Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. ———— CANU YN Y NOS. Tymhestlog ydyw bywyd, Anwadal fel y mor; Ond yn i was a'i wynfyd, Yr un wyt Ti, fy lor; Yng nghanol cyfyngderau, Wrth gOfiOi Calfari, Llinynnaf orthrymderau Yii delyil lawn i Ti'. Ti aethost, lesu tirioii, I'r t'w'llwch o fy mlaen; A gwelaf yno olion Dy waed ar lawer maen; Anturiaf drwy beryglon, A chanaf yn y Ili; Cynefin i angylion Yw'r ffordd a gerddaist Ti. Ar hyd y llethrau geirwon, Di'iynaf ol Dy droed; Yn ffordd yr addewidion, Ni chollwyd neb erioed; Er fod y niwl yn haenau, Yn cuddio llawer ffos, Diblchaf am destynau I ganu yn y nos. DYFED. ,— » i— Dygir all an argraffiad arbennig ar gyfer Cymru o lyfr newydd Mr. Arthur Mee, The Fiddlers," gan yr awdwr a'r Parch. Gwilym Davies, M.A., Abergafenni. -+-- Mae'n ddigon hawdd gweld oddiwrth adrodd- iad y Brython nad oes neb o bwys yn byw yn Liverpool and pobl Sir Feirionydd. Am un r noswaith.o leiaf bu raitd i bobl Mon fynd o'r --+- golwg. I Costiodd gwaith dwfr Caerdydd yn Llwynon, Sir Frycheiniog, ddau can' mil o bunnau. Dyna swm y cytundeb. Gofynai y contractors am £ i2,388 am y pethau dros ben. Aed i gyfraith, a'r contractors enillodd. ■—4 1 0 dan yMesur newydd i ddiwygio'r ethol- fraint ac addrefnu'r gynrychiolaeth, colla bwrdeisdrefi Arfon eu haelod, Ar y llaw arall, bydd Caerdydd yn cael tri aelod, a sonir y bydd y ddinas honno yn barod i roi sedd i Mr. Lloyd George. Galwyd sylw mewn amryw gyfarfodydd yn ddiweddar at y dieithriwch sy'n bod rhwng Coleg y Gogledd a'r werin. Coleg Aberystwyth yn unig fu.'n eilun y bobl, a rhaid i'r awdurdodau fodar e eu gwyliadwriaeth neu bydd yntau fel y dywedir fod Coleg Bangor. —-♦—\ Penderfynodd PVyllgor Addysg Sir F flint beidio derbyn cynnyg Undeb yr Eglwysi Rhydd i' roi gweinidogion yn athrawon cynorthwyol ar ysgolion elfennol. Paham, tybed? Dywedwyd yn y Pwyllgor fod rhieni yn colli pob rheolaeth ar y plant, ac eto gwrthodir y cyfle i osod athrawon mwy profiadal yn yr ysgolion. --+-I Dywedir fed Ceredigion i gael cawod lled: drom o ynadon lied,dwch. Ysgrifennodd yr ¡' Arglwydd Raglaw at nifer luosog o frodyr i ofyn a oeddynt yn barod i weithredu. A chyda hunanaberth teilwng o'r amseroedd, maent oil wedr addaw gwneud eu goreu er yn ystyried eu bod yn hynod o annheilwng o'r alwad. Brawddeg. dewis" blaenoriaid yw lionno, ond mae'n ffitio'n rhagorol, oblegid mae nifer luosoc- af o'r rhai alwyd yn ystusiaid eisoes wedi eu hethol yn flaenoriaid. Ar wahoddiad rheithor y plwyf, bu y Parch. Owen Foulkes, Bettws, yn pregethu yn eglwys Bettws yn Rhos. Dyna help pwysig i'r Mil- flwyddiant. -+ —, Cwynir yn gyffi-edinol nad oes fawr o ddarllen ar lyfrau da y blynyddoedd hyn, and dywedir fod eithriad i bob rheol. Cychwynwyd lai na blwyddyn yn ol roi allan o'r chwe' chant llyfrau sylweddol perthynol i eglwys St. David's, Pont- ypridd, ac y mae eisoes dros 1,600 wedi eu rhoi' ar fenthyg. Y gweinidog, y Parch. J. D. Evans, M.A., oedd yn gyfrifol am gasglu y