Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
1 erthygl ar y dudalen hon
NODION CYMREIG

NODION CYMREIG. GWLAD WELL. ,.Ivlae'r hin, O! Dduw'n dymhestlog ac' yn flin, A llenni'r nos yn cuddio'r ffirt; Dy ddwyfol rin yw nerth fy ffydd, A'r gras a'm daliodd hyd yn hyn, A dry y glvri- yn oleu ddydd. Daw, daw Y tir dymunol rnaes o law I'r golwg, dros y gorwel draw; Fe dderfydd braw y storm a'i rhu, A daw y nef i f'enaid gwan, Cyn cyrraedd glan yr afon ddu. or gad Im'- glywed; swn caniadau'r wlad, LlaVenydd hyfryd Ty fy Nhad; Mae newydd stadi yn 01 i mi, Lie tyf tragwyddol gnwcl o hedd, Yn siriol wedd Dy wyneb Di. Ni fedd Fy enaid tlawd felysach gwledd, Na'r Iesu mawr a'i nefol hedd; Fe dry Ei wedd ofidiau f'oes Yn foliant ar ycreigiaiU serth, A chaf Ei nerth. i gario'r groes. DYFED. [ Mae'r Parch. D. M. Richards, Utica, yn myned igymryd gofal eglwys y M.C. yn New c { York fel olynydd i Dr. Joseph Roberts, golyg- j ydd y Cyfaill.' Un o arwyddion yr amseroedd ydyw fod, cri am ragor o athrawiaethau o'r pulpud ymhlith yr Annibynwyr. Gwelais amTyw lythyrau yn cwyno fod y gwirioneddaiu mawr yn cael eu hanghofio. ■■ ♦ Clywais i eneth ieuanc adrodd emyn Nadolig Dyfed o'r CYMRO olaf am 1917 yng nghapel yr Annibynwyr yn Widties nos Nadtollg, ac i was j fferm wneud yr un peth1 mewn capel ar lethr un o fannau Brycheiniog yr un noson. Tra yn son am gynhildeb ynglyn a cha,rio,"r achos ymlaen, awgrymodd rhyw frawd cybydd- w lyd y gallesid arbed: gloi pe cawsid mwy o dan yn y pulpud. Atebodd y bugail y buasai rhagor o gydymdeimlad yn y seti yn ateb yr un pwrpas. .— Bydd horn yn flwyddyn. i'w chofio yn hanes personiaid yr Eglwys Sefydledig oherwydd fod y degwm yn uwch nag y bu er ys agos i ddeugain mlynedd. Bydd pob ^109 yn codi yn £ 109 3s. iic., a hynny yn JQIJ 2s. iofc. y cant yn fwy na,r Ilynedd. ■■ Gwneir ymdrech neilltuol drwy boll gylch C.M. Dyffryn Conwy i greu mwy o sel ac ym- roddiad gyda'r Ysgol Sul. Mae hyn eisoes wedi profi yn adnewyddiad amlwg mewn ihai ysgolion. Beth bynnag arall ag y mae amheu- aeth yn ei gylch, dyma1 un sefydliad ag y mae mwy o le iddo a mwy o angen am danoi nag a fu erioed. ——- Dymuna Golygydd y CYMRO gydnabod gyda diolchgarwch y lluaws llythyrau a. dderbyniodd ax ddechreu y flwyddyn yn llongyfarch ar lwydd- iant y papur, &c. Da.gennym hysbysu fod y cylchrediad1 wedi cynhyddu llawer o gannoedd er y Nadolig, ac yn parhtau i fyned rhagddo. Er eia bod wedi derbyn rhybudd nad oes ond dwy ) ran o d'air o'r papur a gafwyd y Ilynedd i'w gael eleni, bwriedir cario ymlaen hyd y mac modd heb leihad ynrhify tUQalennau ond \n achlysurol. Os nad ydym yn mynd i wneud mwy o ddefnydd o'n Beibl, ofer codi eglwysi. Byddwn yn meddwl mwy o'r capelau a'r eglwysi nag o'r Beiblua mwy o'r ddau nag o Grist. Ai nid dyna Babyddiaeth ? Dyna air amserol o lyfr diweddaf Dr. FOirsyth, The Church and the Sacraments." > '♦ ;■ Gwelaf fodi y Parch1. Stephen George, B.A., air gais Pwyllgoir y Milwyr, wedii codi cor yn Llandrindod i ganu carolau, ac iddynt yn y i ffordd hon gael casgliad