Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 4 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
0 DIR NEILLTUAETH

0 DIR NEILLTUAETH. VII. A thi a fyddi yn fendith."—Gen,, xii. 2. Arfer Duw yw cyfra-nnu ei fendithion trwy gyfryngau. Felly y derbyniwn trwy ei Air, ei bobl, trwy ordeinhadau yr Efengyl, trwy oruchwyliaethau ei Ragluniaeth, trwy ddeddf- au natur, ac amryw ffyrdd. Mae Duw yn bendithio ei bobl fel y byddont yn fendith i eraill. Fe gyfoethogir bywyd ei bobl, nid yn unig fel y byddent hwy gyfoethog, ond fel y y byddont yn foddion i gyfrannu cyfoeth Duw i eraill. Cariad yw Duw, a pherthyn i gariad gyfrannu ei hun, a'r sawl sydd o Dduw a gyfranant fendithion Duw i eraill. Nis gall cariad fyw He bo hunanoldeb; ac nis gall hunanoldeb drigo mewn calon lie y byddo cariad Duw wedi ei dywallt ar led. Hunan- ymwadu mae cariad er mwyn eraill, ac fe geir rhyddid oddiwrth hunan yn yr hunanymwad- iad. Derbyniwn o fendithion Duw, nid i'w croni ynom ein hunain, ond fel y byddont yndylifo i fywyd eraill o'n hamgylch. Ivlae: i ni ym- gysegru yn llwyr fel y byddoi i'r Arglwydd ein' defnyddio yn gyfryngau bendith i eraill. Felly y derbyniwn fwy-fwy o1 gyflawnder Duw. Daw pob iawn ddefnydd 0 fendithion a bendithion mwy i'n rhan. Rhaid yw yng nghyntaf ddysgu elfenau gwybodaeih cyn y gallwn fyned i mewn i gyfrinion addysg", ac fel y meistrolwn yr elfenau y cawn g'erdded llwybr dysg; felly hefyd, os iawn ddefnydd- iwn fendithion lleiaf Duw, trwy fod yn fendith i eraill, fe dderbyniwn yn helaethach, Canys i bob un y mae ganddo, y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd." Llewyrchcd felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogonedd- ont eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd." Eto cyn y gall ein goleuni lewyrchu i eraill, rhaid wrth fywyd glan, ac fod goleuni Yspryd Duw ynom. Cyn y gallwn fod yn fendith i eraill, rhaid yw i ffrydleüredd ein bywyd fod yn Ian. "Dos allan o'th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac Or dy dy dad, i'r wlad a ddang- oswyf i ti: rhaid gadael yr hen fywyd, rhaid dilyn arweiniad Duw, pa mor ddiethr bynnag1 y 'bo'r llwybr, a pha aberth bynnag1 ofynir. Un o freintiau pennaf ein bywyd yw caiel bod yn gyfryngau ewyllysgar i gyfranu ben- dithion Duw i'r byd, i gyfranu ei fendithion i'r tyrfaoedd sydd yn llewygu ar y ffordd. Cydweithwyr Duw ydym, felly rhoddwn ein hunain yn llwyr yn ei wasanaeth, i ddwyn cyfoethei ras a'i gariad i eraill o'n hamgylch. Rhoddwn ein hunain megis y rhoddodd Crist ei Hun. )tb :+-

GOBEBIAETHAU fHjy

