Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
18 erthygl ar y dudalen hon
TACHWEDD HEG

TACHWEDD HEG. Beth yw'r clychau glywa'i'n cariu ? Beth yw'r s*n sydd yn y g,vvi-it ? Beth yw'r miwuig peraidd glywir Alexis yn y dyddiau gynt? Heddwch! Heddwch, I wedi gwawrio Ar ol rhyfel creulon, cas, Duw ddychwelodd ein caethiwed, Duw a'n cofiodd yn Ei ras. Beth yw'r cyffro sy' drwy'r gwled- ydd ? Beth yw'r cynnwrf sy'n y byd? Plamt mae'r rhai fu gynt mewn tristwch 'Nawr a'u gwedd yn wen i gyd? Ileuiwen heddwch a lewyrchodd \lVedi'r hir ddrycinog nos; Pwy all beidio llawenychu Dan weniadau'r wawrddydd dlos ? Nychu 'roedd y byd yn araf 0 dan ormes rhyfel bUn, Ac yn gwywo dan awelon Oerion, ryw aeafol hin Ond daeth heddwch fel y gwan- wyn 1 adfywio bryn a dol, Gan wasgaru blodau hyfryd, Hedd a chariad ar ei ol. Drylliwyd bwa y rhyfelwyr, Torvvyd grym y gwaewffyn, Llosgwyd y cerbydau tanllyd; Hen addewid Duw yw hyn. 'Nawr mae heddwch yn teyrnasu, Baner rhyddid ar bob bryn. Cofiwn yn yr- oriau dedwydd Roddi'r clod i Dd'uw am hyn. Nid'i ni y mae'r gogoniant Am derfynu'r rhyfel blin, A dwyn heddwch tawel, hyfryd, Allan o'r eirchyllaf drin; Ond i'w enw gogoneddus, Ei ddoethineb Ef, a'i ras, Y mae'r clod fyth yn ddyledus Am orchfygu'r gelyn cas. Diolch iti, Arglwyd'd grasol, Am gyfryngu ar ein rhan, A rhoi heddwch i'r teiyrnasoedd, A thangnefedd ymhob man Nid ein braich ein hun a'n cad- wodd; Nid ein grym enillodd hed'd; D'allu Di a'th ddirgel gyngor Wnaeth i'r byd frys-weinio'r cledd. Arglwydd, d'rysa Di gynghorion Rhai sy'n hoff o ryfel syn, A dod wasgfa ar ol gwasgfa Ar dyrfa groch y gwaewffyn. Gwawried dyd'd pan ddarffo rhyfel Erch gelanedd, trais, a brad. Pan bo heddwch fel brenhines Yn teyrnasu ar bob gwlad.-

No title

Yn Tippera Hills, un o faesydd y Thado-Kookie Mission, bedydd- iwyd yn ddiweddar tua 300 o'r brodorion, ac y mile lwyddiant neilltuol ar bregethiad yr Efengyl yno. Mae Dr. a Mrs. Eraser ar eu ffordd i'r wlad hon 00 India, a dis- gwylir iddynt gyrraedd tua dech- reu y mis hwn.

No title

Ar ol siarad yn Aberystwyth aeth Mr. Asquith drwy Langurig y 0 i Landrindod, a threuliodd y noson yn y Pump House Hotel ar ei ffordd adref.

No title

Terfynodd yr ymchwiliad 1 achos Miss Douglas Pennant ddydd Mawrth, ond caiff Lady Rhondda roi tystiolaeth wedi iddi gyrraedd adref 00 Canada. Ni ddaw adroddiad y pwyllgor am beth amser.

No title

Ai tybed nad oes gormod. o brysurdeb gyda niewid swyddog- ion y Llywodraeth yng; Nghym- ru ? Mae dyniQn yn rhedeg .yn ol a blaen o'r naill swydd i'r llall gyda gormod O1 gyflymder i allu deall eu gwaith yn iawn.

No title

Gwahoddir v Parch. H. Elfed Lewis, M.A., i fyned i Madagas- car y flwyddyn nesaf i gyfarfod- ydd dathliad y gwaith cenhadol yn yr ynys ynglyn a Chymdeithas Genhad'ol Llundain. Dvlai fod yno Gymrb, ac nis gellir cael neb gwell nag Elfed.

