Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. DAGRAU'R IESU. Dynered yw Dy fron, O rasol Geidwad; Gwyn fyd a welodd don Dy gydymdeimlad; Ar dtaeth Dy welw rudd Y torrai'n ddistaw brudd, O ddwfn eigionau cudd Dy ddwyfol gariad. Dy galon sy'n parhau Yn liawn tosturi; A'th Ysbryd yn tristau Uwchben trueni; Er uehed yw Dy sedd, Aflonydd yw Dy hedd, Wrth weled ar y bedd Galonnau'n torri. Mae bywyd yn Dy law, A'r bedd yn olau; Ac angau'n-cilio draw Z, Yn swn Dy ddagrau; Dy gydymdeimlad mawr Sy'n dod o'r nef i lawr, A'r dag,rau'n troi yn awr Yn gan i miniiau. DYFED. -+- --+- --+- Mae'n debyg y cyflwynir y ddirprwyaeth Gym- reig ymhlaid Gwaharddiad i'r Prifweinidog yr wythnos hon. Gobèifhio y daw lies mawr o hynny; ond ofnaf fod dwyIaw y Prifweinidog wedi eu rhwymo. Amser a ddengys. -+- Am y tro cyntaf erioed cynhelir cyfarfod blyn- yddol Senedd Ddiwinyddol Prifysgol Cymru yn y Bala ddydd lau'r wythnos nesaf. Priodol yn ddiau yw hyn gan mai Prifathraw'r Bala yw i n- f Deon Diwinyddiaeth a llywydd cymanfa'r diwin- yddion. Y diweddar Brifathraw oedd y llywydd cyntaf. Dywedir fed Prifysgol Cymru am anrhydeddu ei hun dravy ofyn i'r Parch. John Williams, Brynsiencyn, gymeryd- y radd o D.D. Gwyr pawb na wna hyn ronyn o wahaniaeth i bregeth- wr blaenaf y genedl; ond bydd yn rhywbeth -i'r Brifysgol os gwnaiff Mr. Williams gydsynio a'r cais. -+- -+- Y Inarch. E. Osborne Jones, M.A., ficer Llan- idloes, ydyw Canon trigiaanol newydd esgobaeth Bangor, Mab i'r diweddar Barch. John Jones, Abermaw, ydyw Canon Jones. Mae yn gyfieith- ydd gwych o'r Gymraeg i'r Saesneg, ac yn lienor a bardd o radd uchel. Ni chlywais ef yn pregethu; ond nid yw hyawdledd pregethwrol yn bwysig mewn canon eglwysig. Mwy pwysig yw mwyneidd-dra doethirieb a dawn i adnabod ac i drin dynion. Ac y mae Mr. Jones yn gampwr ar y grefft honno. Ac am ysmocio, nis gwn am yr un pregethwr yn y Corff nac allan o hono fedr ei guro. -+- --+; Prin y mae eglwysi Cymru yn sylweddoli pwys- igrwydd y gwersyll milwrol yn Kinmel Park. Pan ydoedd yn ganolfan y Fyddin Gymreig yr oedd llawer o swyn ac atdyniad yno. Pan ddi- orseddwyd Cymru yno, collodd ei fri. Ond cofier mai yma y mae miloedd o fechgyn deunaw oed y wlad yn cael eu hanfon, ac nid oes yn y Deyrnas wersyll pwysicach. Bum yno yn ddi- weddar, a gwelais y miloedd yn mwynhau seib- iant ar brynhawn Sadwrn, a golwg ieuanc, byw- iog, a dibrofiad arnynt. Dyma gyfle ardderchog i gewri yr holl "enw-adati. Mae yno ddynion rhagorol, a llawer yn. cynorthwyo, ond mae yno gyfle i ragor, ac i bregethwyr blaenaf Cymru. Mae Syr Harry Reichel wedi argraffu yn bamffiet ei anerchiad ar The Development of Educational Education in the 'University of Wales." -+- -+-. Dywedir fod cyfoeth a thalent yn cael eu rhoi at wasanaeth y newyddiaduron gyda'r amcan o wrthweithio yr ysbryd milwrol sydd yn prysur enniH meddiant o'r wlad. -+- -+- -+- Bu Mr. Towyn Jones, A.S., yn treulio ychydig ddyddiau yn ddiweddar yn ei hen gynefin yn Sir Aberteifi. Araf