llyfrau, rhaid o ganlyniad eu bod yn rhai da. —1 —j Crybwylla gohebydd mewn llythyr ataf nad oes neb wedi sylwi mai y Parch. John Williams, Brynsiencyn, yw yr unig un o weimdogion y M.C. yn y Gogledd i wisgo'r teitl o D.D. Male amryw ddoctoriaid yn y De, yr oil wedi derbyn eu graddau o America. Gofyna y gohebydd, hefyd, a ydyw awdurdodau Prifysgol Cymru ddim yn gwybod' am wasanaeth amhrisiadwy y Parch. John Morgan Jones, Caerdydd, i grefydd, llenyddiaeth, ac addysg? Nid oes neb yng Nghymru yn fwy haeddiannol o unrhyw an- rhydedd ag y gall y Brifysgol ei estyn. 4 Dyddoroil i Fethodistiaid Calfinaidd Cymru fydd cael ychydig o fanylion am y digwyddiadau pwysig sydd yn myned ymlaen ar eu Maes Cen- hadol yn India. Tra y mae y Cyfeisteddfod Cenhadol yn Liverpool yn llawn pryder ynghylch y Genhadaeth, y mae miloedd o deuluoedd ar y maes yng nghanol berw symudiad dynion i gyn- orthwyo y Cynghreiriaid gyda'r Rhyfel. ——» Er ys rhagor na mis cychwynodd tua mil o Fryniau Khasia i gynorthwyo gyda gwneud ffyrdd, dadlwytho llongau, &c. Mae'r profiad yn un newydd iawn iddynt, gan nad yw neb o honynt wedi gweld llong erioed. Yn dilyn aeth mil arall. Yn eu plith yr oedd cannoedd o Fethodistiaid Calfinaidd, dau o weinidogion, a rhai blaenoriaid. Y gweinidogion oeddynt y Parch. D. S. Davies, Shangpoong, a'r Parch. U Shai Rabu, Sohka. Addewir pob cyfleustra i'r cyfeillion hyn i ofalu am les ysbrydol y Cristion- ogion sydd yn myned allan. —^ Mewn llythyrau a dderbyniais gyda.'r mail di- weddaf o India, ad'roddir am y golygfeydd a welwyd pan y cychwynai y minteioedd,—rhieni yn galaru ar ol eu plant, a gwragedd a phlant yn galaru ar ol eu giqr a'u tadau, gan ofni na chaent eu gweled mwy! Mor debyg i'r hyn sydd yn gynefin mewn cannoedd o drefi yn y wlad hon! Mae llawer o'r Khasiaid yn myned allan o'u gwirfodd, ac eraill yn cael eu hanner gorfodi gan y man-frenhinoedd sydd yn llywodraethu y rhannau hynny o'r wlad. Bydd dwy fil arall yn i dyfodo Fryniau Lushai, a'r Parch. D, E. Jones gyda hwy. -+-4 Bydd ar Gyfandir Ewrop Fethodistiaid Calfin- aidd o Fryniau Naga a Manipur, a Bedyddwyr hefyd. Y cenhadwr gyda'r Bedyddwyr sydd gyda'r fintai hon. Ni ryfeddwn glywed fod yno Gymanfa fawr yn cael ei chynnal,-Cymanfa Gyffredinol y Genhadaeth! -+--1 Cyfeiriais yn gynnil at y mateiion, hyn amryw weithiau o'r blaen yn y golofn hon. Beth fydd effaith y pethau hyn oil ar ddyfodol y gwaith cenhadol? A ydyw crefydd y Khasi yn debyg o ddal y prawf roddir ami yn awr? Nid yng Nghymru yn unig y trowyd awrlais crefydd yn ol gan y rhyferthwy mawr! Mae gwaith oesau yn .cael ei ddifa. ¡I Mae'r oil o adeiladau. Llyfrgell Gn2dIaetn Cymru wedi; eu gorffen, hynny yw yr hyn y cyt- I' unwyd arno, a'r gost yn ^110,563. ♦-—1' Os myn rhywun gael gwledd i'w feddwl a'i galon pwrcased y Lladmerydd am y mis hwn," felly yr ysgrifenna un o'n gohebwyr. Anodd dychmygu am well arlwy. Ceir y cynorthwy gwerthfawr arferol gan y Golygwyr i ddeiliaid yr Ysgol Sul; yn ychwanegol ceir