GOBE-BIAETHAU. fH:jy (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadan yr ysgrifenwyr). CYFARFOD MISOL SIR FFLINT. AT OLYGYDD Y CYMKO. Syr,-Dymunaf ofyn rhai cwestiynau ynglyn a'r llyfryn, Y Byd i Grist i. raham na iuasai pob gweinidog oedd yn bres- ennol yng Nghyfarfod Misol yr Wyddgrug yn cael un? Os dylesid rhoi rhai i rai, dylesid rhoi rhai i bob un, yn lie gwahaniaethu. 2. A yw pob eglwys wedi derbyn. nifer o gopi.au F Os nad yw, pam na chaiff pob un rai ? 3. A oes modd cael chwaneg? Os oes, dylid goaod pawb a phob eglwys ar yr un tir. H. YR: AMAETHWYR A'R RHYFEL. AT OLYGYDD Y CTMr. Annwyl Syr,—Yr oedd yn dda gennyf weied llythyr Arglwydd Selbome yn eich rhifyn yr wythnos hon. -Nid yw y Tribunlysoedd wedi .sylweddoli pwysig- rwydd amaethyddiaeth i'r wlad hon. Os bydd ar d'dyn eisiau ei was i ddreifio ei fodur, neu i drwsio modur dyni arall, y mae aelodau y Tribunlysoedd yn gyffredin yn caniatau eithriad, ac yn rhyddhau y neb y gofynir am dano.. Ond gwae i'r amaethwyr! Yr eiddoch yn gywir, Ebrill 7fed. MAB Y TIR. LLAWLYFR AR EFENGYL IOAN. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,-lrel un sydd wedi cael y fraint o lafurio gyda'r plant a'r bobl ieuainc am flynyddau lawer, caniatewch i mi gael llongyfarch y Parch. W. Wynn Williams, Llanystumdwy, ar gynllun, a chyn- nwys ei Lawlyfr gogyier'a'r plant dan i6eg oed. Yr wyf wedi ei ddarllen drwodd bob gair, a'm profiad o hono yw ei fod yn batrwm o lyfr gogyfer a'r dos- barth hwn. Y mae yr awdwr wedi cymryd sylw ü bob gair a brawddeg angenrheidiol yn y maes, ac y mae yr awgrymiadau a'r cwestiynau yn rhagorol. Mae ei bris yn is,el-Tair Ceinio,a, ni ddy;lai un- rhyw athraw nac athr,awes sydd yn llafurio yn Efengyl loan fod heb gopi o hono. Yr eiddoch, &c., Pwllheli. W. EIFL JONES, lY .Mi„ COLEG Y BALA. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—A fydd i ysgrifenyddion yr Eglwysi sylwi mai i'r Parch. J. T. A. Jones, Cofres-trydd y Coleg, mae anfon pob gohebiaeth ynglyn a'r cyho-eddiadau yn ystod gwyliau'r Pasc. Y Coleg, Bala, J. M. ROBERTS (Ysg.), Ebrill 5, 1916. Hefyd wele restr o'r myfyrwyr sydd ar eu hlwvddvn olaf vn v Bala:- J ,.I Mr. W. E. Hughes, M.A- Waenfawr. E. LI. Lewis, B.A., Bl. Ffestiniog. 0. R. Owen, B.A., Porthdinorwig C. LI.'Williams, B.A., I.lanarmon. D. J. Williams, B.A., Treorci. W. Morris:, Blaenau Ffestiniog. j. Parry, Colwyn Bay. T. Alun Williams, Tals.arn. J.M.R. (Ysg.). DATHLUCHWARTER CANIRIF Y MUDIAD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Gyfaill,—Mawr y brwdfrydedd yn Sasiwn Maesteg yr wythnos hon o b1.aid Rhaglen ein Dathl- iad. Nid oedd gennyf hanner digon, o'r Souvenir Cerddorol. Heddyw anfonir sypyn i Ysgrij.ennydd y Mudiad ymhob Cyfarfod Misol a Henaduriaetn. Caiff pob eglwysi a milwr neu forwr yn. perthyn rw chynulleidfa, mi nyderaf, gopi drwy'r Ysgrifenyda- ion. Caf finnau, mi obeithi,af, enw pob milwr, &c. [owel tudal. iaf y Souvenir) i'w gosod ar gof a if 1 chadw. Rhwymir Rhifynau Lleol Eglwysi pob Cyfarfod Misol ynghyd, ac yn y diwedd g^neir ■cvfrol ddestlus o eiddo pob Cyfarfod Misol. Bydd- wch fwyned ag anog pob Eglwys i anfon Darlun eu Gweinidog Capel i mi yn. ddioed. Ein bans-en. mawr ydyw Diwygiad Crefyddol Jgwei tudal. 