y mae ei annwyl briod yn gwella, ac y mae hynny yn achos o lawer o bryder i'r teulu. -++-+ Colled o £194 i os. fu ar weithio reilffordd Llanbedr ac-Aberaeron y flwyddyn ddiweddaf. Disgwylir y daw llwyddiant wedi y ceir heddwch, ac ar y gobaith hwn y rhaid i'r cyfranddalwyr fyw yn awr. -+- -+- Yn y Tenby Observer, awgrymir mai da fyddai i'r enwadau ymuno a'u gilydd yn ystod y rhyfel. Dywed y gallai yr Annibynwyr a'r Methodistiaid, a'r Bedyddwyr a'r Wesleyaid, ymuno. Awgrym rhagorol ond hollol anymar- ferol, oddieithr mewn rhai amgylchiadau. -+- -+- Gwr na fedr fyw heb genhadaeth yw'r Parch. R. J. Rees, M.A. Ar ollaunchio Hong y Gron- fa Gynorthwyol yn y Sasiwn, ceir ef bellach ar qriwsad drwy Sir Aberteifi dros Wasanaeth Cen- edlaethol. Fel Principal Roberts hefyd y mae bugail egniol y Tabernacl, Aberystwyth, yn un o heddgeidwaid arbennig y dref. Y nosweithiau Sadwrn cynt, bu'n cadw cyfarfodydd yn ardal- oedd Talybont a Phenygarn cyn pregethu yno ar y Sabothau. -+- Ar motor-cycles y bydd Monwysion Coleg y Bala'n arfer myned yn ol a blaen rhwng yr Ynys a thiriogaeth Tegid. Arferai Lady Huntingdon ddarpar ceffylau i efrydwyr hen Goleg, Trefecca fyned i'w cyhoeddiadau, ond byddai rhai o hen flaenoriaid Sir Aberteifi gynt yn gwrthod derbyn cenadwri'r efrydwyr hynny a ddeuent o Aberyst- wyth ar ddwyrod fore Saboth, gan eu troi yn eu holau heb gael pregethu. -+- Eglwys fechan sydd yn fyw i gynnydd a gofyn yr oes yw Tanybryn, get Aberaeron. Hyhi sydd yn cadw llusern y Corff i gynneu, ar un o lecynnau uchelaf, diffeithiaf, arfordir Ceredig- ion. Pasiwyd yno nos Saboth diweddaf i bwr- casu set o lestri cymundeb unigol at wasanaeth yr eglwys. Penderfynwyd hefyd yr un pryd i ddeisyf am i'r Cyfarfod Misol anfon cenhadau yno er ychwanegu at y blaenoriaid. Odid fawr, zn rhwng pobpeth, na welir Tanybryn eto ar y bryn,—ar fryn cynnydd a llwyddiant. Nid oes dim, bid sicr, wedi ei benderfynu eto ynglyn a'r lie y bydd Coleg y Cyfundeb y I flwyddyn nesaf, a diau y gohirir gwneud hynny byd ddiwedd yr haf, ne's gweled faint o efrydwyr fydd vn rhydd o ofynion y fyddin. Deallaf y bydd tua phymtheg o'r ugain fydd yn y Bala yn gadael ym Mehefin, ond mai ychydig yw'r galwadau hyd yma. Nid ymddengys fod dis- gwyliad mawr y bydd gweddill y ddau Goleg Cyfundebol yn y Bala y flwyddyn nesaf. Teimlir na- ddylid disgwyl i gyfeillion Aberystwyth ddyfod oddicartref am y drydedd waith, yn enwedig os bydd mwyafrif yr efrydwyr drachefn o'r De, a dywedir fod eglwysi ardal Aberyst- wyth wedi dioddef cryn lawer oddiwrth gau'r Coleg yno. Ar y llawarall, hwyrach y byddai'n drafferthus i gadw Athrofa yn Aberystwyth heb adeilad cyfleus na llyfrgell wrth law. Awgryma'r Drych' am i Gymry America gadw dalen gyntaf y CVMRO er defnyddio emyn- au Dyfed yn y gwasanaeth. Gwnant y troi yn lie llyfr hymnau newydd. -+- -+- Mewn rhai ysgolion dyddiol fe wobrwyir y plant am ladd adar tô. Rhyfedd yr arferion ddaw i mewn wrth ysgil y Rhyfel. Gwobrwyo y plant am ddifa nythod