No title

Mae dyfodol Gwlad Canaan yn fater y cymerir diddordeb mawr ynddo yng Nghvmru. Cwestiwn dyrus iawn ydyw, ac wedi clirio'r Twrc allan, nid yw yr anhawster- au ond yn dechreu. Mae Ffrainc yn chwerwi, ac yn erbyn cael gwerin-lyw odraeth o Iddewon.

No title

Mor bell rt y gallaf wel'd oddi wrth y papurau dvddiol ni ddartu i Gymdeithasfa'r Method istia id basio y penderfvniad yn erbyn y Prize Bonds. Onid da fuasai i'r Gymdeithasfa roi arweiniad i'r wlad gyda mater mor bwysig? Mae arvveinwyr Plaid Llafur wedi gwneud hynny yn ddigam- syniol.

No title

Dywed'odd Mr. Frederick Mills, cad'eirydd yr Ebbw Vale Steel, Iron & Coal Co., fod yn gweithio dan y cwmni lovvyr sy'n ennill dros fil o bunnau y flwyddyn. Nid rhyfedd felly clywed am eglwys sydd ag ynddi wyth o Z, I deuluoedd yn ennill bob un dros ;cll,200 y flwyddyn, ac y mae'r bugail yn derbyn ^180.

No title

Pan y mae o gwmpas afiechyd, fel y 'pneumonia,' ag y tybia meddygon ei fod yn heinous mae'r Patagoniaid yn cael eu cadw ar wahan er ceisio lladd yr haint. Araf ydyrn ni yn y wlad hon i ymyryd a rhvddid dynion. Gwell g-ennyml iddynt farw yn greaduriaid rhydd na'u rhoi mewn llyffetheiriau er eu cadw"n iach. Mae eglwys Charing Cross Road wedi casglu £2,369 16s. at ddiddyledu'r capel, ac y maent yn dal i gasglu.

No title

,Hysbysir nad oes dim un o'r llyfrau emynau fflat mewn stoc gan lyfrfa un o'r enwadau. Da iawn. Peth mawr iawn yw cael gwared o'r emynau fflat o r moddion.

No title

Yn y Gymraes dechreua'r Parch. W. Hobley., Waenfawr, adrodd hanes Dirwest yng gh, n N ghaernarfon,pennod diddorol anghyffredin, yn cychwyn gyda John Elias a Williams o'r Wern.

No title

Yn 1918 casglwyd C163 17s. yng nghapel y Wesley aid, Llan- 0 drindod. Yn 1919 mae'r cyfan- Is, swm eisoes yn £ 324 r is. Clywais fod eglwysi dau enwad arall yn cwyno mai crintachlyd iawn oed 1 yr ymwelwyr,—ar y Saboth.

No title

Yn ol y Daily Telegraph, bwriedir rhoddi cyfres o gYG- herddau ac Eisted'dfodau yn Xe- heudir Cymiru gan .Syndicate o Lundain. Ni fydd lie yn y rhag- len i'r "ineistriaid clasurol." Dim ond cyfansoddwyr diweddar gyhrychiolir. Tebig y ceir mwy o'r. manylion heb fod yn hir.

No title

Llyfr sy'n tynnu llawer iawn J sylw ydyw "A Private in the Guards," gan Stephen Graham. Hona'r awdur fod y llyfr yn des- grifio'r modd y disgyblir newydd- ian yn y gatrawd hon, ac y mae'n rhyfedd o debyg i'r adroddiadau a gly wais ° gyfeiriadau eraill gan fechgyn o Gymru. Iechyd fuasai cael adroddiadau cywir a gonest am yr hyn yr aeth ami i Gymro .d drwyddo yn y fyddin.

No title

Ysgrifenna'r Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd, atgofion am ganu a cherddo-rion i'r Cerdd- or." Mae'n amlwg fod yr hy- barch weinidog wedi bod yn gryn dipyn o gerddor, a bod i gyngerdd ac eisteddfod gryn swyn iddo. Clywais un o blant 'athrylithgar Pantyrhedydd yn dweyd fod pob dyn. mawr wedi cychwyn gyda cherddoriaeth, a nododd eng- hraifft i brofi fod Dr. Edwards yn gwybod nawy nag ef am fiwsig. Dyma enghraifft arall yn Mr. J. Morgan Jones.

