadwri'r Arlywydd Wilson i'r Gyngres lai na thynnu llawer o sylw yn y wlad hon a Germani, yn ogystal ag yn America ei hun. Prin y barnwn ni ym Mhrydain fod ei resymau dros gadw ei wlad yn amhleid(|ol yn argtyhoeddjiiadol iawn, am nad yw'n ymddangos yn barod i gydnabod gwir ystyr y rhyfel. Ond ar ystrywiau'r cynllwynwyr Germanaidd yn y Taleithiau siaradodd heb ddeilen ar ei dafod, a defnydd- iodd eiriau bro,fai ei fod wedi ei gyffiroi i'w waelodion. Mae dinaswyr perthynol i'r Unol Dal-eithiau," meddai, wedi eu geni mewn gwledydd eraill, y rhai sydd wedi tywallt gwenwyn ac annheyrngarwch i wyth- ienau ein bywyd cenedlaethol, ac sydd wedi ceisio, dwyn awdurdod ac enw da ein Llyw- odraeth i waradwydd a gwarth, a diraddio ein polisi a'i wneud yn ddarostyngedig i gyn- llwynion tramor." Ni phetrusa eu galw yn greaduriaid nwyd, annheyrngarwch, ac an- archiaeth," a dywed y rhaid rhoi pen ar eu hystrywiau a'u gwasgu allan. Geilw ar y ddeddfwrfa i ddelio a'r "budrwaith anhy- goel" ar unwaith, er mwyn achub anrhydedd a hunanbarch y genedl a'r wlad.

Persia a Mesopotamia

Persia a Mesopotamia. Gwnaeth Arglwydd Bryce y mho Had yn Nhy'r Arglwyadi'r nos o'r blaen ynghylch yr ymdrechion a'r ystrywiau oedd wedi eu gwneud ym Mhersia i hau hadau gwrthryfel, a rhbddodd Arglwydd1 Crewe, yn ei atebiad, gryn lawer 0 oleuni ar y modd y gwenwynwyd y Swediaid oedd wedi eu- gosod yn heddlu yno yn erbyn Prydain a Rwsia, ac y oeisiwyd g-wenwyno'r Llywodraeth. Yr oedd yn awr filwyr o Rwsia yn symud ymlaen yn y wlad, ac arwyddion fod y cynllwynwyr yn caiel eu symud. Cymerodd Arglwydd Crewe fantais ar y cyfle i daflu peth goleuni ar yr ymladd ym Mesopotamia. Yr oedd peth beirniadaeth wedi bod ar ymgais General Townshend i gymryd Bagdad gyda nifer rhy fychan o! fil- wyr, ond eglurodd fod y nifer dan ei o-fal yn fwy na'r adran oedd ganddo1 ar y cychwyn. SicrhatOdd ei arglwyddiaeth hefyd mai nid ym- gyrch fyrbwyll oedd hon; ond un wedi ei chynllunio fisoedd ymlaen llaw, a threfniadau digonol, fel y tybid, wedi eu gwneud i'w gario allan. Nid oedd' neb i'w feio am y methiant, er i'r dasg brofl yn fwy nag y tybiodd neb ymlaen llaw, oherwydd nerth annisgwyl y gelyn a'r gynnau mawr oedd ganddynt at eu gwasanaethl.

Mesur y Bhenti

Mesur y Bhenti. Boddlonodd y Llywodraeth i wneud amryw welliantau ym Mesur y Rhenti, y pennaf o'r rhai oedd eangu ei gylch i gynnwys yr holl wlad. Bydd yr eangiad yn sicrhau gwneud y Mesur yn fwy, syml a gweithiadwy. Ymysg y gwelliantau ceir un ar gyfer cymdeithasau adeiladu yn eithrio1 benthyciadau o'u heiddo i'w haelodlau eu hunain o'r ddarpariaeth yn atal codiad mewn llogau ar wystlon o'r hyn oeddynt cyn y rhyfel. Hefyd cydsyniwyd a gweljiant yn caniatau i berchenogion fo1 yn talu trethi eu tenantiaid i godi y rhenti i'r swm a delir g'anddynt fel trethi. Rhoddwyd y terfynau i weithrediad y Mesur fel y canlyn,— Llundain £35, Ysgotland1 £30, a'r gweddill o'r wlad £26.