adar. bach! Ac eto mae'n debyg fod eisiau gwneud peth fel hyn. Gwelaf fod Syr Owen Edwards yn condemnio cyfundrefn y Safonau yn yr Ysgol Sabothol. Ei chymryd a wnaed o'r ysgol feunyddiol, lie y mae wedi bod yn fethiant er ys llawer o amser. -+- -+- Mae tri o flaenoriaid Methodist yn Nolgellau yn ymryson am yr hynaf,—un yn 95, a dau yn 85. Yng nghyfarfod Coleg Aberystwyth y dydd o'r blaen yr oedd tri yn cystadlu am fod yr efryd- ydd hynaf y Coleg oedd yn y cyfarfod. "-Myfi yw yr hynaf o'r efrydwyr sydd yma," ebai Principal Roberts. Na, ebai Mr. D. C. Roberts, "yr wyf fi yn hynach na chwi." Myfi yw yr hynaf oil," ebai Mr. Evan Evans, a ninnau wrth wrando yn mwynhau swyn sy'n perthyn i fynd yn hen. -+- -+- -+- Traddododd Mr. Jenkin James, M.A., Aber- ystwyth, anerchiad' i Gyngor yr Eglwysi Rhydd yn y dref honno ar Addysg Ddiwinyddol a'r Colegau Cenedlaethol. Mae Mr. James o blaid dwyn diwinyddiaeth i mewn i'r Colegau Cenedl- aethol, ac y mae am baratoi ymgeiswyr am y weinidogaeth tuallan i gulni a rhagfarn enwad- aeth. Ai tybed na chlywodd Mr. James am gulni a rhagfarn colegau heblaw y rhai enwadol t Os yw am gael y bechgyn o afael y pethau hyn, gwell trefnu Coleg yn un o'r planedau sydd y tuallan i gylch y gyfundrefn heulog. -+- Rhyfedd cynifer o athrawon o'r Deheudir sydd yn gwasanaethu yn y Bala, er mai digon naturiol yr ymddengys hynny, ond cofio mai dyfodiad oedd Thomas Charles a Lewis Ed- wards. Heblaw'r Prifathro Owen Prys, M.A., sydd o'r un ardal a Dr. Lewis Edwards, a'r Proffeswyr Phillips a Young Evans (y ddau o Sir Forgannwg), gellir crybwyll Mr. Price, prif- athro Ysgol y Cyngor (nai i'r cerddor enwog o Went, Mr. Tom Price, gynt o Rymni), a dau athraw a dwy athrawes yn yr Ysgol Sirol, sef y Parch. T. Evans, M.A., B.D. (brodor o'r Pen- tre, Ystrad Rhondda, un o'r enwocaf o efryd- wyr Trefecca, ac athraw yn Adran y Bala am, flynyddoedd), a Mr. Salmon, B.A., Pontar- dawe; Miss, David, Pontypridd; a Miss Davies, Llanelli. -+- -+- -+- Cyfarfu Ilys Coleg Aberystwyth yn Nolgellau ddydd Gwener, dan lywyddiaeth Mr. D. C. Roberts. Yn ei adroddiad cyfeiriodd Principal Roberts at amryw gwestiynau pwyBig yn y cyf- nod yma,—cysylltiad y Coleg: a'r ysgolion, para- toi llyfrgellwyr, trin tir, a dathliad jiwbili y Coleg. Datganwyd llawenydd am fod yr Athro Lewis yn parhau ymlaen am flwyddyn eto er yn meddu hawl i flwydd-dal. Dywedwyd geiriau caredig iawn am ei wasanaeth a'i ddylanwad. Ynglyn a'r bwriad i ddathlu y jiwbili, dywedodd y Parch. J. Gwynoro Davies y dylid manteisio ar hYll i barchu coffadwriaeth Principal Edwards, a chefnogwyd yr awgrym fel un o'r amcanion mewn golwg gan Principal Roberts. Cafodd cwestiwn o drin tir lawer o sylw, a dy- wedwyd fod yr athrawon a'r disgyblion yn gwneud eu rhan, ac hefyd fod yr adran amaeth- yddol yn barod i roi pob help i eraill sydd mewn angen hyfForddiant. Nid oes gennyf le i fanylu ar y cyfarfodydd ymhellach na dweyd fod golwg iach a bywiog ar y sefydliad yn ei holl gysyllt- iadau