ysgrifau gwych gan y Parchn. J. Morgan Jones, T. R. Jones, Gwynoro Davies, David Williams, Treherbert, a Mr. G. Williams, Nazareth, a'r oil am ddwy geiniog. Pa le y ceir darpariaeth gyffelyb am bris mor rad ? ——I Mae gweinidogion ordeiniedig yn y Sixties yng Nghyfundeb y Methodistiaid yn prysur golli o'n plith. Un am bob blwyddyn o'r deg sy'n aros, gydag un D.D. yn uwchaf, a D. D. arall yn olaf. Dyma'r rhestr: Dr. Thomas, Llanymddyfri, 1861; William Evans, M.A., Lewis Ellis, a J. H. Symond, 1863 Morris Morgan, 1865; Dd. Williams, Llanwnda, a W. Foulkes, Llangollen, 1866; Owen Evans ac R. L. Roose, 1868; Dr. Cynddylan Jones, 1869. ——i Dywed un o ohebwyr Y Deyrnas fod y diafol, pan trowyd ef allan 0 Rwsia,, wedi casglu ei gelfi ac wedi' ymsefydlu yn swyddfeydd y Gorfforaeth yng Nghaerdydd, ac wedi cychwyn ar ei waith ar unwaith mewn erledigaeth grefydd- ol yn erbyn yr athrawon yno. Ai nid yw y gohebydd yn dweyd gormod f A barnu wrth yr arwyddioai, y mae'r Gwr Du mor gryf ei ddylan- wad yn Rwsia heddyw ag erioed., Rhaid mai un o'r is swyddogioiT a ddanfonwyd i Gaerdydd. —1 Da y gwna'r blaenoriaid yng nghylchoedd rhai o'r Cyfarfodydd Misol gyfarfod a'u gilydd er ceisio trefnu rhyw fodd i gyfyngu maes y weini- 'I dogaeth, a chael' y pregethwyr i bregethu yn agosach i'w cartrefi ar y Sabothau, fel ag i ''9 in arbed costau teithib. Yn hyn y maent yn llygaid eu lie, ond da fyddai i rywrai sydd yn flaenllaw gyda symudiadau o'r fath hefyd geisio arwain eu heglwysi i ychwanegu.ychydig ar eu cydnabyddiaeth Sabothol, canys y mae nifer o eglwysi cryfion eto heb symud dim ymlaen. —' Bwriada Cyngor Eglwysi Rhydd Canolbarth Cymru gael cyfres o Gynhadleddau i ystyried y cwestiynau fydd yn bwysig pan fydd y rhyfel drosodd. Rhagorol yn ddiau. Ond a yw y cyfeillion yn sylweddoli fod yr eglwysi yn marw yn gyflym ? Mae miloedd o fechgyn Cymru yn awr yn gadael cartref ac yn wynebu holl beryglon bywyd milwrol. Beth sydd yn cael ei wneud i ofalu am danynt t Dim. Dyna'r gwir. Nid oes ond ychydig iawn o eglwysi yn cymryd sylw difrifol o'r mater hwn sydd yn awr yn bwysig. Caraswn glywed anerchiad gan y ¡ Parch. Stephen George, B.A., ar yr, agwedd hon o ddyledswydd yr eglwys. Mae efe yn wr sydd yn fyw i-i, gwirionedd presennol. —— Mae Adroddiad BIynyddol Eglwys y M.C. yn Capel Seion, Llanrwst, am y flwyddyn yn di- weddu Rhagfyr 31, 1916," yn bamftlet o werth weddu Rhagfyr 31, 1916," yn bamftlet o werth hanesyddol. Heblaw ei fod yn cynnwys hanes blwyddyn weithgar mewn eglwys fywiog, sydd' dan ofal bugeiliol y Parch. William Thomas, ceir ynddo bennod arall o hanes yr hen flaenor- iaid gan Mr. W. Williams, P'lasllecheiddior. Mae i Lanrwst le pwysig yn hanes llenyddiaetli I Cymru, ac y mae popeth deifl olwg ar yr hen ¡ drigolion yn werthfawr i bawb sv'n caru son am Gymru Fu. Mae Mr. Williams yn efrydu hanes lleol yn fanwl, a dengys y bennod sydd yn yr adroddiad hwn. ei fod yn adeiladu cyfrol bwysig. Gallai llawer blaenor ddilyn esiampl Mr. I Williams.