No title

Mae'r Parch. George Thomas. B,A., Good wick, wedi ei benodi yn ysgrifennydd a thrysorydd pwyllgor. pensiwns Sir Gaer- fyrddin. Efe'n fab i Mr. Thomas Thomas, Official Receiver, Caer- fyrddin, cychwynodd ei yrfa fel cyfreithiwr, graddiodd yn. Rhyd- ychen, a datblygodd yn breigeth- wr a bugail. Pan dorrodd y rhyfel allan aeth allan yn filwr cyffredin, a dringodd nes. bod yn mtajor, a bu vng nghaniol y brwydrau poethaf. Mae yn awr wedi dyfod adref, ac yn rhoi'r fugeiliaeth i fyny.

PERSONOL

PERSONOL. A wna cyfeillion sylwi mai dyma gyfeiriad y Parch. E. Llewelyn Williams, B.A.,—17, Walsing-ham Road, Wallasey.. --+- Bu y Parch. D. Tecwyn Evans, M.A., yn traddodi ei ddarlith ar Lyfr job i Undeb Cymdeithasau Cvmreig Caerdydd, gyda'r Athro E. Ernest Hughes, M.A., yn y gadair. Yn y Treasury am Tachwedd ceir ysgrif gan y Parch. W. Phillips, M.A., ar y dirweddar Barch. H. Barrow Williams, -ac adolygiad ar Gynhadledd Caer- lleon gan y Parch. A. Wellesley Jones, BjA., B.D. Hyn gyda llawer o ysgrifau eraill vn < gwneud i fyny rifyn rhagorol. Mae'r Athro Lloyd yn rhoi i fyny y swydd o gofrestrydd Coleg Bangor, ac am roi ei amser at ei waith fel athro hanes. Drwg gan bawb wel'd fod yr Athro Lewis Jones yn, gorfod rhoi i fyny ei waith fel athro oherwydd afiech- yd, ac ysywaeth nid oes ddar-" pariaeth deilwng gan, y Coleg ar gyfer amgylchiad o'r fath. Y mae Lieut. Emrys Davies (mab i'r Parch. D. Cunllo1 Dav- ies) wedi gadael Birmingham am y brif ddinas, yno i astudio medd- ygaeth. Bydd colled Suffolk St. ar ei ol yn ddiau yn ennill i'r cyfeillion yn Charing Cross. Rhoddwyd cynghorion pwrpasol iawn iddo qyn cychwyn gan Dr. Rowlands. Hyderai e:i, weled yn troi yn ol am Birmingham ar ol myned trwy ei gwrs. Yn Arholiad diweddaf Trinity College: of Music, a gynhaliwyd yn Aberystwyth, pasiodd Mi- Maggie I-ily Evnns, Abergynol- wyn, gydag anrhydedd yn y Dos- 5 barth Canol wrth chwarae ar y berdoneg. Pasiodd y llynedd hefyd yn y Dosbarth Ieuangaf gydag anrhydedd. Yn ddiddadl y mae dyfodol disglair i'r ferch ieuanc ddiwyd hon. Y miae Miss Evans o dan addysg Miss Salome Symond, A.G.S.M., merch ieu- angaf yr Hybarch J. H," Symond, Towyn. Beth amser yn ol trefnodd pobl ieuainc Suffolk Street, Birming- ham, ym mysg ei gilydd, i roddi i'w gweinidog, y Parch. James Evans, M.A., arwydd o'u parch tuag ato, a'u hymlyniad wrtho. Cymerodd y rhodd y ffurf o Ebony Stick, Silver Mounted,' a'i enw yn gerfiedig ami. Gwnaed y cyflwyniad gan Miss Jenkins, Edgbaston, a chaed anerchiad ddoniol ganddo yntau wrth gyd- nabod y rhodd, a'r ysbryd rhag- orol oedd y tu ol iddi. Gwasgar- og iawn ydyw y ddead'ell, fel yn y rhan fwyaf o'r dinasoedd, a diaUi y daw y ffon yn gymorth iddo yn ei ymweliadau a'i braidd.