27—29). IIoffem ychwanegu 25,000 at ni ein Hvsgolion Sabothol y fiwydoyn hon. Pe ceid offrvmdiokh o i/- gan bob aelod eghvys- ig, a cheiniog g'an bob plentyn yn Ysgolion Sabothol y Cyfundeb, buan y clirid y ddyled sydd fel hunllei arnom, .ac y galluogid ni i gychwyn rhai canolfanau newydd er achub paganiaid C'ymru a Sir Fynwy. Cofion goreu, FN • JOHN THOMAS. DWY DDRAMA NEWYDD 0 WAlTH Y PARCH. R. G. BERRY. ) AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Cefais y pleser o wrando dwy ddrama newydd o waith yr awdwr uehod, yn ysgoldy capel Bethlehem, GwaeJod y Garth. Nis gailaf honni bod yn gritig nac yn fab i un: ni fedraf ychwaith ymffrostio fy mod wedi clywed llawer o chwareuvddion goreu Lloegr, etc hwyrach y goddefir am unwaith, i ddyn cyffredin, sydd yn berchen ar ryw gymaint, beth bynnag, o synwyr cyfi- rediin, i ddweyd ei farn. M-ewn ysgrif odidog iawn yn y Cerddor am y mis hwn dywed Dr. David Evans, Caerdydd, fod natur bod vn or-feirniadol mewn llawer cylch cerdd orol yng Nghymru, gormod. o bigo beiau, a llawer rhy ychvdig o ganmol pethau teilwng. Dywed ym- hellach mai nid trwy feimiadaeth lem, a chraffu yn ddiddiwedd ar frychau, y ceir gwared a'r sothach gvhoeddir mor ami eithr trwy wir werthfawrogiad o'r pethau teilwng,—y goreuon—ymhob cangen. Gellir cymhwyso yr un egwyddor at gynhyrchion llenyddol. Dyna un o'r prif elfennau mewn beirn- iadaeth lenyddol o'r iawn ryw, sef tynnu sylw at rannau goreu a chryfaf unrhyw ddarn. Digon tebyg mai }7r awdwr—o fcawb—os yn wir gelfyddydwr— sydd "yn fwyaf 'ymWybodol o'r beiau a'r brychau, y rhai er hynny oherwydd rhesymau neilltuol, nis gwel pa fodd i gael gwared ohonynt heb amharu rhannau eraill. Aiucenir mewn ysbryd cyffelyb gyf- eirio at un neu ddau o bechau ynglyn a'r darnau hyn. Dyna un gwahaniaeth rhwng drama dda ac un salw ydyw fod y gyntaf yn ymwneud a theimladau, a syniadau, ac a phrofiadau ydynt yn gyffredin i bawb tra ni wna yr ail hynny. Nid oes obaith o gwbl am hir oes i un math ar lenyddiaeth os na cheir hyn ynddi. Fe bery y natur ddynol yr un, ac os am iyw, rhaid i'r ddrama neu'r gan gyffwrdd a'r cyffredincl, a'r parhaol. Y ddrama gyntaf gafwyd oedd Cadw Noswyl." Nid oes ynddi ond un act." Hen filwr (oedd wedi ymladd yn y Crimea) newydd gladdu ei gymar bywyd, ac yn gorfod troi ei wyneb. tua'r tloty. Y mae hynny wedi hanner dorri ei galon. Yn nyfn- der ei enaid teimla pob gweithiwr gonest,-a mae y rhan fwyaf o weithwyr y byd yn onest—fod myned i'r tloty yn rhywbeth gwaradwyddus i'r eithaf. 