Bwriadau Brenin Grroeigr

Bwriadau Brenin Grroeigr. Cafodd dau o gynrychiolwyr y wasg y fraint o glywed y Brenin Cystenin yn egluro ei safle yn ystod yr wythnos,—gohebydd y Times yn Athen, a gohebydd Americanaidd. Nid oes neb fawr ddoethach ar fynegiadau'r teyrn i'r naill na'r llall. Dywedodd wrth y goheb- ydd Prydeinig nad oedd unrhyw berygl iddo droi'n fradwrus i Brydain—fod yn gwbl am- hosibl iddoi—a'i fod bob amser wedi ystyried y Prydeinwyr fel cyfeillion iddo. Gofid mawr iddo oedd gweld fod y papurau ym Mhrydain yn ei ddrwgdybio1 o unrhyw beth o'r fath. Dywedodd rai pethau tebyg wrth y gohebydd Americanaidd, ond ychwanegodd wrtho ef, nad oedd yn barod i gymryd ei orTodi mewn un modd gan y Cynghreiriaid. Profa'r pethau hyn fod y cwestiynau rhwng' y Cynghreiriaid a Groeg—neu yn hytrach a'r Brenin, sydd wedi penderfynu llywodraethu'r wlad yn ogystal a theyrnasu arni, yrnhell 01 fod wedi eu setlo yn foddhaol. Edrydd gohebydd cyf- rifol hefyd am y dylanwadau Germanaidd sy'n amlwg yn oruchaf yn y fyddin yno a'r mesur- au celyd gymerir gyda'n milwyr yn Salonica. Mae'r arwyddion presennol yn dra anffafriol yn Groeg.

Pryder a Hyder

Pryder a Hyder. Golwg dywyll a phryderus sydd wedi bod ar sefyllfa pethau yr wythnos ddiweddaf, ac ni ddylem eu hanwybyddu. Ond mae pwyso gormod ar ein diffygion yn y cyfeiriad yna yn peri gwangalondid diachos. Wedi'r cyfan, nid yn y dwyrain yr ymleddir y Rhyfel, ac yr enillir buddugoliaeth. Yn y gorllewin y mae nerth y Germaniaid, ac yno y rhaid iddynt orchfygm neu golli. Mae gennym air Arg- lwydd Kitchener a Syr John French ein bod wedi gweled gwaethaf Germani yn Ffrainc a Belgium, agwyr ein gelynion nas gallant ennill Paris na Calais. Gorchfygwyd hwy pan oeddynt yn eu man cryfaf, pan yr oedd eu byddinoedd mwyaf glew ar y maes, a'r Cyng- hreiriaid heb fod yn barod. Erbyn hyn mae gennym fyddin sydd yn gyfartal 0 ran rhif, a chyfarpar sydd yn rhagori,—a digon o honOl, ac y mae pob lie i gredu fod Germani ei hunan yn gwybod cystal a neb fod yn amho-sibl iddi dorri drwy ein. llinellau. Gall y rhyfel ddal yn hir, a, hwyrach y rhaid i'r Cynghreiriaid aberthu rhagor nag ydym yn feddwl; ond methwn a gweled fod un amheuaeth nad ydym wedi gorchfygu Germani. Mae ein llynges wedi gwasgu yn raddol ar fasnach Germani nes -gorfodi y wlad i fyw bron yn hollol ar ei hadnoddau mewnol. Yr ydym wedi difa ei nertn ymosodol ar y mor. Mae yn agos i Bo o'r submarines wedi eu suddoi neu gymryd meddiant o honynt, ac yn awr defnyddir am- ryw o honynt i ddifa nerth y gelyn yn y Baltic. Gwir fod llynges Germani yn gyfan; ond i bwrpas y rhyfel mae yn ddiwerth hollol. Mae llygaid craff y Llyngesydd Jelhcoe yn gwylio yr agoriad i'r mor, a gwyr y German- iaid fod dinistr eu llynges yn sicr os anturia allan.