o dros ^20. Canmolir y cor a'r arweinydd, a dywed-iir fodi y symudiad wedi rhoi bywyd newydd yn Llandrindod tua'r Nadolig. Mae'r syniad yn un newydd', a gallai fod yn ddefnyddiol mewn llawer cylch. Effeithiodd y rhyfel yn drymach ac yn gyf- lymach ar y llythyrdy nag odid! sefydliadi yn y wlad. Clywiir cwyno o bob cyfeiriad oherwydd diweddarwch a diofalwch. Da gweld rhannau o 'Gymru yn galw sylw'r awdurdodau at hyn. Tybia rhai fod! y Irhyfel yn ddigo-n, o esgus'dros bob esgeulustra a marweidd-dra, ac y mae'n hen bryd ysgwyd tipyn ar yr awdurdbdau. ,—— Pasiodd Cyngrair Eglwysi Rhydldion Gor- llewin Cymru benderfyniadau yn cymeradwyo polisi y CYMRO air gwestiynau y Gwrthwynebwyr Cydwybodol, Y Fasnach Feddwol, a Dadwadd- oliad. Ar y cwestiynau hyn mae Cymru ymron yn unllais, ond rhaid palra i athrawiaethu. Nid arian sydd yn yn'd i gario'r dydd, ond rhaid dal ati, canys pan aeth y dyn i gysgu yr hauwyd efrau. ♦ Ein Gohebydd fFyddlon o Sir Fflint, wrth adrodd hanes cenhadaetb, a ddywed: Er fod y cenhadwr yn un o'r hoelion wyth, nid oedd ond ychydig yn ei wrando. Y mae y cyfarfod- ydd a elwir yn "foddiion gras' wedi myn'd yn llythyren farw." Gwir. Ond beth wneir? Onid dal ati drwy bob digalondid, a phender- fynu beth bynnag a ddigwyddo y bydd y ffydd- loniaid yn gwylio pa bryd bynnag y daw'r Priodfab., Mae'r Parch. J. T. Rhys, Llundain, yn gofyn t'r Parch. Thomas; Powell, ysgrifennydd Pwyllgor Dirwest y M.C. yn y De, pwy soniodd am roi swm aruthrol 0" arian y wlad 1 brvnu'r Fasnach. A ydyw Mr. Rhys wedi darllen arjtith Syr William B. Peal, cadeirydd cwmni Samuel Ailsopp ? -Os ydyw, hoffwn. gael ei esboniad ef ar yr araith honnot, 0 ba le y mae'r bragwyr yn meddwl fod y Llywodraeth i gael/ arian i brynu'r Fasnach? | Anrhydeddtr ei hun yr oedd1 Caernarfon drwy roii rhyddfreiniad y dref i Mr. Owen Jones, Glanbeun,o,tvr sy'n adnabyddus iawn drwy'r wlad ac mor barchus ag ydyw o adnab- yddbs. Cwrddais a Mr. Jones yn nhawelwch ei hen gartref yn ardal Penycaerau, a chlywais yn Lerpwl a Chaemarfon am ei garedigrwydd a'i haelioni. Mr. Lloyd George ag yntau yn unig sy'n fyw o'r rhai yr estynwyd anrhydedd uwchaf tref Caemarfon iddynt. ♦ ■" Cyfeiria amryw adolygwyr at yffaith nad yw Arglwydd Morley yn crybwyll enw Mr. D. Lloyd George yn ei Atgofion. Un 0 wendidau dynion mawr ydyw hyriny. Gwelir yr un peth ym Mywyd: Gladstone gan yr un awdwr. Tybia dynion mawr ei fod yn arwydd o fawredd eu bod yn anwybyddu rhai! a ystyriant hwy yn fach, neu yn llai. Aristocrat llenyddol yw Arglwydd Morley, yn- byw mewn castell, ac yn bur ofalus pwy gaiff ddod i'w lys. Snobyddiaeth llenydd- ol sydd enw arall air y peth. Ond mae enw'r Cymro o Griccieth eisoes wedi ei gerfio yn ddyfnach yn y graig nag enw John Morley. Mae Mr. Llewelyn Williams, A.S., yn rhoi herr i Esgob Tyddewi i roi'r cwestiwn mewn dadl ynglyn a gwaddol yr Eglwys Gymreig i actuary er mwyn penderfynu pwy sy'n iawn. Dyna ffordd hollol deg, a dylai yr Esgob gyd- synio. Os yr Esgob sydd yn iawn, fe dal Mr. Llewelyn Williams y gost, ac os fel arall