0 bob lie ar wyneb daear Duw, Did oes unman fel y workhouse er gweled pohl wedi teimlo hyn i'r byw, a hynny wedi lladd pob eiliw o'r annibyniaeth hwnnw sydd yn' hanfodol i gadw ychydig hunan- barch yn fyw. Y mae edrych ar "breswylwyr y ty" hwn yn ddigon i doddi calon garreg. Fe welir, gan hynnv, fod a fyno'r ddrama fach hon a ph.rofi.ad lied gyftredinol. Yr wyf erbyn hyn wedi gwrando ar amryw o weith- iau yr awdwr, and credaf fod hon yn rhagori ar bob un ohonynt er berred ydyw. Ymddengys i mi ei fod yn gweithio yn lanach nac erioed, a'i fod yn sicrach nac o'r blaen yn ei gyffyrddiadau. Erbyn heddyw gall guddio pob arwydd o gelfyddyd ni theimlir fod yna un ymgais i wncud gorchest. Mae drwyddi yn gwbl ddiorchest, ond er hynnv yn dra effeithiol. Gall yr awdwr gynhyrchu effaith gyda ychydig iawn o ddefnyddiau. Mae y cynhildeb yma yn siwr o fod yn un o farciau ceHyddyd uwchraddol. Fe baentia prentis dramayddol a Uiwiau cryfion, llachar, er ceisio cael effaith neilltuol: ond medr hen law trwy gyfrwng Uiwiau tyner, gyd-doddant i'w gilydd gynhyrchu dylanwad cryfach o iawer. Y mae 01 hen law ar hon. Gwneir defnydd effeithiol dros ben o frawddegau milwrol, yr oil yn frawddegau eithaf syml, and er hynny, cyrhaedda pob ergyd ei nod. Ceir ynddi ar ei hyd elf en gref o restraint.' Y mae un bai mawr ami hefyd, sef byrder. Bu- asem oil yn foddion gwrando am awr neu ddwy ar ddrama fel hon. Tybed yr ystyrir fi yn rhyfygu wrth awgrymu i'r awdwr ei helaethu? Gwnaeth y cwmni eu gwaith yn er fod ambell un ohonjut heb ddysgu ei ran yn drwyadl. Fe ddaw hynny wrth ymarfer. Yr oedd yr hen filwr yn dda odiaeth, a hawdd gweled mai veteran oedd yn chwarae. Fe gymerwyd rhan y releiving officer hefyd yn naturiol iawn. Yr oedd tine iach --uo--Twedcliadol anghyffredin—yn ei lais. Farce ydyw yr ail ddrama. Darn un act eto—Ystrywiau dau nai i blesio hen berthynas cyf- oeth og F'ewythr Jacob," er mwyn etifeddu yr eiddo. Y mae yn chwerthinllyd tuhwnt mewn rhai mannau. -'Gwnaeth y cwmni yn hon etc eu gwaith yn ganmoladwy, yn enwedig y merched. Er fod yr awdwr yn berchen dawn neilltuol i greu "situations" digrifol, tybiaf mae mewn daugos "pathos" bywyd y mae cuddriad ei gryfder. Medd- ylier er enghraifft am "Ncson o Farug." Cydymdeimla i'r byw a'r tlawd, a theimlir yn ei waith drwyddo draw, dosturi at y werin. Gresyn na fua^ai yn ymgymeryd ag ysgrifennu drama i ddi- noethi y gormesu sydd ar y tlawd a'r anghenus ym- hob cyfeiriad. Dyma faes eang i ddramodydd y dyfodol. y !Mae un o awduron cryfaf y Saeson yn gweithio ar y maes hwn, ac mae arnom. eisiau rliywun tebyg yng Nghymru.. Nid dyma'r He i drafod dyfodol y ddrama yn yr hen wlad, ond tueddir fi i gredu fwy-hvy-er y cwbl ellir ddweyd i'r gwrthwyneb—yn ei phosibilrwydd pe wedi Uawn ddatblygu. Gellid arddangos agwedd- au anymunol ar fywyd y wlad, nas gellir cyffwrdd a hwynt o bulpud na llwyfan a fflangellu ffaelecvl- au a phechodau respectable,' ond damniol, heb beryglu heddwch yr un eglwys na phery i un o'n caredigion ddioddef oherwydd ei onestrwydd. Whitchurch, J. DAVIES. Caerdydd. CYMANFA DDIRWESTOL Y M.C. SIR FFLINT A CHYMANFA DDIRWESTOL UNDEBOL SIR FFLINT. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,-—Gyda'ch caniatad dymunaf ateb holiadau fy nghymydog hoff, y Parch. J. EG. Wil- liams, Mynydd Isaf, yn y CYIRO am yr wythnos ddiweddaf, mewn perthynas a Chymanfa Undebol Sir Ffllnt: (I) "A oes rhyddid i bob eglwys anion un, dau, neu ragor o gynrychiolwyr iddi?" Oes, rhyddid a chroesaw. Yr ydym yn anfon rhwng dau a thri chant o'r Adrodd'iad' Blynyddol, ynghyda gwahodd- i.ad at bob eglwys drwy'r sir i anfon cenad i'r Cyfar- fod Blynyddol. (2) "Pe bai pob eglwys yn gwneuthur un casgliad teilwng iddi, a fai hynny yn gynhorthwy i trwyddedau tafarndai? Byddai yn sicr. Nid yw y Gymanfa hon ond ieuanc eto; and yn, ystod y tair blynedd diweddaf cynortliwyodd i symud ymaith nifer dda o drwyddedau. Gwariwyd i'r amcan hwn yn unig yn ystod 1914-15 agps i ^23. Disgwyliwn y bydd pedair trwydded yn cael eu colli eleni yn uniongyrchol trwy gyfrwng y Gymanfa. (3) A oes trefniant i gynnal cyfarfodydd yn y Sir ar ol dydd y Gymanfa?" Oes, gwneir hyn bob blwyddyn yn rhyw rannau o'r Sir. 0 Brestatyn i Gaergwrle, ac o- Gaerwys i Shotton. Trefnwyd oddeutu pymtheg a gyfarfodydd er dechreu y flwyddyn hon, ac y mae eraill ar gael eu cynnal. Y mae holl aelodau y Pwyllgor a gweini.dogion pob enwad yn rhoi eu gwasanaeth yn rhad; a phleser mawr fyddai trefnu cyfarfod ymhob eglwys per yn gyfleus iddynt. (4) A yw y Gymanfa anenwadol yn rhyw gyn- horthwy i geisio rheoli oriau yfed, trwyddedu," &c., Ydyw, mor bell ag y mae llais unrhyw Gymanfa yn myn'd yn y cyfeiriadiau hyn, megis: deisebu y Lly- wodraeth, a'r Ystusiaid, a gwylio holl symudianau y llysoedd trwyddedu. Ymdrechir cadw yn effro, gwyliadwrus, a gweithgar, gyda'r materion hyn. Dylwn ddweyd mai plentyn Cymanfa Gwynedd ydyw y Gymanfa hon, a eheisir cario allan amc.an- ion clodwiw y fam drwy yr holl weithrediadau. Yr ydym newyddi gyhoeddi deng mil o draethodau i oleuo y bobl am safle y fasnach yn y Sir, ac y mae y Parch. J. Parry Brooks, Caerwys., wrthi yn awr yn eu gwasgaru drwy'r eglwysi. Gyda chefnogaeth gynhyddol, disgwyliwn weled y Gymanfa Undebol yn ennill nerth a gwroldeb, ac yn dyfod yn allu cryf ac yn ddylanwad effeithiol i wrthSiefyl1 a gorchfygu y gelyn creulon hwn sydd yn ein plith. Er mwyn Crist, crefydd, a chartref, Yr eiddoch, &c., Bank Villas, THOMAS MORGAN, Wyddgrug.

Advertising

MOLE SKINS. MOLE SKINS R. Watson & Co. Pioneers of the Moleskin In- dustry, the Oldest and Largest Collectors in Great Britain still continue to pay the Highest Prices for Mole, Otter, Fox, Cat, and Badger skins, .Pheasant Tails, Plumage etc. CASH forwarded ihimediately on receipt of goods. Write for our Price List before sending elsewhere. Note our ONLY address, R. Watson & Co., the t; ALL BRITISH Firm, Dalkeith Flouse, 65, Farringdon Street, London, X.C.