yr Esgob i dalu. Dyna rywbeth tebyg i fusnes. ♦ Un o'r pethau nad yw dynion mawr yn deall nemawr yn ei gylch ydyw cylchrediad papur newydd. Meddsyliwch am awdurdodau y Church Times' yn, canu clod cylchrediad- a 52,749, ac ystyrrid hynny yn rhagorol. Ondi mae i'r Christian Herald gylchrediadi o 300,000 bob wythnos, ai dywed John Bull'. fed ganddo ef gylchrediad o 1,728,495 ar j; cyntaf o Dachwedd diweddaf! Faint yw dy- lanwad y papurau hyn ar y wlad? Awgryma Mr. Jeffrey Jones, Y.H., Llandrin- dod, fod League of Honour i gael ei godi ymhob eglwys i-amddiffyn y bugail. Os dywed neb air yn erbyn y gweinidog fod y frawdoliaeth yma yn sefyll i fyny drosto, ac i'w gefnogi gydat chydymdeimlad' a gweddi. Nid oes amheuaeth na wnelai undeb fel yna les mewn llawer lie. Yr un rhai welir yn codi yn erbyn y bugail bob amser, pwy bynnag fyddo. Onid ellidy hefyd, cael League of Honour o blith y chwiorydd i arnddiffyn) gwraig y bugail? Clywais mai dull rhai blaenoriaid i gael gwared o'u bugail ydyw gosod eu gwragedd i gorniogwraig y bugail. League of Honour am dan! Llongyfarchiadau i Syr John Morris Jones! Dywedodd Mr. Shankland flynyddoedd yn ol fod yn anodd cael gwell teip o wir Gymro a gwir garwr y Cymry na'r athro mawr o Fangor, a bod nodweddion goreu ei oes wedi cyfarfod ynddo. Dyna fel y mae pawb o'i ddisgyblion yn siarad am Syr John, ac ychydig sydd yng Nghymru erbyn hyn nad ydynt yn galw eu hunain yn ddisgyblion iddo. Mae'r anrhydedd wedi dyfod yn ddigom cynnar i'r teitl newydd asio a'i enw- Nid yw ond ychydig dros 53 mlwÿdd oed, ac yn para i edrych yn ieuanc. Pan welaisei enw gyntaf, ysgrifennu i'r Herald Cymraeg yr oedd, ond nid; yw cynhyrchion y dyddiau hynny yn ei gyfrol! Wedi hynny, clywais fy hen athraw, yr Esgob Lloyd, yn son am dano, a chyn hir gwelais ei hanes yn ennill ysgoloriaetb yn Rhydychen. Mae er 1889 ym Ma-ngor, ac wedi eyhoeddi ei Ramadeg a llawer cyfrol arall. Cydnabyddir ef yr awdurdod ucha'f ar gwestiynau ynglyn a'r iaith, a dy- wedir fod pawb sydd yn ei' adnabod yn credu ynddo. Sonir cryn lawer am Ymreolaeth i Gymru ac am Blaid Gymreig yn y' Welsh Outlook am Ionawr. Sonia'r golygydd am Blaid Annibyn- nol Gymreig,' a chyfeiria at hanes Mr. Tom Ellis a Mr. Lloyd George yn cymdeithasB a Mr. Michael Davitt. Ond, gwyr y golygydd cystal a neb fod plaid Gymreig yni ddrychfeddwl am- hosibl. Beth am y Prif Weinidog? A Mr. Herbert Lewis? Cyn y gellir cael plaid annib- ynnol, a raid iddynt hwy roi eu swyddi i fynyl Gwyr pawb nad oes un gronyn o obaith i Uil1.i- rhyw un o'r aelodau Cymreig gael cymaint a chasglu'r briwsion sy'n disgyn oddiar fwrdd_ y Llywodraeth os na bydd yni deyrngaroli i'r NVeinyddioeth. Ac fe sonia; Major David Davies am rywbeth tebyg yn ei erthygl ragorol ar Gyngrair rhwng Cenhedloedd y Byd. Creu plaid Gymreig, ynr 01\ syniad Major David Davies, yw'r cam. cyntaf er rhoi mynegiant a grym i feddwl a: dyheadau Cymru. Plaid Gym- reig! Ni welwyd er pan ddaeth Noah o'r arch lai o unrhywiaeth rhwng corff pairchlis o ddyn- ion ag sydd rhwng yr aelodau Cymreig.